Visualizzazione post con etichetta llafur. Mostra tutti i post
Visualizzazione post con etichetta llafur. Mostra tutti i post

mercoledì, luglio 30, 2014

Clymblaid 2016: rhaid dweud na

Aeth rhywbeth ‘dan y radar’ wythnos diwethaf - ddim yn rhywbeth mawr ond mae’n werth ei drafod. Stori yn y Western Mail ydoedd, gyda Jocelyn Davies AC (y cyn-Ddirprwy Weinidog Tai yn Llywodraeth Cymru’n Un)  yn dweud, heb unrhyw amwyster, y byddai’n llwyr gefnogi Plaid Cymru yn mynd i glymblaid arall â Llafur ar ôl etholiadau 2016. Cafodd y stori ei thrydar gan Adam Price, sy’n ensynio’i gefnogaeth yntau i’r syniad (a gwyddom pa mor ddylanwadol ydi Adam Price yn y Blaid), a does fawr ddim amheuaeth fod yna bobl yn y Blaid sydd hefyd yn gefnogol i’r syniad (Dafydd Êl yn un amlwg arall).

Fel y gwyddoch, tydw i ddim yn aelod o’r Blaid ond dwi’n gefnogol iddi ar y cyfan. Ond mae’r syniad o ailgodi Cymru’n Un yn gyrru ias oer lawr fy nghefn, am fwy nag un rheswm – ac mae gwybod bod ‘na bobl ddylanwadol yn y Blaid yn ei chefnogi ond yn ategu’r ias honno.

Gawn ni un peth o’r ffordd. Roedd Cymru’n Un, ar y cyfan, yn llwyddiannus. Does ‘na ddim amheuaeth mai’r llywodraeth honno oedd y fwyaf effeithiol a welsai’r Cynulliad erioed. Ac o weld pa mor bathetig ydi’r llywodraeth bresennol, allwch chi ddim ond â dod i’r casgliad mai mewnbwn Plaid Cymru fu’n gyfrifol am hynny i raddau helaeth. Serch hynny, roedd 2011 yr etholiad gwaethaf a gafodd y Blaid erioed yn y Cynulliad. Tydw i ddim yn siŵr a ydi pawb yn y Blaid yn deall yn llwyr pam.

Ni wnawn i sôn am y ffaith fod y blaid leiaf mewn clymblaid yn tueddu i gael ei niweidio na hinsawdd wleidyddol 2011 yma – mi wn yn iawn fod rheini’n ffactorau yn yr etholiad hwnnw ac maent wedi'u hen ddadansoddi a'u trafod.

Ond dwi’n meddwl ei bod ‘na ffactor symlach ar waith. Tydi nifer o’r bobl sydd o blaid ailgodi Cymru’n Un efallai ddim yn deall natur carfan helaeth o bleidlais Plaid Cymru - dwi'n dweud deall ond bod yn fwriadol ddall i'r peth dwi'n ei olygu mewn difrif. Ydi, mae hi’n bleidlais dros y Blaid ei hun, ond mae hi’n rhywbeth arall, o'r cadarnleoedd i'r Cymoedd – mae hi’n bleidlais wrth-Lafur. Dydi pobl ddim yn pleidleisio dros y Blaid er mwyn iddi gadw Llafur mewn grym, maen nhw’n pleidleisio drosti am eu bod nhw am ddod â’r gyfundrefn unbleidiol sydd ohoni yng Nghymru i ben. Ni waeth beth a wnaeth y Blaid oedd yn dda rhwng 2007 a 2011, mentrwn i ddweud y collodd bleidleisiau yn 2011 achos, yn syml, fod elfen gref o Vote Plaid, Get Labour, ac roedd hynny i’w weld hyd yn oed yn ei chadarnleoedd, ar ffurf apathi yn fwy nag ymchwydd o gefnogaeth i neb arall.

