domenica, giugno 04, 2017

Eryrod Pasteiog VIII: Noson Fawr Elin Fflur



Dwi am ddangos paradwys i ti,
Meddai’r twrch wrth Elin Fflur,
Tyrd i aros ‘da fi...


Gwisgai Elin Fflur ei sgert felen orau. Melyn oedd ei hoff liw canys y’i hatgoffai o’r fanana, ei hoff ffrwyth, a’i hatgoffai o bren mesur, ei hoff offer swyddfa. O, y modfeddi lu a fesurasai dros y blynyddoedd; erwau ohonynt i bob cyfeiriad. Credai iddi fesur o leiaf ddwy filltir a hanner dros ei hoes.

Ond roedd hon yn noson fawr. Yr oedd eistedd ar soffa Heno’n fywyd unig iawn. Gwnaeth hynny am fisoedd cyn iddi ddod yn gyflwynwraig hoffus ar y rhaglen fyd-enwog, er na wyddai neb paham, gan ei chynnwys hi ei hun. Ceisiodd y cynhyrchwyr ei thywys ymaith ond teimlent drosti a gadawsant iddi aros yno, ddydd a nos, yn ei bwydo â briwsion bara i ennill ei hyder cyn rhoi’r swydd iddi. Talodd hyn ar ei ganfed, a chynyddodd nifer y gwylwyr gan bedwar deg dros nos.

Yr oedd wedi ymbincio’n ddel, yn ategu ei harddwch cynhenid, yn y bwyty yn aros am ei dêt. Sibrydai pobl o’i hamgylch “Wele Elin Fflur ar y bwrdd hwnnw” a gwyddai hyn am fod ganddi’n llythrennol glust yng nghefn ei phen y brwsiai’i gwallt drosti i’w chuddio. Clywsai wybodaeth drwy hyn ac nid ymddiriedai mwyach yn Beti George ar ôl iddi ei galw’n “hen sgiampes ddrwg” y tu ôl i’w chefn ar ôl i Elin ei gwahardd rhag chwarae pêl ar iard chwarae S4C.

Cyrhaeddodd ei chydymaith am y nos. Plygodd lawr ato a rhoi cusan am ei foch. Yr oedd yn ddel mewn ffordd anarferol, yn ei grys coch â llewys ffril a ffon bendefig ganddo, ac arno ysbectol steilus. Eisteddodd yntau.

‘Yr ydych mor hardd, Elin Fflur,’ meddai wrthi, a chochodd hithau. ‘Yrŵan, meiddiaf ddweud, fy mod eisoes mewn cariad â chi. A ydych chwi’n fy ngharu i?’

Craffodd arno. Ei drwyn bach serennog, ei flew du â mân bridd yn ymgydio arno, ei goesau a’i freichiau stwmp. ‘Yr wyf yn eich caru chwithau hefyd, Mr Twrch,’ atebodd. ‘Ni chredais tan hyn y tery dyn gan gariad ar yr olwg gyntaf, ond fe’m profwyd yn anghywir.’ Syllodd y ddau i’w llygaid ei gilydd yn gwenu’n ddanheddog, ac arafodd y byd o’u cwmpas.

‘Yrŵan, Elin, cyn i ni ddod i nabod ein gilydd,’ meddai Mr Twrch gan winc ddireidus, ‘dylem archebu bwyd. Wedi’r cyfan y mae’r gweinydd yma ers deg munud a does neb wedi dweud gair.’

‘Cytunaf, Mr Twrch,’ meddai Elin ac edrychodd ar y fwydlen heb ei darllen. ‘Ond ewch chwi’n gyntaf, f’anwylyd.’

‘O’r gorau. Weinydd, mi gaf innau’r pryfed genwair alla puttanesca a lemonêd.’

‘Caf innau’r un peth â’m cariad.’

Siaradasant cyn y bwyd am y byd a’i bethau. Am ba seddi y prynent i’w cartref newydd, enwau plant a faint o fîns sydd ormod mewn tun a rhyfeddent ar eu hatebion unfath, sef cadeiriau siglo, Morfudd ac Idwal, a saith-deg ac wyth. Yfent lemonêd wrth y gwydr, a chyn pob llymaid gynnig llwnc destun, ac edrychai pawb yn y bwyty arnynt yn gariadlawn a hapus dros y ferch dlos hon a gwrthrych ei serch. Nid oedd angen arni ei phren mesur i fesur gwerth Mr Twrch, yr oedd yn werth y byd i gyd yn grwn.

