Visualizzazione post con etichetta y gogledd. Mostra tutti i post
Visualizzazione post con etichetta y gogledd. Mostra tutti i post

martedì, settembre 20, 2016

Henffych Hydref

Mi fûm innau’n rhy hwyr yn dyfod yma i ffarwelio â gwennol olaf yr haf. Fe’i methais. Mae hi wedi mynd, ond wn i ddim i le; tro eraill yng ngwledydd yr haul parhaus i’w mwynhau yw. Ond hyd yn oed hebddi y mae hydref yma, mi wn. Gall dyn ei deimlo cyn ei weled, gan y meinwynt diog sy’n llithro draw o’r Carneddau a’r Glyderau, hwythau’n syllu arnaf gan hyfdra eu henaint, yn llai cyfeillgar nag y buont rai misoedd yn ôl. Achos maen nhw’n ei deimlo hefyd, fel y gwnaethant ei deimlo filgwaith gynt.

Dyma ddyddiau gwywo’r haul, ei gynhesrwydd wedi’i dreulio a’i ddisgleirdeb heb gynhesrwydd, heb fedru ond ag anwesu’n druenus wlith y caeau llaith hirfaith. Heddiw, mae’n rhannu’r wybren â’r lleuad – lleuad hydref sy’n gwrthod cysgu, ac ias y dydd sy’n oerach gan ei phresenoldeb. Camodd i aelwyd y dydd a’i hawlio iddi ei hun. 

Ac ymhen hir a hwyr fydd y tir glas yn ildio i’r tir llwyd. Y mae sisial y dail crimp yn fwy swnllyd a chras yn awelon hydref, a'u hangau sydd rywsut yn eu bywiogi. Meddwasant ormod ar yr haf a chloch olaf tafarn eu coeden sy’n ddi-droi’n ôl iddynt. A’r cwmwl llwyd ysgafn a charpiog, o orwel i orwel, sy’n cynnig inni gynfas rhag y gaeaf ddaw, i ni gardotwyr y llawr. 

Ydyn, gŵyr popeth fod yr haf wrthi’n gadael. Mae’n cerdded i ffwrdd yn araf, gan droi ei ben atom ambell waith fel cyfaill sydd newydd ffarwelio â chyfaill, ond heb droi’n ôl. Gŵyr y coed, gŵyr y brwyn, gŵyr y waliau cerrig di-sigl a medr dyn eu teimlo’n agosáu at ei gilydd yn un yn barod at y misoedd llwm. Holant ein hofnau ni; a welaf innau wanwyn arall? 

Mae’r mynyddoedd yn gwybod yr ateb, ond ddywedan nhw ddim wrthyf i; maen nhw’n chwerw a balch yn eu tragwyddoldeb. Fedr hydref mo’u disodli nhw, ond gallai eto gael y gorau ohonof i.

giovedì, giugno 25, 2015

Madam Chips, Caellwyngrydd ac mae Rachub yn well na Fenis

Dwi bron wedi treulio wythnos gyfan yn Rachub erbyn hyn, ar fy ngwyliau. Dwi’n dweud gwyliau, dydi o fawr o wyliau rhwng ymostwng i ofynion afresymol Nain – a dreuliodd ddiwrnod cyfan yn mynd i’w dosbarth ioga, Co-op Llanfairpwll ac yna i dŷ Anti Megan cyn sylweddoli bod ei dwy esgid hi’n rhai cwbl wahanol i’w gilydd – a phiciad i hyn a llall o lefydd. Dwi wedi bod i Walchmai ddwywaith, sy’n fwy o weithiau nag y mae hyd yn oed pobl Gwalchmai isio mynd yno.

Wrth gwrs, mae Dad yn llwyddo bod yn rhan o’r mics. Mae’n mynd yn wirion yn ei henaint. Wel, dwi’n dweud henaint; neithiwr roedden ni’n cael rhyw sgwrs am Rachub a mynegodd Dad ei fod yn ddifyr iawn clywed holl hanesion y pentref a siarad amdano ers ei eni 56 mlynedd yn ôl. Cyn i Mam ei gywiro ei fod yn 61 erbyn hyn. Felly yn amlwg mae Dad wedi dechrau ar y daith honno a wna pobl wrth heneiddio, sef ymddwyn yn iau.