Yn y bôn, daw hynny â ni at Blaid Cymru ei hun a’r hyn y mae hi ei eisiau. Ai setlo ar ddylanwadu ar Lafur drwy glymbleidio â hi bob hyn a hyn, ynteu ei disodli?

Os yr ail, wnaiff hi fyth mo hyn drwy glymbleidio â Llafur. Byth. Dim gobaith caneri. A fu erioed achos o’r blaid leiaf mewn clymblaid yn mynd ati i ddisodli’r blaid fwyaf? Achos, er gwaetha effeithlonrwydd Cymru’n Un, roedd yna’n sicr elfen o bropio Llafur i fyny pan ddaethpwyd i gytundeb â nhw, a hynny ar adeg yr oedd Llafur mewn gwendid. Mae’n bosib i Gymru’n Un fod yn achubiaeth fechan i Lafur i’r graddau hynny.

Os dylanwadu ar Lafur drwy fod y partner lleiaf mewn clymblaid er mwyn gallu cyflwyno rhai polisïau ydi’r dewis arall, yna waeth i Blaid Cymru roi’r ffidil yn y to. Yn etholiadol, gallai bod yn rhan o lywodraeth a arweinir gan Lafur ddifa’r Blaid, achos, yn syml, pwy arall fyddai, yn realistig, i bleidleisio drosto nad yw’n cadw Llafur mewn grym? Gan ystyried na fydd y Ceidwadwyr yn ennill etholiad Cymreig am amser hirfaith, yr ateb ydi neb. Am sefyllfa dorcalonnus.

Dwi’n coelio mai llywodraeth a arweinir gan y Blaid fyddai orau i Gymru (a hynny er gwaetha’r ffaith dwi’m yn gweld lygad yn llygad â hi ar nifer fawr o bethau). Ond hyd yn oed yn fwy na hynny, dwi’n gwbl, gwbl grediniol fod angen cyfnod o lywodraeth yng Nghymru nad yw dan arweiniad Llafur. Mae’r sefyllfa dragwyddol sydd ohoni’n un sy’n niweidiol i’n democratiaeth, ac o ystyried pa mor wirioneddol ddifrifol ydi Llafur, i Gymru ei hun.

Gwn fod cymariaethau cyson â’r SNP yn gallu bod yn gamarweiniol - nid Cymru mo’r Alban - ond mae ‘na wers fawr y dylai Plaid Cymru ei dysgu gan ei chwaer-blaid. Y mae’r SNP yn lle mae hi nid achos ei bod hi wedi cynorthwyo Llafur yn yr Alban dro ar ôl tro, gan ennill consesiynau mewn cyllidebau neu drwy glymbleidio. Hi yw prif blaid yr Alban am iddi lwyddo i danseilio Llafur yn llwyr a byth â methu ar gyfle i wneud hynny. Ac mi lwyddodd i wneud hynny rhwng 2003-2007 pan oedd yr SNP ar ei gwannaf. Os ydi Plaid Cymru o ddifrif am efelychu’r SNP, mae gwneud hyn yn hanfodol bwysig.

Byddai rhai’n dadlau bod hynny’n anegwyddorol - bod angen cydweithio a chael cyfaddawd er budd Cymru - ond maen nhw’n anghywir. Achos, yn y pen draw, byddai disodli Llafur yn gwneud llawer, llawer iawn mwy o les i Gymru yn yr hirdymor na’i helpu, boed hynny yn y mân ffyrdd neu’r ffyrdd mawr, fel ei chadw mewn grym drwy glymblaid.

Gawn ni fod yn hollol onest am hyn? Yr unig ffordd i Gymru wirioneddol lwyddo fel gwlad ydi i Lafur yng Nghymru ddilyn trywydd Llafur yn yr Alban. Tydi’r SNP ddim yn unigryw. Ledled Ewrop mae pleidiau cenedlaetholgar wedi cyrraedd lle maen nhw drwy danseilio ac amlygu gwendidau eu gwrthwynebwyr unoliaethol a’u naratif gwleidyddol, a dyma un rheswm mawr pam fod mudiadau cenedlaethol o’r Alban i Wlad y Basg yn gryfach na Chymru. Maen nhw’n gwrthwynebu eu gwrthwynebwyr.

