venerdì, luglio 18, 2008

Diwedd y Byd

Mam bach dydw i ddim yn unigolyn iach. Wel. Dydi hynny ddim yn wir; yn gorfforol felly mae ‘nghorff i’n iwsles a phob math o bethau’n troi ac yn dadleoli, ond pan ddaw at heintiau a chlefydau a phethau felly dwi’n wydn iawn yn gyffredinol. Felly pan fydda i’n sâl go iawn mae’r byd ar ben.

Mae’r capsiwlau sy’n rhaid i mi eu cymryd i reoli fy stumog yn rhoi cythraul o gur pen i mi ar y funud. Dim ond y trydydd diwrnod ydyw ers y feddygfa (ofnadwy o braf yn Penham Green, os ca’i ddweud) ac mae gen i gur pen parhaol. Ar ôl mân ymchwil mae 7% o bobl sy’n cymryd y feddyginiaeth dwi arni yn dioddef o gur pen, felly dwi wedi penderfynu fy mod i yn y 7% hwnnw, yn ogystal â bod ymhlith y chwarter o bobl sy’n golchi o’u fyny i lawr yn y gawod.

Beth bynnag, dwi bellach yn cymryd Ibruprofen neu Barasetamol neu unrhyw beth sy’n digwydd bod yn agos i reoli’r cur pen, sydd yn ei dro yn dueddol o droi fy mol. O! Cylch cas ydyw bywyd!

Gallwch ddychmygu felly nad ydi gyrru i fyny i’r gogledd heno yn wirioneddol apelio, hyd yn oed â phres petrol Lowri Dwd (yn drwyn i gyd ar hyd y car) a Gwenan (“daniynaetodanidynaetolleydannilleydanni”). Fydda i’n teimlo’n well, fodd bynnag dwi’n siŵr, yn cael mwythau adref. Waeth bynnag lle’r ydym, ac er ei bod yn swnio’n ystrydebol, mae’n wir nad oes gwelliant gwell nag adref.

mercoledì, luglio 16, 2008

Salwch Enwog Wyf

Ro’n i’n teimlo’n enwog iawn heddiw. Ro’n i’n siarad ar raglen Siân Thomas ar Radio Cymru heddiw ‘ma am yr hwn gampwaith a elwir yn Blog yr Hogyn o Rachub, a hefyd dyddiaduron. Wyddoch chi fy mod yn cadw dyddiadur hefyd? Rhaid bod gen i obsesiwn â chofnodi fy mywyd, sy’n rhyfedd o ystyried cyn lleied sy’n digwydd. P’un bynnag, mi fetia i unrhyw beth y bydda i’n sôn am hyn am fisoedd. Y rhan fwyaf o’r amser dwi’n eithriadol o nerfus am wneud pethau felly, ond heddiw ro’n i’n teimlo’n eithaf hyderus, a minnau efo syniad da o be o’n i’n ei ddweud.

Ond ta waeth, rhwng gwneud hynny â bod yn gyffredinol dan bwysau roedd yn rhaid i mi fynd i weld y meddyg heddiw. Am dridiau dwi wedi bod yn sâl efo poenau yn fy mron a’m mol, felly bu’n rhaid cymryd rhywfaint o amser i ffwrdd heddiw.

Dwi ddim yn or-hoff o feddygfeydd, yn benodol oherwydd bod wastad babanod yno’n sgrechian. Ar ôl i’m tro ddod, mi ddywedodd Dr Smith wrthyf bod asid fy stumog yn chwarae hafoc (nid ei union eiriau o gwbl, cofiwch, ond ymdrech gan awdur y blog i orliwio) felly dwi ar dabledi am bythefnos.

Sy’n golygu dim yfed. Dim alcohol am 14 noson. Ac os dwi’m yn teimlo’n well, dim ‘Steddfod chwaith. Mae rhywbeth drwg BOB TRO yn digwydd yr adeg hon o’r flwyddyn. Ond dyna ni, dwi’n siŵr y goroesaf. Wedi’r cyfan, mae angen i rywun lenwi eich oriau swyddfa diflas.

martedì, luglio 15, 2008

Fy nghas gân

O bosibl, fy nghas gân i ydi ‘Imagine’ gan John Lennon. Heblaw am fod yn diwn ddiflas a hyll, dwi ddim isio byw yn y byd crap mae o’n fwydro amdano, a bob tro dwi’n glywed y gân dwi’n mynd yn flin.