A minnau’n Rachub, y mae’n amlwg mai blogiad am Rachub fydd hwn. Ro’n i yn nhŷ rhai o bobl y pentref rai diwrnodau yn ôl, a ninnau’n trafod Rachub ei hun – dachi’n gweld, nid y fi ydi’r unig berson ar y Cread sy’n licio Rachub ychydig bach yn fwy nag sy’n iach neu’n normal gwneud; perthyno’r nodwedd hon i bawb a fagwyd yma. Trafod oeddem ni pam fod pobl Rachub mor annibynnol ac unigryw, yn enwedig o’i chymharu â phentrefi eraill Dyffryn Ogwen fel Tregarth. Cafwyd ateb. Yn wahanol i ochr draw’r Dyffryn, ni fu Rachub erioed yn dir y Penrhyn gan mwyaf ac ni fu’r bobl felly dan bawen yr Arglwydd Penrhyn i’r fath raddau. Mae hyn oherwydd mai tir rhydd a gafwyd yma. Nid tir comin mo hynny – tir rhydd ydi tir y gall unrhyw un ei hawlio, allwch chi ddim gwneud hynny i dir comin. Ac felly manteisiodd pobl Rachub ar hynny a chodi tai yma.

A dyna fi wedi llwyddo cael ‘Rachub’ saith gwaith mewn i baragraff. Ond mae’r uchod yn gwneud synnwyr – Yr Achub, wrth gwrs, ydi Rachub, a thir rhydd ydi ystyr achub. Felly nid yn unig hanes ar wahân braidd y pentref sy’n gwneud ei phobl mor annibynnol (neu, yn fwy gonest, yn ddirmygus o bawb arall yn y byd), mae Rachub ei hun yn golygu ‘Tir Rhydd’. Y mae’r cliw yn yr enw.
Pan fydd Rachub yn codi, bydd pedwar ban byd yn syrthio dan ei grym.

Ddysgais i’r noson honno hefyd am ffatri go anarferol a fodolai yn y pentref ddegawdau maith yn ôl. Ffatri gocos oedd hi. Daethpwyd â chocos o Aberogwen yr holl ffordd i fyny at Rachub, sydd rai milltiroedd i ffwrdd, i gael eu canio yno. Roedd gan gemist o Pesda batent ar ryw brisyrfatuf, a gafodd ei roi efo’r cocos ar ôl eu tynnu o’r cregyn a’u berwi. Rŵan, dim ond D gesi mewn TGAU Busnes ond fedra i hyd yn oed weld anfanteision i lobio llond trol o gocos hanner ffordd i fyny mynydd i gael eu canio o safbwynt ymarferoldeb. Ta waeth, roedd yn rhaid cau’r ffatri yn y pen draw achos rhoddwyd y cocos a’r dŵr poeth i mewn i’r tuniau’n syth, gan adael twll oeri ynddynt – weithiodd hynny ddim yn aml a ffrwydrodd digonedd ohonynt, i’r fath raddau y gwnaeth hyd yn oed bobl arw llethrau Moel Faban roi’r gorau iddi.

Ond roedd gennym ni ambell beth yma ers talwm – cyn fy oes i. Siop sglodion oedd un. Roedd yna ddyn o Rachub, a symudodd i ffwrdd flynyddoedd yn ôl, a ddaliodd ddig yn erbyn yr Almaenwyr byth ers iddyn nhw ollwng bom ar siop jips Rachub yn ystod y rhyfel.  Ond wedi hynny roedd yna siop jips go arbennig i’w chael yma, un sydd wedi fy rhyfeddu i ers imi gyntaf glywed amdani. Wn i ddim a oedd enw ar y siop ei hun, ond yr oedd hi’n un fudr – y futraf efallai – a chafodd ei rhedeg gan ddynes a adnabuwyd gan yr enw anhygoel braidd, Madam Chips. Buasai fy Nain Eidalaidd yn sôn amdani ddigon – ‘she was a filthy woman’ – yn smygu wrth ffrio’r sglodion mewn hen fraster. Wrth gwrs, âi Dad yno’n aml, a haerid mai’r sglodion budron hynny oedd y rhai gorau a gafwyd erioed.

