lunedì, ottobre 19, 2009

Her aflwyddiannus y mis trist

Pa ffordd well o ddathlu 700fed blogiad y blog newydd 'na chymysgiad o gwyno a hunansarhad?

Dwi’n od iawn wedi meddwi. Gallwn i ddweud yr amlwg a dweud fy mod i’n od iawn yn sobor ond, na, dwi ddim. A dweud y gwir, yn sobor, dwi’n grêt. Credaf yn gryf y dylai pawb, pawb yn y byd mawr crwn, feddwl ei fod o neu hi yn grêt, achos y gwir ydi dydi o ddim yn debyg iawn y bydd neb arall yn meddwl hynny amdanoch chi. Ydach, dachi’n gwybod pwy ydach chi.

Ond na, yn chwil mi alla’ i fod braidd yn rhyfedd. Daw’r her ddeietegol i ben ddydd Iau a ‘does gen i fawr o amheuaeth dweud nad oes gen i gyfle pry mewn brechdan gaws o’i chyflawni’n llwyddiannus erbyn hyn. Mae dau gibab mewn pythefnos wedi sicrhau hyn. Pan fyddaf yn chwil mi fyddaf yn gwrthryfela yn erbyn fy hun, sef yn yr achosion hyn y deiet. Wn i ddim p’un ai yin a yang ynteu gwreiddiau sgitsoffrenia ydi’r ymddygiad rhyfedd hwn, ond o’r herwydd fydda i ddim yn colli’r 10 pwys angenrheidiol.

O amcangyfrif, fyddai ‘di colli tua phump.

Dwi mor argyhoeddedig fy mod wedi colli’r her fel nad ydw i am foddran loncian yr wythnos hon. Do, fe’m trechwyd gan y têc-awê.

I fod yn onest efo chi, dwi heb fwynhau fy hun o gwbl ar y deiet ‘ma. Dwi wedi bod yn flinedig gyson a hefyd yn ddigon annifyr dros y mis diwethaf (sydd yn arwynebol yn union yr un fath ag ydw i fel arfer i’r rhai â’m hadwaen – ond y tro hwn felly y teimlwn o ddifrif). Ond mae ambell bwys yn well na chic yn din, ‘mwn.

Ynghyd ag alcohol, Sky+, ambell banad ac osgoi mynd i’r deintydd, mae bwyd yn un o wir dileits y bywyd hwn gen i. Gwleidyddiaeth, gweithio, crefydd, moesau, siopa, biliau – sôn am rwystredigaethau sydd, yn fy mywyd innau o leiaf, yn anorfod. Gwell gen i fis heb y lleill oll na bwyd. Ar yr amod y caf fwyta o flaen y teledu efo panad a photel o win.

Ta waeth, fydd hi drosodd ymhen ychydig ddyddiau, ac mi fydda i’n teimlo’n hapusach o lawer bryd hynny. Dwi wedi cael awch rhyfeddol am frechdan gaws ers cael sgwrs efo gyrrwr tacsi amdano bron i bythefnos nôl. Dwi ddim yn credu iddo fwynhau’r drafodaeth i’r un graddau â mi, cofiwch.

giovedì, ottobre 15, 2009

Preseli Penfro

Dwi’n dechrau mentro rŵan, at ardal nad ydwyf yn ei hadnabod gystal, ac wrth i mi ddechrau gwneud hynny dwi’n mynd i ddechrau dibynnu rhywfaint yn fwy ar reddf a gwybodaeth gyffredinol, a llawer ar ystadegau. Ond eto dydi Preseli Penfro ddim yn gwbl anghyfarwydd i mi – dwi wedi ymweld â’r ardal ambell waith,, yn fwyaf ddiweddar i Dyddewi am ychydig ddyddiau, ac yn adnabod ambell un o’r cyffiniau.

Mae p’un a ydi hynny’n fy nghymhwyso i gynnig dadansoddiad gwleidyddol o’r ardal yn rhywbeth gwahanol, wrth gwrs!

Felly dyma ddechrau arni. Nid yn annhebyg i ddwy o’r tair proffwydoliaeth ddiwethaf, mae etholaeth Preseli Penfro yn un amrywiol ei natur. Mae’r gogledd-ddwyrain yn parhau i siarad Cymraeg gan fwyaf, a’r gogledd-orllewin bellach yn Saesneg ei hiaith, ac mae’r Gymraeg ar drai enfawr a chyson yn y rhan hon o’r byd. Fodd bynnag, mae’r etholaeth hefyd yn cynnwys trefi mawr fel Hwlffordd (poblogaeth: 11,000) ac Aberdaugleddau (14,000) a oedd yn siarad Saesneg ymhell cyn i hyd yn oed Mynwy wneud.

