lunedì, settembre 13, 2010

Y Ci Bab

Tasa gen i amser ac amynedd, fe gaech gofnod llawn o’r penwythnos a fu. Does gen i’r un ac felly chewch chi ddim. Bydd rhai yn ddigon fodlon ar hynny ‘fyd. Roedd y penwythnos a fu ymysg y chwilaf dwi wedi’u cael ers cyn cof.

Ond yr isafbwynt gyrhaeddodd nos Sadwrn. Ro’n i wedi bod allan efo gwaith tan 6 fora Sadwrn ond wedi llwyddo deffro am 12 ddydd Sadwrn ei hun. Erbyn dechrau yfed eto, yng Nghanolfan y Mileniwm fel pobol barchus, doedd ‘na ddim gobaith y gallwn yfed cwrw. Mae canlyniadau’r diffyg gallu i wneud hyn fel rheol yn fy nhroi at y fodcas neu’r jin. A dwi’n licio fodca a jin yn fawr.

Mi fedra i dancio diod fel nas gwelwyd. Caiff pobol syndod ar faint y gall yr Hogyn yfed weithiau. Ond y broblem ydi dydw i ddim yn dal fy niod yn dda iawn. Mae’n fater o megis dechrau nad oes gorffen. Fydd y geg yn mwydro a’r coesau’n gwegian ar fyr o dro wrth i mi barablu o amgylch y ddinas ‘ma ym mherfedd nos fel chwyligwgan chwil.

Ia, nos Sadwrn. Topio fyny o’r noson o’r blaen o’n i, sy wastad yn beth peryg. Ond hynny fu a daeth hi’n ddiwadd nos a chafodd ambell un ohonom dacsi i Grangetown. Ro’n i’n benderfynol o gael cibab a hynny gawsom ni gyd, er nad ydw i’n cofio’n union lle. Ta waeth, y peth nesa i mi ei gofio ydi bod yn y stryd tu allan i’r siop efo fy nghibab yn ista ar lawr, fy nghefn at y wal.

Am ryw reswm, roedd ‘na foi o’r Eglwys Newydd yn Grangetown (ac roedd hyn yn y bore bach go iawn) efo’i gi bach hyll o’r enw Reggie. Fel y byddaf yn ei grybwyll yn ddigon aml, dwi’n caru cŵn. Pug oedd o dwi’n meddwl, ond ro’n i a fo fel ffrindiau gora, yntau’n cael mwythau ond, hefyd, gibab. Rŵan, ro’n i wedi mynnu a swnian ers cryn dipyn fy mod i isho cibab, ond y gwir plaen amdani ydi y ci, nid y fi, gafodd y rhan fwyaf helaeth ohono. Gan gynnwys y salad.

Ar ôl i’r ffatan fynd (a minnau weiddi “Ta ta Reggie!” arno) gofiais i ddim am y peth tan bnawn Sul. Mae’n troi arna i sut. Ro’n i’n meddwl bod fy llaw dde yn drewi ‘chydig. Mi oedd. O gi. O boer ci. Daeth y cyfan nôl. A bu bron i mi chwydu. Ond wnes i ddim, y Sul a aeth yn ei flaen, gan fflashbacs lu o nos Wener a nos Sadwrn yn blethwaith chwareus, direidus. Bydda i’n licio’n fawr mynd allan i chwarae ar y penwsos.

giovedì, settembre 09, 2010

Toshack a Gatland

Wrth i mi sgwennu hwn mae’n bur debyg y bydd John Toshack yn gadael ei swydd fel rheolwr y tîm pêl-droed cenedlaethol. Ffaith ryfedd a ddarllennais yn y Western Mail oedd bod canran y gemau enillodd Toshack fel rheolwr, hyd yn hyn o leiaf, yn weddol uchel, sef 41% - sy’n sylweddol uwch na rheolwyr eraill Cymru dros y blynyddoedd gan gynnwys Mark Hughes a Terry Yorath. Mae’r farn arno yn ddigon cymysg hefyd. Byddai rhai yn dadleu ei fod wedi camu i sgidiau rheolwr hynod boblogaidd gyda thîm yr oedd ei sêr yn heneiddio – ac i fod yn deg dydi bod yn rheolwr ar Gymru ddim yn beth hawdd ar yr adegau hawsaf.