Mi ddysgais rhywbeth od echdoe hefyd – mae’n od achos dwi’n un i freuddwydio’n eithaf aml.  Yn aml dwi’n breuddwydio am Rachub, ond dydi hi ddim yn Rachub arferol achos weithiau mae yna farchnad dan do, ac unwaith roedd yna siop Cadwalader’s wrth cae swings do’n i erioed wedi’i gweld o’r blaen.

Ond yn ddi-ffael mae yna nodwedd ryfedd ymhob breuddwyd. Ar Ffordd y Mynydd – stryd uchaf ein huchel bentref – mae yna dafarn ym myd breuddwydion o’r enw'r Caellwyngrydd. Mi af i mewn yno weithiau, un dywyll a distaw ydi hi. Ro’n i’n gwybod yr enw Caellwyngrydd cofiwch ond ddim efo syniad lle roedd o. Mi ydach chi’n gwybod lle mae hyn yn mynd. Caellwyngrydd ydi’r hen enw ar dopiau Rachub. Nid yn unig hynny, ond roedd fy nheulu (neu berthnasau sy’n rhan o’r llwyth fyddai’n well disgrifiad) yn arfer dominyddu’r ardal honno, fel rhyw faffia lleol.  Pam y byddwn i’n breuddwydio’r fath beth, wn i ddim. Efallai fod yna wybodaeth etifeddol goll yng nghefn meddwl pawb.

Do wir, dwi wedi cael wythnos hynod o blwyfol. Tydw i ddim isho mynd yn ôl i Gaerdydd ddydd Sul achos mae Rachub yn grêt – i’m dyfynnu fy hun wrth gyfaill unwaith; Mae Rachub yn well na Fenis. Sydd, efallai, yn mynd â phlwyfoldeb bach yn rhy bell.

Ond, wrth gwrs, mae Rachub yn well na Fenis.
Rhywle arall drwy lygada rhywun o Rachub. Swiflwch.

lunedì, gennaio 06, 2014

Caerdydd vs. Hogyn o Rachub

Ni fûm erioed yn betrus o gyhoeddi blog o'r blaen ond mi ydw i rywfaint y tro hwn. Ond weithiau mae'n rhaid i rywun ei fynegi ei hun, ac mae hyn wedi bod yn dod ers sbel.

Fe sylwch fy mod i yn cael ambell i ddig ar Gaerdydd yn eithaf aml. Efallai ei fod yn bryd imi gyfiawnhau fy hun, achos tydi Caerdydd ddim rili yn haeddu hynny. Y mae hi’n ddinas wych, a dwi wedi bod yn ffodus treulio fy ieuenctid yno’n camfihafio. Na, tydw i ddim yn uniaethu efo’r lle. Tydw i ddim yn “caru’r” lle. Ond mae o’n lle gwych, ac mae’n haeddu cael ei gydnabod felly.

Does ‘na fawr o amheuaeth gen i, er fy mod wrth fy modd â’r ddinas, fod lwmp go dda o’m hagwedd at y ddinas yn deillio o’r ffaith fy mod i jyst isio symud oddi yno, a dychwelyd i’r Gogledd, a fy mod i raddau’n chwerw am fy mod i’n aflwyddiannus yn gwneud hyd yma.

Mae rhesymau go bendant gen i am symud i’r Gogledd – rywsut, mae o jyst yn teimlo fel y peth “iawn” i’w wneud. Debyg fod ‘na elfen o euogrwydd fy mod i yng Nghaerdydd yn mwynhau gormod yn hytrach na chyfrannu at yr ardal lle’m magwyd. A soniais o’r blaen am berthyn, plentyn hiraeth.