Er bod tua thraean o’r etholaeth yn medru Cymraeg, mae ‘na lawer iawn o fewnfudwyr yn yr ardal, ac yn ystod nawdegau’r ganrif ddiwethaf, trodd iaith naturiol nifer o bentrefi, gyda Solfach yn enghraifft enwog o hyn, o Gymraeg i Saesneg. Dydi’r newid hwnnw heb â pheidio, ac o natur y mewnfudo a dirywiad y Gymraeg mae un peth bellach yn amlwg yn wleidyddol: mae’r Ceidwadwyr yn gryfach yma o’i herwydd. At hynny, mae sedd y gallai ar yr wyneb ymddangos yn ddigon addawol i Blaid Cymru bellach fod yn eithaf mynydd i’w ddringo – dydi hi ddim yn gwbl annhebyg i Aberconwy yn yr ystyr hwnnw.

Dylai sefyllfa gyfredol Preseli Penfro orfodi’r Blaid i gadw golwg ar Fôn, Ceredigion, a hyd yn oed Dwyfor-Meirionnydd yn y dyfodol, os mae tueddiadau mewnfudol a ieithyddol Cymru yn parhau, ond awn ni ddim ar y trywydd hwnnw rŵan.

Gan mai ym 1997 y crëwyd y sedd hon, mae unrhyw ddata o bwys yn dechrau yn y flwyddyn honno, a dwi am ddefnyddio’r data hwnnw i wneud un peth ar f’unwaith, sef diystyru Plaid Cymru. Ym 1999 a 2007 llwyddodd i gael chwarter y bleidlais mewn etholiadau Cynulliad – a’r gwir amdani ydi y byddech chi wedi disgwyl iddi wneud o leiaf fymryn yn well yma. Yn ddigon anhrawiadol cafodd hanner hynny yn etholiadau Prydeinig 2001 a 2005, ac er bod hynny wedi dyblu o 6% ym 1997, mae gan Blaid Cymru lawer iawn o waith i wneud yma i osod ei marc.

Ni fydd natur gyfredol yr etholaeth yn gadael iddi wneud hynny yn 2010, waeth beth fydd yn digwydd. Byddai hyd yn oed cyfateb i lefelau’r gefnogaeth a geir yn etholiadau’r Cynulliad yn ganlyniad rhagorol.

Os yw pleidlais y cenedlaetholwyr yn sî-sô rhwng Caerdydd a Llundain, mae un y Rhyddfrydwyr druan wedi seguro. O gael rhwng 11% - 13% ym mhob etholiad Cymreig neu Brydeinig rhwng ’97 a ’05, cafodd lai na degfed o’r bleidlais yn etholiadau 2007 a 2009. Hwyrach mai Llafurwyr dadrithiedig ydi gobaith mwyaf y Dems Rhydd i greu argraff yma – yn wir, petae hon yn etholaeth yn Lloegr digon hawdd byddai dychmygu hon yn frwydr rhwng y Ceidwadwyr a’r Rhyddfrydwyr.

Ond nid dyna’r achos yng Nghymru. Ac felly, fel mewn sawl etholaeth ar lefel San Steffan, mae hi rhwng dwy – Llafur a’r Ceidwadwyr.

Dydyn ni ddim am gael llawer o wybodaeth o etholiadau cyngor: dwi’n meddwl fy mod yn gywir yn dweud bod gan y Ceidwadwyr (a Phlaid Cymru) ddau gynghorydd a’r Blaid Lafur un yn y sedd hon – yn wir, mae mwyafrif helaeth cynghorwyr y sir gyfan yn rhai annibynnol.

Ni fyddai’n annheg dweud y bu hen sedd Penfro yn gymharol i Fynwy: sedd sy’n greiddiol Geidwadol ond yn dueddol o droi at Lafur ar adegau pan fyddai’r Ceidwadwyr yn amhoblogaidd. Llafur sy’n eithriadol amhoblogaidd ar hyn o bryd, ond cofiwch nad yw’r Ceidwadwyr mor boblogaidd ag y byddai dyn yn disgwyl iddynt fod. Yn wir, os yw’r polau diweddaraf i’w credu, mae’n bosibl bod Llafur yn adennill rhywfaint o bleidleisiau wrth y Torïaid.

Reit, ystadegau. Yn gyntaf perfformiad gorau’r ddau blaid. Dydi hi fawr o syndod mai perfformiad gorau Llafur oedd ’97, ac roedd yn berfformiad anhygoel mewn gwirionedd. Enillodd 48% o’r bleidlais a thros 20,000 o bleidleisiau. Mae hynny’n hawdd anghofio â Llafur yn y fath drallod heddiw. Felly mae dros ugain mil o bobl yn yr etholiad wedi pleidleisio i Lafur o leiaf unwaith.

O ran rhifau, roedd y Ceidwadwyr ar eu cryfaf yn 2005 (sydd eto fawr o syndod) gan ennill fymryn dros 14,000 o bleidleisiau, ond o ran y ganran Paul Davies AC sydd wedi llwyddo orau yma, gyda 39% o’r bleidlais yn 2007.

O ddefnyddio’r rhesymeg honno mae pleidlais uchaf y Blaid Lafur, ymddengys, gryn dipyn yn uwch na’r Ceidwadwyr, ond wrth gwrs y Ceidwadwyr sy’n dal y sedd, er bod y mwyafrif yn 2005 yn 607 o bleidleisiau yn unig. Ydi Llafur yn debygol o lenwi’r bwlch hwnnw? Anodd gen i ddychmygu ei bod.