Un o’r pethau mwyaf digalon posibl ydi dychmygu nad oes math o nefoedd. Neu uffern. Dwi’n meddwl pe baem ni gyd yn 100% siŵr nad oedd y ffasiwn bethau byddai’r hen fyd ma’n troi’n llanast llwyr. Prin fod cwymp crefydd a materoldeb pathetig y Gorllwein a’r symud tuag at adfail o gymdeithas yn gyd-ddigwyddiad. ‘Sdim rhaid i rywun fod yn grefyddol i allu gweld hynny.

Wedyn mae’r llipryn sbectols yn sôn am fyd heb wledydd. Rŵan, tra nad ellir dadlau na fyddai neb yn colli Liechtenstein yn ormodol, fedra’ i ddim meddwl am fyd heb wledydd. Prin ydi’r bobl nad ydynt yn ymfalchïo yn eu gwlad a phrin hefyd y rhai sy’n ymfalchio mewn rhywbeth yn fwy na’u gwlad. Wn i ddim sut beth yw hunaniaeth anghenedlaethol, ond yn bersonol fydda fo’n rybish.

Dwi’n genedlaetholwr ac hefyd yn grefyddol i raddau helaeth, felly yn amlwg mae byd John Lennon yn swnio’n uffernol i mi.

Ond byddai hynny’n iawn pe baem ni gyd heb math o eiddo. Dwi’m yn credu y dylai popeth fod yn eiddo, ond DIM BYD? Rhyfedd clywed hynny’n dod gan filiwnydd, hefyd.

Prin iawn fod caneuon yn ennyn fy llid, ond caiff y gân hon losgi. Asu, dydw i jyst ddim yn licio hipi-dwdl-aiês, de.

giovedì, luglio 10, 2008

Pynciau'r Ysgol

Tua’r adeg hon ddeng mlynedd yn ôl roeddwn yn gorffen fy ail flwyddyn yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Roedd yn weddol amlwg i mi hyd yn oed bryd hynny nad oedd dawn gen i, ond am ysgrifennu, a’r ddawn honno nid mawreddog ydyw. Ta waeth, roedd hefyd yn amlwg erbyn hynny pa bynciau yr oeddwn yn dda arnynt a’r rhaid nad oeddwn cystal.

Mae’n mynd heb ddweud mai fy nghas bwnc oedd chwaraeon. Dydi bod yn hogyn a chasáu gwneud chwaraeon yn yr ysgol achos eich bod chi mor ddiawledig o wael ar bob camp a chwaraeir ddim yn gyfuniad delfrydol a dweud y lleiaf. Pob gwers mi deimlais yn ofnadwy a gwneud unrhyw beth y gallwn i gael allan ohoni, ond yn amlach na pheidio gwneud cywilydd o’m hun efo pêl-droed neu griced fu’r hanes. Yn pwyso llai na naw stôn bryd hynny, gallwn ddychmygu nad oedd rygbi, ychwaith, yn rhinwedd.

Un peth na fues yn dda ynddo chwaith oedd Technoleg. Y cyrhaeddiad mwyaf i’m rhan fu gwneud peg cotiau allan o acrylic y bu iddo dorri ar ôl rhoi côt arno. Wn i ddim amdanoch chi, ond yn bersonol ni ystyriais hyn yn llwyddiant o faint sylweddol iawn, ac mi barodd fy anallu i dorri darn o bren yn syth i mi ddiystyru gyrfa ym maes saernïaeth.

Ar y cyfan roeddwn i’n weddol ofnadwy mewn mathemateg a gwyddoniaeth – dwi byth wedi dallt cemeg na ffiseg, er y bu i mi fwynhau’r gwersi oherwydd na wnes i ddim byd ynddynt. Un o wyrthiau bach y byd yw’r ffaith i mi barhau’n Set 1 drwy fy nghyfnod o’u hastudio.