Ond yn y cyfamser, o weld f’ardal i’n dirywio, mewn nifer o ffyrdd ond yn benodol iawn yn ieithyddol, fedra i ddim ond â theimlo mai yma y dylwn fod. Tydw i ddim yn meddwl y byddwn i’n edifar dychwelyd chwaith (o ddewis y swydd/amser cywir). Wn i ddim neb sydd wedi gadael Caerdydd am eu hadref nhw ac edifar; y mae pob un ohonynt yn teimlo i’r carn iddynt wneud y peth iawn, ac yn dweud yn ddieithriad nad a symudent yn ôl i’r brifddinas fyth. A phan ydach chi’n treulio amser i ffwrdd o Gaerdydd allwch chi weld agwedd wahanol arni nag os ydych chi yn y swigen: y mae rhywbeth ffals amdani. Mae’n arwynebol: mae’n ddiawledig o anodd esbonio, ond dwi’n meddwl y bydd pawb sydd naill ai wedi symud o Gaerdydd, neu sy’n mynd yno’n aml am ba reswm bynnag, yn dallt yr hyn sy gen i wrth ddweud hynny.

Ta waeth, amlinellaf y ddau reswm mae Caerdydd – er gwaethaf popeth – yn mynd ar fy nerfau. Ac er mwyn ceisio bod yn gryno, mi hepgoraf CF1.

Y mae’r cyntaf yn un syml: pethau i’w gwneud. Dwi’n meddwl ei bod yn hilariws cynifer o bobl (nid dim ond y rhai sy’n byw yng Nghaerdydd, gyda llaw) yn dweud bod ‘na llwyth i’w wneud yng Nghaerdydd ond ‘sdim byd ‘adref’. Dyma i chwi’r bobl sy’n mynd i’r un llefydd bob wythnos, yn cwrdd â’r un bobl o hyd, ac yn gwneud yr un pethau o hyd, yn gylch mawr o undonedd.

Dyma’r bobl sy’n cymdeithasu efo pobl sydd jyst fel nhw, achos mewn dinas mi allwch ddod o hyd i bobl sy’n debyg i chi – yn wahanol i lefydd mwy cefn gwlad, lle mae’ch ffrindiau yn eithaf tebygol o fod yn wahanol iawn i’w gilydd jyst achos ‘na nhw sydd yno (sydd, os ca’i ddweud, ddim yn eu gwneud yn llai o ffrindiau). A dyma’r bobl sydd â’r haerllugrwydd i alw Cymry Cymraeg cefn gwlad yn ‘gul’. “Symudish i ffwrdd achos bod o’n gul, mae Caerdydd lot mwy agored”.

Reit ... ac wrth gwrs mi ddywedan nhw bethau fel hyn heb feddwl eu bod nhw efallai fymryn yn sarhaus i’r Cymry bach syml ‘na yn y gogledd a’r gorllewin.

Yr ail ydi’r Gymraeg; ac i raddau'r Cymry Cymraeg sydd yno. Nid pawb o bell ffordd - taswn i’n mynd ati rŵan i wneud ymosodiad eang ar holl Gymry Cymraeg y ddinas fydda gen i ddim ffrindiau, yn llythrennol - ond mae ‘na elfen gref (a mentraf ddweud dosbarth canol, sydd ddim yn gyhuddiad dwi’n mwynhau ei luchio o gwmpas) sydd mor, mor falch o Gymreictod newydd Caerdydd. “O,” medda nhw, “fyddwch chi’n clywed Cymraeg ymhobman yng Nghaerdydd y dyddiau hyn”. Peidiwch â chredu neb sy’n dweud hyn, maen nhw’n llawn shit. Mae’n wir y clywch Gymraeg mewn rhai ardaloedd penodol - os nad penodol iawn - o Gaerdydd. Ac mae’n wir fod ‘na rwydwaith Cymraeg cryf a bywiog yn y ddinas. Ond rhwydwaith ydi o, nid cymuned, ac mae hynny’n wahaniaeth pwysig. Cymuned Gymraeg nid oes i Gaerdydd.