Bu bron i draean o’r rhai a bleidleisiodd yn Etholiad Ewrop eleni bleidleisio dros blaid fach fel UKIP neu’r Gwyrddion. Enillodd y Ceidwadwyr yma gyda llai na thraean o’r bleidlais, sydd ymhell o fod yn drawiadol. Daeth Llafur y tu ôl i Blaid Cymru. Mae hynny’n awgrymu nad fydd y gefnogaeth i’r Ceidwadwyr yma’n anochel o gadarn, ond bod cefnogaeth y blaid Lafur ar chwâl. Am faint o seddau eraill y byddwn ni’n dweud hynny dros y misoedd nesaf, tybed?

Rhaid i ni fod yn onest – dylai’r mân ddadansoddiad hwn ddim ofyn pwy fydd yn ennill yma flwyddyn nesa’. Mi fydd Stephen Crabb yn parhau’n Aelod Seneddol, er gwaetha cael ei losgi fymryn gan y busnes treuliau. Yn hytrach rhaid gofyn y ddau gwestiwn canlynol: yn gyntaf, beth fydd y mwyafrif Ceidwadol, ac yn ail pa mor wael a wnaiff Llafur yma?

Yn etholiad cynulliad 2007, trodd llai na 8,000 (27%) allan i bleidleisio i Lafur. I roi perspectif arall arno, disgynnodd ei chefnogaeth rhwng 1997 a 2007 chwe deg y cant. Gostyngiad angheuol? Ddim o reidrwydd. Os nad yw’r pleidleisiau segur hynny’n mynd i rywle arall, mae llygedyn o obaith ganddi. Dydw i ddim yn meddwl y bydd chwalfa arfaethedig 2010 Llafur cyn waethed â’r disgwyl – yn yr un modd ag y cafwyd Shy Tory Syndrome mewn polau cyn etholiad 1992, credaf y gwelwn rywbeth tebyg yn yr etholiad nesaf, ond alla i ddim darogan i ba raddau, nac effaith bosibl hynny mewn seddau unigol. Blogiad arall ydi hynny, cofiwch.

Tra ei bod yn anodd gen i gredu y bydd y niferoedd sy’n pleidleisio dros y blaid yn llai yn 2010 nac yn 2007, mae’n anodd hefyd gen i weld y bydd y ganran a gaiff Llafur yn fawr uwch na hynny. O ran y Ceidwadwyr, credaf y gwelwn ogwydd tuag atynt yma na fydd yn rhy wahanol iawn i’r gogwydd cenedlaethol, sef cynnydd gweddol ym mhleidlais y Ceidwadwyr ond cwymp mawr yn y bleidlais Lafur.

Hefyd, mae rhywun yn dueddol o feddwl nad dyma’r fath o etholaeth y byddai UKIP yn denu pleidleisiau yn eu miloedd oddi wrth y naill blaid na’r llall, petai’n sefyll. Fy nhemtasiwn fyddai dweud mai’r Democratiaid Rhyddfrydol allai gael y budd mwyaf o ddirywiad y blaid Lafur mewn sedd fel hon, ond disgwyliwn weld perfformiad cryfach gan Blaid Cymru hefyd – ond ddim yn ddigon i sicrhau’r ail safle.


Proffwydoliaeth: Buddugoliaeth o tua 5,000 - 6,000 i Stephen Crabb.

martedì, ottobre 13, 2009

Dwi ddim yn licio John Lewis

Na, dydw i ddim yn licio John Lewis yng Nghaerdydd. Soniais tua mis yn ôl y byddwn yn mynd yno rywbryd ac mi es nid unwaith eithr dwywaith. Mae pawb yn canmol dwyieithrwydd y siop a’r ffaith bod y wefan hefyd yn ddwyieithog ond dwi ddim am fynd yno eto.

Welsoch chi erioed y ffasiwn ddrudnwch? Nefoedd, welish i ddim ‘rioed, a do, dwi ‘di bod i Lundain, er na fu i mi gymryd sylw o fawr ddim yn y bastad le, ond awn ni ddim lawr y ffordd gasinebus honno heddiw.

Rŵan, dwi wedi bod yn ddrudfawr fy nilladbrynu unwaith gan brynu côt a hithau’n ganpunt unwaith, ond byddwn i ddim yn gwneud hynny yn rheolaidd (nac eto, ond mae hi’n gôt lyfli) ond mae popeth yn adran dillad bechgyn gyfyngedig John Lewis yn uffernol o ddrud.

Cwynais nad oedd neuadd fwyd yno. Dywedwyd i mi fod, ac mi es yno eto i ganfod mai caffi ydoedd. Dwi’n dweud neuadd fwyd gan olygu deli i bob pwrpas. Fydda i’n licio’r rhan fwyd yn siop Howells yng Nghaerdydd, cofiwch. Cyfaddefaf mai unig fwriad f’ymweliadau prin i’r lle hwnnw ydi bwyta’r olewydd a’r sawsiau efo bara a gynigir am ddim cyn mynd i edrych ar y gwin, digio na allaf ei fforddio, cyn mynd nôl i’r gwaith yn olewyddlawn fodlon. Megis rhyw, dylid ceisio llenwi twll am ddim.

