martedì, agosto 26, 2014

Y diwrnod mwyaf cyffrous erioed

Fydda i’n licio meddwl bod gan Dduw ryw afael ar beth dwi’n ei wneud, er mwyn i mi gael ei feio Fo am fy ngweithredoedd yn hytrach na fi’n hun. Dwi’m yn siŵr a ydi hynny’n gabledd ai peidio, chwaith, ond amwni dydi Duw ddim yn darllen Blog yr Hogyn o Rachub felly dwi’n saff y tro hwn.

Yn ddi-ffael mi wnaf un camgymeriad bob tro y deuaf yn ôl i’r Gogladd i ddiogi, sef mynd am dro i Landudno. Dwnim pam. Mae’n siŵr y deillia hyn o’r adeg pan oeddwn fachgen ac yr aeth y teulu cyfan i Landudno bron pob dydd Sadwrn i fusnesu a chael paned mewn lle posh ... fel arfer wedi’i ddilyn gan KFC achos roedd Anti Blodwen yn ffan mawr o KFC.

Mae o actiwli yn waeth na hyn.
 
Felly mi es yno yn meddwl y gallwn fy niddori fy hun rywfaint. Ar ôl hanner awr daeth yn berffaith amlwg na fyddai difyrrwch imi yng nghanol yr holl Saeson ‘na, felly’n ôl â fi i’r car yn ddigon siomedig a heb syniad beth i’w wneud â gweddill fy niwrnod. Ro’n i wedi hanner meddwl mynd i ‘sgota ond roedd hi’n wyntog, a dydi ‘sgota’n y gwynt fawr o hwyl, a dwi byth yn dal dim ond am wymon eniwe. Dwi’m yn gor-ddweud, dwi’n ‘sgotwr gachu. Fydda i’n hapus iawn i fwyta ffish ond dwi’n dallt dim am gyfrinachau eu bachu. ‘Sna ddim un o ‘ngwialenni i’n cael fawr o iws ‘di mynd.

Ond ar y rowndabowt neshi fethu troad Bangor, a dyma fi’n penderfynu ar ennyd yr awn am dro i Gaer. Dreuliais i’r holl ffordd rhwng Llandudno a fanno’n ystyried pam fy mod i’n gwneud hyn, ac yn meddwl bob troad mai troi’n ôl fyddai orau. Ond wnes i ddim achos fy mod i isio cinio, a waeth i mi gael rhywbeth yn Gaer ddim pe cyrhaeddwn yno. Wyddoch chi’r adegau hynny pan dachi’n ddigon ‘styfnig i anwybyddu’ch hun am ddim rheswm call? Ia, fel ‘na fuo hi.

Cyrraedd wnes i a pharcio’r car mewn ardal breswyl cyn cerdded i mewn i’r dre ei hun. Caffi eithaf gwag oedd y nod. Wn i ddim amdanoch chi, ond pan fydda i ben fy hun well gennai rywle go wag i fwyta rhywbeth neu baneidio, a hynny oedd fy mhrif gonsyrn. Y broblem ydi mae caffi gwag yn wag am reswm. Chofiais i mo hyn nes i’m panini cyw iâr pesto fy nghyrraedd yn ddiffygiol braidd o gyw iâr.

A minnau wedi cyrraedd Caer o’n i’n meddwl ‘sa waeth i mi wneud rhywbeth, er nad oedd fawr o awydd arna i wneud dim. Esi am dro i farchnad Caer, sydd bob tro’n siomedig (dani’n sôn Llandudno-siom ar y raddfa siomedigaethau yma) ond nesi gael pishyn bach o gaws am ddim o un stondin. Doedd o’m yn neis iawn, ond dwi’n foi bwyd am ddim. Dwi am dreulio fy henaint yn mynd rownd tai fy ffrindiau jyst cyn amser te, ar yr amod fy mod i’n cyrraedd henaint ac y bydd gen i ffrindiau bryd hynny. Dachi’n gweld, yn eu hanfod, i mi mae ffrindiau yn rhyw fath o insiwrans bwyd fydd yn talu mewn rhyw ddeng mlynedd ar hugain. Diodda nhw sy’n rhaid tan hynny.

Hwn dio. Hwn dwisho bod.

Ar ôl fy mhum munud yn y farchnad mi heibiais y gadeirlan a phenderfynu mynd i mewn. Fydda i’n mynd i’r eglwys Gatholig gadeiriol yng Nghaerdydd weithiau – ddim i wasanaeth na dim, ond jyst i ista a gwagio fy meddwl. Dwi’n llawn sypreisys bach rhyfedd fel’na. Dwi’m cweit hyd yn oed yn siwdo-Gatholig, ond dwi’n fwy o siwdo-Gatholig na neb dachi’n ei nabod, dybiwn i. Chyrhaeddais i ddim mo’r seddi o gwbl yn y gadeirlan, ‘mond y siop, so esi allan yn ddigon sydyn achos o’n i’m isho rhoi pres jyst i fynd i ista i rywle a doedd dim awydd arna i wynebu syllu blin neb am beidio â rhoi cyfraniad.

Ar ôl treulio tua thair eiliad yn sbïo ar ryw gi oedd ‘na ddyn wedi’i wneud o dywod gwlyb (tair eiliad lon oedden nhw ‘fyd), mi esi i siop gemau cyfrifiadur. Fydda i’n licio chwarae ar y cyfrifiadur weithiau, ond dwi’m yn foi mawr am y peth chwaith. Dim ond un gêm a apeliodd, ond mi wnes i benderfyniad cydwybodol nad oedd ei hangen arna i, er bod yr ysfa i’w phrynu’n rhyfeddol.

Ydi, ma hon yn actiwal gêm.

Dwi’n teimlo fel bach o wirdo yn mynd i siopau gemau cyfrifiadur erbyn hyn a minnau’n mynd am 30 oed nesaf. Hen bryd imi gael hobi, ond gan na alla i ‘sgota na chynganeddu dwi’m yn meddwl bod ‘na ddim arall i’w wneud. Prynu dillad fyddai wedi bod yn syniad bryd hynny pan gamais i Primark. Welais i a Lowri Dwd ddynas yn gwisgo bocs cardbord amdani yn Primark Caer unwaith, so dwi’n meddwl fy mod i’n rhyw hanner gobeithio gweld rhywbeth felly yno unwaith eto. Ac mae angen tracsiwt newydd arna i ers tro byd.

Dim ond dillad shit welais i.