Ac mae’r pwyslais yma ar y dyfodol – mae ‘na ddyfodol i’r iaith yng Nghaerdydd – sy'n fy mlino ac yn fy nhristáu. O, am gryfder fyddai gennym yn yr hen gaerau pe gallasem fod wedi aros yn yr hen fröydd. Tydi’r economi ddim am ganiatáu i hynny ddigwydd am rŵan, ond mae cynifer ohonom o Gaerdydd o ardaloedd mwy gwledig, mwy Cymraeg, a allai wneud cymaint o wahaniaeth yn byw yn ein bröydd genedigol. Ac mae lot fawr, fawr isio gwneud hynny, ond heb fodd i wneud hynny, alla i sicrhau hynny i chi.

Ond dyma sy’n fy ngwylltio, y sôn am ‘gryfder’ yr iaith yn y ddinas.

11%.

Dyna gryfder y Gymraeg yng Nghaerdydd. Ydi pethau mor ddu arnom fel bod 11% yn rhywbeth i’w ddathlu? Ydi cynnydd bach o 4,000 o siaradwyr (1%!) ym mhrifddinas Cymru rhwng 2001-11 yn rhywbeth i’w groesawu, neu yn rhywbeth i’w gywilyddio ynddo? Faint o’r 36,000 sy’n honni siarad Cymraeg sy’n byw eu bywydau gan mwyaf yn yr iaith, neu'r â’r iaith yn brif iaith iddynt? Ddim nhw i gyd. Fyddai awgrymu hanner yn deg?

Dyma bobl sy'n dweud bod 'na fwy o Gymry Cymraeg yng Nghaerdydd nag sydd yng Ngheredigion bellach fel petai hynny'n beth da!

Ac felly mae’n gwawrio ar rywun yr hyn ydi’r Cymry Cymraeg yng Nghaerdydd. Mae cynifer yn licio meddwl eu bod nhw’n gyfran barchus o boblogaeth y brifddinas, ar gynnydd o ran maint a hyder. Ond ddim dyna ydyn nhw. Lleiafrif dibwys, amhwysig ydyn nhw – neu, mi ddylwn i ddweud, ydym ni. A dwi’n ymwybodol iawn o hynny – yng Nghaerdydd dwi’n rhan o leiafrif pitw. Oes ots os ydyw’n lleiafrif prysur, gweithgar? I raddau (bach). Ac mae'r hyder  hwnnw'n aml yn gallu cael ei gyfleu fel hunanbwysigrwydd. Ta waeth...

11%. Mae hynny’n llai na Sir y Fflint. Go figure.

Ac os dyna’r ‘dyfodol’ disglair y mae rhai’n ei addo, pan gyfeiriant at ‘ffyniant’ y Gymraeg yn y brifddinas - mai hwnnw ydi'r peth y dylem ymhyderu ynddo, yn obaith i Gymru gyfan - mi gânt ei gadw. Byddai’n well gen i farwolaeth yr iaith na’n bod yn gweld y sefyllfa druenus pan fydd y Cymry Cymraeg yn 11% yng Ngwynedd neu Fôn ... neu hyd yn oed yn Nyfed o ran hynny. A dwi’n meddwl, pan ddaw ati, dyna sy’n fy nghorddi fwyaf. Mae llawer o Gymry Cymraeg Caerdydd, boed yn frodorion y ddinas neu’n bobl sydd wedi symud yno, yn meddwl ei bod yn esiampl dda o ran y Gymraeg. Dwi’n meddwl bod Caerdydd, pan mae’n dod ati, jyst yn dangos pa mor erchyll o ymylol y gallasai'r Cymry Cymraeg fod yn eu gwlad eu hunain un diwrnod.

