giovedì, luglio 28, 2011

John ac Alun y Ffycars

Na, dwi'm yn blogio rhyw lawer ddim mwy. Ond fydda i dal yn licio gweld y pethau y mae pobl yn eu teipio ar Gwgl i gyrraedd y blog. Pa un o'r isod ydi fy ffefryn, meddech chwi?

martedì, luglio 12, 2011

Y Diffyg

Wel, dwi mewn man rhyfedd ar y funud. Efallai eich bod chi wedi sylweddoli bod y blog wedi bod yn ddistaw yn ddiweddar a felly fydd hi o hyn ymlaen. A dweud y gwir dim ond hyn a hyn y gallwn ei ddweud am hanesion fy nheulu od. Dydi'r ffaith bod Nain yn honni iddi ond wneud un omlet yn ei bywyd o fawr o ddiddordeb i'r rhan fwyaf o bobl, na'r ffaith i 'Nhaid honni iddi roi blawd efo fo. Fe edrychodd hi arno, yn llawn casineb, a dweud bod 'na "rhywbeth yn rong yn dy ben". Dydi Nain ddim yn licio pobol yn gwneud iddi edrych yn wirion ac i'r diben hwnnw mae rhywun yn hapus iawn nad oes ganddi ryngrwyd.

Ond y prif reswm am ddistawrwydd y blog ydi gwleidyddiaeth, un o gonglfeini fy mwydro dros y blynyddoedd diwethaf. Ydi, mae gwleidyddiaeth yn rhannol ddiddorol ar y funud, ond mae gen i gyfaddefiad. Daeth datgeliad ataf yn ddiweddar sef fy mod i wedi llwyr, llwyr colli diddordeb mewn gwleidyddiaeth. Dwi wedi teimlo'n debyg i hyn ambell waith, ond y tro hwn dwi 'di cael amser i bwyso a mesur yn lle dweud rhywbeth yn ffwrdd â hi.

Dwi wedi fy nadrithio o'r blaen ambell waith. Dwi'n teimlo felly ar y funud. Soniwyd lawer am ddiffyg gwahaniaethau'r pleidiau yn etholiad eleni, ac alla i ddim anghytuno. I'r diben hwnnw, dydw i ddim yn teimlo bod unrhyw blaid yn fy nghynrychioli mwyach. Y mae'r Blaid, yn hytrach na arddel ei chenedlaetholdeb, fel petai'n fwyfwy cilio rhagddo - a dim ond hyn a hyn y gall Cymro Cymraeg oddef clywed "dydyn ni ddim jyst i siaradwyr Cymraeg" heb deimlo ar y naill law wedi'i gymryd yn ganiatol ac ar y llall ychydig yn amhwysig, a hynny'n enwedig gan ein bod i raddau helaeth yn teimlo perchenogaeth dros Blaid Cymru. Dydi geiriau diweddar Adam Price a Rhuanedd Richards ddim wedi gwneud llawer i adfer fy ffydd yng nghenedlaetholdeb diwylliannol y Blaid.

Ac anobeithio sydd hefyd yn beth hawdd ac yn rhywbeth rydyn ni gyd yn ei wneud. Haws fyth gwneud hynny yn y sefyllfa wleidyddol ac ariannol sydd ohoni. Ond mae'n ddyfnach na hynny. Rydyn ni'n nôl i'r dyddiau y credasom eu bod ar ben: tra-arglwyddiaeth Llafur dros Gymru. Ac onid ydym wedi gweld dros y flwyddyn ddiwethaf gynnydd yn lleisiau gelynion yr iaith, o brifysgolion i bentrefi'r de-ddwyrain i ACau newydd Llafur. A pha reswm iddynt beidio â bod uchel eu croch? Mae'n torri fy nghalon hyd dorri f'enaid gwybod bod yr iaith o hyd ar drai, ac wela' i ddim gobaith iddi yn y bôn. Agosáu y mae ei thynged, ac nid tynged da mohono.

Mae rheini'n resymau digonol i wfftio gwleidyddiaeth ond nid dyna fy mhroblem. Gwleidyddiaeth ers blynyddoedd fu fy mhrif ddiddordeb, gwleidyddiaeth bleidiol yn bennaf. Dwi jyst ddim yn gweld gwleidyddiaeth fel rhywbeth sy'n werth poeni amdano ddim mwy. A dwi ddim yn gallu ysgogi fy hun i fod efo ots. Dwi ddim yn darllen nac yn gwylio'r newyddion fel yr arferais. Dwi jyst ddim efo mynadd gwneud. 

Fel dwi'n dweud, mae'n hawdd teimlo'n anobeithiol ac wedi dadrithio. Ond mae colli diddordeb yn lefel arall i mi. 'Sgen i jyst ddim ots am wleidyddiaeth ddim mwy, ac yn fwy na hynny ddim awydd ailafael ar fy niddordeb ynddi. Wn i ddim faint o bobl sy'n teimlo felly, ond swni ddim yn synnu os mai 'lot' ydi atab.