Ond yn y garfan arall ydw i, mae arna’ i ofn. Ac eithrio ambell i ganlyniad derbyniol nodweddwyd ei gyfnod diweddaraf fel rheolwr gan bêl-droed a oedd ymysg y salaf i mi ei weld – roedd y golled 0-2 yn erbyn Y Ffindir yng Nghaerdydd yn sicr yn isafbwynt. Yn wir, dydi hi ddim yn syndod i’r torfeydd arferai heidio i weld Cymru’n chwarae yng nghyfnod Hughes ddirywio’n enbyd. Dadleua rhai fod ‘na rŵan chwaraewyr ifanc addawol yn dod i’r amlwg, ond does â wnelo hynny dim â Toshack mewn difrif. Nhw sydd wedi bod yn ddigon da i ddod drwy’r system, a Flynn sydd wedi’u eu “magu” nhw.

Yn bersonol, dwi’n meddwl bod Toshack wedi mynd â’r tîm cyn belled ag y gall ers blynyddoedd bellach. Gwynt teg ar ei ôl o.

Ar y llaw arall mae’n fwyfwy tebygol y gallai Warren Gatland aros yn ei swydd am bedair blynedd yn ychwanegol, a’i fod o bosibl ar fin arwyddo cytundeb i’r diben hwnnw, flwyddyn cyn i Gwpan y Byd ddechrau. Rŵan, gall neb amau dawn a gallu Gatland fel rheolwr. Mae Cymru yn bethwmbrath o dîm gwell ers iddo gymryd yr awennau, heb sôn am ei gyflawniadau gynt. Ac, ar y cyfan, mae rygbi Cymru mewn lle da.

Ond ai fi ydi’r unig un sy’n anesmwyth gyda chynnig cytundeb iddo flwyddyn cyn Cwpan y Byd? Er gwaetha’r ffaith bod perfformiadau Cymru dros yr ychydig flynyddoedd ers y Gamp Lawn wedi bod yn dderbyniol, mae’r canlyniadau eu hunain wedi dod yn gynyddol dadrithiol. Roedd Chwe Gwlad eleni, a’r gêm ddilynol yn erbyn De Affrica yn sicr, yn siom fawr. Mae Gatland yn iawn i ddweud nad yw Cymru yn rhy bell o fod yn dîm “da iawn” – gall rhywun weld hynny - ond mae o wedi dweud hynny ers cyhyd y mae’r rhywun yn gorfod meddwl pryd y daw’n dîm o’r safon honno, os o gwbl.

Dyma fy mhrif gonsyrn. Petai Cymru’n cael gemau siomedig yn yr hydref, Chwe Gwlad annigonol, a Chwpan y Byd wael – o ran canlyniadau, sef y peth pwysig – fe allai rhywun ddadlau o bosib bod cyfnod Gatland wrth y llyw wedi bod yn anfoddhaol ar y cyfan, er gwaethaf y Gamp Lawn gychwynnol yn 2008. Ond erbyn hynny gallai fod wedi arwyddo cytundeb newydd a gallai Cymru fod yn styc efo rheolwr sydd ddim wedi gwneud y job gystal ac y dylai gyda’r adnoddau sydd ganddo. Byddech chi ddim yn synnu petai URC yn gwneud smonach o bethau ar ôl hynny, ac unwaith eto yr un hen stori fydd hi i rygbi Cymru.

mercoledì, settembre 08, 2010

Caneuon Gyrru Cymraeg

Yn ddiweddar wnes i losgi cryno-ddisg, ‘Canueon Gyrru Cymraeg’ ydi’r sgrifen blêr ar y blaen. Mae’n nhw’n llifo mewn i’w gilydd yn dda ar y cyfan – blaw am rif 8 ydwi’n difaru ei rhoi arno fo rwan – a dwnim os ydi rhif 6 rili yn gân ‘yrru’ chwaith, fe’i llosgwyd yn fyrfyfyr! Dwi’m yn meddwl bod o’n hawdd iawn dod o hyd i ganeuon gyrru da yn Gymraeg, dim fatha Saesneg.

