Visualizzazione post con etichetta bod yn ddigalon. Mostra tutti i post
Visualizzazione post con etichetta bod yn ddigalon. Mostra tutti i post

martedì, marzo 16, 2010

"Gwastraff amser yw Cymru ddwyieithog"

Hwra, rhywun yn gwneud synnwyr!


Mae ‘nghalon i yn tristáu wrth fynd nôl i Rachub. Dwi ddim yn cofio y tro diwethaf, er enghraifft, i mi glywed naill ai rhieni’n siarad Cymraeg â’u plant nac, yn waeth fyth, plant yn siarad Cymraeg efo’i gilydd. Mae’n llythrennol yn flynyddoedd ers i mi glywed yr ail yn sicr, er efallai nad adref yn ddigon aml ydw i.

Mae gwarchod yr iaith yn ei chadarnleoedd gangwaith bwysicach na chreu Cymru 'ddwyieithog', rhywbeth dwi wedi'i ddweud o'r blaen sy'n wrthyn i mi beth bynnag, fel un sy'n credu mewn Cymru Gymraeg. Wn i ddim p’un ai diffyg ewyllys neu petrustra gwleidyddol, neu hyd yn oed rhyw fath o ffug barchusrwydd gwleidyddol, sy'n sail i'r ffaith na fu diogelu'r Fro fyth yn flaenoriaeth gan y Cynulliad. Un o’r pethau mwyaf damnïol y gellir ei ddweud am ein llywodraeth genedlaethol ydi bod yr ardaloedd Cymraeg wedi dirywio’n waeth nag erioed yn oes datganoli.

Dwi ddim am fanylu achos mai’n rhy fuan y bore, ond oni arallgyfeirir adnoddau’r iaith i’r Bröydd Cymraeg, fydd ‘na ddim gobaith am Gymru ddwyieithog beth bynnag, heb sôn am y Gymru Gymraeg y credaf i ynddi. A dydi’r un mesur iaith, na’r un alwad am hawliau ieithyddol, am newid hynny iot.

Ac eto, weithiau mae rhywun yn teimlo weithiau nad oes gan ddigon o bobl ots mewn difri beth bynnag.

mercoledì, febbraio 17, 2010

Mân straen

Ryhyrydwyf i a straen yn gyfeillion rhyfedd. Fel rheol, mae rhywbeth a ddylai achosi straen mawr ar rywun call yn dueddol o’m hesgeuluso, tra bod mân bethau yn gwneud i mi golli fy mhwyll yn llwyr. Byddai’n well gen i fod fel arall, dyna’r ffordd gall i fod, yn de. Yr enghraifft orau y gallaf ei rhoi ydi pan fydd rhywun yn marw neu’n sâl, fi ydi’r un sydd fel arfer yn cadw’i ben, i’r fath raddau prin fod y peth yn effeithio arnaf o gwbl. Ar y llaw arall, es yn ddig hyd blinder ychydig wythnosau’n ôl am na allwn ganfod yr agorwr tuniau i agor tun o ffa Ffrengig (sef ‘kidney beans’ ac nid ‘French beans’ yn yr achos hwn – yr un peth ydynt yn Gymraeg sy’n un rheswm o leiaf i ddod â therfyn i’n hiaith).

Achos arall o straen enfawr i mi ydi bod yng nghwmni rhywun nad ydwyf yn mwynhau eu cwmni, ac mi wn y prif symptom. Fydd yr ardal fach dan fy llygaid yn teimlo’n eithriadol o drwm – fel petawn heb gysgu am ddiwrnod neu ddau. Wn i ddim ai arwydd cyffredin o blith pobl ydyw, ond yn sicr ynof i mae’n dynodi amhleser mawr, ac, i raddau helaeth, straen.

Ar y cyfan, dwi’n mwynhau cwmni Dad, ond mae cwmni Dad ac yntau’n unig am wythnos yn gwneuthur pwysau is-lygeidiog i raddau nas teimlwyd gynt. Daeth i aros ataf yr wythnos diwethaf ac yma mae o hyd, ac am ba hyd dwi ddim yn siŵr.

Fel unrhyw blentyn o ba oedran bynnag, nid ‘mwynhau’ ydi’r gair cywir i ddisgrifio presenoldeb rhieni. Dwi’n gobeithio nad ydw i’n ymddangos yn oeraidd yn hyn o beth, dwi’n caru fy rhieni cymaint â’r llwdwn nesaf, ond bydd cyfnod estynedig o gwmpas y naill na’r llall, neu’r ddau, yn achosi straen. Dwi ddim isio gadael yr hen goes yn y tŷ ben ei hun, dwisho gadael iddo wylio ei deledu (mae gan Dad chwaethau teledu sy’n gwbl, gwbl gyferbyniol i’m rhai i) ac isio iddo fod yn fodlon ei fyd am yr hyd ydyw gyda mi.