Pregeth drosodd.

venerdì, luglio 08, 2011

Caws Rong

"What's in the bechdan?" medda fi wrth y jipsan.
"Pickle and Emmerdale cheese," ebe hi.
Amheuais ei doethineb ar y mater, ond mi brynish y frechdan serch hynny.

mercoledì, giugno 29, 2011

Y Gath Wely

Hawddamor! Ma oriau hirach yn golygu nad oes gen i fawr o amser i chi ddim mwy. Wel, mae gen i’r amser ond mae amynedd yn rhywbeth arall. Dydi o’m yn hawdd dod adra a blogio wyddoch. A dwi’n meddwl bod wyth mlynedd o yfed penwythnosol gor-drwm yn dechrau effeithio arnaf. Dwi’n edrych tua 35 erbyn hyn. Yn wir mi dreuliais nos Wener ddiwethaf gan fwyaf yn gwylio Hogia’r Wyddfa ar S4C yn, wel, chwil gaib. A swni’n ei wneud eto. A dweud y gwir dwi’n meddwl y dylai Hogia’r Wyddfa fod ar y teli bob nos.

Mae ‘na rai pethau sydd mewn llefydd na ddylent fod. Gesi sgwrs efo Danny drws nesa’ am gathod y diwrnod o’r blaen, a dydi o na fi yn licio cathod ond yn eu goddef achos eu bod nhw’n cadw’r llygod mawr draw. Dwi’n licio llygod mawr llai na chathod de. Er, dydyn nhw ddim cweit mor ddrwg â sbwnjys. Gobeithio na wnaiff gwyddonwyr esblygu hybrid ll’godan fawr-sbwnj. Fedra i ddim meddwl am unrhyw reswm iddynt wneud hyn heblaw i’m dychryn i’n uffernol. Sy’n golygu ei fod fwy na thebyg yn gwbl anochel.

Ond ia, pethau mewn llefydd na ddylent fod. Soniais o’r blaen dwi’n siŵr am y gath fabwysiedig sydd acw yn Rachub. Mae Dad wedi mynd o licio’r peth i gwyno ei bod hi yno gormod, a gormod yno y mae hi os gofynnwch chi i mi. Siaradais â Mam dros y ffôn wythnos diwethaf, yn bur ddifynadd fel arfer dwi’n siŵr (mae hi’n haeddu mab gwell ... wel, mi gaiff fab gwell pan ma’ hi’n stopio dweud “you’re fat” bob tro mai’n fy ngweld – jipsan ddigywilydd), fod y gath bellach yn rhan o’r dodrefn acw. Mae hi’n cysgu acw bob nos ‘fyd. Ar fy ngwely i.

Gredish i fyth ŷm disodlid gan gath. Dydi fy ystafell i yn Rachub heb newid dim ers i mi adael adref flynyddoedd nôl, sy’n od ond eto’n wych o’m safbwynt i, gan wneud adra deimlo’n gynnes gartrefol, a hoffwn i ddim petai’n newid.

Fy mai ydi o mewn ffordd. Pan o’n i adra ro’n i’n ddigon hapus i adael i’r gath gysgu ar y gwely efo fi tra ro’n i’n gwylio’r Hotel Inspector nes rhoi fflich allan iddi cyn i mi gysgu. Ond diolch i Mam, mae’r gath wedi symud i mewn bron yn gyfan gwbl.

Felly dyna’r newyddion diweddaraf gan yr Hogyn. Mae ‘na gath yn cysgu yn fy ngwely a dwi’m yn rhyw hapus iawn am y peth.

martedì, giugno 21, 2011

Penderfyniad ac Ewyllys



Yr hyn yr aethpwyd yn unfrydol i'w brynu:
Baguettes
Peth dal llestri wrth iddynt sychu

Y pethau eraill cwbl ddiangen a gafwyd:
Tri phaced o greision
Dau baced o Babybells
Bisgedi Rich Tea
Dau frwsh golchi llestri
Bylb
Tun o ffa pob
Peth dal cyllyll a ffyrc wrth iddynt sychu

lunedì, giugno 20, 2011

Pan ddaeth yr haf i Gaerdydd

Wel dyma fi wedi dechrau ar fy swydd newydd ers dros wythnos bellach ac OW STWFFIAI dwi’m isio siarad am waith wir! Dim ond un peth sydd ar fy meddwl i sef y ffaith fy mod i’n wlyb. Allwn i ddim bod yn fwy gwlyb taswn i’n newid fy enw i Gwlyb.

Ow, doedd hi ddim i fod fel hyn, wyddoch. Roedd hi’n braf yn y bora, ac er i’r bobl tywydd ddweud y byddai’n bwrw glaw yn nes ymlaen mi benderfynais eu herio. Dydyn nhw byth yn iawn pan dwi isio iddyn nhw fod yn iawn a byth yn anghywir pan maen nhw’n dweud ei bod hi am fwrw. Ond wrth i mi edrych drwy’r ffenestr cyn gadael gwaith, ro’n i’n gwbod nad oedd y Duwiau o’m plaid heddiw ddydd. A dydi'r ffaith bod boy racers a gyrwyr bws bob tro yn cynllwyno yn f'erbyn yn y glaw fawr o help chwaith. Er, efallai bod hynny'n dweud mwy amdanaf i na nhw.