Nid ond ag ategwyd yr awyrgylch gan y pryd pryfiog bendigedig. Ymsugnasai’r ddau eu pryfed genwair, gan ddireidus eu bwydo i’w gilydd dros y bwrdd ambell dro, a’u troelli’n ddiwylliedig o amgylch eu ffyrc.

‘Oni chawsoch bryfed genwair o’r blaen?’ holodd Mr Twrch.

‘Un gwaith, cofiwch, pan fûm blentyn. Fy niléit oedd chwarae ym mhridd yr ardd gefn, a chreu tyllau hyd-ddi, a chanfûm un, a chan mor flasus yr edrychai fe’i llowciais yn araf a’i gnoi a gwenu, a gwyddwn bryd hynny er fy mod yn fy nghorff yn fod dynol, yn fy nghalon yr oeddwn yn dwrch daear, ac na allaswn fyth weddu byd y bobl, a hiraethais am dwmpathau pridd a chloddio am flynyddoedd, ymhob gorchwyl y gwnaethais. Er, mae safon y pryfed genwair hyn yn rhagori ar rai’r ardd.’

‘Gwir y gair, gŵyr tyrchod yr Eidal sut mae byw.’ Daeth deigryn i lygaid y creadur bach annwyl, ac aeth i lawr ar un lin ac ymbil, ‘Gwrandewch yma Elin Fflur, nid oes amdani ond priodi, awn i’r capel a siarad gair â’r gweinidog drannoeth, a byddwch yn dod i fyw ataf a chewch hynny o bryfed genwair a chwilod ag y carech. Tyrchaf balas i thi, a hyd ei neuaddau carwn ddydd a nos, ac ni fydd yn rhaid ichwi fynd yn ôl i Heno fyth canys y diwallaf pob angen sydd gennych. A dderbyniwch fy nghynnig?’

A thrannoeth y capel, cafwyd priodas fawr, ac ymgasglai’r pentref oll yn bloeddio dymuniadau da i Elin Fflur a Mr Twrch. A buont fyw o dan y ddaear, hyd nes i’r byd heneiddio, ac nad oedd dim ar ôl eithr puraf gariad gwraig a’i thwrch. 

Mae 'na rywbeth amdanat ti, na fedra i egluro



lunedì, febbraio 13, 2017

Rhaid inni ddysgu dweud 'Ffyc Off'


Allech chi ddadlau bod fy nghenedlaetholdeb i’n ymdebygu i zeal of the converted yn fwy na dim. Wedi’r cyfan dwi’n fab i Saesnes (heb sôn am fod efo teulu rhyfeddol o amrywiol) a’m hiaith gyntaf ydi Saesneg, yn dechnegol. Byddai hynny, fodd bynnag, yn ddadl ffals. Fel na all unrhyw un ond am y sawl ohonom sydd wedi bod yn y sefyllfa unigryw honno ei ddeall, dewis oedd gen i: p’un ai i fod yn Gymro ynteu’n Brydeiniwr. Y cyntaf ddewisais i, a hynny ar ôl deall nad oes modd bod y ddau, ddim go iawn. Rhaid dewis dy ochr. Am ryw reswm twp, Cymreictod a phopeth ynghlwm wrth hynny – iaith, hanes, diwylliant – apeliodd ataf i, ac nid yr hunaniaeth artiffisial anorganig sydd ond yn bodoli i danseilio’r pethau hynny; yn wir, eu dinistrio’n llwyr. Wna i ddim smalio nad ydw i’n edifar y dewis hwnnw o bryd i’w gilydd, er, o edrych yn ôl, mae’n ymdebygu’n fwy i dynged na dewis.


Bu’n sbel ers imi gael blog rantio. Dwi wedi sawl tro yn y gorffennol (er nad ers sbel) cwynfanu ynghylch cyflwr cenedlaetholdeb yng Nghymru – ein twpdra, ein llwfrdra - ond gan wastad ganolbwyntio ar Blaid Cymru, boed yn deg ynteu’n annheg braidd. Ond yn ysbeidiol dwi’n ffeindio’n hun yn rhwystredig hyd at anobaith; y peth hwnnw y dywedodd Saunders ei fod yn hawdd ymdroi ynddo am fod cysur ynddo, sydd ar yr wyneb yn ddoeth ond sydd actiwli’n beth hurt iawn i’w ddweud i unrhyw un sydd â phrofiad ohono. 


