mercoledì, aprile 30, 2008

Comrade Hogyn o Rachub

Dwi’n siomedig gyda fy hun am flogio’r nesaf peth i ddim am yr etholiadau lleol. Dwi’n siŵr fy mod wedi mynegi pe bawn yn defnyddio fy mhleidlais yn Rachub mai Plaid Cymru fyddai’n ei chael. Dim ond Plaid a Llafur sy’n sefyll yn Rachub. Dydi Llais Gwynedd ddim, ond pe byddent mi fyddwn yn fwy tebygol fyth o bleidleisio Plaid Cymru. Caiff pobl ddweud beth a fynnant, ond dydi Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd ddim yn ddrwg ar y cyfan, ar wahân i ambell i un nad enwaf.

Fodd bynnag, gyda’r etholiad ei hun yn dyfod yfory dwi wedi gwneud fy mhenderfyniad dros bwy i fwrw fy mhleidlais. Fel y dywedais, mae’n gas gen i bobl nad ydynt yn pleidleisio, neu o leiaf sbwylio’u papur. Ond dydw i ddim am wneud hynny. Yfory, mi fyddaf yn rhoi croes wrth enw’r Comiwnyddion.

Mae hynny’n eithaf cam i mi. Bob etholiad a fu ers fy neunaw dwi wedi bwrw pleidlais dros Blaid Cymru, ond mae’r Comiwnyddion yn addo ehangu addysg Gymraeg, a gwyddom oll record Plaid Cymru am wneud hynny yng Nghaerdydd. Gwarth. Wrth ddarllen eu pamffled prin i mi anghytuno gydag unrhyw beth a ddywedwyd sy’n ddiawl o chwa o awyr iach o’i gymharu â Lib Dem Focus Team neu Can’t Win Here a chachu mat felly, ond i fy syndod roeddwn yn dueddol o anghytuno gyda nifer o gynigion Plaid Cymru. Afraid dweud, i’r bin yn syth aeth rhai’r pleidiau mawrion.

Dwi wastad wedi fflyrtio braidd â chomiwnyddiaeth, er na ddisodlir fy nghenedlaetholdeb gan ddim, ond fel dwi wedi dweud ers cyfnod, dydi Plaid Cymru ddim yn haeddu fy mhleidlais, a chan fy mod i’n hoff o be sydd gan Gomiwnyddion Grangetown i’w ddweud, nhw gaiff fy mhleidlais, er gwaetha’r ffaith nad oes ganddynt gyfle o ennill sedd.

martedì, aprile 29, 2008

Pensiwn

Hoffech chi glywed ystadegyn trist? Fydda’ i ddim yn ymddeol nes y flwyddyn 2052, sef pan fyddaf yn 68, sydd mewn 45 o flynyddoedd (mae gen i ddwbl beth yw fy oedran rŵan, i bob pwrpas, i ddal i weithio). Dwi’n meddwl bod hynny’n erchyll, fy hun. Heb sôn am feddwl am fyw mewn byd y bydd yn hollol estron i chi, pwy ddiawl sydd isio gweithio nes eu bod nhw’n 68 oed?

Mae rhan ohonof yn rhywle sydd wastad yn meddwl nad lle dyn yw swyddfa neu floc neu rhwng muriau yn gweithio’n gaeth i drefn sydd ohoni. Mae rhan sy’n gweiddi’n groch am fod yn yr awyr iach ac wrth y môr a’r coed yn rhydd o ddesgiau a chyfrifiaduron. Gan ddweud hynny, mi wn yn iawn mi fi fyddai’r cyntaf i gwyno ar yr arwydd gyntaf o law mân neu pan y mae’n ddiawl o oer. Dydi hi byth yn peidio â’m rhyfeddu pa mor gaeth ydi’r byd rhydd, a chreulon fyddai rhyddid pur. Bob dim yn baradocs, mae’n rhaid.

Yn ddiweddar iawn mi ‘sgwennais ddarn ofnadwy am fethu’r Gogledd, yn fras, ac ar fy myw dwi’n edifar ei ysgrifennu. Os ydi rhywun yn ysgrifennu rhywbeth, mae’n ei wneud o’n go iawn, rhywsut. Fydda i’n mynd yn ôl ddydd Gwener tan y Mercher nesaf. Fedrai’m disgwyl arogli’r awyr unwaith eto, na gweld gwyrddni. Mae dallt y mynyddoedd yn dangnefedd ac yn gancr, yn eich arbed chi ac yn eich difa’n araf deg. Ydw, dw i angen brêc.

giovedì, aprile 24, 2008

Fy Mhleidlais a Grangetown

Dwi’n dechrau’n araf deg cael i mewn i’r ‘lecsiwn cynghorau ‘ma. Petai arwyddion yn unrhyw beth i fynd arnynt, yn Grangetown draw byddai Plaid Cymru yn ennill tri chwarter y bleidlais. Mae ‘na un Democrat Rhyddfrydol sy’n dweud ‘Winning Here!’ ac un Llafur yn dweud ‘Supporting Labour and the Bluebirds’, gyda rhai’r Blaid dros y lle fel annwyd. Dim ond angen cerdded ar hyd Cornwall Road sy’n rhaid i weld hyn. Mae hi fel etholiad cenedlaethol.