Roedd o’n law oer. Hen law oer cas. A dydi glaw’r ddinas ddim fel mwynlaw’r wlad. Pan fo’i bwrw glaw yn y wlad o leiaf mae ‘na elfen o ffresni yn treiddio’r awyr. Yn y ddinas mae popeth yn troi’n stici. A’r Hogyn yntau drodd y stici wrth gerdded adra. Dwi’n casáu, yn casáu, Caerdydd yn y glaw. Mae’n ddigon i dorri calon rhywun.

Ond dwi gam ar y blaen i’r glaw ac ni chaiff fy nhrechu yn fy nhŷ, oni fydd fy nhŷ yn disgyn i lawr gan fy ngwneud yn gardotyn. Sydd ddim yn annhebyg os dachi’n edrych ar waliau’r bathrwm. Dwi yma ar ôl cael cawod, yn gynnes, yn edrych drwy’r ffenestr, gyda chawl yn ffrwtian yn braf ar y nwy uwch y popty. Fydda i’n torri bara ac yn rhoi menyn iawn arno toc ac yn edrych allan o’r ffenast o’m cartref budur a theimlo buddugoliaeth.


"Shithole."

giovedì, giugno 16, 2011

Arwyddwch y ddeiseb

Mae hi ond yn iawn bod gan y Cynulliad Cenedlaethol gofnod dwyieithog, felly arwyddwch y ddeiseb i unwaith eto gael y Cynulliad i gyfieithu'r cofnod. Gymrith hi ond ychydig eiliadau, ac os oes gan berson ifanc proffesiynol uffernol o brysur fel fi gyfle i wneud, mae ganddoch chi hefyd!

Dydi hi ddim yn gyd-ddigwyddiad bod gwahanol sefydliadau yng Nghymru benbaladr wedi bod yn gynyddol ddilornus tuag at y Gymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf. Rhaid i hynny ddod i stop ac mae'n rhaid i'r Cynulliad osod esiampl.

Ac mae hi'n gyfle hyfryd i sticio dau fys at Dafydd Êl, achos ei fai o ydi'r cyfan.

mercoledì, giugno 08, 2011

Da iawn Ieuan Wyn Jones

A minnau wedi diflasu braidd ar wleidyddiaeth yn ddiweddar pwy feddyliai mai Ieuan Wyn Jones fyddai yn ailysgogi fy niddordeb drwy gadw draw o agoriad swyddogol, taeogaidd, y Cynulliad ddoe? Ac eto, ar yr un pryd, fe wnaeth ymateb rhai o’n gwleidyddion, yn benodol Carwyn Jones a rhai o aelodau’r grŵp Ceidwadol, f’atgoffa pam ei bod mor drybeilig anodd weithiau barchu fy nghydwladwyr. A dweud y gwir, agwedd pobol fel Carwyn Jones sy’n aml yn gwneud i mi gywilyddio yn fy Nghymreictod.
Ond dyna ni, pwy a ddisgwyliai well gan unoliaethwyr?
Dydw i ddim yn cael fawr o gyfle i roi canmoliaeth i Ieuan Wyn Jones ond roedd aros draw o sbwrielbeth ddoe, waeth beth fo’r rhesymau, yn rhywbeth mawr i’w wneud a buaswn i’n rhoi clod enfawr iddo am wneud, yn enwedig fel arweinydd plaid. Fe fyddai wedi bod yn wych petai pob un o ACau Plaid Cymru wedi gwneud. Fe’u hetholwyd yn genedlaetholwyr. Pa ffordd well o sefyll dros genedlaetholdeb nag ymwrthod â’n ffugdeyrn a chadw draw a gwneud rhywbeth a fyddai o fudd i bobl gyffredin Cymru? Dwi’m yn gwybod pwy fyddai isio bod yn rhan o’r llyfu traed sycoffantaidd yn y lle cyntaf; fel cenedlaetholwr mae meddwl am fod yno’n codi cyfog arna’ i. Mae meddwl am tyngu llw i bennaeth estron yn codi cyfog arna’ i, ond dyna sy’n rhaid i lawn wasanaethu’r etholwyr. Ma’r holl beth yn gwbl, gwbl afiach. Buaswn i yn meddwl hynny, wrth gwrs, achos nid Dafydd Êl mohonof.
Beth arall all rhywun ei ddweud ond am

DA IAWN LEANNE WOOD
DA IAWN BETHAN JENKINS
DA IAWN LLYR HUWS GRIFFITHS
DA IAWN LINDSAY WHITTLE
DA IAWN IEUAN WYN JONES
Ac yn 2016, beth am i holl Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wneud safiad o’r fath, dros genedlaetholdeb a thros Gymru?