Nid y Blaid, am unwaith, dwi’n ei chyfeirio ati yma. Na, at genedlaetholwyr Cymru eu hunain a’n hagwedd gyffredinol. Yr un hen broblem; rhy barchus, rhy boleit. Efallai fi sydd ar y we gormod ond mae gwegenedlaetholwyr Cymru, ag un eithriad nodedig, jyst rhy neis a chall. Cenedlaetholdeb deallusol sy’n teyrnasu yno, nid cenedlaetholdeb y pridd – ac mae’n troi arna i. Yn y galon ac yn y gwaed y mae cariad at wlad, nid yn y pen.


Crisialwyd lot o'm rhwystredigaeth yn ystod ffrae ddiweddar Ysgol Llangennech. Nid manylion y peth sy gen i dan sylw yma (af i ddim iddynt achos os ydych chi’n darllen hyn mae’n siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r rheiny) ond yr ymateb cyffredinol o blith cenedlaetholwyr (cenedlaetholwyr ar-lein yn fwy nag yn y cigfyd efallai, yn lle y mae’n haws y dyddiau hyn dweud gwirioneddau heb i’r byd a’i gi gael go). Gadewch imi ymhelaethu.


Michael Jones o RhAG ddywedodd yr hyn a sbardunodd y ddadl fawr. Os dwyt ti ddim yn licio’r ffaith dy fod mewn cymuned lle mae Cymraeg, dos dros y ffin (sylwer: ddim yn ôl neu Sais) a fydd ddim angen i chdi boeni am y peth. Mae Michael Jones yn gwbl, 100% cywir i ddweud hyn. Mae cenedlaetholwyr yn gwbl iawn i ddweud hyn hefyd: a'i ddweud yn agored. Waeth un o le wyt ti, os ti’n byw mewn cymuned lle mae’r Gymraeg i’w chlywed a bod hynny’n mynd dan dy groen, boed i’r neges i ti fod yn glir: ffyc off i rywle arall. Mae’r peth yn well i chdi, ac yn well i ni. Dydi o ddim yn rhywbeth twp i’w wneud. Hon ydi'r agwedd sydd angen inni feddu arni, neu yn hytrach, ei hail-ganfod. Rhain ydi'r math o bethau sydd angen i ni eu dweud - nid yn unig am eu bod yn gywir, ond am eu bod yn strategol gall hefyd (sy'n flogiad cwbl ar wahân).


Ond na, ebe Ifan Morgan Jones ar ei flog, mae'n beth gwirion i’w ddweud cyn mynd i fanylder ar fanteision addysg Gymraeg. Iawn – mae hynny’n ymateb call ond y broblem eithriadol efo’r holl beth ydi ei fod wedi’i anelu at argyhoeddi pobl fydd byth, byth yn dod i weld y safbwynt hwnnw. Ac yn wir, mae hynny’n rhywbeth dani fel petaem ni’n ei wneud o hyd wedi mynd, ceisio dadlau’n gall a rhesymol efo pobl sydd ddim yn gall na’n rhesymol. Y mae’n wastraff llwyr o unrhyw allu deallusol sydd gennym; anghywir yn ei hanfod nid yw, ond weithiau tydi dadl ddim yn ddigon i ennill dadl. (Mi ddylwn i ddweud yma fy mod i'n hoff iawn o ddarllen blog Ifan, ond bod ein mathau o genedlaetholdeb bosib yn groes i'w gilydd)







Dyma rydan ni’n ei erbyn yng Nghymru, yn enwedig fel Cymry Cymraeg: nid yn unig casineb nad oes modd i'r sawl a'i cadwo ei gelu, ond idiotrwydd ar lefel arallfydol. Does ots fod y dwatsen lwyr uchod yn Gymraes. Does ‘na ddim dadlau efo ffycin ynfytod fel hi. Roedd ar dudalen un o’m ffrindiau Facebook (dwi ddim am ddweud pwy na chynnig dolen yn gyhoeddus) ddadl hir am achos penodol Llangennech a hoeliodd y neges hon fy sylw yn fwy na’r un arall:

**Roedd yma sgrînshot o sylw a gafwyd ar drafodaeth ar Facebook - er bod awdur y sylw ac awdur y statws yn ddienw gofynnwyd i mi ei dynnu i lawr rhag "dwyn gwarth" ar ymgyrchwyr Ysgol Llangennech - a dwi'n parchu'n llwyr ei hawl i ofyn hynny, ac yn deall pam y gwnaeth y cais. Wna i ddim ailadrodd y cynnwys. Fodd bynnag, doedd y sylw ddim yn dwyn gwarth arnynt, a dwi'n teimlo braidd fod y cais i'w dynnu i lawr yn cyfleu, o leiaf i raddau, yr hyn dwi'n ceisio'i gyfleu yn y blogiad hwn.**



(Y frawddeg a ategai'r llun oedd hon: " ‘Rhen Michael oedd yn iawn wedi’r cyfan felly, mae’n debyg. Roedda ni jyst bach yn rhy neis i fod isio coelio'r peth; achos ein bod ni'n ofn coelio pa mor uffernol ydi'r bobl 'ma, yn ceisio gweld ochr orau pan nad oes un.")


Pwy fyddai’n sefyll yn gadarn yn erbyn y fath bobl? Cymdeithas yr Iaith i'r adwy! Felly rhyddhaodd y mudiad ddatganiad y’i gwelais yn cael ei ddisgrifio fel “call” a “synhwyrol” a “chytbwys”, sy ddim exactly yn eiriau mae rhywun yn eu cysylltu â’r Gymdeithas y dyddiau hyn beth bynnag. Ar ôl sefyll fyny i’r hen Hamilton ym mhwyllgor y Cynulliad mewn ffordd mor arwrol, ar sail popeth hyfryd a rhyddfrydol ac efo'r Gymraeg nid mwy nag atodiad i hynny, oni wnaent yr un fath yn achos gwrthwynebwyr troi Ysgol Llangennech yn un Gymraeg?


Na. Datganiad pathetig oedd o – roedd gwneud ‘safiad’ angerddol yn erbyn UKIP yn y Cynulliad yn llawer mwy greddfol rywsut i’r Gymdeithas na gwneud safiad angerddol o blaid addysg Gymraeg yn Sir Gâr. Fel ymateb Ifan Morgan Jones, un gair yn unig sy’n disgrifio’r drewdod: gwendid. Mae o fel bod cael go ar Neil Hamilton yn hawdd ac yr awn i’r gad ar farchogion gwynion i’w drechu – ond pan mae rhywun arall yn arddel ei safbwyntiau, yn cydweithio'n ddi-gywilydd ag o, neu jyst yn mynd yn erbyn buddiant y genedl, rydyn ni’n ymgilio’n ôl i’n hogofâu ac yn gofyn am sgwrs a thrafod, ar yr union adeg y mae angen miniogi’n cleddyfau. 

Byddai o les inni ddewis ein brwydrau yn well hefyd. Petaem ni'n gwneud hynny efallai y gallem ennill mwy ohonynt.

Dwi'n meddwl y brif broblem ydi bod cenedlaetholwyr yn meddwl bod y gallu i ddadlau'n gywrain yn lle gwylltio a dweud wrth nobs i fynd i'r diawl yn arwydd o gryfder a gallu - arwydd o wendid pur yw.


Ceisio cynghreiriaid ydi ymateb sawl un i ymnerthu’r genedl. Mae Seimon Brooks (ymhlith eraill, ond efallai fo ydi’r cenedlaetholwr amlycaf i wneud hyn) wedi bod yn groch sawl tro dros y misoedd diwethaf y dylai’r Blaid gydweithio â Llafur i atal UKIP.

Nac ydyn, Simon.




Ylwch, rhydd i bawb ei farn a’i ddiffyg crebwyll gwleidyddol ond eto, gwendid ydi’r unig air sy’n disgrifio hyn; ac anallu i weld yr union elyn. Roedd y twît uchod yn crynhoi pam bod cenedlaetholdeb Cymru’n tindroi. Fe’i gwnaed fisoedd cyn ffrae Llangennech ond roedd y sentiment yn hollol anghywir. Y gont wirion yn y fideo uchod? Cynghorydd Llafur. Cynghorydd Llafur sy’n dilyn traddodiad gwrth-Gymraeg parhaus y blaid Lafur yng Nghymru, y mae’r achosion ohonynt yn rhy niferus i’w rhestru mewn un blog. Os taw prif nod Plaid Cymru yw gwarchod a hyrwyddo’r genedl a gweithio er ei lles hi a’i phobl, does modd sefyll ysgwydd yn ysgwydd â Llafur achos cofiwch hyn: pan mae hi’n dod at statws Cymru a’r iaith Gymraeg, mae Llafur yn agosach o lawer at farn UKIP na barn Plaid Cymru achos na phlaid Brydeinig ydi hi. Ac ni ellir cyfaddawdu rhwng Cymreictod â Phrydeindod mwy na all llygoden gyfaddawdu â chath. Weithiau rhaid inni roi i'r neilltu'r darlun mawr a chanolbwyntio arnom ni ein hunain, ac o weld hynny weld taw unrhyw un sy'n arddel Prydeindod yw'r gelyn. A rhaid eu hymladd.