Wrth gwrs, dydi Howells ddim yn lle gwylaidd ychwaith, mae ‘na wario i’w wneud pe ceisid prynu yno. Ychydig fisoedd nôl, wrth chwilio yno mi ofynnodd un o’r bobl siop wrthyf a oeddwn yn chwilio am rywbeth yn benodol. “I brynu rhywbeth yma,” meddwn innau’n ddifrifol, “codiad cyflog”. Ni all pres brynu'r teimlad o roi ateb sarrug.

lunedì, ottobre 12, 2009

Alcohol a chibabs - anterth y deiet

Cafwyd hwyl ddydd Sadwrn – ydi, mae’r cyfnod pen-blwyddi wirioneddol wedi dechrau. Dathlodd Ceren ei phen-blwydd, sydd rhaid dweud wastad yn denu torf erchyll a diflas, a elwir gennyf fi yn ‘ffrindiau’. Roedd chewch ohonom yn rhan o’r dorf ar ein hymweliadau cyntaf i stadiwm newydd Caerdydd i wylio’r Gleision yn chwarae’r Harlequins. Roedd hi’n gêm ddiflas ar y cyfan, ac fe’m gorfodwyd i chwarae drafftiau gyda Rhys hanner amser ar ei iFfôn. Byddwn i wedi’i guro pe na bai’r ail hanner cythryblus wedi dechrau. Rhaid meddwl felly – pan fydd yr haul allan a minnau mewn jîns a sbectol haul fi ‘di’r person gorau yn y byd a gei di ffwcio dy hun os ti’n anghytuno.

Nid yw’n anwir i mi gofio fawr ddim erbyn diwedd y nos ond mi wnes adael fy hun i lawr yn enbyd drwy fynd am gibab. Ydw, dwi rili yn licio cibabs ar hyn o bryd, sy’n anffodus gan fod o hyd sawl pwys i mi eu colli cyn yr 22ain os am drechu’r Dwd. Yn wir, cafodd dydd a nos Sadwrn gymaint o effaith arnaf y bu i mi roi dau bwys ymlaen mewn noson. Chwarddish i am hynny ‘fyd, y bastad bach tew i mi.

Er, chwarae teg, ar ôl bwyta sŵpiau o bob (h.y. dau) math yn weddol gyson am bythefnos ro’n i’n haeddu tamaid go iawn i’w fwyta. Mi es bedwar diwrnod bythefnos nôl heb na chig na physgod. Wyddoch chi’n iawn fy marn am hynny.

Un bwyd, fodd bynnag, dwi’n fwy hoff ohono bob dydd ydi betys, fel fy ffrind y Llipryn Llew (gyda llaw, os wyt yn darllen, beetroot ydi betys, Lowri). Dim ond wedi’i biclo, wrth gwrs, dwi ddim am fynd i drafferth i wneud rhywbeth neis efo betys, ond os nad oes cig ar gael dwi wastad yn meddwl bod ansawdd betys yn ei wneud yn syb dda. Mi staeniff, wrth gwrs, ond mae gen i ddigon o broblemau heb orfod poeni am hynny.

Y pwynt, a gyflewyd yn gwbl ofer hyd yn hyn, oedd hyn. Dydw i ddim am gyrraedd y nod o golli 10 pwys mewn mis ar y rêt yma. Ni all dim newid hynny ond penderfyniad, ewyllys, brwydro, aberth, ymdrech. A lot o blydi sŵp. Gas gen i sŵp.

mercoledì, ottobre 07, 2009

Hen Dwll Gwlyb

Rhoddaf i’r ochr wleidyddiaeth am sbel. Hen bryd hefyd, mae’n ddigon i wneud rhywun yn wallgof. Yn bur anffodus mae ‘na ddigonedd o bethau yn yr hen fyd hwn sy’n fy ngyrru o’m cof.

Mae wedi bod yn ddi-stop ar Stryd Machen yn ddiweddar. Er bod y Sky yn gweithio, ni weithiodd y ffôn tan wythnos diwethaf a bu’n rhaid galw’r bobl allan i’w gywiro. Mae’r llwybrydd i’r rhyngrwyd wedi cyrraedd ers tridiau ond fydd hwnnw ddim yn gweithio tan y 13eg mae’n dweud yn y llythyr ar ei gyfer. Byddai hyd yn oed yr Iesu wedi colli amynedd efo ffwcin Sky.

Felly dyna ddau anlwc, i raddau, gyda’r ffôn a’r rhyngrwyd, ac yn ôl geiriadur yr Hogyn anlwc ydi unrhyw beth nad yw’n mynd rhagddo’n llwyr ddidrafferth. Pethau drwg a ddaw mewn trioedd, medda’ nhw. Petawn yn gall ac yn gwrando ar eraill mi fyddai’r broblem ddiweddaraf yn, wel, fyddai hi heb â bodoli o gwbl. Ychydig fel Mam yn priodi Dad.

