martedì, marzo 15, 2011

Un peth ...

Un peth a anghofiais am Glwb Ifor, a minnau yno’n gwylio Bryn Fôn nos Sadwrn, oedd pa mor amhosibl ydyw cael gwared ar y stamp. Mae o dal yno. Synnwn i ddim o edrych nôl i mi gael un tragwyddol gydol fy nhair blynedd yn y brifysgol.

Un peth nad oeddwn yn ei gael oedd black eye. Mae gen i un ar y funud, â’m talcen yn brifo, ar ôl brwydr ag anhysbys wrthrych. Neu ddwrn. Flynyddoedd nôl dywedodd Danny Karate yn ysgol i mi fod imi wyneb na allai neb ei daro, felly dwi’n dewis credu’r cyntaf o’r damcaniaethau. Er, mi oedd hynny ddegawd yn ôl a dwi ddim ymhleth y pethau deliaf ar y ddaear mwyach. A dweud y gwir dwi’n eithaf llanast.

Un peth dwi’n ei gasáu ydi bod efo pobol sydd yn llanast. Cafodd Haydn Blin, mwyaf dig y ffermwyr, docynnau am ddim i’r gêm yn erbyn y Gwyddelod ac mi gynigiodd y tocyn i mi. Mi dderbyniais – roedden nhw werth £70 wedi’r cwbl, a byddai curo’r Gwyddelod, pe hynny ddigwyddid, yn gwneud i mi deimlo’n gynnes braf.

Mi fyddai wedi ond nid aeth pethau rhagddynt yn wych. Dechreuodd y gêm a minnau dal adra. Do’n i heb glywed smic gan Haydn, er gwaethaf ceisio cysylltu, ac yn meddwl ei fod wedi gwerthu’r tocynnau neu wedi cael rhywun arall i fynd efo fo, felly mi agorais Fudweiser adra a sibrwd ‘cont’ dan fy ngwynt sawl gwaith. Ta waeth, ar ôl yr anthemau, mi ffoniodd.

Roedd hi’n ras wyllt i’r stadiwm, ond rhwng cael tacsi mi lwyddasom gyrraedd y seddi erbyn tua 13 munud i mewn i’r gêm. Ond, fel pe na bai’n amlwg o’r dechrau, daeth yn gynyddol amlwg bod Haydn wedi meddwi. Yn uffernol. Erbyn ugain munud i mewn i’r gêm, roedd yn cysgu.

Ond pwy gafodd y piss wedi’i gymryd allan ohono am awr olaf y gêm? Fi. Gan bobl o resi a seddau maith i ffwrdd. Pwy a oedd yn gorfod ymddiheuro i bawb na allai basio i fynd am bisiad neu i’r bar ac a oedd yn gorfod dringo drosto? Fi. Pwy a geisiodd ei anwybyddu pan chwarddai iddo’i hun yn ei drwmgwsg? Fi.

Dwi byth yn mynd i’r stadiwm efo blydi Haydn eto.

venerdì, marzo 11, 2011

Y Llwyth

Efallai nad ydw i’n barchus fel yr hoffai Mam i mi fod, ond o ystyried llinach deuluol ar ochr fy Nhad ‘does fawr syndod yn hyn o beth. Nid teulu sy gen i yn Rachub – clan ydyn nhw, ac i rywun o’r tu allan clan digon rhyfedd a digon brawychus o ran hynny. Os clywch weiddi a rhegi’n atsain hyd y nefoedd yn Nhyddyn Canol ryw bryd, yn ddiau fy nheulu i ydyw.

Y Nain Eidalaidd ydi gwraidd hyn. Mae Dad a’i ddwy chwaer fwy neu lai yn edrych ar ei hôl efo’r demensia sy ganddi. Mae’n rhaid iddyn nhw; mae hi wedi cael ei gwahardd o ddau gartref gofal yn barod am fod yn ‘disruptive influence’ a hynny o fewn ychydig fisoedd i’w gilydd! Yn ôl Rita mae hi’n “ddynas wyllt” a chywir ydi hynny. A dio’m fel bod neb ohonyn nhw’n bobl amyneddgar; a dweud y gwir mae’r chwiorydd yn cymryd ar ei hôl a dyma pam eu bod nhw’n gweiddi arni hi wrth i hi ddweud wrthyn nhw fangula you two bitches!

A dweud y gwir mae’r holl beth fel rhyw fersiwn Gymraeg-Eidalaidd o Shameless ond hyd yn oed yn fwy doniol, er y byddai’n rhoi braw a hanner i’r rhan fwyaf o bobl.