 Uchod: beth i'w wisgo os dachi ddim isho fi brynu peint i chi

Peidiwch â’m camddallt, nid Huw Ffash mohonof, fydda i’n gwisgo fel hwch sy wedi mynd drwy siop elusen. Ond mae gen i fy limits. Roedd ‘na ryw siop drws nesa i Primark oedd yn cau lawr, a phan wela’ i 70% o ostyngiad ar rywbeth dwi yno fel cath i gythraul, er y cymerodd amser weithio allan pa ochr oedd y dillad dynion a pha rai’r dillad merched. Os ti am groeswisgo gwna fo’n iawn, fel Mr Harris Cwm Cadnant. Bu farw ei fam o a dechreuodd o wisgo’i dillad hi, yn ôl Nain. Ddim ffycin dillad iwnisecs. Mae ‘na rai pethau na ddylai dyn eu gwisgo.

Fydda i fyw i weld hyn yn dderbyniol

‘Sna ddim gwaeth na phlant yn gwisgo dillad drud chwaith nac oes? Maen nhw’n neud hynny’n fwy ‘di mynd. Oedd ‘na ryw hogyn – dwnim, tua 11 oed ella – yn gwisgo ryw jaced siwt wrth ei fodd. Dwi jyst ... dwi jyst ddim yn dallt pam.

Un o’r pethau tywyllach amdana i, fel y bydd y rhai a’m hadwaen yn ei wybod, ydi na fedra i ddioddef plant chwaith. Wir-yr rŵan. Wna i unrhyw beth i osgoi cwmni plant. Dwi’m hyd yn oed yn mwynhau nhw ar You’ve Been Framed ‘blaw pan fydd pêl yn eu taro nhw drosodd. 

 Nob
 
O wel. To’n i methu penderfynu a oedd angen diod boeth ynteu oer arna i cyn dechrau ei throi hi tuag adra. So mi geshi goffi oer o Costa. Y tro cyntaf i mi yfad panad lawn o goffi, un oer oedd hi yn yr Eidal. Dwi’n cofio’r boi yn gofyn a oeddwn i’n gwybod bod cappuchino freddo yn oer yn hytrach na phoeth. Dwnim a lwyddish i actiwli gyfleu fy mod i’n gwybod hynny, achos o’n rhy brysur yn gwgu ar Saeson oedd yn mynnu dweud graçias wrth y gweinydd arall.
 
Ta waeth, o’n i’n teimlo’n digon o gont yn cerddad rownd Gaer efo panad oer, ddrud yn fy nwylo hogan-fach-5-oed i. Wnes i ddim mwynhau. Esi’n ôl at y car yn yr ardal grand, yn styffaglu i’w ffeindio ac yn ymwybodol iawn o’r ffaith ‘mod i’n edrych yn ddigon od wrth wneud hynny. Wn i fod pobol posh yn amheus iawn o rywun sy’n gwisgo trainers ac sy ddim yn loncian. Ond ei ffeindio a wnes. Dwi'n aml yn cyfeirio ataf fy hun fel y Golomen Ddynol achos fy ngallu i ffeindio fy ffordd i lefydd. Dwi mor rhyfeddol o dda am hyn y bydda i weithiau hyd yn oed yn ffeindio llefydd do'n i'm yn bwriadu eu ffeindio. Bendigedig.
 
Gyrhaeddais i’r car erbyn ugain munud wedi dau. Roedd y diwrnod mawr drosodd. Yrrais i adra’n canu’r holl ffordd, yn smalio ‘mod i’n ganwr enwog ar lwyfan gerbron miloedd. Fyddai’n licio meddwl ‘mod i’n rhywbeth dwi ddim; canwr enwog, awdur talentog, jiráff. Ond ar ddiwrnod pan mai’n llwyddiant mwyaf i oedd deffro allwch chi mo ‘meio i chwaith, na fedrwch?
 
Dyma'n llythrennol yr unig beth i mi ei fwynhau heddiw

mercoledì, luglio 30, 2014

Clymblaid 2016: rhaid dweud na

Aeth rhywbeth ‘dan y radar’ wythnos diwethaf - ddim yn rhywbeth mawr ond mae’n werth ei drafod. Stori yn y Western Mail ydoedd, gyda Jocelyn Davies AC (y cyn-Ddirprwy Weinidog Tai yn Llywodraeth Cymru’n Un)  yn dweud, heb unrhyw amwyster, y byddai’n llwyr gefnogi Plaid Cymru yn mynd i glymblaid arall â Llafur ar ôl etholiadau 2016. Cafodd y stori ei thrydar gan Adam Price, sy’n ensynio’i gefnogaeth yntau i’r syniad (a gwyddom pa mor ddylanwadol ydi Adam Price yn y Blaid), a does fawr ddim amheuaeth fod yna bobl yn y Blaid sydd hefyd yn gefnogol i’r syniad (Dafydd Êl yn un amlwg arall).

Fel y gwyddoch, tydw i ddim yn aelod o’r Blaid ond dwi’n gefnogol iddi ar y cyfan. Ond mae’r syniad o ailgodi Cymru’n Un yn gyrru ias oer lawr fy nghefn, am fwy nag un rheswm – ac mae gwybod bod ‘na bobl ddylanwadol yn y Blaid yn ei chefnogi ond yn ategu’r ias honno.

Gawn ni un peth o’r ffordd. Roedd Cymru’n Un, ar y cyfan, yn llwyddiannus. Does ‘na ddim amheuaeth mai’r llywodraeth honno oedd y fwyaf effeithiol a welsai’r Cynulliad erioed. Ac o weld pa mor bathetig ydi’r llywodraeth bresennol, allwch chi ddim ond â dod i’r casgliad mai mewnbwn Plaid Cymru fu’n gyfrifol am hynny i raddau helaeth. Serch hynny, roedd 2011 yr etholiad gwaethaf a gafodd y Blaid erioed yn y Cynulliad. Tydw i ddim yn siŵr a ydi pawb yn y Blaid yn deall yn llwyr pam.

Ni wnawn i sôn am y ffaith fod y blaid leiaf mewn clymblaid yn tueddu i gael ei niweidio na hinsawdd wleidyddol 2011 yma – mi wn yn iawn fod rheini’n ffactorau yn yr etholiad hwnnw ac maent wedi'u hen ddadansoddi a'u trafod.

Ond dwi’n meddwl ei bod ‘na ffactor symlach ar waith. Tydi nifer o’r bobl sydd o blaid ailgodi Cymru’n Un efallai ddim yn deall natur carfan helaeth o bleidlais Plaid Cymru - dwi'n dweud deall ond bod yn fwriadol ddall i'r peth dwi'n ei olygu mewn difrif. Ydi, mae hi’n bleidlais dros y Blaid ei hun, ond mae hi’n rhywbeth arall, o'r cadarnleoedd i'r Cymoedd – mae hi’n bleidlais wrth-Lafur. Dydi pobl ddim yn pleidleisio dros y Blaid er mwyn iddi gadw Llafur mewn grym, maen nhw’n pleidleisio drosti am eu bod nhw am ddod â’r gyfundrefn unbleidiol sydd ohoni yng Nghymru i ben. Ni waeth beth a wnaeth y Blaid oedd yn dda rhwng 2007 a 2011, mentrwn i ddweud y collodd bleidleisiau yn 2011 achos, yn syml, fod elfen gref o Vote Plaid, Get Labour, ac roedd hynny i’w weld hyd yn oed yn ei chadarnleoedd, ar ffurf apathi yn fwy nag ymchwydd o gefnogaeth i neb arall.