Mi rydyn ni mor bryderus ynghylch ypsetio pobl, ynghylch cael sylw drwg yn y wasg, a gydag obsesiwn hurt o geisio ennill calonnau calonnau’r anenilladwy, fel y mae’n ein hatal fel cenedlaetholwyr. Y mae lle i hynny, ond dyna’n prif dacteg a pham nad ydi Cymru’n mynd i’r unman. O ran y frwydr genedlaethol, rhaid ymladd tân â thân. Y math o dân sy’n beryg bywyd yn nwylo’r cenhedloedd mawrion ond sy’n gwbl hanfodol i oroesiad cenhedloedd bychain.  


Dydi cenhedloedd modern ddim yn mynd rhwng y cŵn a’r brain drwy waed a thân a dinistr. Na, gallant oroesi’r pethau hynny. Ond os delo awr diwedd y Cymry, awn i’r bedd hwnnw nid am ein bod wedi bod yn rhy ymosodol na’n annymunol. Y mae’r llwybr at ein bedd cenedlaethol yn frith gan ddadleuon neis, bod yn barchus a bod yn groesawgar, ac awn i’r bedd hwnnw â gwên ar ein hwyneb. Y mae weithiau lle i ddwrn yn lle llaw – nid yn yr ystyr llythrennol, ond yn lle ceisio bod mor gall a mor ddeallus ddweud gwirioneddau’n blwmp ac yn blaen, a sylwi bod yn well gan y rhan fwyaf llethol o bobl glywed y rheiny na geiriau gofalus diystyr, dideimlad.

Mwy o galon, y peth hwnnw sydd wedi rywsut, drwy ryw fodd, ymgilio'n drybeilig yn nisgwrs cenedlaetholdeb y Cymry. 


Na, mae'n amser i ni ddysgu bod ein petrusrwydd cynhenid am ein difa, ac mae'n rhaid i genedlaetholwyr Cymru ddysgu dweud 'ffyc off', a dysgu drachefn fod angen weithiau fod yn flin am y pethau perthnasol sy'n effeithio'n uniongyrchol arnom ni, ac nid ar bopeth arall a ddigwydd yn y byd.




 
Y 'ffyc off' mwyaf cywrain yn holl hanes y Cymry

martedì, gennaio 17, 2017

Etholiadau Arlywyddol Ffrainc



Blwyddyn newydd dda!

Nos Iau ddiwethaf mi ges i sgwrs fach yn y dafarn am etholiadau Ffrainc. Mae pawb yn meddwl ei bod yn gwbl anochel y bydd Marine Le Pen yn cyrraedd yr ail rownd yn yr etholiadau arlywyddol a gynhelir ar 23 Ebrill eleni, ac i fod yn deg mae hwnnw’n fet go ddiogel, ynghyd â hithau’n colli yn y rownd derfynol. Mi fu’n fwriad gen i ysgrifennu pwt am etholiad Ffrainc ers rhai wythnosau – wedi’r cyfan, mae’n un o etholiadau pwysicaf y byd ac yn haeddu ymdriniaeth. Mi geisiaf gynnig hynny mewn modd mor gryno ag y gallaf. Ond peidiwch â darllen ymlaen onid oes gennych chi amser i’w sbario.

Rŵan, dydi o ddim y peth hawsaf imi wneud hyn; mae’r ffynonellau gorau, yn anochel, yn Ffrangeg a dwi methu ei siarad. Ond mae ‘na ddigon o gliwiau ar gael sy’n awgrymu y gallai ambell beth go annisgwyl ddigwydd yn yr etholiad hwnnw.