Ond y pethau bach, eithafol hynny sy’n chwalu ‘mhen. Pan fydd yn sugno’i ddannedd ar ôl cael bwyd gan wneuthur sŵn fel mosgito. Yn y dafarn neithiwr mi wnaeth hynny drwy’r nos wrth wylio gêm United a Milan. ‘Steddish i yno’n drwm fy llygaid. Mae rhywbeth felly yn rhoi straen arnaf. A phan fy mod yn teimlo felly, y gwir plaen amdani ydi nad ydw i’n berson neis i fod yn ei gwmni.

Er o anwyldeb y dywed Dad “dwi ddim yn meindio” pan ofynnaf beth y gwnawn i de, mae pobl sy’n dweud hynny, yn lle dweud yn sdrêt, yn fy ngwylltio i. Dwi’n hoff o bobl benderfynol, sy’n dweud eu dweud a ddim yn mwmian eu geiriau. Nid seicic mohonof. Dywed dy farn; gadewi i mi ymateb.

Pan siaradodd â Mam, echnos mi gredaf, a jocian iddi yrru mwy o drôns ato gan ei fod yn aros tan y ‘Dolig, ar fy marw nid a ddes agosach at strôc yn fy myw. Peidiwch jocian ‘Nhad, feddyliais, dydi’r peth ddim yn dda i’m hiechyd. Gŵyr pob un ohonoch, boed chwithau eich hun yn dad neu’n ddim, nad ydi plant yn mwynhau jôcs rhiant waeth beth fo’r sefyllfa.

Y broblem efo fi ydi nad person teuluol mohonof. Er cymaint yr wyf yn caru pob un wan jac ohonynt, dwi’n ffendio cael teulu o’m cwmpas yn llethol. Hunanol ar fy rhan i, mae’n siŵr, dywedyd y cysylltaf pan fo’r tymer arnaf, ond mae’n wir i raddau helaeth; petai dewis, mi ddewiswn fywyd meudwy dros fod yn ŵr priod â phlant. Mynach fyddai’r trywydd delfrydol i mi ei ddilyn oni chrwydrai fy nwylo cymaint.

Felly ar ôl sgwrs ffôn gyda Mam, penderfynwyd anfon Dad adref ddydd Iau - noson arall o oroesi ar fy rhan i felly, a mynd i’r gwely’n fuan yn hytrach na gwylio ailddarllediad a welwyd droeon o Top Gear ar Dave. Y penwythnos hwn, bydd pethau’n syml. Dwi am stocio fyny ddydd Gwener, cloi’r drws, diffodd y ffôn efallai, a pheidio ag atgyfodi drachefn tan fora Llun.

mercoledì, ottobre 07, 2009

Hen Dwll Gwlyb

Rhoddaf i’r ochr wleidyddiaeth am sbel. Hen bryd hefyd, mae’n ddigon i wneud rhywun yn wallgof. Yn bur anffodus mae ‘na ddigonedd o bethau yn yr hen fyd hwn sy’n fy ngyrru o’m cof.

Mae wedi bod yn ddi-stop ar Stryd Machen yn ddiweddar. Er bod y Sky yn gweithio, ni weithiodd y ffôn tan wythnos diwethaf a bu’n rhaid galw’r bobl allan i’w gywiro. Mae’r llwybrydd i’r rhyngrwyd wedi cyrraedd ers tridiau ond fydd hwnnw ddim yn gweithio tan y 13eg mae’n dweud yn y llythyr ar ei gyfer. Byddai hyd yn oed yr Iesu wedi colli amynedd efo ffwcin Sky.

Felly dyna ddau anlwc, i raddau, gyda’r ffôn a’r rhyngrwyd, ac yn ôl geiriadur yr Hogyn anlwc ydi unrhyw beth nad yw’n mynd rhagddo’n llwyr ddidrafferth. Pethau drwg a ddaw mewn trioedd, medda’ nhw. Petawn yn gall ac yn gwrando ar eraill mi fyddai’r broblem ddiweddaraf yn, wel, fyddai hi heb â bodoli o gwbl. Ychydig fel Mam yn priodi Dad.

Ond ers misoedd mae Mam wedi bod yn swnian i mi gael y to yn y bathwm wedi’i sortio. Os ydych chi fel fi, a llongyfarchiadau i chi os ydych, po fwyaf y swnian y daw atoch o ba gyfeiriad bynnag, y mwyaf ystyfnig a phenderfynol ydych chi o fynd yn groes i’r swnian. Felly mi heibiodd y misoedd a daliodd to’r bathrwm, neu i fod yn fwy cywir y wal rhwng y bathrwm a’r gegin, i fynd yn damp.