Yn y bôn, daw hynny â ni at Blaid Cymru ei hun a’r hyn y mae hi ei eisiau. Ai setlo ar ddylanwadu ar Lafur drwy glymbleidio â hi bob hyn a hyn, ynteu ei disodli?

Os yr ail, wnaiff hi fyth mo hyn drwy glymbleidio â Llafur. Byth. Dim gobaith caneri. A fu erioed achos o’r blaid leiaf mewn clymblaid yn mynd ati i ddisodli’r blaid fwyaf? Achos, er gwaetha effeithlonrwydd Cymru’n Un, roedd yna’n sicr elfen o bropio Llafur i fyny pan ddaethpwyd i gytundeb â nhw, a hynny ar adeg yr oedd Llafur mewn gwendid. Mae’n bosib i Gymru’n Un fod yn achubiaeth fechan i Lafur i’r graddau hynny.

Os dylanwadu ar Lafur drwy fod y partner lleiaf mewn clymblaid er mwyn gallu cyflwyno rhai polisïau ydi’r dewis arall, yna waeth i Blaid Cymru roi’r ffidil yn y to. Yn etholiadol, gallai bod yn rhan o lywodraeth a arweinir gan Lafur ddifa’r Blaid, achos, yn syml, pwy arall fyddai, yn realistig, i bleidleisio drosto nad yw’n cadw Llafur mewn grym? Gan ystyried na fydd y Ceidwadwyr yn ennill etholiad Cymreig am amser hirfaith, yr ateb ydi neb. Am sefyllfa dorcalonnus.

Dwi’n coelio mai llywodraeth a arweinir gan y Blaid fyddai orau i Gymru (a hynny er gwaetha’r ffaith dwi’m yn gweld lygad yn llygad â hi ar nifer fawr o bethau). Ond hyd yn oed yn fwy na hynny, dwi’n gwbl, gwbl grediniol fod angen cyfnod o lywodraeth yng Nghymru nad yw dan arweiniad Llafur. Mae’r sefyllfa dragwyddol sydd ohoni’n un sy’n niweidiol i’n democratiaeth, ac o ystyried pa mor wirioneddol ddifrifol ydi Llafur, i Gymru ei hun.

Gwn fod cymariaethau cyson â’r SNP yn gallu bod yn gamarweiniol - nid Cymru mo’r Alban - ond mae ‘na wers fawr y dylai Plaid Cymru ei dysgu gan ei chwaer-blaid. Y mae’r SNP yn lle mae hi nid achos ei bod hi wedi cynorthwyo Llafur yn yr Alban dro ar ôl tro, gan ennill consesiynau mewn cyllidebau neu drwy glymbleidio. Hi yw prif blaid yr Alban am iddi lwyddo i danseilio Llafur yn llwyr a byth â methu ar gyfle i wneud hynny. Ac mi lwyddodd i wneud hynny rhwng 2003-2007 pan oedd yr SNP ar ei gwannaf. Os ydi Plaid Cymru o ddifrif am efelychu’r SNP, mae gwneud hyn yn hanfodol bwysig.

Byddai rhai’n dadlau bod hynny’n anegwyddorol - bod angen cydweithio a chael cyfaddawd er budd Cymru - ond maen nhw’n anghywir. Achos, yn y pen draw, byddai disodli Llafur yn gwneud llawer, llawer iawn mwy o les i Gymru yn yr hirdymor na’i helpu, boed hynny yn y mân ffyrdd neu’r ffyrdd mawr, fel ei chadw mewn grym drwy glymblaid.

Gawn ni fod yn hollol onest am hyn? Yr unig ffordd i Gymru wirioneddol lwyddo fel gwlad ydi i Lafur yng Nghymru ddilyn trywydd Llafur yn yr Alban. Tydi’r SNP ddim yn unigryw. Ledled Ewrop mae pleidiau cenedlaetholgar wedi cyrraedd lle maen nhw drwy danseilio ac amlygu gwendidau eu gwrthwynebwyr unoliaethol a’u naratif gwleidyddol, a dyma un rheswm mawr pam fod mudiadau cenedlaethol o’r Alban i Wlad y Basg yn gryfach na Chymru. Maen nhw’n gwrthwynebu eu gwrthwynebwyr.

Mewn nifer o ffyrdd tydw i ddim yn rhy nodweddiadol o gefnogwr Plaid Cymru. Ond mae ‘na rywbeth sy gen i’n gyffredin â’r mwyafrif ohonynt: dwi ddim yn licio Llafur, a dwi ddim yn licio Llafur achos ei bod hi’n fethiant. Pan fydd Llafur yn llywodraethu yng Nghymru, mae hi’n llanast diddychymyg aneffeithlon. Dwi ddim jyst isio i Lafur beidio ag arwain ein llywodraeth nesaf – dwi’n gwybod, a dybiwn i eich bod chithau’n gwybod hefyd, nad ydi hi’n haeddu gwneud hynny.

Daw hyn â ni at gwestiwn sydd gennyf i unrhyw un sy’n fodlon ymateb, achos hoffwn i farn eraill ar hyn.

Am resymau egwyddorol ond hefyd dactegol, fydd Plaid Cymru byth yn clymbleidio â’r Ceidwadwyr. Y mae hynny’n gwneud synnwyr ar bron pob lefel. Mae hi wedi datgan hynny’n onest ac yn agored. Ac mi ddylai fod yn onest am y cwestiwn canlynol, fel plaid gyfan:

A fyddai Plaid Cymru yn fodlon bod yn rhan o lywodraeth a arweinir gan y blaid Lafur?

Yn bersonol, os na ddywed y Blaid na fydd yn fodlon gwneud hyn – sef, yn y bôn, cadw Llafur mewn grym am 4/5 mlynedd arall – dwi ddim yn meddwl y gallwn i fy hun fwrw pleidlais drosti yn 2016. Pwy arall sy’n teimlo felly? A fyddech chi’n fodlon pleidleisio dros y Blaid, ac endio fyny â llywodraeth arall eto fyth a arweinir gan Lafur?

Pam na ddywedai am nad ydi Llafur yn ffit i arwain Cymru, ni fyddwn ni'n rhan o lywodraeth a arweinir ganddi?

Tybed faint o’i chefnogwyr sy’n teimlo felly hefyd? Faint o bobl, sydd wedi laru ar Lafur, ond na allent fyth bleidleisio Tori, fyddai’n cymryd sylw o’r Blaid yn dweud o flaen llaw, “NA”? Faint o bobl fyddai wedyn yn meddwl bod cyfle am newid go iawn? Wn i ddim. Cryn dipyn dwi’n amau, er na alla i brofi’r ffasiwn beth.