Ond waeth i mi orffen ar nodyn cadarnhaol ac ategu’r hyn a ddywedais i ddechrau. Mae Caerdydd yn ffantastig – dwi ddim yn beio neb am fod isio byw yno, yn enwedig pan fônt yn ifanc ac isio gwneud drygioni. Dwi wedi treulio blynyddoedd hapusaf fy mywyd yn yr hen ddinas ddrwg ‘na. Ond o godi ‘mhen o’r swigen, mi alla i weld yr ochr arall, lai dymunol, iddi, ac yn sicr byddwn i byth bythoedd isio i’r gogledd na’r gorllewin ei hefelychu, achos yn y bôn, mae un Caerdydd yn ddigon.
 

lunedì, marzo 28, 2011

Y Fwyaren Ddu

Yn ôl pob tebyg mi ddewisais y penwythnos anghywir i fynd adra, ond hynny wnes. Bu’n fwriad gwylio’r gêm yn Pesda efo Sion Bryn Eithin, ac mi aethon ni lawr i’r Bwl, dim ond i brynu peint a sylwi bod y gêm ddim yn cael ei dangos yno. Nac yn unman arall yn stryd, dim ond yn Royal Oak yn Rachub. Erbyn i mi yfed fy mheint a cherad i fyny dim ond tua chwarter awr oedd ar ôl, ac a minnau’n ymwybodol o’r sgôr mynd adra wnes i bwdu, cyn ailfentro i lawr i stryd gyda’r nos. Da ‘di Pesda, ond yn amlwg mae Rachub yn lle llawer mwy cyfoes gan ddarparu Sky Sports 1.

Ta waeth, ar ôl clywed Nain yn absoliwtli malu cachu llwyr fora Sadwrn, mi benderfynais wrth geisio rhoi fy meddwl i arall le ei bod yn amser cael contract efo’r ffôn lôn. Rŵan, dwi byth wedi cael hyn, pay-as-you-go fu gen i erioed, a hynny oherwydd cymysgfa o “dwi’m isho” a “dwi’m angen” ond mae ‘di bod yn ddrud yn ddiweddar felly ffwrdd â mi i Fangor fora Sul yn byrpio cwrw nos Sadwrn i siop Orange i gael contract.

Os oes angen cyngor arnoch i fod yn brynwr cyfrwys, peidiwch â chysylltu â mi. ‘Sgen i fawr o glem efo prisiau giamocs fel gliniaduron, ffonau na dim, achos dydw i ddim yn ymddiddori ynddynt llawer – nes fy mod i’n cael un fy hun, afraid dweud, dwi fel hogyn bach efo tegan tractor newydd wedyn. Beth brynish yn y diwadd oedd Blackberry.

Wel myn ffwc am beth cymhleth – dwi’n styc efo fo am ddwy flynadd rŵan ‘fyd. Ta waeth de, mi gymrodd bron hanner awr i mi gael gwared o predictive text, a dydi’r rhif dal heb newid i’m hen rif.

Y bonws mawr wrth gwrs ydi bod yswiriant colli arno. Felly rŵan ga’i feddwi cymaint dwisho, pryd dwisho, a gwbod y bydd ‘na ffôn arall yn dod ar ei union drwy’r post am ddim. Bydd hynny’n siŵr o safio ffortiwn bach i’r hogyn cyfrwys o Rachub, bydd wir.

mercoledì, febbraio 16, 2011

Penderfyniad

Y mae lot, a dim, i sgwennu amdano ar y funud. Y refferendwm fyddai un ond mae’r diffyg cyffro yn eithaf effeithio arna’ i gystal â neb arall dybiwn i. A dydw i ddim isho dweud wrtho chi le roddodd Dr Chang ei bys ddoe, er y tybiaf fod yr amwyster yn gliw digonol.

Dwi’n ei heglu am y Gogladd y penwsos hwn, y tro cyntaf ers Nadolig. Ydw i’n edrych ymlaen? Ydw a nac ydw. Gadewch i mi geisio egluro.

