giovedì, febbraio 28, 2008

Tafarn leol

Wrth i Lowri Dwd ddod am ei gwyliau i Stryd Machen draw mae’n noson cwis dafarn yn y Cornwall. Bydd ambell un ohonoch yn gyfarwydd â thafarn y Cornwall, sef fy nhafarn leol, lle y byddwn yn mynd, ambell i waith, i chwarae’r cwis. A meddwi.

Rŵan, dw i’n berson cwynfanllyd a phenodol pan ddaw at dafarndai. Ers i’r Siôr gael ei chymryd drosodd gan Saeson (a rhai dw i’m yn ffond iawn ohonyn nhw o ran hynny - nid fy mod i’n ffond iawn o Saeson fel arfer, chwaith) mae’r Tavistock yn hawlio’i lle dyledus felly fel fy hoff dafarn. Dw i heb fod yno ers blwyddyn a mwy bellach, ond mae’r ddelwedd berffaith ohoni’n parhau, a dw i’n ddigon bodlon aros â’r ddelwedd o’r lle. Roedd y Tavistock yn dafarn leol heb ei hail, ac yn aml iawn bydd fy nghalon yn canfod ei ffordd yn ôl i’m trydedd flwyddyn yn y brifysgol a’r dyddiau a’r nosweithiau gwych a gafwyd yno: does fawr o amheuaeth gen i ddweud y treuliwyd rhai o ddyddiau gorau fy mywyd yn y dafarn fechan honno’n Y Rhath draw.

Erbyn i ni adael roedd y Tavistock wedi troi yn eithaf cyrchfan i Gymry Cymraeg yr ardal. Nid yn anaml mai’r Gymraeg a deyrnasai yno. Gwir iawn ydi hyn am y Cornwall - dw i’m eto wedi bod yno heb glywed Cymraeg. Ond er gwaethaf y ffaith hyfryd honno, dydi’r Cornwall ddim cymaint i’m hoffter. Gwir, mae’n gyfforddus, ond i mi’n bersonol mae’n ddiffygiol o ran rhywbeth a wn i ddim beth. Nid ydyw wedi llenwi’r blwch a adawodd y Tavistock - bosib oherwydd nad ydw i’n yfed cweit cymaint â phan fues fyfyriwr. O bosib oherwydd bod fy ffrindiau, agosaf a pellach, yn ddaearyddol bellach na fuont.

Dw i’n teimlo’n hen ŵr (ifanc) yn hiraethu am bethau bach felly. Ond ni wnaeth hiraethu ddrwg i neb.

mercoledì, febbraio 27, 2008

Cyflawnder Amser

Y peth gwaethaf y gall rywun ei ystyried a meddwl amdano yn ei wely yn ceisio cysgu ydyw’r bydysawd. Dw i’n gwybod bod hynny’n swnio braidd yn rhyfedd, ond mi grwydrodd fy meddwl i’r hwnnw gyfeiriad neithiwr. Mae’r peth i gyd mor gymhleth fel ei bod yn amhosib dweud dim amdano, yn dydi? O’r gwyddonydd enwocaf i’r uchaf esgob, mae gan bawb eu damcaniaeth am sut y’i crëwyd, a’r gwir plaen am y mater ydi bod pob eglurhad yr un mor debygol â’i gilydd.

Wrth i hynny fy nharo, penderfynais na fyddwn yn cysgu pe bawn yn meddwl am hynny, felly daeth y meddwl i lawr at y ddaear hon. Amser; y gelyn cyffredin. Anhygoel ydyw meddwl na fydd yr Wyddfa yn bodoli rhyw ddydd. Prin iawn y byddwn ni’r Cymry yno bryd hynny: dyn ag ŵyr pwy fydd.

A minnau wastad yn ddilornus o’r Saeson hynny sy’n symud i Gymru i fod yn agos at dir na fedrant ei ddallt byth, a bod “yn rhan o natur” drwy bethau gwirion fel mediteiddio, pan ein bod ninnau’n rhan annatod o’r tir hwn ers cof: mae’r tir hwn yn fam i ni, mewn gwirionedd, yn perthyn i ni, a fedr neb ddod yn perthyn i ddim drwy geisio. Rydych chi yn, neu dydych chi ddim.

Ond rhyfedd hefyd: rydym ni wastad yn ystyried mai eiddo’r Cymry ydyw Cymru, ac mai Cymru sy’n ein llunio, ond efallai nad ydym ni’n gywir wedi’r cwbl. Bu, mewn oes bell, bobl ar y tir a elwir yn Gymru heddiw nad Cymry’r oeddent – trigai eraill yma cynom ni, a thrig eraill arni ar ein hôl. Efallai mai’r Saeson a’u hiaith nhw fydd y nesaf, mae’n ddigon posibl, ond yn sicr nid y nhw ychwaith fydd yr olaf o gryn ffordd.