Y Rhyddfrydwyr sydd â thair sedd yma ar hyn o bryd. O edrych ar yr etholiadau diwethaf doedd ‘na fawr o bleidleisiau rhwng ymgeiswyr y Rhyddfrydwyr (y tri ar y brig) a Llafur (y tri nesaf), gyda Phlaid Cymru ddim yn eithriadol o bell yn ôl ar ôl hynny. Os na fydd Plaid yn ennill sedd yma’r tro hwn yna fydd hi’n adlewyrchiad eithaf drwg arnynt. Yn ogystal â 3 o bob un o’r tair plaid, mae ‘na o leiaf un Tori yn sefyll a Chomiwnydd.

Mae gen i dal feddwl i wneud o ran fy mhleidlais. Tan tua phythefnos yn ôl roeddwn i wedi penderfynu, a hithau’n etholiad lleol, mynd am Blaid Cymru eto, cyn i mi gael fy atgoffa y gwnaethant bleidleisio yn erbyn y cynllun ad-drefnu addysg. Felly ni chânt fy mhleidlais yn yr etholiad hwn, a ddiawl ots gen i chwaith os na chaiff ‘run ohonynt eu hethol ledled y ddinas.

Oherwydd y penderfyniad hwnnw, fe’m cyflwynwyd â’r dewis o roi pleidlais i’r Rhyddfrydwyr, a hwythau wedi bod y blaid y cynllun. Ond wna’ i mo’r ffasiwn beth. Wedi’r cyfan, mae Lib Dems yn crap, ac mae gen i deimlad eu bod nhw’n shag eitha’ crap, hefyd.

Ond daeth taflen y Comiwnyddion drwodd, yn mynegi cefnogaeth i sawl peth, fel ateb y galw am addysg Gymraeg, o'r meithrin i'r lefel uwchradd, ac yn wir siarad sens ar ambell i beth. Wyddwn i ddim o’r blaen, chwaith, bod y Blaid Gomiwnyddol o blaid senedd lawn i Gymru gyda grymoedd deddfwriaethol ac ariannol.

Dau ddewis olaf sydd wedyn (o gofio nad ydi Llafur na Thori yn ddewis – ddim i rywun efo hanner meddwl, beth bynnag). Sbwylio’r papur; ond dw i’m isio gwneud hynny. Peidio mynd i bleidleisio? Gas gen i bobl nad ydynt yn defnyddio’u pleidlais, rhaid i mi ddweud, ond â minnau’n teimlo mor ddadrithiedig o wleidyddiaeth ar y funud mae’n ddigon o ddewis i mi ei ystyried.

Fodd bynnag, dw i fwy neu lai wedi penderfynu beth i’w wneud. Efallai ddyweda’ i wrthoch chi, os mynnwch rywbryd.

martedì, aprile 22, 2008

Gorwedd wrth y Westgate

Doedd ‘na ddim ffordd y byddwn wedi gallu sôn am nos Sadwrn i chi ddoe na dydd Sul. Dw i dal mewn poen difrifol. Mae fy ochr dde yn brifo’n arw a’m pennau gliniau yn glwyfedig. Yn bur rhyfedd, dw i’n cofio pam. Wedi rhywsut llwyddo i golli batri fy ffôn a heb bres arnaf doedd ‘na ddim ffordd fy mod i’n gallu cerdded adref am 6.45 yn y bore o ganol dref, felly mi lusgais fy hun tua lle’r genod. Handi iawn ydi adnabod pobl sy’n byw yn eithaf agos i’r canol mewn sefyllfa felly.

Fedrwch chi ddychmygu, a hithau’n ben-blwydd arnaf, ac erbyn hynny wedi bod ar ddeffro ers y peth agosaf i dair awr ar hugain, roeddwn i mewn eithaf stâd, a ddim yn cofio dim byd am fynd i sawl tafarn, fel y Model Inn a Shorepebbles (er fy mod i’n cofio cael pisiad yno) a’r casino wrth i mi wylltio boi oedd yn eistedd wrth f’ymyl yn ei fwydro. Mi ddiflannodd.