Yn bersonol, ac mae’n siŵr yn ddisgwyliedig, dwi’n meddwl mai Celt ydi’r band Cymraeg gorau i yrru iddo fo. Ond mi geisiais rhoi amrywiaeth ar y cryno-ddisg. Dwnim pam, fel’na ydwi.

Mae pobl yn dueddol o feddwl mai Don’t Stop Me Now gan Queen ydi’r gân yrru orau erioed, yn sicr yn Saesneg – be ydi’r gân yrru orau yn Gymraeg tybed? Mae’n fôt i yn mynd i Lawr y Lôn gan Sobin, ond beth ydach chi’n ei feddwl?

Fy nghryno-ddisg

1. Lawr ym Morocco (Meic Stevens)
2. Tocyn (Brân)
3. Dagrau Caled (Mim Twm Llai)
4. Space Invaders (Bando)
5. Abacus (Bryn Fôn)
6. Lleisiau (Epitaff)
7. Heyla (Frizbee)
8. Goleuadau Llundain (Daniel Lloyd a Mr Pinc)
9. Angen Ffrind (Diffiniad)
10. Ddim ar Gael (Celt)
11. Breuddwyd Roc a Rôl (Edward H)
12. Rhy Hwyr (Huw Chiswell)
13. Gwesty Cymru (Geraint Jarman)
14. Bodlon (Kentucky AFC)
15. Draenog Marw (Crysbas)
16. Dawns y Glaw (Anweledig)
17. Blithdraphlith (Sibrydion)
18. Lawr y Lôn (Sobin a’r Smaeliaid)
19. Cymru, Lloegr a Llanrwst (Y Cyrff)
20. Madrach (Derwyddon)

Be sy’n bygio fi ydi dwi’n gwbod bod ‘na UN, jyst UN, arall ond dwi’m yn ei chofio!

lunedì, settembre 06, 2010

Diléit

Un peth od sydd wedi digwydd yn bennaf ers i mi ddechrau cyfieithu ydi rhywbeth y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei gael y ffordd arall rownd. Yn bur aml fydda i efo gair Cymraeg yn fy mhen, ac nid gair amlwg ond yn aml yn un digon anarferol, a fydda i er fy myw methu cofio’r Saesneg. Y diweddaraf o’u plith oedd y gair ‘dirmygus’. I fod yn onest dwi ‘di methu â chofio be ydio yn Saesneg ers wythnosau ond bob amser wedi anghofio am y peth pan fo’r modd gennyf i ganfod y cyfieithiad.

Wrth gwrs, pan ofynnais i amryw bobl, Nain, Anti Nel, y chwaer, Dad a Mam (wn i ddim pam Mam achos Saesneg ydi Mam, ond mae hi newydd benderfynu dysgu Cymraeg. Mi ordrodd goffi yn gyfan gwbl Gymraeg ryw bryd yn ddiweddar, a oedd yn destun sioc i Dad, a hefyd brynu CD Bryn Fôn. Mae Mam yn licio Bryn Fôn. I like coffio dy wyneb, medd hi) beth ydi ‘dirmygus’ yn Saesneg ond ‘doedd ‘run ohonyn nhw’n gwbod beth oedd o’n Gymraeg beth bynnag.

Scornful neu contemptuous ydi ‘dirmygus’ mi wn erbyn hyn. Ac un arall diweddar oedd ‘esgeulus’. Mi allwn yn hawdd agor Cysgeir rŵan i ffeindio allan. Ond dwi’n dwat a dwi ddim am wneud. Oherwydd, er gwaethaf y teimlad rhwystredig hwnnw o methu â chyfieithu ar y pryd (fedra i ddim cyfieithu ar y pryd beth bynnag cofiwch, nid y math yna o gyfieithydd ydwi), mae ‘na ryw ddiléit dwi’n ei theimlo o wybod gair digon posh yn y Gymraeg a ddim gwbod be dio’n Saesneg, i’r fath raddau nad oes gen i glem.