Ond ers misoedd mae Mam wedi bod yn swnian i mi gael y to yn y bathwm wedi’i sortio. Os ydych chi fel fi, a llongyfarchiadau i chi os ydych, po fwyaf y swnian y daw atoch o ba gyfeiriad bynnag, y mwyaf ystyfnig a phenderfynol ydych chi o fynd yn groes i’r swnian. Felly mi heibiodd y misoedd a daliodd to’r bathrwm, neu i fod yn fwy cywir y wal rhwng y bathrwm a’r gegin, i fynd yn damp.

Deffroais ddoe yn ddigon bodlon. Roedd hi’n gythraul o dywyll ac oer yng Nghaerdydd bora ddoe, ac mi gerddais i’r gegin gan grynu fel cryniadur cenedlaetholgar i wneud fy uwd boreol. Dwi’n licio uwd, yn enwedig pan ddaw’r gaeaf, efo mymryn o siwgr arno. Mae hefyd yn dda efo’r her ddeietegol bresennol ond soniaf am hynny rywbryd arall pan fo’r awydd yn codi.

Plip plip. O diar, meddwn i. Plip plip. Mi drois i weld y wal yn gollwng, nid ar ochr y bathrwm y tro hwn eithr ochr y gegin.

Wel myn ffwc, meddwn i.

A Mam oedd yn gywir wedi’r cwbl. Ffoniais y bildar neithiwr, yn bur amlwg ddim yn gwybod am beth yr oeddwn yn sôn (“ddy lîc is in the rŵff ies” etc), ond mae hwnnw’n dod draw yn fuan ‘fory am hanner wedi saith i archwilio’r wal.

Twll o wlybaniaeth a bildar yn y bore bach. Mae ‘na nofel fanno’n rhywle, ond nid y fi ydi’r un i’w hysgrifennu.

martedì, ottobre 06, 2009

Ambell feddwl am y ras i olynu Rhodri

Ffordd dda o asesu cryfder presennol Llafur Cymru yw ystyried y tri darpar arweinydd a synfyfyrio pwy a fyddai’r gwrthbleidiau yn ei ofni fwyaf. Ar y sail honno gellir dweud yn ddiamheuaeth y dylai Plaid, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol fod yn fodlon iawn.

Dydw i ddim am fynd i fanylder yma, ond yn hytrach cynnig ambell sylw byr iawn ar yr ymgeiswyr.

Byddai dewis y ceffyl blaen, Carwyn Jones, yn gwneud fawr ddim i Lafur yn y pen draw. Dydi o ddim, mewn difri, wedi bod yn flaenllaw yng ngwleidyddiaeth Cymru dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae’n rhy ‘Gymreigaidd’ i ambell Lafurwr, ond y gwir ydi dydi o ddim yn ddigon Cymraeg i allu ad-ennill y Gymru Gymraeg (os ydi’r sïon nad yw’n siarad Cymraeg i’w blant yn wir yna mae hynny’n dweud y cyfan – ond dydw i ddim yn gwybod hynny’n bersonol).

Yn ogystal â hynny, mae ganddo enw am fod yn ddiog ac nid oes ganddo chwaith mo garisma Rhodri Morgan. Yn wir, mae Gordon Brown yn enghraifft berffaith o pam fod angen carisma ar arweinydd. O safbwynt personol, mae’n un o wleidyddion mwyaf overrated Cymru a byddai ei ddyrchafu i Brif Weinidogiaeth Cymru yn amlygu ei ddiffygion.

Byddai Edwina Hart yn gambl rhy fawr i’r blaid Lafur. Gwir, mae’n weithiwr caled ac yn weddol dda ar ei swydd ond mae’r Aelodau Seneddol yn ei chasáu, ac mae ei pherfformiad o flaen y camerâu yn llipa iawn. Byddai’r hollt a grëid ganddi rhwng Llafur Cymru a Llafur Llundain yn risg na fyddai’r aelodau cyffredin yn ei chymryd – er yn y tymor hir mi dybiaf y byddai hynny’n talu ar ei ganfed. Ddigwyddith hynny ddim, fodd bynnag.

Ond y risg fawr efo Edwina ydi ei sedd hi. Ar bapur, prin y byddai rhywun yn synnu petae Gŵyr yn mynd i ddwylo’r Ceidwadwyr yn 2011, a fyddai’n embaras mawr i Lafur.

Ond dwi’n amgyffred ar hyn o bryd mai gan Edwina Hart y mae’r momentwm, ac mae momentwm yn gallu bod yn arf hynod mewn gwleidyddiaeth.

Yn olaf mae Huw Lewis. Yn anad dim hwn ydi’r un y mae’r pleidiau eraill isio’i weld yn arweinydd ar Lafur. Dydi’r ffaith ei fod yn dysgu Cymraeg yn golygu dim – dydi hwn ddim yn un o garedigion yr iaith ac ni fyddai yn ad-ennill y Fro i Lafur (gan fynnu’n groch nad oes gan Lafur broblem yn yr ardaloedd hynny). Ond byddai apêl Huw Lewis y tu allan i gadarnleoedd Llafur yn eithriadol o gyfyngedig, ac mae lle i gredu yn ôl rhai nad yw’n eithriadol o boblogaidd yn y Cymoedd chwaith.