Yn ôl i 6.45yb ac roeddwn i’n cerdded wrth y Westgate. Afraid dweud, roeddwn i wedi disgyn a baglu sawl gwaith erbyn hyn, yn bendant, ond rhywsut fanno mi ddisgynnais eto. Doedd gen i ddim math o egni, wrth gwrs, a dw i’n cofio meddwl i fy hun wrth orwedd yno, “Dyna ni. Bydd rhaid i mi gysgu fyma. ‘Sgen i’m dewis.” Mae siŵr mai eithaf golwg od ydoedd i’w gweld, minnau’n gorwedd wrth y groesffordd ar adeg mor swreal.

Yn y pen draw mi lwyddais i lusgo’r ambell i lathen i dŷ’r genod gan ddeffro a chythryddu Lowri Dwd.

Yn wir, roeddwn i mor chwil y diwrnod wedyn prin fy mod i’n cofio mynd am ginio. Trodd meddwod yn ben mawr. Difrifol a sâl. Aeth hwnnw, a daeth y boen gorfforol.

Ond ew, dw i’n dda. Mi lwyddais i golli’r stôn mewn mis!

sabato, aprile 19, 2008

23!

Penblwydd hapus i mi!
Bellach dw i'n ddau ddeg tri,
Blwyddyn arall cyn mi drengi;
Penblwydd hapus i mi!

martedì, aprile 15, 2008

Uwdlyd Fore

Wyddoch chi fi erbyn hyn: mwyn, aeddfed, heb na sarhad na gair drwg am ddim. Ond dwi’n ffwcin flin heddiw a dyna ddiwadd arni. Yr hwn fore roeddwn wedi deffro’n fuan iawn, am tua 7, ac wedi codi erbyn hanner awr wedi. Ew, uwd fydda’n dda, meddyliais, y peth iawn i’m cadw i fynd drwy’r bore hyd fy nghinio.

Ni all na Macbeth na chyflafan Peterloo y’i cyflawnwyd dwy ganrif nôl gymharu efo be ddigwyddodd nesaf. Disgynnodd y sosban ar hyd y popty, gan ddymchwel y rhan helaethaf o’r uwd dros fat y gegin. Llefrith ym mhobman. Dw i’n cofio’r union eiriau y bu i mi eu sgrechian yn y gegin, sef “Ffyc, bastad, bolycs”, a hynny atseiniodd ledled Grangetown.

Mi gymrodd chwarter awr dda i lanhau’r stôf, ac mi roddais y mat, sy’n gythraul o beth trwm, allan ar y lein yn uwd i gyd, yn y gobaith bydd rhyw ji binc ffraeth yn ei fyta cyn i mi fynd adref heno. Afraid dweud, mae ‘nhrowsus yn llychlyd diolch i’r mat uwdlyd, creulon, coch, ac ni chefais uwd ond Bran Flakes y mae Mam a’r Chwaer wedi’u prynu ond heb eu bwyta a’i adael i lawr yma felly rhaid i rywun ei fyta sef myfi. Felly ni’m llenwyd yn y lleiaf, a theimlo’n ddigalon a gwag.


Felly heddiw, dwi’n drist iawn.

lunedì, aprile 14, 2008

Caerdydd a Chwpan yr FA

Ceir ambell i glwb pêl-droed nad ydw i’n eu cefnogi mewn difri rydw i’n hoff ohonynt. Y mwyaf o’r rhain, am ba reswm od bynnag, ydi Southampton. Ar ôl gweld sgoriau Man Utd a Wrecsam, fydda i’n mynd i weld sut wnaeth ‘rhen Southampton. Dydyn nhw ddim yn gwneud yn dda. Y pwynt ydi, fodd bynnag, dw i’n licio Southampton a hynny heb reswm.

Ond hefyd nifer o glybiau pêl-droed nad ydw i’n eu hoffi am ddim rheswm penodol o gwbl: Aston Villa, West Ham, Middlesbrough, ac am ryw reswm rhyfeddach, Sheffield Wednesday. Ymhlith y rhain mae hefyd Caerdydd. Iawn, dw i’n gwybod dw i’n byw yma ers y rhan orau o bum mlynedd, ond dw i’m yn cefnogi Caerdydd mewn unrhyw fodd. A dweud y gwir i chi, dw i’m yn licio Clwb Pêl-droed Caerdydd yn y lleiaf.