Mewn nifer o ffyrdd tydw i ddim yn rhy nodweddiadol o gefnogwr Plaid Cymru. Ond mae ‘na rywbeth sy gen i’n gyffredin â’r mwyafrif ohonynt: dwi ddim yn licio Llafur, a dwi ddim yn licio Llafur achos ei bod hi’n fethiant. Pan fydd Llafur yn llywodraethu yng Nghymru, mae hi’n llanast diddychymyg aneffeithlon. Dwi ddim jyst isio i Lafur beidio ag arwain ein llywodraeth nesaf – dwi’n gwybod, a dybiwn i eich bod chithau’n gwybod hefyd, nad ydi hi’n haeddu gwneud hynny.

Daw hyn â ni at gwestiwn sydd gennyf i unrhyw un sy’n fodlon ymateb, achos hoffwn i farn eraill ar hyn.

Am resymau egwyddorol ond hefyd dactegol, fydd Plaid Cymru byth yn clymbleidio â’r Ceidwadwyr. Y mae hynny’n gwneud synnwyr ar bron pob lefel. Mae hi wedi datgan hynny’n onest ac yn agored. Ac mi ddylai fod yn onest am y cwestiwn canlynol, fel plaid gyfan:

A fyddai Plaid Cymru yn fodlon bod yn rhan o lywodraeth a arweinir gan y blaid Lafur?

Yn bersonol, os na ddywed y Blaid na fydd yn fodlon gwneud hyn – sef, yn y bôn, cadw Llafur mewn grym am 4/5 mlynedd arall – dwi ddim yn meddwl y gallwn i fy hun fwrw pleidlais drosti yn 2016. Pwy arall sy’n teimlo felly? A fyddech chi’n fodlon pleidleisio dros y Blaid, ac endio fyny â llywodraeth arall eto fyth a arweinir gan Lafur?

Pam na ddywedai am nad ydi Llafur yn ffit i arwain Cymru, ni fyddwn ni'n rhan o lywodraeth a arweinir ganddi?

Tybed faint o’i chefnogwyr sy’n teimlo felly hefyd? Faint o bobl, sydd wedi laru ar Lafur, ond na allent fyth bleidleisio Tori, fyddai’n cymryd sylw o’r Blaid yn dweud o flaen llaw, “NA”? Faint o bobl fyddai wedyn yn meddwl bod cyfle am newid go iawn? Wn i ddim. Cryn dipyn dwi’n amau, er na alla i brofi’r ffasiwn beth.

Dylanwadu ar Lafur neu ddisodli Llafur? Os y cyntaf fydd hi eto yn 2016, mentrwn ddweud nad dewis rhwng dylanwadu a disodli fydd dewis y Blaid wedi hynny, ond disodli ynteu ddirywio. Ac efallai bryd hynny fydd hi'n rhy hwyr i geisio'i disodli - gan Blaid Cymru o leiaf.

lunedì, settembre 27, 2010

Cipolwg ar 2011

Noda’r Western Mule heddiw fod Ed Milliband am ail-ymgysylltu â ‘Middle Wales’ - sef ein fersiwn ni o ‘Middle England’ am wn i. Mae hyn yn newyddion gwych, ond nid i’r Blaid Lafur. Tra ei bod yn wir bod angen yn Lloegr ennill cefnogaeth y dosbarth canol, ac mai colli pleidleisiau o blith y dosbarth hwnnw gollodd yr etholiad diwethaf i Lafur, nid dyma’r achos yng Nghymru o gwbl. Yng Nghymru, rhaid i Lafur adennill cefnogaeth nid y dosbarth canol, ond y dosbarth gweithiol.