Fo fyddai fwyaf tebygol o arwain at dranc y glymblaid bresennol, ond fydd hynny ddim yn digwydd – mae arnaf ofn na fyddai gan Blaid Cymru yr asgwrn cefn i wneud hynny, pe câi’r dewis i wneud.

Ond mae gan Lafur un fantais waeth pwy a etholir ganddi – yr arweinwyr eraill. Dydi Nick Bourne ddim y dyn i sicrhau enillion mawr i’r Ceidwadwyr yn 2011, er mi dybiaf y gallai Johnathan Morgan fod yn beryg iawn yn hynny o beth os bydd yn tynnu’i fys allan ac yn mynd amdani. Er, o leiaf fod gan y Ceidwadwyr arweinydd posibl yn yr ymylon. ‘Does gan y Democratiaid Rhyddfrydol ddim dewis bellach ond am gadw efo Kirsty, a phrin o lwyddiant y mae hi wedi’i gael hyd yn hyn (fodd bynnag, fwy na thebyg byddai dirywiad mawr i Lafur yn 2011 er budd Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr yn yr etholaethau yn arwain at gynnydd yn nifer y seddi Rhyddfrydol ar y rhestr, p’un a fyddant yn cynyddu eu pleidlais eu hunain ai peidio).

Ac Ieuan Wyn Jones ydi’r gorau y gall Plaid Cymru’r Cynulliad ei gynnig hefyd – a dwi ‘di newid fy meddwl amdano llawer gwaith ers 2007. Ar y funud dwi eto ddim yn ffan. A dwi’n ofni, ac yn teimlo yn mêr fy esgyrn, na fydd y Blaid yn gweld cynnydd mawr yn 2011, ac na fydd Adam Price yn AC bryd hynny chwaith. Byddai’r cyfnod diweddar o sefydlogi Plaid Cymru yn parhau yn hytrach na arwain at gyfnod o ffyniant – fe gewch chi weld.

Ond ta waeth, boed Carwyn, Edwina neu Huw yn bennaeth arnom ar garreg drws y ‘Dolig, dwi ddim yn meddwl y dylai neb arall ofni’r un ohonynt. O’r gwaelod i fyny y mae angen i’r Blaid Lafur ail-adeiladu, a chan na fu byth yn wannach ar lawr gwlad a’i gwrthwynebwyr cyn gryfed, a oes yn wir unrhyw un yn ei rhengoedd a allai atal ei thrai?

venerdì, ottobre 02, 2009

Gorllewin Caerdydd

Allwn i ddim â bod wedi ysgrifennu am y sedd hon ar adeg well, na allwn? Roedd yn hen bryd i mi fentro o’r gogledd, er at rywle yng Nghymru dwi yn ei adnabod yn dda – Caerdydd. Mae gwleidyddiaeth y ddinas hon wedi gweddnewid yn ystod y 12 mlynedd ddiwethaf, i’r fath raddau na fyddai neb yn ei iawn bwyll wedi rhagweld Caerydd 2009 bryd hynny.

Un sedd sydd wedi datblygu’n sedd ddiddorol iawn ers dyfodiad datganoli ydi Gorllewin Caerdydd. Yn wir, mewn cymhariaeth, mae tair sedd arall y Brifddinas yn ddigon anniddorol. Cynrychiolwyd hon gan George Thomas, nid yn un o’m hoff wleidyddion, am flynyddoedd maith, ac fel Llefarydd rhwng 1976 a 1983.

Cipiwyd y sedd gan y Ceidwadwyr ym mlwyddyn lwyddiannus 1983, a theg dweud bod hynny’n gyfuniad o’u poblogrwydd cymharol yn yr etholiad hwnnw a pherfformiad cryf iawn gan y Democratiaid Cymdeithasol, a enillodd dros chwarter pleidlais Gorllewin Caerdydd. Daeth yn ôl i’r gorlan Lafur yn ’87 ac felly y mae’n parhau hyd heddiw, a hynny’n weddol gadarn yn ddi-eithriad.

Etholaeth ddinesig ystrydebol, ddywedasoch chi? Byddwn i’n anghytuno. Mae hi’n weddol gymysg, ac nid yn gwbl drefol gydag ambell ran yn y gorllewin a’r gogledd yn gymharol wledig. Dim ond tua 11% sy’n medru Cymraeg, er bod rhannau Cymreiciaf y ddinas o ran iaith wedi’u lleoli yma. O ran cyfoeth mae’n cyferbynnu rhwng ardaloedd ffyniannus Pontcanna, rhannau o Landaf a Sain Ffagan ac ardaloedd mwy difreintiedig fel Glanyrafon a Threlái, a dyma etholaeth gartref Amgueddfa Werin Cymru, gerddi Soffeia a Stadiwm Athletau Caerdydd. O graffu’r wyneb mae Gorllewin Caerdydd yn llawn amrywiaeth.