Hanes a daearyddiaeth mi hoffais, a byddwn i wedi mwynhau celf heblaw i’r athrawes fy nghasáu yn llwyr, a’m symud i ochr arall y dosbarth ben fy hun am siarad gormod.

Iaith, wastad, oedd yn ennyn fy niddordeb. Yn ddiweddar dwi wedi cael cyfres ryfedd o freuddwydion ynghylch cael gwersi Ffrangeg yn yr ysgol drachefn, ond roeddwn i wrth fy modd yn siarad Ffrangeg ac mae’n gywilydd gen i na ddaliais i’w siarad, ond yn hytrach mae’n adfeilio’n araf bach gen i. Yn yr ysgol uwchradd y bu i mi fagu fy nghariad at y Gymraeg a phopeth yn ei chylch, a choeliwch ai peidio, er y bu imi roi’r gorau iddi bythefnos i mewn i’m Lefel A, roeddwn hefyd yn hoff o Saesneg, a’r elfen greadigol ohoni.

Sydd, actiwli, yn fy ngwneud i’n bach o bons.

mercoledì, luglio 09, 2008

Y Byd Mawr Crwn

Wel helo ffrindiau. Heddiw, cawn dair wythnos werth o law mewn diwrnod, yn ôl y sôn. Am ryw reswm, nid yw hyn at fy nant. Wedi’r cyfan, mae’n fis Gorffennaf, ac mi ddylai fod heulwen. Dwi’n draddodiadwr rhonc a ddim yn hoffi pan nad ydi pethau fel y dylent fod.

Ar brydiau felly caf ryw fân awydd i ddenig i rywle pell, ond prin y bydd hynny’n parhau. Dydw i ddim yn un am deithio na gwyliau. ‘Does yr un man yn y byd dwi isio mynd, dim dwisho gweld, a ‘does uffar o ddim y gall y byd mawr gynnig i mi na fedraf ei gael yng Nghymru. Heblaw am haf yn ystod yr haf.

Wel, celwydd braidd ydi’r uchod. Mae’n wir nad ydw i’n licio teithio a ‘does fawr o ddim dwisho’i weld ond mae ambell i beth. Dwi wastad wedi bod isio gweld y Sffincs yn yr Aifft. Y broblem ydi dwi’n casáu tywod ac ar ôl ei weld byddwn i ddim am dreulio wythnos arall yn yr Aifft, achos mae’r gweddill ohono’n edrych yn weddol shit i fod yn gwbl onest, yn enwedig gyda’r teimladau negyddol am dywod sydd gennyf.

A p’un bynnag, mae’r Aifft yn rhy boeth a chas gen i dywydd poeth, ac o’r herwydd dwi wedi hen ddallt nad welaf fyth mo’r Sffincs.

Hoffwn, efallai, fynd i’r Tŵr Eiffel. Ond ddaw neb efo fi achos does neb yn licio Ffrancwyr ac mae pawb arall ‘di bod eniwe. Wn i ddim pam ddiawl mae pawb yn mynd ymlaen am yr UDA i fod yn onest, chwaith, na ffycin Awstralia, sydd eto llawn tywod a thŷ opera hyll a dwi’m yn licio ffycin opera.

Efallai yr hoffwn weld Wal Fawr Tsieina, ond byddwn i isio’i gweld hi i gyd, a ‘sgen i’m pres na mynadd gwneud ffasiwn beth. Mae’r un peth a rhywle fel Machu Pichu – byddwn wrth fy modd ond dwi’m yn fodlon gwario ar fynd yno a byddwn i ddim isio cerdded – a ‘does bws i fynd â chi yno am wn i.


Y broblem ydi dwi’n diflasu’n syth bin. Fe wn yn iawn y byddwn wrth fy modd yn mynd ar wyliau sgïo – am tua dwyawr cyn penderfynu fy mod i dda i ddim a meddwl ‘ffwcia hyn, dwi’n mynd nôl i Gymru’. Ond uffar ots gen i. Bodlon dwi yma’n gulfeddwl i gyd; dwi’m isio gweld na gwneud dim o bwys, felly pam gwneud, yn de?

lunedì, luglio 07, 2008

Adroddiad Cymdeithas Cledwyn: ennill pleidleisiau'r Cymry Cymraeg

Roeddwn wedi bwriadu ysgrifennu am hyn, ond dim cyn i mi ddarllen y ddogfen yn ei chyfanrwydd. Rŵan, dwi ddim isio ysgrifennu’n hirfaith am y ddogfen hon; o’i darllen prin y mae’n ei haeddu, ond mae rhai pwyntiau yr hoffwn eu nodi o ystyried y ”Y Fro: Ennill pleidleisiau yn y Gymru Gymraeg”. Yn hytrach, hoffwn gynnig ambell i sylw ar ambell i ran o’r ddogfen.