Deffroais ddoe yn ddigon bodlon. Roedd hi’n gythraul o dywyll ac oer yng Nghaerdydd bora ddoe, ac mi gerddais i’r gegin gan grynu fel cryniadur cenedlaetholgar i wneud fy uwd boreol. Dwi’n licio uwd, yn enwedig pan ddaw’r gaeaf, efo mymryn o siwgr arno. Mae hefyd yn dda efo’r her ddeietegol bresennol ond soniaf am hynny rywbryd arall pan fo’r awydd yn codi.

Plip plip. O diar, meddwn i. Plip plip. Mi drois i weld y wal yn gollwng, nid ar ochr y bathrwm y tro hwn eithr ochr y gegin.

Wel myn ffwc, meddwn i.

A Mam oedd yn gywir wedi’r cwbl. Ffoniais y bildar neithiwr, yn bur amlwg ddim yn gwybod am beth yr oeddwn yn sôn (“ddy lîc is in the rŵff ies” etc), ond mae hwnnw’n dod draw yn fuan ‘fory am hanner wedi saith i archwilio’r wal.

Twll o wlybaniaeth a bildar yn y bore bach. Mae ‘na nofel fanno’n rhywle, ond nid y fi ydi’r un i’w hysgrifennu.

martedì, febbraio 03, 2009

Mae'r eira 'di mynd yn barod y basdad

Bydd eira’n mynd ar fy nerfau i. Fel pawb arall, p’un a ydynt yn ifanc fel y fi neu’n hen a ffôl (25+), bydd eira yn deffro’r plentyn o ddwfn fy mod. Dwi’n cyffroi. Dwi’n licio ei weld ymhobman, yn gorchuddio’r llawr ac yn disgyn yn fwyn o’r nefoedd. Ond bydd gweld yr eira’n diflannu yn ddigon i sathru fy hwyliau.

Felly fu heddiw a neithiwr. Ni ddaeth yr eira go iawn tan iddi nosi neithiwr y Llun, ac mi ddechreuodd bob man droi’n wyn. Bora ‘ma, roedd o wedi dechrau diflannu, ac er i ni weld eira trwm bora ‘ma eto, mae holl eira Caerdydd wedi hen ddiflannu erbyn hyn. Dyna ddigalon.

Mae’n golygu bod yr haul allan yn smyg i gyd, y wancar, a’r llawr yn wlyb. Am ryw reswm dyma fy nghas beth i, sef haul a gwlypni, achos fydda i ddim yn licio gwneud pethau drwy haneri, a dydi llawr gwlyb ac awyr heulog ddim yn cyd-fynd. Wn i ddim sut i deimlo, ond mae o bob amser yn gwneud i mi deimlo’n ddrwg, boed hynny ar ôl cawod o law, neu ar ôl toddi’r eira.

Un peth a’m tarodd ar y diawl oedd y ddynas ar y newyddion neithiwr yn sôn am y plant yn chwarae yn yr eira – dyma’r tro cynta i’w cenhedlaeth nhw weld eira go iawn. Yn wir, pobl f’oedran i ydi rhai olaf sy wirioneddol yn cofio eira yn beth digon cyffredin yr adeg hon o’r flwyddyn, ac erbyn hyn mae hynny’n nyfnion y co’. Rhaid bod cymaint o blant heddiw yn gweld gaeaf gwyn yn beth hollol estron – sôn am deimlo fel deinosor!

venerdì, ottobre 03, 2008

Iason Cont Diflas

Wn i ddim os sylweddolech, ond bellach mae’r penwythnos arnom. Ro’n i’n meddwl am y penwythnosau diweddar yr wythnos hon, ac mi ges i gythraul o sioc. A dweud y gwir, roedd o’n gymaint o sioc nes y bu i mi deimlo’n hynod ddigalon (am bum munud go dda).

Yr hyn a ddaeth i’m rhan oedd gofyn i mi’n hun pryd fu’r tro diwethaf i mi fod allan yng Nghaerdydd ar nos Sadwrn. Roedd y tro diwethaf pan oedd Shorepebbles (a fu’n gyrchfan i Gymry Cymraeg os nad ydych yn gyfarwydd â’r lle) dal ar agor. Roedd hynny cyn yr Eisteddfod – mi es allan yn ystod y dydd Sadwrn olaf ‘Steddfod ond ddim drwy’r nos achos doeddwn i ddim yn teimlo ar ffôrm.