Ond peth cas ydi demensia ‘fyd, er os ydach chi yn byw efo rhywun sydd â’r salwch rhaid i chi geisio chwerthin weithiau. Doedd yr hen Nanna ddim yn gwybod pwy oedd ei hannwyl ŵyr tro diwthaf iddi ei weld, ond mae’n ddoniol ei gweld hi’n smalio gwneud.

“Do you know who that is Mam?”
“Yes”
“Well who?”
“Leila’s husband”
“Iesu Grist don’t be stupid ... Leila’s blydi 90!”

Dwi wedi cael rhywun yn dweud fy mod i’n edrych yn dri deg chwech o’r blaen, ond nainti ... ?!

giovedì, marzo 10, 2011

Arolwg barn diweddaraf Yougov/ITV

Etholaethau
Llafur 48% (+3%)
Ceidwadwyr 20% (d/n)
Plaid Cymru 19% (-2%)
Dems Rhydd 7% (d/n)

Rhanbarthau
Llafur 45% (+4%)
Ceidwadwyr 20% (d/n)
Plaid Cymru 18% (-3%)
Dems Rhydd 5% (-3%)

Heb ddadansoddi'n fanwl, os mae'r pôl diweddaraf hwn yn agos at y gwir, dylai'r Blaid, y Ceidwadwyr a'r Dems Rhydd boeni'n arw iawn am rai o'u seddau - hyd yn oed rhai cymharol ddiogel fel Llanelli. Y peth mwyaf siomedig o safbwynt y Blaid ydi i'r arolwg gael ei gynnal ar ôl i ganlyniad y refferendwm gael ei gyhoeddi.

lunedì, marzo 07, 2011

Bod yn glyfar: strategaeth Plaid Cymru dros y ddeufis nesa'

Pwt bach am y refferendwm a enillwydd ddydd Gwener. Champion aye! Gafodd neb sioc o ennill ond roedd y canlyniadau o’r gogledd-ddwyrain, a Sir y Fflint yn arbennig, yn gwbl, gwbl annisgwyl. Do’n i ddim cweit yn credu’r canlyniad o’r fan honno. Braf iawn oedd bod yn gwbl anghywir, neu’n or-bryderus i fod yn onast, am yr hyn a allai ddigwydd yn y Gogledd. Ac fel Gwyneddigyn roedd gweld Gwynedd yn cipio’r goron am y bleidlais gryfaf o blaid yn destun balchder enfawr. Yn amlwg mae cadernid Gwynedd yn parhau!

Mi wyliais lawer o raglen refferendwm S4C fore Sadwrn yn fy ngwely yn dal llawn annwyd, a rhwng nôl dŵr, mynd i’r toiled a phesychu digon i godi cyfog ar rywun iach, dechreuodd Vaughan Roderick a Dicw siarad am y goblygiadau i etholiad y cynulliad, sydd bellach lai na deufis i ffwrdd.

Roedd un peth a ddywedodd Vaughan yn ddiddorol am ragolygon y Blaid. Yn ei ôl ef, dywedodd un o hen bennau’r Blaid wrtho bod y Blaid yn cael ei chysylltu â newid cyfansoddiadol. Nis cafwyd yn ’79, ac er mai bai Llafur oedd hynny, Plaid Cymru ddioddefodd (er i Lafur wneud yn ddrwg yn nechrau 80au hyd yn oed yng Nghymru sydd efallai’n tanseilio’r ddamcaniaeth). Ond wele 1999 – sefydlwyd y Cynulliad a Phlaid Cymru gafodd fudd etholiadol o hynny yn ’99 ac i raddau llawer llai yn ’01 – cyn i bethau fynd yn draed moch yn 2003.

Felly ai dyma fydd yr achos eleni? Bydd Llafur a Phlaid Cymru (a hefyd y Ceidwadwyr a’r Dems Rhydd cofiwch) yn brwydro dros bleidleisiau’n rheini a ddywedodd Ie ddydd Iau, sy’n dacteg anochel a hanfodol, ac mae i’r Blaid fantais fawr oherwydd gall ddweud wrth yr etholwyr yn ddi-flewyn ar dafod “Ni sicrhaodd y refferendwm a hebom ni yn y glymblaid ni fyddai refferendwm wedi cael ei gynnal, ac yn fwy na hynny roedd y canlyniad yn dyst i’r ffaith ein bod yn iawn i fynnu arno pryd y gwaethom”. Mae iddi hunan-gyfiawnhad ar ei hochr yn hyn o beth ac mi all ddweud mai hi oedd yn iawn, ac yn fwy na hynny fod rhai o amlygion y blaid Lafur yn anghywir.