Yn bur ryfedd, cyn mynd ymlaen at y Gymraeg ei hun, mae’r ddogfen yn ystyried syniadau megis tai ecogyfeillgar. Wn i ddim pwy feddyliodd am gynnwys y syniad (canmoladwy, wrth gwrs) hwn yn y ddogfen, ond does â wnelo dim ag ennill pleidleisiau’r Fro – dydi o ddim yn berthnasol yn y ddogfen, ac yn y cyd-destun hwn mae’n od i’w gynnwys, a dweud y lleiaf.


Rhaid i’r blaid Lafur arddel a phwysleisio’r cyfan y mae hi wedi’i gyflawni dros yr iaith

Dyma un dyfyniad a’m tarodd ar unwaith. Yn bersonol, byddwn wrth fy modd yn clywed faint yn union y mae Llafur wedi gwneud dros y Gymraeg. Dewch, dywedwch wrthyf!

Er bod gwaith dadansoddi’n profi nad iaith y ‘crachach’ mo’r Gymraeg, mae’r canfyddiad mai felly y mae hi i’w gael o hyd.”

Pa waith dadansoddi a gynhaliwyd i ganfod y ffaith hon? Os taw ennill pleidleisiau’r Fro yw pwynt y ddogfen, siŵr o fod y dylai’r awduron wybod hyn eisoes? A p’un bynnag, yn yr ardaloedd Cymraeg, nid yw hyn yn ganfyddiad.

Dylid hybu defnyddio Cymraeg syml a llai ffurfiol, ar lafar ac ar bapur, yn enwedig yn y sector cyhoeddus.”

Mae gen i deimlad nad yw’r awduron yn defnyddio’r gwasanaethau Cymraeg os mai dyma’u barn. Oes, ceir canfyddiad bod gwasanaethau Cymraeg yn defnyddio iaith ‘anodd’, ond dydi hyn ddim yn wir. Un o’r peth y mae cyfieithwyr, o bob math, yn ei wneud yw ymdrechu i wneud iaith yn syml a hygyrch ond eto’n gywir. Yn hytrach na hybu’r myth, beth am fynd i’r afael ag ef?


Dylen ni symud oddi wrth gynhyrchu cyfieithiadau symbolaidd a drud o ddogfennau cymhleth.”

Sydd, wrth gwrs, am ennill pleidleisiau Cymry Cymraeg. Jyst oherwydd y mae Dafydd Êl yn ei ddweud, dydi o’m yn golygu ei fod yn iawn...


Dylai darparu rhaglenni Cymraeg mwy hygyrch a llai ffurfiol fod yn amod cynyddu’r cyllid i S4C.”

Anodd, a dweud y lleiaf, yw cynnig sylw ar frawddeg mor anwybodus a hurt. Os gellir dweud rhywbeth o blaid S4C, mae’n gryfder gan y sianel bod yr iaith a ddefnyddir mewn rhaglenni fel rheol yn gweddu’r rhaglen. Eto, mae’n un o’r sylwadau lu yn y ddogfen sy’n awgrymu nad yw’r awduron gyda syniad am beth y maent yn ei drafod, â’u bod hwythau’n dibynnu ar ragfarn eu hunain yn hytrach na ffeithiau neu waith ymchwil.

Gellir dehongli’r sefyllfa yn un lle mae Llanelli-Caerfyrddin yn fwy o ‘hen Lafur’ ac wedi ymateb yn wael i Kinnock a Blair, tra bo’r A55 yn fwy o diriogaeth Llafur Newydd.”