Bellach mae hynny dros ddeufis nôl. Dwi heb fod allan yng Nghaerdydd ers mis Gorffennaf ar nos Sadwrn.

Y tro diwethaf y bûm allan ar nos Wener oedd tua phythefnos cyn mynd i Amsterdam, sydd yng nghrombil mis Awst erbyn hyn. Felly, er bod cyfrif fy manc wedi cael ergyd ar ôl ergyd yn ddiweddar (i fod yn onest efo chi, rhwng popeth, mae ar ei leiaf ers blwyddyn dda), dydi o ddim o ganlyniad i yfed.

Asu, mae’n rhaid fy mod i ‘di troi’n rêl sod boring yn fy henaint.

venerdì, settembre 26, 2008

Te mefus - siomedigaeth arw

Fel arfer dwi ddim yn cynhyrfu am bethau fel hyn ond un o’m dileits pennaf yn Amsterdam oedd panad o de mefus bob bore. Roedd o’n hyfryd, ac mi ges sioc pa mor hyfryd ydoedd.

Dwi ‘di bod i Sainsburys, Morristons, ASDA a hyd yn oed Tesco i chwilio amdano, ac wedi rhoi cynnig ar ddau math gwahanol oedd yn ffiaidd. Fe ges syndod pa mor wirioneddol, o waelod calon siomedig yr oeddwn wrth i mi ddod o hyd i wefan y cwmni sy’n cynhyrchu’r te (doeddwn i ddim yn cofio’r enw) a gweld nad ydi o’n gwerthu’r cynnyrch ym Mhrydain.

A rŵan mi fyddai’n rili trist am weddil y penwythnos.

mercoledì, gennaio 09, 2008

Ionawr. Casáu Ionawr.

Eisiau yw gwraidd dioddefaint: un o hanfodion Bwdhaeth. Coeliwch ai peidio (a mwy na thebyg na wnewch), dw i’n eithaf cryf fy ffydd a’m Cristionogaeth, i’r fath raddau na fyddaf yn cytuno â chrefyddau eraill, a wastad efo rhyw deimlad ym mêr fy esgyrn y dylwn fod yn Babydd (wn i ddim pam hynny). Fodd bynnag, mae’r Bwdhyddion wedi taro’r llygad ar ei phen ac yn hoelen eu lle gyda’r dywediad uchod. A dydi’r flog hon ddim yn trafod chwaraeon a chrefydd, maen nhw’n llawer rhy beryg.

Ers gwneud yr adduned na fyddaf yn mynd allan i feddwi ym mis Ionawr dw i wedi syrthio i mewn i dwll o ddigalondid, ac o ystyried nad yw traean y mis wedi mynd rhagddo, nid peth da mo hyn. I raddau helaeth iawn mae fy mywyd yn cylchdroi o amgylch cymdeithasu, a’r llai y byddaf yn cymdeithasu, yr is y byddaf yn ei deimlo. Rŵan, hawdd byddai mynd allan a pheidio â meddwi, ond fel y rhan fwyaf o bobl dw i ddim yn or-hoff o gwmni meddwons ac yn meddu ar yr ymagwedd ‘if you can’t beat them, join them’ yn hyn o beth. Ac i fod yn onest os ydi rhywun am gael noson sobor does lle gwaeth i fod na thafarn.

A p’un bynnag, ymddengys fod pawb arall yn arbed arian ar ôl y Nadolig, a gwn yn iawn nad Myfi yw’r unig un yn y byd sy’n dioddef o’r blŵs blwyddyn newydd. Mae rhywbeth argoelus ac anghysurus am fis Ionawr. Mae’n oer ond heb y cynhesrwydd Nadoligaidd mewnol y caiff rhywun ym mis Rhagfyr, tân gwyllt Tachwedd na Chwe Gwlad Chwefror. Yn wahanol i gyfnod y Flwyddyn Newydd ei hun, bydd rhywun wirioneddol yn sylwi mai ‘blwyddyn nesaf’ yw eleni, ac y byddant hwy a phawb o’u cwmpas flwyddyn yn hŷn.

Yn gyffredinol dw i’n unigolyn optimistaidd o ran sawl peth, ond pan ddaw at faterion personol dw i’n ystyfnig besimistaidd, a hynny o gyfuniad o fod yn realistig a chynnal delwedd, wrth gwrs. Gyda diffyg gweithgareddau Ionawr mae’n anodd peidio â throi at feddwl yn ddu a bod yn gyffredinol hunandosturiol a phrudd.

O wel. Dim ond dau ddiwrnod ar hugain o Ionawr i fynd. Fyddai’n fy nagrau ymhen dim, fe gewch chi weld.