Y cwestiwn ydi faint o’r hanner miliwn a ddywedodd ‘ie’ y gall ddenu? A all gael mwy na’r 220,000 o bleidleisiau a gafodd yn 2007? A all nid yn unig ddal ei thir, ond atgyfnerthu yn y Senedd?

Er gwaetha geiriau ffynhonnell Vaughan mae’n anodd gweld cynnydd mawr i Blaid Cymru ymhen deufis. Llwyddodd Llafur mewn nifer o ardaloedd droi’r refferendwm yn bleidlais yn erbyn y glymblaid Lundeinig, a dyma pam gwelwyd canlyniadau hynod yn rhai o’r Cymoedd mi dybiaf, p’un a wnaeth Plaid Cymru’r gwaith caib a rhaw i gyd fel y mae’n ei honni. Wn i ddim sut y gall y Blaid oresgyn hynny, ond dwi’n ffyddiog bod gan ei strategwyr syniad o leiaf.

Ac wrth gwrs mae’r ffaith bod y Ceidwadwyr mewn grym yn San Steffan o fudd i Lafur heb amheuaeth, drwy dystiolaeth polau neu fel arall. Mae gan Blaid Cymru hanes o wneud yn llai cystal pan fo’r Ceidwadwyr mewn grym. Mi dybiaf y bydd etholiadau’r Cynulliad yn cynnwys elfen gref o bleidlais brotest yn erbyn llywodraeth Llundain, sy’n drueni mawr, achos barn y bobl ar lywodraeth Caerdydd y dylai fod.

Serch hynny, mae’n amlwg iawn bod trefnidiaeth Plaid Cymru bellach yn drawiadol, ac efallai’r gorau o’r pleidiau yng Nghymru. ‘Does angen fawr o waith ymchwil i brofi hyn – wele ganlyniadau’r pedair sir Gymraeg, sef cadarnleoedd Plaid Cymru i bob pwrpas, yn y refferendwm. Gyda’i gilydd, pleidleisiodd dros 70% yn y siroedd Cymraeg o blaid, ond yn fwy na hynny yn y pedair sir hynny y cafwyd y niferoedd uchaf yn pleidleisio. Dylai fod yn hyderus o gadw y seddau sydd ganddi, er bod Aberconwy’n destun pryder dwi’n siŵr.

Os gall y Blaid hawlio perchnogaeth ar lwyddiant y refferendwm, ac mae iddi seiliau cadarn i honni hynny, a defnyddio i’r eithaf ei threfniadaeth rymus nid yn gyffredinol ond wedi’i thargedu, mi allwn weld ambell ganlyniad mawr. Etholiad Llafur fydd 2011, heb amheuaeth, ond er gwaethaf y polau mae Llafur Cymru o hyd yn ymdebygu’n fwyfwy i gragen etholiadol.

Dwi’n meddwl mai’r ffordd orau o ragweld beth fydd hanes y Blaid yn 2011 fydd y pôl nesaf a gawn. Iawn, mi wn fod polau Cymreig o hyd yn datblygu a bod efallai wendidau sylfaenol ynddynt, ond dydyn nhw heb fod yn uffernol o anghywir ers amser, ac roedd rhai’r refferendwm yn gyffredinol agos i’r canlyniad. Mae’r amser pan y’u diystyrwyd yn haeddiannol wedi mynd.

Un ar hugain y cant gafodd Plaid Cymru yn yr etholaethau yn yr un diwethaf a gynhaliwyd. Os gwelwn newid o 3% yn ei darpar bleidlais yn y nesaf, mi dybiaf y bydd yn arwydd o fomentwm a newid tebyg i hyn a welwyd ym 1999, er i raddau llawer llai. Y broblem i’r Blaid o ran hynny ydi nad ymdeimlad hawdd ei greu mohono – fel yn ’99 roedd yn rhywbeth sylfaenol a deimlai pobl ar lawr gwlad, ymchwydd cenedlaetholgar (er dros dro) cyfan gwbl amhleidiol, ond na all fod o fudd i neb ond am Blaid Cymru.

Gan hynny, dydi hi ddim yn amhosibl na chaiff buddugoliaeth y refferendwm, boed o ran maint neu’n ddaearyddol, fawr effaith ar etholiadau’r Cynulliad. Ond drwy fod yn glyfar, mi all; ac os ydi Plaid Cymru isio cael etholiad llwyddiannus, rhaid i hithau hefyd fod yn glyfar iawn dros y ddeufis nesa’.

mercoledì, marzo 02, 2011

True Wales a'r Gymraeg ... eto

Oce, 'does dim angen tystiolaeth o hyn fel y cyfryw, mae diffyg parch True Wales at y Gymraeg yn rhyfeddol o amlwg, i'r graddau ei fod yn sarhad ar y Cymry Cymraeg. Ond y peth gwaethaf ydi ei bod yn ymddangos iddyn nhw wrthod y cyfle i gyfieithu deunydd i'r Gymraeg ... dyma sylw gan David o Gerlan (dwi ddim yn ei nabod gyda llaw) ar y post hwn ysgrifennais fis diwethaf.