Mae’n annhebyg os ydych chi’n darllen hwn eich bod yn gwbl anymwybodol o’r sefyllfa wleidyddol yn Ffrainc ar hyn o bryd, ond dyma ei chrynhoi’n fras: mae’r polau piniwn yn awgrymu y bydd Marine Le Pen, arweinyddes y Front Nationale, a François Fillon o blaid Les Républicains, yn wynebu ei gilydd yn y rownd derfynol. Mae’r Parti socialiste, sef plaid Hollande (a fydd ddim yn sefyll) yn debygol o gael crasfa, gan o bosibl ddod yn bumed yn y rownd gyntaf y tu ôl i’r Front Gauche (plaid adain chwith eithafol) ac En Marche! sy’n fudiad newydd a sefydlwyd gan Emmanuel Macron, a arferai fod yn weinidog yn llywodraeth Hollande ond a’i gadawodd fis Awst i drïo’i lwc yn yr etholiad hwn. Gambl, yn sicr, ond mae’n debygol bod yr rheiny’n boblogaidd ac yn eithaf llwyddiannus y dyddiau hyn.

Er mwyn rhoi trefn i’r blogiad hwn, dwi am fwrw golwg gryno dros bedair plaid, sef pob un a enwyd uchod eithr y Front Gauche, cyn dod i gasgliad bras ar yr hyn dwi’n credu a allai ddigwydd.


François Fillon – Les Républicains

Roedd dewis Fillon yn sioc i’r system yn y lle cyntaf – Alain Juppé oedd y ffefryn clir i ennill yr enwebiad ond trodd y blaid am yr ymgeisydd sydd bellaf i’r dde wleidyddol. Llenwodd Fillon fwlch yng ngwleidyddiaeth y dde yn Ffrainc sydd wedi bod yn wag am gryn dipyn sef ceidwadaeth Gatholigaidd. Mae pleidleisiau i hynny ar y dde, ond mae ei feddylfryd economaidd yn Thatcheraidd sy’n wrthun mewn gwlad fel Ffrainc, lle mae traddodiad cryf o ymyrraeth lywodraethol yn economi’r wlad. Yn fras, mae ei apêl ym mhleidlais aml-ddewis y rownd gyntaf yn gyfyngedig. Ddiwedd y llynedd, fodd bynnag, fo oedd y ffefryn i gyrraedd yr ail rownd, bob amser yn yr 20au uchaf neu’r 30au isel yn y polau piniwn ac o flaen y lleill. Ond ers hynny, mae ei gefnogaeth wedi dirywio’n sylweddol. Cawsai 30% ar gyfartaledd ym mholau Tachwedd a Rhagfyr, ond fis yma mae o 4-5% yn is ac y tu ôl i Le Pen gan mwyaf.

Alla i ddim dweud fy mod i’n gwybod llawer amdano, ond ar y cyfan mae’n ymgeisydd digon anysbrydoledig ac yn yr etholiad hwn gallai hynny ei niweidio. Mae’n anodd ei weld yn peidio â chyrraedd yr ail rownd oherwydd ei gefnogaeth graidd, a gwelsom yn yr UDA ac yn y DU bwysigrwydd gefnogaeth galed: mae’n fwy llwyddiannus na chynghreiriau gwleidyddol llac.

Gallai ei geidwadaeth ar faterion fel mewnfudo ennill cefnogaeth oddi wrth Le Pen, ond gall ei safbwyntiau ar yr economi, yn galw am ddadreoleiddio ar raddfa enfawr, atal pobl rhag pleidleisio drosto – yn enwedig wrth droi wrth Le Pen sy’n agosach at y canol Ffrengig yn yr ystyr hwnnw. Ac mae’n annhebygol o hudo’r rhai o’r dosbarth gweithiol – sosialwyr traddodiadol –sy’n troi’n gynyddol at y Front Nationale.


Marine Le Pen – Front Nationale

Mae’n rhagdybiaeth gyffredin ers sbel y bydd Marine Le Pen yn cyrraedd yr ail rownd. Mae hi’n gyson ymhlith y ddau uchaf ac mae’r Front wedi bod yn ennill cefnogaeth dan ei harweinyddiaeth yn gyson, er bod system etholiadol (annheg) Ffrainc yn eu hatal rhag ennill seddi ar y cyfan. Yn wir, â phopeth sydd wedi digwydd y llynedd, mae’n anodd ei diystyru. Ond mi wna i ddarogan yn gwbl hyderus nad Marine Le Pen fydd arlywydd nesaf Ffrainc.