Rhyfedd hefyd ydyw meddwl bod Cymru’r genedl ond yn eiliad fechan yn hanes Cymru’r tir. Bu’r Carneddau’n sefyll yn wyliadwrus a’r tonnau’n herio’r clogwyni cyn y clywid cân dyn na chri’r eryrod. Nid oedd y Gymraeg, y’i ffurfiwyd gan y tir ym mhle y trigasai, yno o’r dechrau un, a daw dydd lle y bydd hithau’n angof - ynghyd â Chymru a’r Cymry, ond hefyd ynghyd â’r hen elyn o dros y ffin: ni chofir cerddi heddiw ym mha iaith bynnag y’u hyngenir, yn yfory amser. Tybed faint o wareiddiadau’r bydd sydd eisoes wedi diflannu’n gyfan gwbl, a faint o’r rheini yr oeddent yn credu’n gryf y byddent “yma hyd ddiwedd amser”? Pwy feiddiai dau fileniwm yn ôl ddarogan na fyddai Lladin i’w chlywed; pwy ond pedair ugain o flynyddoedd yn ôl byddai’n darogan fod Ymerodraeth Lloegr yn dod o derfyn?

Rydym ninnau’r Cymry rhywfaint i’r gwrthwyneb, bu gelynion yn proffwydo ein machlud yn ystod ein gwawrddydd, ond megis traeth sy’n gwrthod ildio i’r trai daw ein diwedd ninnau hefyd yn y pen draw. Yng nghyflawnder popeth, dydyn ni, na’r holl bethau rydym ni’n sefyll drostynt yn ddim. Daw’r dydd na fydd neb yn cofio dim ohonom.

Y tric mawr ydi mwynhau popeth tra eu bod yn para, ymhyfrydu ac ymdrybaeddu yn y pethau bychain a’r pethau mawrion, o bob cwrdd â chyfeillion i bob cerdd sy’n llonni; pob cinio Sul gyda’r teulu, a meddu ar bob chwarddiad nad atseinir ‘fory. Os gwnawn ni hynny, prin y byddai’r un ohonom yn edifar rhyw lawer.

Wn i ddim sut i orffen y blogiad hwn – felly mi adawn ni pethau’n fanno!

venerdì, febbraio 22, 2008

Mae gan Lowri Dwd gorff fel chicken and mushroom slice

Y tro diwethaf y bu gêm Chwe Gwlad, mi aeth yr Hogyn allan am unarddeg, a bu’n ei wely yn cysgu’n braf cyn chwech, fynta’n cerdded adref yn chwil gaib efo beiro ar ei wyneb a staens seidr blac o amgylch ei geg fel y Joker o Batman, wrth i hanner Caerdydd dechrau am allan. Dydi hyn ddim am ddigwydd yr hwn benwythnos. Mae gen i bwynt i’w brofi. Mi a’i profaf. Neu mi fydd Rhys yn fy lluchio i mewn i Afon Taf, dywed ef.

Un o’r pethau doniolaf a welodd ganolfan chwaraeon Talybont erioed oedd y Fi yn mynd efo Lowri Dwd i chwarae badminton yno’r wythnos hon. Yn ddiau mae gennyf gorff fel cwstard wy efo coesau sosej a Fruit Pastille yn ben iddo (a’r Dwd hithau chicken and mushroom slice tamp o gorffyn cnawdol â thrwyn banana estynedig) ond dw i’n dda ar fadminton ac yn dda ar denis. Ond mae problem. Bu blynyddoedd o gam-drin fy nghorff mewn amryw ffyrdd yn ddigon erbyn hyn i wneud i mi golli fy anadl yn ddifrifol wrth ddringo grisiau, heb sôn am chwarae badminton am awr.

Yn ffodus reit, penderfynodd y Dwd daro’r wennol yn ôl ataf yn syth bron bob tro. Wedyn mi fyddaf yn beryg. Mae gen i shot fel bwled – mi fedraf daro’n galed neu osod yn goeth. Ond mae’r fantais o daro cain yn cael ei gydbwyso gyda’m hanalluogrwydd i redeg, a thalcen caled ydyw: i’m curo i mewn gêm, pa gêm bynnag y bo, y dacteg y dylid ei mabwysiadu yw gwneud i mi redeg (dydi hyn, wrth gwrs, ddim yn cynnwys pŵl).