Dylanwadu ar Lafur neu ddisodli Llafur? Os y cyntaf fydd hi eto yn 2016, mentrwn ddweud nad dewis rhwng dylanwadu a disodli fydd dewis y Blaid wedi hynny, ond disodli ynteu ddirywio. Ac efallai bryd hynny fydd hi'n rhy hwyr i geisio'i disodli - gan Blaid Cymru o leiaf.

martedì, luglio 15, 2014

Mesen o un rymusach

Fydda i ddim yn wir yn hoffi ysgrifennu am rywun na fu i mi erioed gwrdd â nhw rhag imi swnio’n arwynebol neu’n  ffuantus. Ond heddiw bu farw Gerallt Lloyd Owen, a dwi’n teimlo rhyw reidrwydd i ddweud pwt.

Dwi’n cofio’n iawn dysgu am farddoniaeth Gymraeg yn yr ysgol. Dwi’n siŵr nad oedd pawb yn licio barddoniaeth i’r un graddau â fi (a dwi ymhell o fod yn arbenigwr o unrhyw fath ar farddoniaeth cofiwch) ond ro’n i wrth fy modd yn bersonol. Ond cofiaf pan ofynnai athro pwy oedd ein hoff fardd o’r hyn a astudiem, roedd ateb y dosbarth yn gwbl unfrydol bob tro: Gerallt Lloyd Owen.

Egin genedlaetholwr oeddwn i pan ddarllenais Fy Ngwlad am y tro cyntaf erioed. Ro’n i wedi gwirioni arni. Roedd o fel petai’n adrodd rhywbeth wrthyf  a anghofiais ond na wyddwn erioed amdano. Go brin fod unrhyw linell unigol yn holl lenyddiaeth y Gymraeg sydd drwy ryw fodd yn deffro’r Cymro greddfol yn rhywun na Wylit, wylit, Lywelyn ... a hynny heb, ar ei phen ei hun, olygu unrhyw beth o gwbl.

Mae rhywbeth am gerddi Gerallt sydd rywsut yn deffro rhywbeth ym mêr yr esgyrn. Fedra i ddim hyd heddiw roi fy mys ar y peth. Arddelant genedlaetholdeb y pridd – y gwladgarwch greddfol a rhyfedd hwnnw sydd i’w gael ymhlith ni’r Cymry Cymraeg  – nid un yn seiliedig ar resymeg oeraidd na maniffesto nac, efallai, synnwyr cyffredin llawer o’r amser, ond y cariad dwfn hwnnw y gall dyn ei deimlo at ei dir, ei bobl a’i iaith sydd mor naturiol â charu mam. Nid bod yn perthyn i rywbeth nac uniaethu ag ef ond ymdoddi iddo.

A, rhag i mi gamgyfleu fy hun, mae hyn yr un mor wir am ei gerddi nad ydyn nhw’n rhai gwladgarol neu genedlaetholgar. Mae’r naws ynddyn nhw hefyd. Ond i mi ei gerddi am Gymru bob amser ydi’r rhai dwi’n troi atynt dro ar ôl tro.

Mae beirdd dirifedi wedi llwyddo i gyfleu cariad at Gymru a’i phethau, ond nid oes yr un ohonynt wedi gwneud yr hyn a wnaeth Gerallt. Do, gwnaeth hynny. Ond nid drwy fawlganu iddi Hi wlad y gân neu Walia wen. Nid drwy ei throsi’n winllan na dweud mai yma fydd Hi hyd Ddydd y Farn.

Yr hyn lwyddodd Gerallt i’w fynegi oedd y boen ddofn, fyw honno sy’n aml yn cyd-fynd â bod yn Gymro Cymraeg. Bod yn rhan o hen hil ar gyrion. Ac mor braf ydi’r gydnabyddiaeth honno yn lle cael ein llesteirio’n gyson â meddwl bod popeth yn iawn. Roedd yn rhyddhad clywed gwirionedd moel. Roedd yn rhyddhad darllen y gwewyr hwnnw ar bapur. A thrwy hynny, nid gyrru neb i bwll o anobaith a wnaeth, ond atgyfnerthu eu gwydnwch.

Bydd y teimladau a ysgytia cerddi Gerallt yn dragwyddol, hyd yn oed os, ar ddiwedd ein cân, na fyddwn ninnau.

Am golled i Gymru Gymraeg ydi Gerallt Lloyd Owen. Ond, Iesgob, roedden ni ar ein hennill o’i gael.

domenica, luglio 06, 2014

Breuddwyd Nain

"Roedda ni am fynd ar ein gwyliau. Chdi a fi a dy chwaer a Blodwen. Dyma fi'n pacio fy siwtces ac roedd o'n fawr a 'ma fi'n cael traffarth fynd â fo i'r giât. Aros am y bws oedda ni yn Llansadwrn a dyma fi'n edrych yn ôl i fyny'r lôn wrth iddo fo gyrradd at Pros Kairon ac roedd y gath 'di dod lawr efo fi. Wel to'n i'm am fynd ar ngwyliau efo'r gath a dyma fi'n deud hynna wrthi ac wedyn o'i i'n poeni 'sa hi'n rhedag i'r lôn.

"Mae 'na drafferth efo'r anifeiliaid 'ma," meddwn i wrth Blod.

"Wn i," medda hi, "mae gen i iâr ac mae honno'r un fath".

A dyma ni'n mynd ar y bws wedyn ar ein holidês."

lunedì, maggio 26, 2014

Sylwadau bras am etholiad neithiwr yng Nghymru

Y mae etholiadau Ewrop yn haeddu blogiad, cyfres o flogiadau efallai, manwl, ond dwi ddim am gynnig hyn y funud hon. Ond mi wna i gynnig sylwadau bras iawn, yn bennaf am berfformiad Plaid Cymru.

 

1)      Dylai’r Blaid gyfaddef nad oedd neithiwr yn ganlyniad da er bod sawl un eisoes yn ei gweld hi fel buddugoliaeth o ryw fath. Roedd y cyd-destun gwleidyddol efallai’n anffafriol ond y gwir ydi dihangfa gafodd hi, a waeth iddi gydnabod hyn (hyd yn oed jyst yn breifat). Mae’r Blaid yn arbenigo ar ei hargyhoeddi ei hun fod popeth yn iawn pan dydi o ddim, sydd jyst yn gwneud iddi edrych yn stiwpid, i fod yn hollol onest.

2)      Roedd y ddihangfa er gwaetha’r ffaith ei bod yn wybodaeth gyffredin y gallai golli ei sedd Ewropeaidd. Tuedda pleidiau i wneud yn well na’r disgwyl pan fônt yn y fath sefyllfa "cefn yn erbyn y wal". Hyd yn oed yn y fath sefyllfa, prin lwyddodd Plaid Cymru i argyhoeddi ei chefnogaeth graidd i fwrw pleidlais drosti, ac mae hynny'n arwyddocaol. Yn fwy arwyddocaol nag y bydd unrhyw un yn y Blaid yn fodlon ei gyfaddef yn gyhoeddus, yn sicr.

