mercoledì, gennaio 31, 2007

Cyffro

Geshi bosib y diwrnod mwyaf cyffrous yn fy mywyd i ddydd Llun. Roeddwn i'n cyfieithu rhyw hysbysiad gorchymyn ac roedd dyn bach a'i wraig yn byw mewn chalet bren yn Ngwynedd rhywle a'r Parc Cenedlaethol eisiau eu symud. 3,000 o eiriau o gyffro llwyr ydoedd wrth i mi weiddi'n groch wrth gyfieithu ymlaen drostynt, a fe ges i'r rhyddhad mwyaf erioed pan cefais weld eu bod nhw'n cael byw yno am 3 mlynedd wedi'r cwbl.

Nofel gorau'r byd ydoedd - i'r Arolygiaeth Gynllunio. Dw i'm yn licio nhw, dydyn nhw byth yn dweud diolch am ddim byd.

martedì, gennaio 30, 2007

Brecwastiaeth

Cawsom frecwast i’w bwyta.
Darn o dost yn dyst
Ein bod wedi mynnu’i menynu.

Cawsom sirial, o ddiwrnod i
Ddiwrnod ac ymdrochi’n
Ein Coco Pops ni ein hunain.

A chawsom laeth, er na cheisiem hi,
oherwydd bod ei blas wedi mynd eisioes
a’i sgin anniddig ar ei ucheloedd.

Troesom ein cegin yn simdde o dân
A lledu jam a marjarîn cadarn
Lle nad oedd llwy.
Troesom ein bwytle i goginio estronfwyd
Heb ystyr i’n harfer.
Muesli i ddynion
A fethant dro’r toster.
A throesom laeth y siopau
Yn Skimmed ein cywilydd ni.

Ystyriwch, a oes hysbyseb
A ddwed y gwirionedd hwn:
Gwell crempog na gwarth llwgu
A’n paned yw ein heinioes ni.

lunedì, gennaio 22, 2007

Oerwynt gerwin

Mae hi’n gythreulig o oer yng Nghaerdydd heddiw. Fydda i ddim yn un sy’n hoff o’r tywydd poeth – dydw i ddim yn licio mynd am wyliau i wledydd poeth. Mae’n gas gen i dorheulo, mae’n gas gen i nofio a mae’n gas gen i lan y môr. Ond mae hi’n ffiaidd heddiw. Dw i wedi rhewi’n stond yn cerdded adref o gwaith, ac mi rewais amser cinio wrth mynd i nôl brechdan.

Serch hynny, mae bywyd yn dda; ond dw i’n flinedig heddiw ar ôl diwrnod o gyfieithu caled a dwys am bob math o bethau. Ond dw i’n hoffi cyfieithu; ro’n i’n hoff ohono’n y brifysgol ac yn Dyffryn Ogwen cyn hynny. Blynyddoedd maith yn ôl.

Llawn fwriadaf heno felly ddiogi. Er, dydi diogi yn y nos ddim yn beth diddorol i’w gwneud. Y drefn arferol yw Neighbours, Simpsons, Hollyoaks, Emmerdale, Coronation Street, Eastenders/Pobol Y Cwm ac unrhyw beth arall sydd ar y teledu tan tua 11. Dydyn ni byth yn gwneud dim, fel mynd am beint bach slei fin nos. Sy’n biti oherwydd dw i’n hoff o beint bach slei.

Ond ni af. Diogaf. Ymlaciaf. Cysgaf.

domenica, gennaio 21, 2007

Canfyddiad o naws Cwrw

Prin y cefais ddiwrnod da ddoe. Wedi i mi a Lowri Dwd fynd i dre gwnes fawr o ddim, ond mynd am y gawod a gwneud fy ngwallt yn ddel i gyd a rhoi crys newydd ar. A del o’n i ‘fyd, megis blodyn cyntaf y gwanwyn.

Aeth Ceren a mi ar dro i siop wedyn, a phenderfynu trio ryw bethau newydd i yfed. Fe af drwy’r tair peth. Yn gyntaf roedd botel o win coch ffiaidd (yr un); a dywedyd y gwir fe gytunem mai dyma’r tro cyntaf erioed i’r un ohonom fethu ag yfed gwin coch. Minnau’n sicr; dw i wrth fy modd efo fy ngwin coch.

Yn ail, Christmas Pudding Wine, a oedd yn edrych fel gwin coch mewn potel denau ond gwin gwyn ydoedd. Ac mae’n gas gen i win gwyn achos mae o’n actiwli blasu fel grawnwin pydredig. Roedd hwnnw’n waeth na’r gwin coch. Ond roedd canfyddiad.

Ar silff y siop gorweddai fotel pinc (a dweud y gwir y lliw pinc a wnaeth imi fynd amdani’n gyntaf - dim ond oherwydd nad ydw i erioed wedi yfed allan o botel binc o’r blaen), ac arno dywedai Cwrw Mafonen (neu Rasperry Beer, ys ddywedai’r botel yn fanwl gywir) o Wlad Belg, sef o bosib y wlad fwyaf dibwynt yn hanes cenhedloedd; ond maen nhw’n gallu gwneud Cwrw Mafonen eithriadol. Mi es i’n ôl i’r siop i brynu mwy ar ôl, ac am 10% roedd o’n hawdd hynod yfed.

Ond nis feddwais. A rŵan mae Gloria Hunniford ar y teledu a dw i’n ddigalon o’r herwydd.

sabato, gennaio 20, 2007

Yfad iaaa

Aeth pobl gwaith allan am ddrinc neithiwr. Tro cyntaf imi erioed fynd allan efo pobl dw i’n gweithio efo. Mwynheais yn fawr, ond ro’n i’n feddw ofnadwy erbyn diwedd y nos ac mi es i ffwrdd heb ddweud wrth neb (sy’n rhywbeth dw i’n neud yn aml yn fy chwildod). Ymddiheura’ i ddydd Llun.