Ond ew, un peth arall sy’n ddiléit i mi fod adra ydi dwi’n clwad fy hun fy acen ogleddol gomon yn llifo’n ôl. Mai’n braf gallu siarad yn digon bygythiol ac uchal heb i wneud ddweud dy fod yn bod yn ‘ymosodol’. Yn wir, dwi ‘di clywed acen Dyffryn Ogwen yn cael ei disgrifio fel ‘ymosodol’ ambell waith. Ac fel unrhyw un arall werth ei halen o Ddyffryn Ogwen, dwi’n cymryd hynny’n gompliment ar y diawl!

sabato, settembre 04, 2010

Y ddoe na ddaw yn ôl

Felly neithiwr mi gyrhaeddais Rachub fach drachefn. O fod yma ychydig ddyddiau’r flwyddyn mae’r ddelwedd berffaith sydd gennyf yn fy mhen ohoni yn dueddol o gael cnoc go hegar ond fydda i wedi hen anghofio unwaith y byddaf nôl yng Nghaerdydd. Weithiau dwi’n meddwl fy mod yng Nghaerdydd o hyd, am lawer hirach na thybiais, megis estrys â’i phen mewn bell dywod. Haws ydi hi, wedi’r cwbl.

Ond, na, er gwaethaf popeth fy Rachub i ydyw o hyd, ar ei newydd wedd ai peidio, a’m Arfon innau ‘fyd. Canai Nain o hyd

Show me the way to go home
Sir Gaernarfon neu Sir Fôn

A dwi wastad wedi uniaethu gan fod Môn, Mam Cymru (sy llawn blydi weirdos a dyna ddiwadd arni), wedi bod yn rhan lawn cymaint o’m mywyd ag Arfon gadarn. Doedd dim yn well gen i na phan fues yn nhŷ Nain ‘stalwm bob penwythnos yn clwad ei straeon o’i phlentyndod; ei bod hi’n ara’ deg yn gwisgo i’r ysgol, a’i bod yn cael ffrae gan ei thaid am fynd i’r twlc moch efo Anti Nel a neud tân yno i geisio coginio tatws. Ond, yn ddiweddar, a hithau’n heneiddio, mae rhywun yn clywed yn ei llais a rhwng llinellau ei brawddegau fod y byd yn rhy wahanol erbyn heddiw a bod y pethau bychain pwysig iddi’n araf ddadfeilio; fel na phetai cornel fach ym myd mawr heddiw i ffydd na iaith y ffordd o fyw y’i magodd.

Efallai rhyw ddydd fydda i’n cael dweud y fath bethau i bobol, wn i ddim. Dwi’n cofio Rachub fach pan oedd yn Rachub lai, cyn i Fron Bethel gael ei chodi nag ysgol y sgwâr droi’n fflatiau henoed. Dwi’n cofio ‘fyd ‘stalwm nad y ni oedd bia’r caeau sydd i’r de o’r tŷ – yr hen Huw oedd bia nhw. Cadwai ddefaid a dwy fuwch yno. Dim byd mawr, er bod buwch yn beth gweddol fawr, yn enwedig os ydach chi’n fach. A phorai’r ddwy wrth Ysgol Llanllechid weithiau a dyma fi’n dweud wrth fy ffrindiau “dwi’n nabod nhw”. Credai neb mohonof, cofiwch, ‘sneb yn credu dim y dyweda i achos mae pobol yn gallach na hynny.

Erbyn heddiw ni sy’n berchen ar y caeau. Nid oes na dafad na buwch yno mwyach – dwy ferlen wyllt yn unig (Wil a Guto!). Nid oes llif yn y ffrwd fach lle nofiai’r penbyliaid a’r gelenod oherwydd bod y caeau rŵan yn wyllt gan dyfiant. Ond gwell dwy ferlen wyllt a llystyfiant na dwsin o dai i Saeson.