Ers pryd fu lleoedd fel Dyffryn Ogwen a Chaernarfon a Llangefni a Chaergybi yn diriogaeth fwy naturiol i Lafur Newydd? Un o’r ffactorau ym methiant y Blaid Lafur yn ddiweddar mewn ardaloedd tebyg yw Llafur Newydd a’r symudiad tuag at y dde.

Yn etholiadau 2007 i’r Cynulliad, fe lwyddodd y gwrthbleidiau i osod agenda gwleidyddol y rhan fwyaf o’r ymgyrch etholiadol, a gwneud hynny’n arbennig drwy ymosod yn anonest ar bolisïau iechyd. Fe elwodd Plaid Cymru hefyd, yn sicr, o’r sylw a gafodd yr SNP yn y cyfryngau Prydeinig.”

Mae’r brawddegau hyn, i mi, yn dangos gwir werth y ddogfen: y cyntaf sy’n beio pawb arall ond am y Blaid Lafur ei hun, yr ail yn rhagfarn, neu’n syniad rhyfedd. Yn wir, pwy all gymryd dogfen felly o ddifri gyda sylwadau fel hyn?

“....[gwrthbleidiau yn] awgrymu nad yw ymgeiswyr Llafur mewn rhyw ffordd yn Gymry go-iawn neu nad ydyn nhw’n ddigon o Gymry.”

Un enghraifft, plîs?

yn y Gogledd-Orllewin, daeth cenedlaetholdeb diwylliannol i fwrw sefydliad Llafur simsan o’r neilltu yn y 70au ac ymsefydlu’n ewyllys sefydlog y dosbarthiadau canol parchus.”

Unwaith eto, anghywir. Ni chollodd Lafur leoedd fel Caernarfon a Meirionnydd Nant Conwy oherwydd y ‘dosbarthiadau canol parchus’ ond collwyd cefnogwyr Llafur traddodiadol i Blaid Cymru. Mor syml â hynny. Wn i ddim ai gwrthod cyfaddef hyn y mae’r ddogfen hon, neu’n gwbl anymwybodol ohono?


Rhaid i ni hefyd gydnabod bod problem go-iawn yn bod ymhlith y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd gwledig y mae llawer o fewnfudo iddyn nhw.”

Mae’n siŵr nad yw Eluned na gweddill yr awduron yn cofio yr ymateb a roddodd y Blaid Lafur i Seimon Glyn ychydig flynyddoedd yn ôl ar ôl iddo leisio pryderon pobl leol Llŷn. Rhesymau felly y mae’r Blaid Lafur wedi colli cefnogaeth – dydyn nhw ddim yn gwybod beth ydi pryderon pobl leol mewn ardaloedd fel Gwynedd na Cheredigion – yn wir, mae tai gwaith iaith yn eithaf dweud y cyfan.


Rhaid i’r blaid Lafur hybu defnyddio beunyddiol ar yr iaith drwy berswâd ac nid drwy rym. Gallai grym ac elitiaeth wneud drwg di-ben-draw. Nid cyflwyno mesurau neu ddeddfau newydd yw’r ateb i bob problem.”

Felly dim ddeddf iaith, dwi’n cymryd? Ffordd wych arall o ennill cefnogaeth y Cymry Cymraeg....


Os yw Llafur yn bwriadu trechu’r canfyddiad ei bod hi’n wrth-Gymraeg, ac os yw hi i ennyn cefnogaeth ei holl aelodau i fesurau o blaid gweithredu’n gadarnhaol dros yr iaith, dylai Llafur ddechrau drwy argyhoeddi ei haelodau ei hun o’r angen i fabwysiadu ei pholisi iaith bendant ei hun.”

Beth sy’n ddiddorol yma ydi’r defnydd o’r gair ‘canfyddiad’. Ai canfyddiad ydyw bod pobl fel George Thomas, Neil Kinnock, Leo Abse, Huw Lewis, Llew Smith ac ati yn wrth-Gymraeg? Yn wir, dyma’r broblem enfawr sy’n wynebu Llafur – y gwrthod llwyr i gyfaddef bod iddi aelodau sy’n casáu’r Gymraeg. Nid y canfyddiad sy’n anghywir, mae arna i ofn, ac os nad eir i’r afael â’r aelodau gwrth-Gymraeg, ni fydd Llafur yn ennill ardaloedd Cymraeg. Syml iawn.