Yr hyn efallai nad ydym ni y tu allan i Ffrainc wedi amgyffred ydi hyn: mae gan y Front broblemau. Gyda’r banciau yn gwrthod benthyca arian i’w hymgyrch, mae Le Pen wedi gorfod troi at gwmni ei thad am fenthyciad o £5.2m; rhywbeth sydd am fwrw amheuaeth dros ei pherthynas â’i thad. Mae wedi ceisio ymddieithrio rhagddo’n fwriadol i ehangu apêl y blaid, ond mae amheuon am ei didwylledd wrth wneud hynny yn sicr am ail-godi. Mi gollodd achos llys y llynedd pan y’i gelwid yn “ast ffasgaidd” gan gomedïwr ac y ceisiodd ei siwio. Fydd ei hymwelid diweddar â Trump Tower fawr o help ychwaith – mae Trump yn amhoblogaidd yn Ffrainc ymhlith bron pawb. A bydd ei hedmygedd cyson o Putin efallai fawr o help.

Y mae craciau yn y Front Nationale, a dwi ddim yn argyhoeddedig y bydd pobl yn eu hanwybyddu. Ni waeth i chi weiddi am Trump na Brexit yn hyn o beth: mae Ffrainc yn wlad wahanol; ac yn draddodiadol dydi’r blaid ddim wedi gwneud yn well mewn etholiadau na mewn polau. Hynny ydi, dydi’r pleidleiswyr distaw lu a drodd allan i bleidleisio yn 2016 mor ddistaw yno. Ni ragwelaf sioc dawel ym mhleidlais Ebrill; mi fyddan ni’n gwybod ymlaen llaw sut eith hi.

Gallai Fillon ddenu rhai o’r bobl ar y dde a fyddai’n pleidleisio drosti (tanciau ar y lawnt ac ati) ond gallai eraill effeithio ar ei phleidlais. A waeth i ni gofio, mae pleidlais Le Pen, fel Fillon, yn y polau piniwn tua 5% i lawr ar yr hyn yr oedd yn ei gael ym mis Tachwedd. Tuedd, a thuedd na ellir ei hanwybyddu.

Wrth gwrs mae pethau a allai ddigwydd rhwng rŵan a mis Ebrill a allai atgyfnerthu ei chefnogaeth, yn eu plith ymosodiad terfysgol arall. Ond ni all neb ddarogan hynny.


Partie socialiste

Pwt yn unig a roddaf i’r blaid sosialaidd. Maen nhw ar chwâl, a fyddan nhw ddim yn cyrraedd yr ail rownd, ond gallai eu dylanwad ar bwy sy’n cyrraedd fod yn hollbwysig. Yn syml – petai Manuel Valls yn ennill mae’n debyg y bydden nhw’n ennill tua 10% - 15% o’r bleidlais (gyda’r uchaf ar y raddfa honno’n annhebygol). Petai un o’r lleill yn ennill gallai fod yn hanner hynny. Debyg na gŵr o’r enw Arnaud Montebourg ydi’r ffefryn i ennill yr enwebiad.

P’un bynnag, gyda’i gobeithion yn rhacs waeth pwy sy’n ennill un o enwebiadau mwyaf anobeithiol Ewrop ar y funud, mae posibiliad cryf y bydd nifer o’r rhai fyddai’n pleidleisio dros y sosialwyr yn ailystyried eu pleidlais rownd gyntaf. O’u plith nhw, mae pleidleisio dros Le Pen neu Fillon yn y rownd gyntaf fwy na thebyg yn amhosibl. Ond, yn strategol, mae un person y gallent bleidleisio drosto a allai atal y ddau...


Emmanuel Macron - En Marche!

A dyma ni, y ffactor rhyfedd, annisgwyl yn yr etholiadau arlywyddol, Emmanuel Macron. Mae’n ifanc, yn siaradwr da, yn frwdfrydig, ac er ei fod yn rhan o’r llywodraeth flaenorol dydi o heb fwrw cysgod gormodol drosto chwaith. Mewn polau piniwn mae un peth yn bwysicach na chanrannau – sef tueddiadau.