Gyda llaw, gwnes i yrru ebost at True Wales, gan gynnig cyfieithu rhannau eu gwefan nhw am ddim. Hynny oherwydd fy mod i eisiau gweld dwy ochr y ddadl ar gael yn Gymraeg.

Gwnaethon nhw gytuno mewn egwyddor ond dydyn nhw ddim wedi gyrru'r ffeiliau angenrheidiol ata i, er fy mod i wedi eu hatgoffa nhw sawl gwaith.

David, Gerlan



Dwi'n meddwl ei bod hi'n deg dweud fod True Wales wedi dangos pa mor wrth-Gymraeg ydyn nhw dros yr ymgyrch - heblaw am ryddhau datganiad yn dweud hynny, gallan nhw ddim fod wedi bod yn amlycach ynghylch y peth. Mae'n warth y gallai unrhyw Gymro Cymraeg fenthyg ei bleidlais i'r ymgyrch 'na' ddydd Iau, achos petai Cymru ar eu llun nhw, mae'n amlwg iawn na fyddai lle i'r Gymraeg ynddi.

martedì, marzo 01, 2011

Meddai Dad...

... "So, lle mae'r Wetherpoons 'ma oedda chdi'n siarad am dros y ffôn?" hanner ffordd drwy'r pryd o fwyd. Yn Wetherspoons.

Troelli trwstan

Trydydd diwrnod yr hangover diweddaraf, dwi’n teimlo fel fy mod i wedi bod ar wyliau i Chernobyl. Dwi’n gwbl, gwbl ffiaidd cofiwch a wnaeth y gawod neithiwr fawr wahaniaeth. Mae gen i gylchau duon o amgylch fy llgada, dwi’n crynu ac, neno’r tad, mae Dad yn dod lawr i aros am ychydig ddyddiau heddiw. Sgynno chi ddim syniad sut dwi’n ei deimlo.

Ond yn waeth weithiau na sgîl-effeithiau corfforol sesh mae’r sgîl-effeithiau meddyliol. Dwi wedi sôn o’r blaen am y paranoia cyffredinol sy’n amlygu ei hun, ond weithiau, jyst weithiau, mae’r paranoia hwnnw’n mynd i fyd, “beth uffern wnes i/ddywedish i y noson o’r blaen?”

Dyna’r math sy gen i. Bai Lowri Dwd ydi’r cyfan. O’m hudo allan nos Wener gan addo bwyd rhad yn Bella Italia, aeth y ddau ohonom o amgylch tafarndai a bariau a chlybiau Caerdydd tan oriau mân, mân y bora. Mi yfish ddigon i lorio ceffyl, ac a dweud y gwir taswn i wedi llorio ceffyl fuaswn i fawr callach o’r peth. Roedd y ddau ohonom yn teimlo bod angen ‘catch up’ ar ein gilydd, sy’n ddi-sail i’r eithaf o ystyride i ni weld ein gilydd bob noson namyn un yr wythnos honno beth bynnag.

Mi fwydrasom ac mi ddawnsiasom. Does ‘na ddim y ffasiwn beth â rhywun all ddawnsio’n chwil. Nid eithriad mohonof fi, na Lowri Dwd a oedd os rhywbeth yn waeth na fi synnwn i ddim, ac nid eithriad mo neb. Ond pan fo hynny’r peth olaf a gofiwch, a’r hynny a gofiwch yn codi cywilydd arnoch, rydych chi’n gwybod i chi yfed gormod. A dwi’n gwbod be dwi’n neud pan dwi’n dawnsio’n chwil: dwi’n neud y twist.

Pan fo chi’n dragwyddol wneud y twist yn chwil mi wnewch frifo eich cefn, fel fi, yn aml, ac mi wnewch frifo eich balchder – ac mae ymhlith amlycaf arwyddion y byd eich bod chi’n chwil. Mae ei wneud mewn clwb yn un peth. Mae ei wneud yn O’Neills bach nos Sadwrn ben eich hun yn rhywbeth arall. Mae ei wneud ddwy noson yn olynol yn drosedd.

A dyma pam bod gen i hawl i fod yn paranoid.