3)      Mae’n hollol deg dweud fod y Blaid yn cael trafferth ennyn sylw yn y wasg. Ond pan gafodd sylw wnaeth hi fawr ddim argraff. Dylai ailedrych ar ei naratif a’i hymgyrch dros y ddeufis ddiwethaf achos wnaeth hi ddim taro tant â phobl o gwbl.

4)      Ysgrifennais bwt ar y dacteg o ymosod ar UKIP yma. Dyma wnaeth PC bob cyfle a gafodd, fel plaid a hefyd fel ymgyrchwyr unigol (dwi’n colli cownt o faint o weithiau y gwelais geiriau Leanne Wood  am UKIP ar ddechrau’r ymgyrch yn gwneud y rownds ar y cyfryngau cymdeithasol). Roedd o’n gamgymeriad llwyr am amryw resymau a fu bron yn gostus tu hwnt.

5)      Yn dilyn o’r pwynt hwnnw, mae cwestiynau dwfn iawn yn codi am safon a doethineb arweinyddiaeth bresennol Plaid Cymru – y rhai sy’n pennu strategaeth y Blaid, y rhai sy’n llywio’r ymgyrch, ia, ond yr arweinydd ei hun hefyd. Cafodd ddegawd o arweinyddiaeth wan dan lywyddiaeth IWJ, a arweiniodd y Blaid drwy gyfnod bron yn ddi-dor o ddirywiad, a pharhau mae'r un patrwm heddiw. Heb fod isio codi gwrychyn neb, na sarhau neb ychwaith, yr argraff gref dwi’n ei chael gan bron pawb dwi’n siarad â nhw am hyn ydi nad ydi Leanne Wood yn ffit i’r job. Dynas dda, egwyddorol, hoffus – mae yn sicr ei heisiau yng ngwleidyddiaeth Cymru - ond dydi hi ddim yn arweinydd plaid wleidyddol. Dyna ni, dwi wedi’i ddweud o.

6)      Rhaid i’r Blaid hefyd gydnabod fod lefel y dadrithio ymhlith ei chefnogwyr yn gwbl gyffelyb â’r hyn sy’n effeithio ar y pleidiau eraill hefyd. Ni all feio neb arall am hyn ond am ei hun.

 
O ran y pleidiau eraill:
 

7)      Noson dda iawn i UKIP yng Nghymru. Dwi ddim yn siŵr a ydw i’n cytuno â’r ddamcaniaeth a arddelwyd neithiwr gan rai mai mewnfudwyr o Saeson sy’n gyfrifol am hyn, er does dim amheuaeth fod UKIP wedi ennill mewn rhannau o Gymru lle mae canran y bobl a aned yn Lloegr yn uwch. Gan ddweud hynny, ddaethon nhw’n ail yn y  Cymoedd hefyd – welodd neb mo hynny’n dod.

8)      Doedd o ddim yn noson dda i Lafur. Er gwaetha’r ffaith iddi ennill ryw 8% yn fwy nag etholiad ’09 roedd hynny o lefel hanesyddol isel. Hefyd, ac eithrio 2009, hwn oedd perfformiad gwaethaf y blaid Lafur yng Nghymru ers ymhell cyn yr Ail Ryfel Byd, sy’n werth cofio.  


giovedì, maggio 01, 2014

Dyfodol yr Iaith a Radio Cymru

Gawni un peth o’r ffordd yn syth. Dwi’m yn foi radio. Fydda i ond yn gwrando yn y car neu weithiau ar fy ffôn wrth lusgo adra o’r gwaith; fel arall, byth. Llawer gwell gen i syllu’n farwaidd ar y bocs drwy’r nos a gwylio fideos o hen bobol yn syrthio ar YouTube.

Ac yn ail, fydd unrhyw un sydd wedi darllen y blog hwn o’r blaen yn gwybod fy mod i’n hollol gefnogol, er yn feirniadol yn aml, o fudiadau cenedlaethol neu ieithyddol Cymru, fel Dyfodol yr Iaith. Ond ‘rargian, mae eu sylwadau ar newidiadau diweddar Radio Cymru yn hurt – a waeth i ni beidio â smalio, maen nhw’n amlwg wedi’u hanelu at un DJ yn benodol, sef Tommo; dydi’r ffaith nad ydi ei enw’n cael ei nodi ddim yn celu hynny. Yn ôl at hynny yn y man.

Fydda i'n dyfynnu o erthygl Golwg360 ar hyn (sydd yma), gan gymryd ei bod yn rhoi darlun cywir o’r hyn a ddywed Dyfodol i’r Iaith. Mi wna i osgoi’r demtasiwn o beidio â chwalu’n rhacs y syniad o gael dwy orsaf gydag un o’r enw Radio Pop, gan geisio f’argyhoeddi fy hun mai enw cymryd y piss ydi hwnnw yn hytrach nag awgrym go iawn!

Dyma’r peth cyntaf sy’n codi fy ngwrychyn:

Byddai’r naill yn targedu’r ifanc a’r dysgwyr gydag arlwy o gerddoriaeth ac iaith lafar gyfoes, tra bo’r llall yn wasanaeth mwy cynhwysfawr ac amrywiol o ran newyddion, drama ac adloniant gyda cherddoriaeth amrywiol Gymraeg yn unig.

Gorsaf radio i dargedu’r “ifanc a dysgwyr”? Fedrwn i ysgrifennu blogiad cyfan am ba mor hurt ydi lwmpio’r ddau grŵp at ei gilydd a hynny heb sôn am yr ensyniad, rywfaint yn sarhaus, fod pethau sy’n apelio i’r “ifanc a dysgwyr” yn hollol wahanol i ... wel, i bwy? Oedolion aeddfed sy’n siarad Cymraeg yn rhugl? Fel dwi ‘di deud o’r blaen, dwi ddim yn licio pobl yn bloeddio snobyddiaeth, ond mae geiriad yr holl frawddeg uchod yn drewi ohoni. A chadw “iaith lafar gyfoes” i’r un orsaf honno?

Wn i ddim a ydi Dyfodol i’r Iaith yn gwybod hyn ond cyfrwng llafar ydi radio yn y lle cyntaf. Wrth gwrs, mae angen amrywio’r iaith ar raglenni gwahanol – fydd rhaglen geisiadau’n wahanol i’r newyddion – ond os dydi Radio Cymru ddim yn adlewyrchu’r math o iaith mae pobl yn ei siarad bob dydd, waeth iddi roi’r ffidil yn y to ddim. Cofio’r mwydryn Jonsi? Swni’m yn bersonol ‘di gwrando ar Jonsi dan fygythiad arteithio, ond y gwir ydi roedd ei iaith lafar, iaith ‘stryd’ os mynnwch chi ddefnyddio term crinjlyd braidd, yn apelio yn fawr iawn at bobl a dyna pam fod ei raglen efallai yr un fwyaf poblogaidd yn hanes diweddar RC. Roedd pobl yn fodlon maddau tiwns cachu a malu cachu i glywed rhywun oedd yn siarad fel y byddan nhw’n ei wneud.