Ac yn wir, mae’r duedd i Macron yn un sy’n llawn haeddu sylw. Yn wahanol i Fillon a Le Pen, cynyddu mae ei bleidlais o’n gyson. Mae Macron o fewn pellter taro i’r ddau. Gwnaeth un arolwg barn a gynhaliwyd fis yma ei roi o flaen Le Pen yn y rownd gyntaf. Yr amod, os liciwch chi, oedd nad oedd y Partie socialiste yn dewis Valls. Ond, fel y dywedais uchod, hyd yn oed os gwnân nhw hynny, dydi o ddim y tu hwnt i bob cred y gallai nifer o bleidleiswyr y blaid honno droi ato er mwyn cael rhywun sydd ddim ar y dde yn yr ail rownd. Mae’n bosib, er yn llai tebygol, y gallai rhai o bleidleiswyr y Front Gauche wneud yr un peth. Byddai o’n wirion i beidio ceisio apelio atynt. A dydi o ddim yn wirion.

Cryfder Macron, yn fy marn i, ydi ei ddiffyg syniadaeth wleidyddol. Dydi o ddim yn ei ddiffinio ei hun yn nhermau hynny; gallai fod yn gryfder eithriadol. Rydyn ni eisoes wedi gweld hyn yn digwydd, o Trump yn UDA i’r M5S yn yr Eidal (heb sôn am bleidiau llwyddiannus fel un Merkel yn yr Almaen sydd wastad wedi ffafrio ymarferoldeb dros syniadaeth). Dwi’n gwbl argyhoeddedig na’r duedd wleidyddol sydd ohoni, ymhlith mudiadau llwyddiannus, ydi symud o ideolegau pendant i sefyllfa fwy hyblyg. Mae o’n boblyddwr (y gair Cymraeg crap am populist) o fath.

Rydyn ni’n cyfateb y gair poblyddiaeth i’r adain dde yn aml ond mae hyn yn hollol anghywir; ddadleuwn i mai ystyr poblyddiaeth gyfoes ydi, yn syml, y reddf i ddweud y peth iawn ar yr adeg iawn yn y ffordd iawn er mwyn ennill grym, heb fod yn gaeth i ideoleg. Ac i’r graddau hynny, efallai bod lle i ddadlau bod Le Pen yn fwy o ideolegwr na phoblyddwr. Macron, nid Le Pen, sy’n dilyn ôl-troed pobl a mudiadau diweddar sy’n amrywio o Trump i’r M5S i Syriza i’r SNP.

Ategir hynny efallai gan y ffaith fod Ewrop, yn ôl polau piniwn diweddar, wedi troi’n sylweddol fwy o blaid yr UE, ym mhob gwlad gan gynnwys Ffrainc. Dydi o ddim yn gyd-ddigwyddiad fod Le Pen wedi bod yn llai gelyniaethus at Ewrop yn ddiweddar, na bod Macron yn ffyrnig o’i phlaid.

Gan ddweud hynny, mae ganddo un anfantais a allai fod yn dyngedfennol – does ganddo fo ddim sail gadarn i’w gefnogaeth, yn wahanol i Fillon a Le Pen. Bydd unrhyw darfu ar ei fomentwm o bosib yn lladd ei gyfleoedd.


Casgliad

Mae cynifer o gwestiynau i’w hystyried wrth ddod i unrhyw gasgliad am beth allai ddigwydd yn Ffrainc. Pwy ydi’r ymgeisydd mwyaf poblogaidd fel unigolyn? Faint o bleidleisiau y gall Fillon eu dwyn oddi ar Le Pen, os o gwbl? Pa mor feddal ydi’r gefnogaeth i Macron? Ydi pleidleiswyr ar y chwith am droi ato i atal y ddau arall? Ac un ffactor difyr ydi François Bayrou – rhywun sy’n ei roi ei hun yng nghanol y sbectrwm gwleidyddol, er sy’n Gatholig pybyr, ac sy’n ymgeisydd cyson mewn etholiadau arlywyddol ond sydd heb ddatgan unrhyw fwriad i sefyll. Byddai ei gefnogaeth o i Fillon neu Macron yn gallu bod yn dyngedfennol, os yw’n ei rhoi.

Fy nheimlad i ydi hyn: mae Le Pen (os na ddigwydd ffactorau allanol) wedi colli ei chyfle a’i momentwm. Mae cefnogaeth Fillon yn ddigon cadarn ac yn annhebygol o ostwng mwy. Gall Macron ddenu pleidleisiau o du mwy o ffynonellau na nhw. Dwi’n meddwl y bydd yn llwyddo i wneud hynny, gan wynebu François Fillon yn yr ail rownd, gyda Le Pen yn colli allan ar y cyfle hwnnw o drwch blewyn.

Ond ddyweda i ddim mwy na hynny!