Felly, dyna’r dystiolaeth nad un iachus mohonof, pe byddid angen y fath dystiolaeth yn y lle cyntaf. Ond daeth ôl-effaith cas yn ei sgil. Stiffdod. Ia wir, ers nos Fercher mae fy mraich dde yn hollol stiff, yn brifo megis cryg cymalau, a chyda minnau’n ei ddal yn glwyfedig reit dw i wedi cael ambell i olwg amheus, ddyweda’ wrthych chi.

Yn ogystal â hyn cefais quiche i de nos Fercher a nos Iau, sy’n ffordd ddigon bodlon o orffen blogio’r wythnos hon.

mercoledì, febbraio 20, 2008

Nodyn Bodyn y Diwrnod

Hoho! Nid PC yn y lleiaf mo’r nodyn bodyn hwn a dderbyniais gan unigolyn a fydd yn aros yn anhysbys, ond mi wnaeth i mi wenu fel giât…!

"Dwi mewn lle doctor yn Bute town a dwi’n timlo fel dwi’n India dim Cymru! Fi di’r unig berson gwyn yma heblaw am y receptionist!"

martedì, febbraio 19, 2008

Y Tywydd (nas bwriadwyd)

Twyllodrus ydyw’r heulwen. Mi ddaw honno i ddywedyd helo yn llawn addo cynhesrwydd ac mai dal yn ffwcin oer. Serch hyn, dw i ddim am drafod y tywydd efo chi. Petawn gyda chi’n bersonol, mae cyfle sylweddol y byddwn yn gwneud hyn, oherwydd ar lafar mi fyddaf yn trafod y tywydd, gan hoffi dywedyd pethau megis:

“’Rargian mai’n oer”
“Mae’r cythraul gwynt ma’n chwthu, ‘chan”
“Uw, mi o’n glos echoddoe, ‘ndoedd?”

ond, fel y gwelwch, yn ysgrifenedig felly nid yw’r tywydd yr un mor ddiddorol ag ydyw yn y byd go iawn. Ond pa drafodaeth bynnag ynghylch y tywydd sydd, mae’r geiriau “chwythu”, “gafael” a “braf” yn anochel am lithro i mewn i’r sgwrs.

Hynny ydi, mae “chwythu” nid yn cyfeirio at y gwynt ond “Gwynt Mawr”, fel petai. Dyma dywydd dal dy het, atal rhag rhoi dillad ar y lein a.y.y.b.

Mae “gafael” yn echrydus o oer, ond yn aml y gwynt ei hun, ac nid y tywydd o reidrwydd sy’n oer. Felly pan fydd yn chwythu, mai’n gafael.

Yng Nghymru, gall “braf” olygu unrhyw beth nad yw’n “chwythu” neu’n “gafael”. Ymhlith yr enghreifftiau ydyw tywydd clos, eira trwchus a glaw heb wynt yn yr awel. Dyma ydyw ystyr “braf”.

Noder:
Brâf – tywydd heulog
Bràf – ddim cystal; safonau Cymreig yn gymwys
Brêf – haul yn y Canolbarth

sabato, febbraio 16, 2008

Rhagor o synfyfyriadau am y Blaid

Mae rhywbeth yn y gwynt yn wir, yn dilyn yr holl ffỳs efo’r Byd. Mae’n rhyfedd pan fydd pobl mor amlwg ag Adam Price yn dilorni’r ymgyrch i sefydlu papur newydd cenedlaethol; onid yw’n rhyfedd pam na ddywedodd rhai o fawrion y Blaid hyn CYN i’r penderfyniad cael ei wneud? Na, ddim rili, mae’n siŵr.

Yn ei flog yntau mae
Rhys Llwyd yn gofyn am ddiwedd i’r glymblaid, ac er fy mod yn cytuno ar y cyfan, ni fyddai ymadael â’r glymblaid yn dod â diwedd i’r wir ddicter ymhlith nifer o aelodau a chefnogwyr y Blaid, ac ni fyddai’n newid y ffaith bod y Blaid wedi penderfynu cefnu ar lu addewidion parthed y Gymraeg mewn cyfnod o chwe mis. Nid tynnu allan o’r glymblaid sydd angen i Blaid Cymru ei wneud ond mae angen iddi ailymafael â’i chenedlaetholdeb craidd. Iawn, dim ond drwy glymbleidio â Llafur y gellir, mewn theori, ennill refferendwm (y dywed rhai o amlygion y Blaid nad oes ei angen cyn 2011), ond yn bersonol ni fyddwn yn fodlon ar hynny ar draul y Gymraeg. Saunders oedd yn iawn: mae’r iaith yn bwysicach na hunanlywodraeth. Gwell y galon gaeth na rhyddid dienaid.