A does dim gwadu mai’r orsaf i’r “ifanc a dysgwyr” fyddai’r fwyaf poblogaidd – achos byddai’r cynnwys yn apelio at y rhan fwyaf o bobl (mae label Dyfodol i orsaf o’r fath yn hynod anffodus ac yn dweud lot, mae arna i ofn, am y sawl a eiriodd hynny, pwy bynnag y bônt). Mae’r ail yn swnio fel fersiwn radio Cymraeg o BBC4. Hynny yw, rhywbeth i leiafrif bach, ond ddim jyst lleiafrif yn yr achos hwn eithr lleiafrif o fewn lleiafrif.

Yn anffodus, nid yw’r newidiadau diweddar wedi llwyddo i wella gwasanaeth Radio Cymru o gwbl, ac mae angen adolygu’r sefyllfa ar frys cyn i’r orsaf Gymraeg golli ei cherddorion ifanc a’i chynulleidfa draddodiadol...

...Gofynnodd i’r BBC: “Gan fod cymaint o anfodlonrwydd gyda’r gwasanaeth presennol,...

Mae’r gair ‘gwella’ yn gallu bod yn un camarweiniol achos ei fod yn awgrymu rhywbeth absoliwt. Tydi newidiadau RC ddim am apelio i bawb, ond y gwir ydi heblaw am ambell swnyn ar Twitter a Golwg wela’ i ddim tystiolaeth fod anfodlonrwydd mawr ar y gwasanaeth presennol. Y ffon fesur fydd nifer y gwrandawyr – fydd yn ddiddorol gweld yr ystadegau hynny pan gânt eu rhyddhau nesaf. Ond hefyd dylai RC geisio apelio y tu hwnt i’r “gynulleidfa draddodiadol”, a’r gwir ydi mae llawer o’r rhaglenni mwy ffurfiol yn rhai sydd yn iawn at ddant y rheini, ond fyddai’n apelio dim at nifer fawr iawn o ddarpar wrandawyr, a nifer o bobl sy wedi troi eu cefnau ar yr orsaf – nid achos safon yr iaith, nac o reidrwydd safon y cynnwys, ond jyst achos bod RC wedi bod braidd yn boring i nifer o bobl dros y blynyddoedd diwethaf.

Ddaw hynny â ni at Tommo, sef dyn sy’n amlwg wedi cael ei ddewis i RC er mwyn ceisio denu gwrandawyr newydd, gyda rhaglen sydd a dweud y gwir â gwedd gwbl wahanol i unrhyw beth fu ar RC o’r blaen. Rŵan, cofio fi’n dweud uchod nad ydw i’n foi radio? Yn sicr nadw, ond wyddoch chi be, fydda i’n rili, rili mwynhau gwrando ar Tommo yn mwydro ac yn gweiddi yn y p’nawn. Mae’n gwneud i mi wenu. Dwi heb wrando ar RC yn fynych ers yn agos i ddegawd. Dwi’n cofio troi at Champion yn lle ‘slawer dydd achos ei fod o’n fwy, wel, hwyl. Ac achos bod Tommo’n siarad yn llafar, a’i fod yntau’n ddigon o hwyl a chynnes, dwi’n fodlon maddau’r iaith “wallus” (gas gennai bobl yn beirniadu iaith lafar pobl eraill) a lot o’r caneuon.

Druan â’r boi. Mae o ‘di ei chael hi gan lot o bobl ar Twitter. Ond mae’n rhaid i mi ddweud hyn, ac yn anffodus fedra i ddim mo’i ddweud heb fod yn sarhaus, felly dyma ni: mae’r bobl sy’n cwyno am Tommo ar Twitter a chyfryngau eraill yn union y math o bobl dwi’n falch eu bod nhw ddim yn ei licio fo. Ac i’r gwrthwyneb, mae’r bobl sy’n dweud eu bod nhw’n ei licio i’w weld yn bobl dwi’n falch fod ‘na rywbeth ar RC sy’n apelio iddyn nhw. O’r diwedd!!!

I grynhoi, fe wyddoch efallai fy mod i’n credu'n gryf mewn safonau ieithyddol gan hefyd gasáu snobyddiaeth ieithyddol. Yn groes i beth mae lot o bobl yn ei feddwl, does dim yn rhaid i’r ddau beth hynny wrthdaro â’i gilydd. Ac o ran cerddoriaeth Saesneg ar RC dwi’n tueddu i feddwl y dylai fod isafswm caneuon Cymraeg. Dwi ddim yn meddwl o gwbl bod angen ail orsaf, ond dwi’n dallt bod dadl i’w chael.

Ond pan mae Dyfodol yr Iaith yn sôn am “wella” Radio Cymru, a bod angen gwneud hynny ar frys, fedra i’m ond â meddwl mai isio gwneud hynny ar eu cyfer nhw eu hunain a rhan fechan o’r Cymry Cymraeg y maen nhw, ac nid i’r mwyafrif sydd eisiau gorsaf radio sy’n eu hadlewyrchu nhw, a chyflwynwyr sy’n siarad fel nhw.

sabato, marzo 29, 2014

Gwladwriaeth annibynnol nesaf Ewrop

Yn Ewrop heddiw, mae pum prif wladwriaeth: y Deyrnas Unedig, Ffrainc, Yr Almaen, Sbaen a’r Eidal. Ond os edrychwch yn fanylach arnynt, dim ond un ohonynt sydd mewn difrif yn cyfrif fel cenedl-wladwriaeth, sef Yr Almaen. Y mae’r Almaen, ar ryw ffurf neu’i gilydd, wedi bod yn rhan o’r un endid gwleidyddol ers dros fileniwm, gan rannu diwylliant ac iaith gyffredin, er y bu’n amryw deyrnasoedd, tywysogaethau a dinasoedd rhydd am lawer o’r amser hwnnw ar ffurf cynghrair. Am y rhan fwyaf o’r cyfnod hwnnw bu’n endid ar ffurf yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, ond ni ddaethai’n wladwriaeth gwbl unedig tan 1918 pan draflyncwyd yr hen deyrnasoedd amrywiol a ffurfiai’r Almaen yn gyfan gwbl gan y llywodraeth ganolog. 