Beth am felly ddadansoddi’r etholaeth amryfal hon ar sail etholiadau? Yn gyntaf, cymharwn ganlyniadau 1987 a 2005 – mae ugain mlynedd o gymharu yn hen ddigon dwi’n meddwl - gan gofio bod y Ceidwadwyr yn eithaf cryf yn ’87 a Llafur yn parhau’n lled-boblogaidd yn ’05. Yn wir, roedd y bleidlais Lafur yr un peth, tua 45% yn y ddau etholiad hynny (er, yn anochel braidd, yn llawer is na’r uchafbwynt o 60% ym 1997). Llwyddodd y Ceidwadwyr gael 38% yn yr achos cyntaf – ond hyd yn oed yn 2005 roedd y bleidlais Geidwadol mor isel â 22%. Ni fu adfywiad.

Segura y mae pleidlais trydedd blaid y DU yma hefyd – o gael 16% ar led-ffurf y Democratiaid Cymdeithasol yn ’87, cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol 18% o’r bleidlais yn 2005, ac yn y cyfnod rhwng y ddau bwynt hynny ni chafodd fwy na 15% or’ bleidlais. Nid Canol Caerdydd mo hon.

Ar y llaw arall, mae Plaid Cymru wedi cryfhau’n aruthrol yma. Cafodd lai na 2% o’r bleidlais ym 1987, gan golli ei hernes y flwyddyn honno ac eto’n y ddau etholiad ar ôl hynny. Er nad yw’r 13% a gafodd yn yr etholiad cyffredinol diweddaraf yn drawiadol, mae hi’n dro byd o ugain mlynedd yn ôl.

Yn ôl arolwg barn cymharol ffafriol i Lafur a gyhoeddwyd yn ddiweddar (YouGov, 29-30 Medi) mae’r Ceidwadwyr ar 37% a Llafur ar 30%. Pe buasem yn ceisio adlewyrchu hynny yng Ngorllewin Caerdydd, gan ddi-ystyru Plaid Cymru oherwydd diffyg data, byddai’r canlyniad yn rhywbeth tebyg i:

Llafur : 40%
Ceidwadwyr : 27%
DRh : 19%

Buddugoliaeth glir i Lafur felly, ond beth am ddefnyddio arolwg diweddar arall sy’n llawer llai ffafriol i Lafur, gan ei gosod yn drydydd ledled Prydain (Ipsos MORI, 25-27 Medi)? Byddai’r canlyniad fel a ganlyn:

Llafur : 34%
Ceidwadwyr : 26%
DRh: 23%

Felly, yr awgrym yw, a hynny’n swnio’n rhyfedd ddigon o ystyried yr hinsawdd wleidyddol bresennol, o drosi’r canlyniadau hyn i Orllewin Caerdydd (dull syml, anwyddonol mi wn), fyddai’r Ceidwadwyr ddim yn agos yma. Ymhellach at hynny, mae’r bwlch lleiaf (8%) yn ensynio y gallai nifer nid ansylweddol o Lafurwyr aros adref ac y byddai Llafur o hyd yn fuddugol yma – a chofiwn nad Llafur ydi’r unig blaid sy’n dioddef o apathi.

Dydi hi ddim yn beth call trosi canlyniadau’r Cynulliad i rai San Steffan, ond dyma hanes pedair prif blaid Cymru yn y sedd hon. Dangosir canran y bleidleis a gafwyd, a nodir y gwahaniaeth rhwng canlyniad ’99 a chanlyniad ’07 mewn cromfachau.

Llafur : 37% (-25%)
Ceidwadwyr : 25% (+10%)
Plaid Cymru : 21% (+6%)
Dem Rhydd : 15% (+6%)

Yn debyg i Aberconwy gynt, mae Llafur ar drai gyda’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru’n elwa yn ddigon tebyg o’i dirywiad, ond gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn elwa yn yr achos hwn. Byddai proffwydo i Blaid Cymru ennill cymaint ag ugain y cant o’r bleidlais yma mewn etholiad cyffredinol yn ffôl ... ond tybed ...

Oherwydd, gyfeillion, mae un canlyniad yn sicr na fyddai neb wedi’i ragweld yma ychydig flynyddoedd yn ôl, sef canlyniadau etholiadau cyngor 2008 yn y sedd hon. Dydw i ddim am gyfrif nifer y pleidleisiau, yn wir mae gan bob ward ei hanes ei hun, ond ar ôl y cyfrif dyma faint o gynghorwyr oedd gan bob plaid yn yr etholaeth:

Plaid Cymru 7
Llafur 6
Democratiaid Rhyddfrydol 4
Ceidwadwyr 2

Os cyfrwn nifer y cynghorwyr fel ffon fesur, dyma un o ardaloedd gwannaf y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol, gyda bron i hanner seddau Llafur Caerdydd yma, a phob un o seddau Plaid Cymru’r ddinas. Er gwaetha’r ffaith ei bod yn swnio’n hurt, yn y rhan hon o Caerdydd mae gan y cenedlaetholwyr fwy o gynghorwyr na’r un blaid unigol arall, sydd ddim yn sefyllfa a adlewyrchir o gwbl yng ngweddill dinasoedd mwyaf Cymru.