Felly mae’n fy ngwylltio a’m gwneud i braidd yn sâl bod cymaint o bobl isio gwneud allan eu bod nhw’n cynrychioli Cymru yn rownd derfynol Cwpan yr FA. Bol-ycs. Clwb ydi Caerdydd: maen nhw’n cefnogi Caerdydd atalnod llawn. Chi’n meddwl y byddai ffan Arsenal yn cefnogi Chelsea yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr achos eu bod nhw’n cynrychioli Lloegr? Tybed pwy fydd selogion Abertawe yn eu cefnogi fis nesa? Cynrychioli Cymru myn uffarn i.

Dim y bydda’ i yn cefnogi Portsmouth o gwbl, cofiwch, a minnau efo cymaint o feddwl o Southampton. Ah. Southampton.

Rŵan, mae Rhodri Glyn Thomas yn dweud a gwneud pethau gwirion yn aml yn ddiweddar, a ddim yn hoff berson i lot ohonom. Ei syniad hurt diweddar, mae’n siŵr y byddwch yn gwybod, ydi y dylai Hen Wlad fy Nhadau gael ei chanu ochr yn ochr â God Save the Queen yn y ffeinal. Yn ffeinal Cwpan Lloegr. Sôn am syniad hurt.

Braint Caerdydd ydi chwarae yn y strwythur pêl-droed Seisnig. Fe ddylent gydymffurfio â phob dim sydd ynghlwm iddo. Does ‘na ddim rheswm pam y dylai anthem gwlad arall gael ei chanu ynghyd ag anthem genedlaethol Lloegr, waeth bynnag pa mor ofnadwy ydyw.

Os oes un peth sy’n waeth na gwleidydd yn stwffio’i drwyn i mewn i chwaraeon, yna Rhodri Glyn Thomas yn gwneud hynny ydyw!

venerdì, aprile 11, 2008

Wythnos tan y 23

Wythnos i ‘fory dw i’n dathlu fy mhen-blwydd. Wythnos i ‘fory mae’n rhaid i mi bwyso 11.6 stôn. Wythnos i ‘fory dw i am feddwi a gwneud bob math o bethau drwg a swnllyd nad ydi pobl dosbarth canol a chapelwyr yn hoff ohonynt. Ond mae amodau, ac elfen gref o betruster. Nid yw rhywbeth yn teimlo’n iawn.

Dydw i ddim yn hoff o’r rhif 23. O fod yn 22, gall rhywun smalio ei fod yn 21 o hyd. Nid felly 23. Rŵan, dw i’n raddol gweld llawer o’m ffrindiau yn callio i raddau; licio arbed ychydig o arian, mynd allan am fwyd, sesiwns mawrion, gwyllt, anfoesgar yn diflannu cam wrth gam, a dw i’m yn licio. Ac mae rhyw ddisgwyl cyffredinol i rywun ddechrau callio rhywfaint ar yr oedran hwn. Dwi am wrthod, wrth gwrs, er gan deimlo y dylwn.

Dydi bod yn 23 yn ei hun ddim yn fy mhryderu’n ormodol, callio sy’n fy mhoeni i. ‘Does gen i ddim bwriad gwneud. Dw i eisoes yn chwerw fy mod i’n gweithio a ddim yn cael mynd i’r pyb drwy’r dydd, er yn fodlon iawn ar fy chwerwder parhaus, distaw sy’n bennaf nodwedd i mi. Ond dw i ar ddeiet ar y funud, a ddim isio bol cwrw, ac yn bwyta’n iach a gwneud ambell i weithgaredd!

Mi synfyfyriaf.

Anodd ydi cael cymeriad wedi’i bennu i chi; mae pawb yn ei gael ac yn aml iawn fe fyddwn oll yn actio i’r cymeriad hwnnw, yn raddol ymffurfio i fod yn gymeriadau ohonom ein hunain. Ydi rhywun yn driw i’w hun am fod yn gymeriad/bersonoliaeth y maent eisiau bod, a chwarae i hynny? Neu ai gwell ydi bod beth yr wyt ond ddim mor hoffus ohono? Neu a oes rhyw ganol hapus i’w cyfuno, neu a ellir newid i ba bwy bynnag neu le bynnag rydych? Os rydych chi fel y fi, fyddwch chi’n hoff iawn o ddadansoddi personoliaethau a phobl: dyn ag ŵyr, mae cyfran go dda o’m sgyrsiau yn cylchdroi o amgylch dadansoddi eraill.

Un o’r pethau rhyfeddaf o ddiddorol ydi pethau fel ‘tasa X yn fwyd/anifail, be fyddan nhw?’. Dwi’n cael pethau crap fel cwstard a broga o hyd. Broga’r Cwstard. Taswn i’n anifail, byddwn i am fod yn Froga’r Cwstard, yn ddiamheuaeth.