Rydych yn siŵr o wybod nad ydi’r Deyrnas Unedig yn genedl-wladwriaeth, nac ychwaith Sbaen, gyda phob un ag amryw bobloedd o drasau a diwylliannau gwahanol. Mae hyn hefyd yn wir am Ffrainc, er bod y wladwriaeth honno wedi bod yn fwy llwyddiannus o lawer yn ffrwyno’r hunaniaethau unigol sydd i’w cael yno.

Ond debyg nad ydi’r rhan fwyaf ohonoch yn gyfarwydd â sefyllfa’r Eidal o ran hyn, gan felly dybio mai cenedl-wladwriaeth ydi hi. Ond rydych chi’n anghywir i dybio hyn. Y mae’r Eidal yn llawn hunaniaethau lleol ac ieithoedd gwahanol, ac yn wladwriaeth ag iddi sylfeini gwantan iawn.

Yn wir, mae cenedlaetholdeb Eidalaidd yn deillio yn fwy o ystyriaethau daearyddol, sy’n deillio’n ôl i gyfnod y penrhyn Eidalaidd fel talaith Rufeinig, ac ystyriaethau gwleidyddol a chymdeithasol, nag ymdeimlad o wir undod cenedlaethol. Unwyd y penrhyn ym 1870 – ac roedd y diffyg cenedlaetholgar ym meddyliau nifer o bobl bryd hynny. Dwi’n meddwl i ŵr o’r enw Massimo d’Azeglio, a fu’n Brif Weinidog Teyrnas Sardinia – ei roi orau pan ddywedodd ‘Rydym ni wedi creu’r Eidal. Nawr, mae’n rhaid creu Eidalwyr’.

Llwyddwyd i wneud hynny i raddau. Ond ddim yn llwyr o gwbl. Mae map ieithyddol yr Eidal yn gwneud i hyd yn oed Sbaen edrych yn unffurf. Er bod pawb yn siarad Eidaleg safonol (fwy na heb) mae ‘na amrywiaeth enfawr o ieithoedd yn cael eu siarad yno, o Feniseg yn Fenis, Napolitaneg yn ardal Napoli, Sardineg yn Sardinia, Sisilianeg yn Sisili, heb sôn am bocedi o Almaeneg, Ffrangeg, Ladin a Slofeneg, ymhlith eraill. Byddai rhai yn galw rhai o’r ieithoedd hyn yn dafodieithoedd, ond coeliwch chi fi, byddai’r siaradwyr a nifer fawr o ysgolheigion, yn dadlau fel arall. Roedd fy nain bob amser yn mynnu y siaradai dair iaith: Eidaleg, Saesneg a Napolitaneg.

Ond nid yn unig y mae’r Eidal yn llawn rhaniadau ieithyddol ond mae rhai gwleidyddol mawr yno hefyd. Bosib i chi glywed am y Lega Nord, sy’n blaid ranbarthol ddadleuol sy’n ymgyrchu dros ogledd yr Eidal (yn amrywio rhwng mwy o ffederaliaeth ac annibyniaeth i Padania, sef gogledd yr Eidal) ac sy’n profi cryn lwyddiant ym mron bob etholiad. Y mae hefyd fudiadau sy’n arddel annibyniaeth i Sardinia a De Tyrol ymhlith eraill.

Y mae’r gwledydd bychain yn codi ledled Ewrop ein hoes ni. Ond cael a chael ydi hi hefyd mewn difri. Mae’r polau o hyd yn awgrymu mai lleiafrif sydd o blaid annibyniaeth yn Yr Alban, a dydyn ni ddim yn gwbl sicr i ba raddau yr aiff Sbaen i atal ei rhanbarthau rhag gwahanu oddi wrthi. Serch hynny, yn fy marn i, os ydych chi’n chwilio Ewrop am y wladwriaeth nesaf bosibl, nid at Brydain na Sbaen y dylech edrych, ond yn hytrach at Fenis y dylech droi.

Mae gan Fenis gryn hanes, y mae llawer o bobl yn gwbl anymwybodol ohono heddiw. Bu’n wladwriaeth annibynnol am dros 1,100 o flynyddoedd, ac yn rym morwrol a masnachol sylweddol am lawer o’r cyfnod hwnnw, er y daeth i ben ym 1797 pan gafodd ei goresgyn gan Napoleon. Wedi hynny’n bu’n rhan o Awstria am flynyddoedd nes dod i ddwylo Teyrnas yr Eidal ym 1866. Dydi hi fawr o syndod bod ymdeimlad cenedlaethol cryf i’w gael yno hyd heddiw.

Wrth gwrs, â hanes mor ogoneddus a hirfaith does syndod yn hynny o beth – i’w roi mewn cyd-destun, sefydlwyd Gweriniaeth Fenis o leiaf ganrif a hanner cyn i’r Alban uno’n un deyrnas, ac ond ychydig ddegawdau ar ôl sefydlu Islam. Y gwir ydi, does ‘na ddim llawer o genhedloedd yn Ewrop sy’n hŷn na Fenis.

Ond heddiw mae’r naratif cenedlaetholgar Fenetaidd cyfoes wedi datblygu, a hynny yn wahanol i’r Alban, Catalwnia, Gwlad y Basg, Fflandrys a hyd yn oed Cymru, yn ddistaw iawn, i’r graddau mai prin yw’r rhai sy’n ymwybodol ohono. Ond ystyriwch hyn, ym mhob arolwg barn a gynhaliwyd es tua 4 blynedd, mae mwyafrif trigolion Fenis wedi dweud eu bod o blaid annibyniaeth. Mae hynny’n fwy na Chatalwnia, ac yn sylweddol fwy na’r Alban.

Efallai i chi ddarllen stori am hyn ar y BBC yn ddiweddar. Cynhaliodd Fenis bleidlais gwlad - hynny yw refferendwm heb rwymedigaeth gyfreithiol - i weld barn y cyhoedd ar annibyniaeth. Pleidlais ar-lein oedd hi, ond credir yn gyffredinol fod y bleidlais yn agos ati o ran y farn a fynegwyd. Pleidleisiodd 89% o blaid annibyniaeth. Fawr o syndod, efallai, mewn refferendwm ar annibyniaeth a gynhaliwyd gan bobl o blaid annibyniaeth; nes i chi gael gwybod bod tua 63% o bobl Fenis wedi bwrw pleidlais ynddo.

Mae, fel y byddech yn ei ddisgwyl, rwystrau i’r rhai sydd o blaid annibyniaeth. Fel yng nghyfansoddiad Sbaen, nid oes darpariaeth i ranbarthau’r Eidal wahanu o’r wladwriaeth ganolog. Ond nid oes gan yr Eidal ychwaith hanes o orthrymu’r rhanbarthau fel Sbaen, ac mae ei llywodraeth ganolog fel arfer naill ai’n wan neu’n llawn trafferthion, heb yr undod na’r penderfyniad gwleidyddol, nac yn wir synaidaeth gadarn ar undod cenedlaethol, i wir wrthsefyll ymgyrch hirhoedlog, drefnus gan un o’r rhanbarthau.