O safbwynt personol dwi’n siomedig mai Ed gipiodd yr arweinyddiaeth, achos dwi’n meddwl y byddai David Milliband yn apelio llai at bleidleiswyr Cymru, yn enwedig y rhai dosbarth gweithiol. Ond dydw i ddim yn rhy siŵr y caiff yr arweinydd ‘cenedlaethol’ effaith enfawr ar etholiad 2011.

Mae gan Lafur o hyd broblemau dwys yng Nghymru. Hyd yn oed, fel y mae’r polau’n awgrymu, pe bai’n gwneud yn dda iawn y flwyddyn nesa, erys y problemau hyn. Mae ei threfniadaeth yn wael. Mae nifer yr aelodau yn llawer llai nag y bu – gwelir ar flogmenai mai tua 11,000 o aelodau sydd yng Nghymru. Mae hynny’n fwy na Phlaid Cymru neu’r Torïaid, ond serch hynny mae’n syndod o isel yng nghyd-destun hanes gwleidyddol Cymru. Ac, yn ariannol, mae’r blaid yn llanast.

Nid fy mod i’n diystyru Llafur yn 2011 - dwi ymhell o wneud hynny - ond er bod canlyniad eleni yn arwynebol dda rhaid cofio mai 36% gafodd Llafur eleni yng Nghymru - y lefel isaf o gefnogaeth mewn cenedlaethau, a gwaeth na chafodd yn etholiadau’r Cynulliad ym 1999. Canlyniad cymharol dda a gafwyd, ond cragen o ganlyniad ydoedd serch hynny.

Yr hyn dwi’n ei ddweud ydi hyn. Er gwaethaf popeth, ac er gwaetha’r ffaith fy mod wedi ailadrodd ei bod ar ei pheryglaf pan fo’n glwyfedig, mae Llafur Cymru yn parhau’n wannach nag y bu ers talwm. Dwi’n cytuno â barn Vaughan Roderick, o dargedu’n effeithiol yn yr etholaethau, y gallai Plaid Cymru gael etholiad syfrdanol o lwyddiannus yn 2011. Y broblem fawr ydi, yn bersonol, dwi ddim o’r farn y bydd Plaid Cymru yn llwyddo gwneud hyn. Mae un perygl mawr iddi hithau.

Yn ddiweddar mae Llafur Cymru wedi bod yn defnyddio iaith gref iawn am lywodraeth Lloegr – un o’r prif honiadau yw ei bod yn ‘wrth-Gymreig’. I bob pwrpas, mae’r blaid yn defnyddio iaith sydd yn ei hanfod yn genedlaetholgar, a dyma dir Plaid Cymru – neu o leiaf dyma ddylai fod yn dir iddi. A dyma’r iaith y dylai Plaid Cymru nid yn unig ei defnyddio fwy, a pheidio â bod ofn ei defnyddio, ond ei bloeddio’n llawer uwch na Llafur. Dydi hi ddim yn llwyddo gwneud ar y funud; ac oni wneir hynny yn 2011 Llafur, nid Plaid Cymru, a welir fel amddiffynwyr Cymru. Ni ddylai’r Blaid, ar unrhyw gyfrif, adael i Lafur ddwyn wneud hynny, oherwydd bydd canlyniadau gwneud hynny yn ddinistriol iddi.

Polisïau arloesol ar yr amgylchedd neu ddarlledu? Da iawn. Ond Llafur, nid Plaid Cymru, sy’n bod yn glyfar ar hyn o bryd. ‘Sgen i ddim amheuaeth bod cenedlaetholdeb yn apelio mwy na pholisïau bachog. Ond mae angen i’r Blaid fod yn fwy ymosodol o lawer, tua phob cyfeiriad, neu mi fydd yn edifar. Dwi’n gweld cyfle i wneud yn dda yn 2011. Dwi ddim yn gweld Plaid Cymru yn gwneud popeth y gall i fanteisio arno.