Ychydig o sylwadau roeddwn eisiau eu cynnig, fel y dywedais. Ond braf, a dweud y lleiaf, o edrych ar y ddogfen, yw sylwi na fydd newid yn y Blaid Lafur ac nad yw’n cynnig newidiadau. Y broblem fwyaf i Gymdeithas Cledwyn, heblaw am gynhyrchu dogfen wael uffern sydd yn amlwg heb fawr o ddealltwriaeth o'r sefyllfa na gwaith ymchwil iddi, fydd ceisio argyhoeddi gweddill Llafur o’u hawgrymiadau ac argymhellion: efallai bryd hynny cânt weld pa groeso sydd i syniadau o blaid y Gymraeg yn y Blaid Lafur....!

giovedì, luglio 03, 2008

Y Zombies

Pur hysbys ydyw nad un am ffilmiau arswyd mohonof. Hynny yw, dwi’n golygu gwaedlyd i olygu arswyd. Dwi’n eithaf hoff o ryw ysbrydion a ballu, a phethau mwy seicolegol, ond os ceir haid o zombies yn llusgo’u hunain yn cnoi cnawd o amgylch y lle neu arteithio, dwi’n teimlo’n sâl. Sâl yr oeddwn yn Saw III. Aeth fy mhen yn wan yn Hostel. Yn wir, bu gweld trailer ●REC yn ddigon i’m dychryn am y rhan orau o bythefnos.

Afraid dweud, dw i heb alw ar y dewrder i weld y ffilm gyfan. Y dewraf y galla i fod o ran artaith yw mynd o amgylch Virgin amser cinio ac edrych ar yr adran arswyd, oherwydd er troi fy stumog mae gen i dal obsesiwn braidd efo’r pethau gwaedlyd ‘ma, a bob tro yn gwneud y camgymeriad o fynd i’w gweld yn y sinema.

Yn yr un ystyr byddwn i fy hun yn rybish taswn i’n cael fy arteithio. Go iawn rŵan. Nid mawr mo fy nhrothwy poen o gwbl, a phan fo gennyt hen ben glin croc, ysgwydd wael a theimlad ffyni dan dy dafod ers wythnos, nid da mo’r cyfuniad.

O ia, a be ‘di zombie yn Gymraeg?

martedì, luglio 01, 2008

Megis Sosij Rôl

Poni welwch-chwi hynt y gwynt a’r glaw?
Poni welwch-chwi’r deri’n ymdaraw?

Os ydych chi yng Nghaerdydd y funud, yr ateb ydi na. Ewadd, gyfeillion, mai’n braf yn yr haf ar yr hen Machen Street. Cymaint fel nad ydw i wedi gadael y tŷ heb sbectol haul ers tua phythefnos, ac wedi troi’n cŵl a dechrau eu galw’n shêds.

Beth bynnag, dwi isio trafod fy mhenwythnos i chi. Doeddwn i methu gwneud y ffasiwn beth ddoe na’r Sul. Ddoe, roeddwn i’n flinedig a dig. Y Sul, roedd fy mhen yn teimlo fel cwmwl a’m corff megis sosij rôl. Sâl, yn doeddwn, a minnau wedi cael noson fawr ar y Sadwrn am y tro cyntaf ‘stalwm.

Ni es allan ben fy hun, wrth gwrs. Efo fy nghyn-cyd-lletywr Ellen Angharad, cantores fendigedig sy’n oerach na gwynt y gogledd, yn y gaeaf, efo bits o rew ynddo, ac o bosib chicken fajita fu’n y ffrij ers y noson gynt, o amgylch canol y ddinas. Yn draddodiadol, bu’n yfwr o fri, ond yn ddiweddar mae ei dawn yfed yn llai nac y bu, a threuliodd hanner awr yn chwydu yn y City Arms ac yfed dŵr yn Shorepebbles. Do’n i fawr gwell. Dwi’m yn cofio mynd adref.

Cyn i mi fynd, ga’i ddatgan fy mod i’n meddwl bod y gair afal yn bendant siwtio fod yn fenywaidd.