Fis diwethaf, fe gefais benwythnos yn Aberystwyth – i feddwi, wrth gwrs, swni byth, byth yn mynd ar gyfyl Aberystwyth heb feddwi. Ond nid arhosem yn Aberystwyth ei hun eithr pentref Penrhyncoch, sydd yng nghefn gwlad. Fora Sul mi grwydrais o amgylch y lle am tua awr. Lle bach digon delfrydol, meddwn i. Rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n licio Ceredigion yn fawr – mae Ceredigion yn lle prydferth.

Ond fe ymwelwyd ag Aber ar yr adeg anghywir o ran hynny. Mi wnes fwynhau o waelod calon fod yn y Gogledd dros y Nadolig – efallai’n fwy na’r arfer, ac ar ôl y Nadolig a rhwng Aberystwyth roedd ‘na ryw deimlad gwahanol wedi fy nghydio, sydd dal i wneud, ac nid hiraeth mohono. Y mae’n debycach i gymysgedd o angen ac ysfa â’i holl fryd ar adael Caerdydd a mynd adra.

Rŵan, dwi wedi teimlo rhywbeth tebyg sawl gwaith wrth gwrs. Ond, a minnau ddim yn gallu egluro’n iawn, mae’n wahanol y tro ‘ma. Dydi o ddim yn fater o ‘dwisho mynd nôl i’r Gogladd’, mae’n fater o ‘mae’n rhaid i mi fynd nôl’.

Braf fyddai cael gwneud hynny y funud hon, ond alla i ddim wrth gwrs. Maesho swydd arna’ i yn gynta. Wel, fe ŵyr pawb nad oes swyddi i’w cael. Ac mae Mam erioed wedi dweud na chaf fynd i fyw adra heb gael swydd yn gyntaf. Nid fy mod i isho byw efo Mam a Dad. Gwerthu’r tŷ yng Nghaerdydd a phrynu un yn Nyffryn Ogwen – neu’n fwy penodol Rachub, achos ‘does lle arall i mi yn y byd mawr crwn – dyna bellach fy nhynged.

Mater o amser ydi hi felly nes i mi symud nôl, a dwi’n teimlo hynny ym mêr fy esgyrn, ac mae dod i benderfyniad am y peth wedi rhoi o leiaf ryw fath o dawelwch meddwl i fi rŵan. Ew, dwi’n eithaf edrych ‘mlaen.

mercoledì, febbraio 13, 2008

Rhestr Fer: Pethau Nad Wyf nac Eisiau Deall

Henffych ffieiddiaid, a diawl rydych chi’n ffiaidd heddiw! Rydw i, ar y llaw arall, yn golofn wen o hylendid a dilygredd.

Serch hyn, dw i’n rybish. Mae’r bwriad gennyf o hyd gorffen y stori fer ‘ma dw i’n ei hysgrifennu, cyn symud ymlaen i’r un nesaf, ac mae gen i ddigonedd o syniadau. Mae rhywbeth arall yn dod i’r fei o hyd, fel gorfod nôl bwyd neu fynd allan neu wylio rhaglen angenrheidiol neu lanhau’r tŷ. Pair hyn i mi feddwl fy mod yn ddiog, ond am y ffaith bod yn rhaid gwneud y pethau uchod cyn gweld os ydw i ‘di cael neges Facebook (sydd fel arfer gan Dyfed neu Lowri Dwd). Angen blaenoriaethu dw i.

Prin fis yn ôl roeddwn yn y Gogledd ac yno y byddwn drachefn yr hwn benwythnos, yng nghanol y mynyddoedd hynafol a’r dyfroedd llithrig, llon. Ac, yn anffodus, bydd yn rhaid i mi biciad draw i Sir Fôn hefyd, ond rhydd i mi fy ewyllys, a minnau’n unigolyn dewr mi groesaf y bont, a dal fy nhrwyn a’m hanadl am hynny o amser y bydded.

#Rhestr Fer: Pethau Nad Wyf nac Eisiau Deall

Y System Imiwnedd
Ffarmwrs Hwntw yn Siarad

Pobl sy’n Meddwl fod Mwncwns yn Glyfar