Ond dw i’n teimlo’n gynyddol bod dicter tuag at Blaid Cymru yn gyffredinol. Er fy mod yn lled-gefnogol i gynlluniau Cyngor Gwynedd o ran ysgolion, er enghraifft, mae ‘na rhywbeth am yr ymgyrch i achub yr ysgolion bychain sy’n teimlo’n barhaol, sy’n teimlo fel rhwyg rhwng y Blaid Cymru barchus newydd a’r elfen mudiad protest. Mae rhywbeth yn fy mêr yn dweud wrthyf nad lleol mo’r anfodlonrwydd, ac er y taerir yn wahanol, bod elfen gref gwrth-Plaid Cymru yn perthyn i’r mudiad. Ond wn i ddim, teimlad yn unig yw hwnnw.

Mae’n drist nad oes i Blaid Cymru bellach Gwynfor neu Lewis Valentine neu DJ Williams bellach; Hywel Teifi daw agosaf at y rheini, ac mae gen i barch at Hywel Teifi. Mae’n genedlaetholwr go iawn, mae’r Blaid o hyd yn llawn cenedlaetholwyr. Dyna pan fues yn aelod, a dyna pam adawais.

Dim ots. Dw i’m yn credu y gwnaf flogio mwy am y sefyllfa mwy, mae o jyst yn rhy ddigalon. Ac un cenedlaetholwr ydw i, ac nid colled trwm mo fy mhleidlais i'r Blaid. Ond mae rhwyg yn y mudiad cenedlaethol - a phroffwydaf fan hyn y bydd yn un dwfn iawn.


Hogia bach, mai ar ben arnom.

giovedì, febbraio 14, 2008

Y Sahara a fi (ddim rili yn deitl addas)

Mae bowlio yn un o’r pethau hynny mewn bywyd lle y byddaf yn cael dechrau da ac mi aiff pethau i’r diawl yn fuan wedi’r pedwerydd bowliad. Felly ydoedd neithiwr, ond mi gurais Lowri Dwd yn y Bae, sef fy unig nod mewn bywyd. Yn anffodus iawn, os mai curo Lowri Dwd ydi eich unig nod mewn bywyd yna waeth i chi saethu eich hun yn gelain ar unwaith. Mae’r diffyg uchelgais yn hynny o beth yn echrydus.

Hen beth sych ‘di ‘nialwch.

Mi ddylwn wybod. Gwn nad Myfi ydi’r person mwyaf uchelgeisiol, anturus na chyffredinol hyddysg yn ffyrdd y byd, ond dw i ‘di reidio camel yn yr anialwch. Doeddech chi’m yn gwybod hynny, nag oeddech? Hah! Hogyn bach syml o Rachub wedi bod ben camal yn y Sahara, coeliwch chi fyth! (A thra fy mod ar y pwnc dw i’n adnabod rhywun o’r enw Meleri sy’n edrych fel camel).

Mae natur yn fy rhyfeddu. Erioed ers y bûm yn chwarae efo pryfaid genwair yng ngardd Nain yn fachgen bach (dw i dal yn fach) a thynnu coesau dadi longlegs (pam MAE plant ifanc i gyd yn gwneud hynny dudwch?) mae ‘na ryw angerdd mawr am fywyd gwyllt gennyf, er mai anifeiliaid fferm ydi’r rhai mwyaf cŵl yn hawdd (O.N. personol: syniad am ffilm fasweddol Gymraeg da - Triawd y Buarth. CWAC CWAC!). Y grwpiau anifeiliaid mwyaf diddorol:

  1. Pryfaid (sef insects) a rhyw bethau bach annifyr fel pryfaid cop. Dydi pryfaid cop ddim yn insects, cofiwch, ond maen nhw’n dda.
  2. Ymlusgiaid (Dyfed a Ceren)
  3. Cramenogion (sef crustaceans - dachi wir angen gloywi eich Cymraeg, wchi) a Molwsgiaid
  4. Pysgod
  5. Amffibiaid, megis y Salamander Sleimllyd, sy’n swnio’n beth da i roi ar dy dalcen mewn tywydd poeth
  6. Bolgodogs (marsiwpials ... ) – o bosib y grŵp anifeiliaid mwyaf dibwynt
  7. Mamaliaid (anodd – mwncwns a llewod yn crap, ond da ‘di buwch ‘fyd)
  8. Adar ('blaw fflamingos). Casáu ffecin adar.
  9. Coral (waeth i mi roi o’n Susnag neu byddwch chi’m callach). Dw i’m yn cofio os mae’r rhain yn cyfri fel anifeiliaid neu blanhigion. Dydi planhigion DDIM yn ddiddorol (O.N. - paid mynd i’r Ardd Fotaneg, mae’n edrych yn crap, £2m yn well off neu ddim)