Aeth Lowri Dwd a mi i dre heddiw ac o’n i’n falch achos dw i’n wedi dal fyny efo Lowri ers ychydig. Dw i’m yn dda iawn ar ddal fyny efo pobl, a dylwn i wneud achos dw i’n teimlo fy mod i’n colli cysylltiad efo pobl. Hithau a theimlodd felly hefyd. Eniwe, mae gen i gur pen ond dw i’n mynd allan heno doed a ddêl.

mercoledì, gennaio 17, 2007

Y Galon Alarus

Gwna i’m smalio fod gen i ryw lawer i ddweud wrthoch chi, oni bai fod y gwaith yn eitha’ da a dw i wedi synnu cymaint faint fy mod i wedi colli trefn diwrnod gwaith. Smaliwn i ddim ychwaith nad oes gronyn o hiraeth gennyf am addysgu. Mae ‘na gornel fechan o ‘nghalon wedi edifar ac yn galaru, ac mae’n boenus. Ond amhara hwnnw ddim ar fy mhenderfyniad bellach, na wnaiff? Casáu'r holl gynllunio a dod adref a gorfod gweithio oeddwn i, wedi’r cwbl.

Nid hynny mohoni, chwaith. Cwrs oedd hwnnw. Hwn ydi’r byd go iawn; ac er holl bwysau addysg (yn enwedig cwrs TAR) mae ‘na rhywbeth cyfyng dyma-dechrau-fywyd math o beth am hwn. Dydi hynny ddim yn deimlad braf yn y lleiaf.

A dyweda’ i wrthoch chi be wnaeth imi sylweddoli hynny; dw i’n gallu sbotio myfyrwyr. Fydda i’n dueddol o gael fy nghinio yn Cathays, ac mae myfyrwyr, er mawr loes a phrudd-der imi, yn edrych yn ieuengach na mi (er eu bod nhw’n dalach), ac yn fudur. A dydw i ddim yn jocian. Wn i paham y mae pobl yn casáu myfyrwyr: cenfigen wenwynig sy’n llosgi yn eu boliau i gael bod fatha nhw. Dyna sut dw i’n teimlo, yn bendant.

Yn dydi hi’n drist ofnadwy mai dim ond chwe mis yn ôl ddaru mi beidio â bod yn fyfyriwr (go iawn), a dw i’n dyheu’n ofnadwy am y tair blynedd a fu ddyfod eto a’m sgubo ffwrdd?

venerdì, gennaio 12, 2007

Sali, Sam a'r Daily Star

Fe ges i sioc ar y diawl y bora ‘ma wrth ddyfod lawr grisiau a gweled ar ein bwrdd gopi o’r Daily Star yno, ac erthygl a llun o Sam Tân a Sali Mali yn cael rhyw. Y peth mwyaf gwirion am hyn oll ydi, wrth gwrs, bod S4C ddim wedi clywed sôn am hwn o gwbl, er y’i rhoddwyd ar youtube mis Ebrill, ac mae hi wedi bod o gwmpas yn llawer hirach na hynny. Llongyfarchiadau am wneud penawdau cenedlaethol, XXXXX, dw i’n falch iawn ohonot!

S4C. Doniol. Fodd bynnag; mae gen i broblem. Mae fy mryd wedi bod ar wneud un o’m enwog pasta bakes heddiw, felly fe es i Lidl yn y glaw er mwyn cael rhai o’r cynhwysion (mi ga’ i ‘chydig i ginio ac wedyn ‘chydig i de. Fydda chi byth ‘di meddwl gnwued hynny nafsach, ffycars?). Dw i’n caru Lidl. Er ei bod hi’n rhad mae ‘na rywbeth i bawb yno. Dw i’n cofio cael ffrae efo howsmêt yn mynnu dylwn i’m prynu cig o’r lle achos doedd o ddim yn gig Brydeinig. Er mor dlawd ac ydw i fydda i wastad yn gwneud ymdrech i brynu cynnyrch Gymreig. Ffyc ots gen i os mae ffermwyr Lloegr yn mynd i’r diawl. Dw i’n gwneud fy rhan.

Pethau i wneud, pobl i’w gweld. Ta ra!

mercoledì, gennaio 10, 2007

Atgofion lled-feddw

Sssssh! Mae hi'n ugain munud wedi saith yn y bore a dw i 'di bod fyny ers chwech. Mae'r adeilad yn unig, efo Ellen yn cysgu a Haydn hefyd (er bydd Ellen fyny mewn 'chydig mi dybiaf). Pam ydw i'n ysgrifennu blog yn y bore bach, felly?

Wel dw i 'di deffro achos o'n i'n yfad nithiwr. Aethon ni gyda'n gilydd i Sainsburys (fel y byddwn yn gwneud weithiau, yn deulu bach disffynctional fel ydym) a fe brynais i ugain Bud. Fydda i'n licio'n Budweiser, mae'n rhaid imi gyfaddef, er mai'r poteli bychain 207ml oeddent. Ddaru mi yfad 16 ohonynt (o edrych ar y ffrij bora 'ma) neithiwr a phan dw i'n yfed dw i'n cael drwmgwsg a deffro'n fuan wedi hynny.

Dw i'n credu be' wna' i ydi mynd lawr a gwneud brecwast go iawn imi'n hun o wy a bacwn a ffa pob a thost a sudd oren. Dim sosijys. Dw i'm yn licio sosij. Er gwaetha' be ma' pawb yn feddwl.