Petaech chi’n gallu betio ar hyn, ac yn ffansi bet ar wladwriaeth nesaf Ewrop, dybiwn i na fyddech ar eich colled petaech yn ei roi ar Fenis.

venerdì, marzo 14, 2014

Plaid Cymru ac UKIP

Gwnaeth ymosodiad Leanne Wood ar UKIP nifer o benawdau newyddion yr wythnos hon yng Nghymru. Mae rhai eisoes wedi cwestiynu doethineb hynny. Dwi’n rhyw dueddu i gytuno fy hun ei fod yn ymosodiad rhyfedd – a hynny am resymau strategol – ond yn fwy na hynny yr iaith gref a ddefnyddiwyd. O roi i’r un ochr fy marn ar y Blaid ac UKIP yn y blogiad hwn, gadewch i mi geisio esbonio. Dyma ddywedodd Leanne Wood:


Nid eich gwerthoedd chi mo gwerthoedd Cymru. Mae pleidlais i UKIP yn bleidlais yn erbyn Cymru, ac bleidlais yn erbyn buddiant cenedlaethol Cymru. Ni allwn, ac ni fyddwn, yn gadael i’w gwleidyddiaeth hyll ein rhannu fis Mai.


Dydw i ddim yn meddwl bod ensynio bod UKIP yn ‘Anghymreig’ yn beth ffôl i’w wneud, achos mewn nifer o ffyrdd, mae hi – er rhaid pwysleisio na ddefnyddiodd Leanne Wood y gair penodol hwnnw wrth ymosod arni. Y mae ei hagwedd at Gymru yn un ymerodraethol, hen ffasiwn, ac yn hynny o beth yn annerbyniol. Drwy gamau bychain mae Cymru heibio hynny. Does dim ots gen i beth ddywedodd Dafydd Êl am ei bod yn cynrychioli barn ‘ddilys’ yng Nghymru yn hyn o beth, mae UKIP yn Anghymreig. Roedd y ddwy frawddeg gyntaf, yn fy marn i, yn rhai digon teg a gwir.

Y broblem ydi disgrifio ei gwleidyddiaeth fel gwleidyddiaeth ‘hyll’, a dwi’n meddwl bod hynny’n mynd â rhywun i dir peryglus iawn. Dau beth yn unig sy’n poeni UKIP – yr Undeb Ewropeaidd a mewnfudo – mae hi’n erbyn y ddau. Tydi bod yn erbyn aelodaeth y DU, na Chymru, o’r UE ddim yn beth ‘hyll’ iawn; dydi dweud y byddai’r DU yn well ei byd y tu hwnt i’r UE ddim yn gwbl ddi-sail achos mae anfanteision i’r aelodaeth honno hefyd. Os edrychwch ar y ffeithiau dydi hi ddim y ddadl gadarnaf yn sicr ond mae mân rinweddau iddi. A dydi ymdeimlad gwrth-UE ddim yn rhywbeth nodweddiadol Seisnig, mae i’w gael yng Nghymru hefyd (yn wir, os edrychwch hi ar bolau dros y blynyddoedd ar gyfansoddiad Cymru, mae ‘na hollt ryfeddol o agos ymhlith y rhai sy’n coelio mewn annibyniaeth i Gymru o fewn yr UE a’r tu allan iddi).

Ond efallai mewnfudo sydd fwyaf dadleuol yma. Mewn polau piniwn, fe welwch dro ar ôl tro bod pobl yn tueddu i feddwl bod gormod o fewnfudo i’r DU: a dwi ddim yn meddwl bod y rhai sy’n cytuno â hynny’n arddel gwleidyddiaeth ‘hyll’ ychwaith. Tybed, pe byddech chi’n byw mewn rhan o Loegr sydd wedi gweld ymchwydd enfawr o fewnfudwyr o’r tu allan i Loegr yn eich ardal chi, gan newid a thanseilio holl gymeriad eich ardal, a fyddech chi’n fwy sympathetig at y farn honno?

Onid ydym ni’n gweld yr un fath yn digwydd yng Nghymru – mewnfudo o fath gwahanol, efallai, ond un sy’n tanseilio ein diwylliant, ein hiaith a’n treftadaeth ein hunain? Dydi ddim eisiau i’ch cymuned chi newid y tu hwnt i bob adnabod ddim yn wleidyddiaeth hyll. Mae’n ddigon teg. Wrth gwrs, mae rhai pobl yn erbyn mewnfudo am resymau hiliol. Byddwn i’n gyndyn iawn o ddweud bod hynny’n gynrychioliadol o’r mwyafrif sy’n coelio hynny. A phe byddech chi’n dweud hynny, go debyg eich bod yn un o’r bobl hynny sy’n lluchio’r cyhuddiad o ‘hiliaeth’ at bobl yn rhy hawdd o lawer beth bynnag. Dyna ydi gwleidyddiaeth hyll!

A dyma’r peth arall. Dwi’n tueddu i feddwl bod Plaid Cymru ar y chwith i nifer fawr iawn o’i chefnogwyr traddodiadol a selocaf. Dydi hynny efallai ddim yn broblem anorchfygol ynddi’i hun. Ond tybed faint o gefnogwyr craidd y Blaid sy’n tueddu i feddwl bod gormod o fewnfudo – ar lefel y Deyrnas Unedig ac ar lefel Cymru?

Dwi’n meddwl eich bod, ym mêr eich esgyrn, yn gwybod yr ateb i hynny. Debyg iawn bod barn cefnogwyr Plaid Cymru’n unfath â’r ymdeimlad cyffredinol ym Mhrydain ar hyn o bryd. Ond dwi ddim yn meddwl bod hynny’n golygu bod cefnogwyr Plaid Cymru’n arddel gwleidyddiaeth ‘hyll’ – a fedra i ddim gweld sut mae ensynio hynny, er yn anuniongyrchol, yn mynd i fod o fudd i’r Blaid mewn ti mis.

Peidiwch â’m camddeall ychwaith. Mae UKIP mewn nifer o ffyrdd yn blaid eithaf boncyrs, ac mae plaid o’i natur hi’n anorfod am ddenu cymeriadau a chefnogwyr digon ... ‘lliwgar’. Ond mae labelu ei phrif nodweddion gwleidyddol – lleihau mewnfudo a gadael yr UE – fel ‘hyll’ ddim yn iawn. Y gwir ydi mewn nifer fawr o ffyrdd, maen nhw’n safbwyntiau teg (er, wrth gwrs, bydd rhai yn eu cefnogi am resymau hyll). Pe bai gennym yng Nghymru wleidyddiaeth y byddai trwch y boblogaeth yn ymwybodol ohoni, tueddaf i feddwl mai tanseilio ei chefnogaeth fyddai geiriau Leanne Wood, nid ei sicrhau na’i hehangu, at yr etholiadau sydd ar ddod.