Bydd fy Nain Eidalaidd wastad yn deud Arglwydd, I been in Rachub for 64 years, and I’ve enjoyed my life here.

Dwinnau ‘fyd, ac mae’n braf, doed â ddel, gofio fy mod i wedi. Pan fydd y ddinas wedi darfod â mi, dyma’r unig le yn y byd y gallwn fod. Diolch i Dduw mawr y cymylau mai hogyn o Rachub ydw i.

venerdì, settembre 03, 2010

Pwt Pethau Bychain

Dwi bron yn teimlo’n ddiog ar ddiwrnod Pethau Bychain yn blogio achos, i bob pwrpas, gwneud yr un peth â dwi wedi’i wneud ers saith mlynedd ydw i. Dwi’n siŵr, ac yn gobeithio, y bydd y we Gymraeg yn llawn gweithgarwch heddiw. Fyddai’n braf meddwl y bydd pawb yn blogio ac ambell flog newydd yn dod i’r amlwg. Ar y llaw arall fe wyddoch be dwi’n ei feddwl am drydar...

Gyda thaith i’r gogladd ar y gweill, a’r paratoadau meddyliol dwys sydd ynghlwm wrth hebrwng y Dwd yno, dyna’r oll ‘sgen i ddweud am heddiw. Yn fuan eto, gyfeillion....

mercoledì, settembre 01, 2010

Y teledu newydd

Cyn i mi fynd ymlaen efo’r crap arferol, diolch i bawb bleidleisiodd dros y blog hwn yng ngwobrau TotalPolitics eleni. Dim ond neithiwr sylwais (neu ailgofiais) i am y gwobrau ac ar ôl y saib yn arbennig do’n i’m yn disgwyl bod arno o gwbl, heb sôn am esgyn bymtheg safle i rif 21. Dwi’n cofio bod yn 21, roedd bywyd cymaint yn well ac roedd gen i wallt llawer mwy trwchus heb orfod droi at Pantene Pro-V.

Ond dwi’m am sôn am wleidyddiaeth heddiw, mae gwleidyddiaeth ar y funud yn ddiflas iawn, ac os ydach chi mor gul â mi prin edrychwch hi dros y ffin am eich dogn o wleidyddiaeth. Na, mae pethau pwysicach wedi digwydd ar Stryd Machen dros y penwythnos.

Dwi ‘di deud wrth fy hun ers misoedd maith fy mod isio teledu newydd. Doedd ‘na ddim yn bod efo’r un hen, cofiwch. Roedd y llun yn dda iawn ond hen oedd hi ‘fyd – hen dwmpath o beth hyll ar ochr yr ystafell (‘chydig fel o ni yn Dempseys nos Sul a dweud y gwir). Na, roedd hi’n amser uwchraddio i sgrîn wastad 32” Toshiba rwbath. Un da ydi hi. Mi falith, fel popeth, yn diwadd. Dyna sy’n digwydd yn Stryd Machen wedi’r cwbl. Does dim, na neb, yn para’n hir.

Felly mi dwi’n mynd i’r gogladd ddiwedd yr wythnos ac yn mynd â’r hen deledu efo fi. Mae’n rhy dda i’w luchio. Ond onid yw popeth yn Rachub draw ... mae tŷ Adra yn drysorfa o declynnod o ddegawdau fu, pethau sy’n “rhy dda i’w taflud” ac felly sy’n cael gwifrau a phob mathia gwahanol i’w huwchraddio yn hytrach na phrynu rhai newydd. Mae’r remôts ym mhob man a dwnim a oes un yn gweithio.

Felly dyma uwchraddio eto, hen deledu’r Hogyn, yr anrheg orau all roi i’w deulu bach tlawd. Oes, mae gen i galon o aur. Swni’n farw swni’n angel. Dwnim os fela mai’n gweithio chwaith ond well bod hi.