O ran y Blaid, mae’r ffaith iddi ennill tair sedd y Tyllgoed a dim un yn Nhreganna yn dweud llawer am natur ei chefnogaeth yn y ddinas – yn fras, nid y Cymry Cymraeg bellach yw sail ei chefnogaeth. Yn wir, gellir mynd mor bell â dweud bod y Blaid yn y ddinas wedi creu carfan sy’n elyniaethus tuag ati o blith y Cymry Cymraeg, ond stori arall ydi honno.

Rŵan mae un etholiad arall y cawn edrych yn fras drosto, sef rhai eleni. Felly y bu o blith y pleidiau ‘mawrion’:

Llafur : 4,236 (23%)
Ceidwadwyr: 4,012 (22%)
Plaid Cymru: 3,142 (17%)
Dem Rhydd : 1,725 (9%)
Eraill : 5,214 (29%)

Ambell ffaith: i bob pwrpas roedd hon yn hollt deirffordd, cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol lai o bleidleisiau na UKIP (a fawr fwy na’r Gwyrddion) a dyma’r unig sedd y bu i Lafur ei hennill yng Nghaerdydd. Gan ddweud hynny, mae etholiadau Ewropeaidd yn ddi-eithriad yn rhoi cic i’r llywodraeth gyfredol, a 12 mlynedd i mewn i lywodraethu ‘doedd Llafur byth am wneud yn dda hyd yn oed fan hyn, ond mi enillodd waeth bynnag.

A dyma ni’n dod ati – pwy sydd am ennill? Dydi’r Democratiaid Rhyddfrydol ddim – o’i gymharu â bron pob rhan arall o Gaerdydd, a hwythau’n arweinwyr y cyngor, maen nhw’n wan yma.

A beth am y Blaid? Ydi, mae hi ar gynnydd yma, heb ronyn o amheuaeth, ond nid dyma’r fath o sedd y gall drosglwyddo ei phleidlais Cynulliad yn bleidlais San Steffan, ac mae’r seiliau dal yn rhy fach yma – yn realistig, byddai trydydd parchus yn ganlyniad da iddi.

Un o ddwy sydd am ennill yma. Yn gyntaf, dau ffigur am Lafur yma ers 1987. Cafodd ei pherfformiad cryfaf ym 1992, wrth i Rhodri Morgan ennill 24,300 o bleidleisiau, ac fe ddaeth ei chanlyniad gwaethaf o ran nifer y pleidleisiau yn 2005 gan sicrhau 15,700 o bleidleisiau (Byddai’n werth nodi fan hyn hefyd hyd yn oed ym 1983 pan enillodd y Ceidwadwyr ac y cafodd y Democratiaid Cymdeithasol 10,000 o bleidleisiau y llwyddodd Llafur ennill y nesaf peth i 14,000 o bleidleisiau – gan gofio hefyd nad ydi polau heddiw yn eithriadol o wahanol i rai’r cyfnod hwnnw o ran Llafur).

A all y Ceidwadwyr ragori ar hynny? Roedd ei chanlyniad gorau hi yma ers 1987 ym 1987 ei hun gan ennill 16,200 o bleidleisiau (a oedd yn wir yn fwy na chafodd pan fu’n fuddugol yma ym 1983). Gwnaeth waethaf yn y gorffennol agos, yn 2001, gan ennill 7,300 o bleidleisiau. Poenus.

A’r gwahaniaeth rhwng y ddwy blaid yn yr etholiad diwethaf? 8,167. Mae’r gagendor yn fwy na’r bleidlais Dorïaidd.

Mae angen gogwydd o 12% ar y Ceidwadwyr i gipio Gorllewin Caerdydd oddi ar Kevin Brennan, sydd ddim yn eithriadol o boblogaidd dwi ddim yn meddwl, ond eto’n wyneb gweddol adnabyddus. Dydi’r polau ddim yn awgrymu bod y fath ogwydd am ddigwydd, felly sut y byddai’r Ceidwadwyr yn ennill yma?

Yn gyntaf, mae’n rhaid i’r blaid ddyblu nifer y pleidleisiau a gafodd yn 2005, ac yn ail mae’n rhaid iddi obeithio y bydd Llafur yn colli digon o bleidleisiau, naill ai i apathi neu bleidiau eraill. Byddai perfformiad cryf gan Blaid Cymru ac, i raddau llai, y Democratiaid Rhyddfrydol o fudd yn hynny o beth, ond amheuaf yn fawr a fyddai hynny i’r graddau y gwaneth y Democratiaid Cymdeithasol ym 1983.

Proffwydoliaeth: Er gwaetha proffwydiadau gan ambell un arall, dwi am sticio fy mhen allan a dweud na fydd hon yn ildio i’r llanw glas. Buddugoliaeth o tua 2,500 i Lafur.