Visualizzazione post con etichetta UKIP. Mostra tutti i post
Visualizzazione post con etichetta UKIP. Mostra tutti i post

domenica, maggio 05, 2013

Blynyddoedd nesaf UKIP

Felly beth wnewch chi o UKIP ddydd Iau? Y gwir ydi, licio fo neu ddim, wnaeth UKIP yn well na’r disgwyl – a dweud y gwir, mi gafodd y blaid etholiad da iawn. Dyna ddiwedd y gân, waeth inni heb â meddwl fel arall. Dwi’n rhyw dybio petaem ni wedi cael etholiad ym mhob un o awdurdodau lleol Cymru, y buasai UKIP wedi gwneud yn dda yn y rheini hefyd a chael canran barchus o’r bleidlais. Llai nag yn Lloegr, ond parchus – a hynny er gwaethaf ei pherfformiad sâl ar Ynys Môn.

Ond pwy ddylai mewn difrif boeni am dwf y blaid?

Alla i ddim ategu fawr fwy at yr hyn sydd wedi’i ddweud a’i ysgrifennu eisoes. Wrth gwrs, y Ceidwadwyr fyddai’r collwyr mwyaf. Byddai UKIP yn eu hatal nhw rhag ennill seddi ac yn peri iddynt golli nifer o rai eraill. Yn wir, fe allai’r Ceidwadwyr gael cweir a hanner oherwydd llwyddiant UKIP ... byddai tua 10% ledled Prydain i’r blaid yn farwol i obeithion y Ceidwadwyr o ddal eu gafael ar rym yn San Steffan.

Wrth gwrs, oherwydd natur y system bleidleisio, mae’n annhebygol ar hyn o bryd y gwelwn ASau UKIP o gwbl ... efallai y gall Nigel Farage ennill sedd os dewisa’r un gywir i’w chystadlu ond hyd yn oed petai’r blaid yn sicrhau’r un lefel o gefnogaeth a gafodd ddydd Iau mewn etholiad cyffredinol, prin y byddai’n ildio mwy na llond llaw o seddi iddi.

Ond daeth un peth hefyd i’r amlwg ddydd Iau, ond rhywbeth nad yw wedi cael dyledus sylw. Ni ddaeth holl bleidleisiau UKIP o du Ceidwadwyr. Yn wir, does dim amheuaeth bod perfformiad UKIP wedi atal Llafur rhag ennill degau o seddi ledled y wlad, os nad mwy. Pam hynny, meddech chi, â Llafur ac UKIP mor wahanol i’w gilydd?

Byddai’r etholiadau wedi bod yn ddiddorol eithriadol pe cynhelid etholiadau mewn cadarnleoedd Llafur, ac mi dybiaf y buasem wedi gweld twf i UKIP yn yr ardaloedd hynny hefyd. Nid i’r un graddau, ond mi fyddai twf a haeddai sylw.

Mi egluraf pam. Tan ychydig ddegawdau yn ôl roedd ‘na fath o bleidleisiwr sy’n brin eithriadol bellach – mae ‘nhaid yn un ohonynt ond mae yntau’n ei 80au erbyn hyn ... y Tori dosbarth gweithiol. Llwyddodd y Ceidwadwyr i golli’r bleidlais hon tua’r 70au ac yn sicr yn yr 80au, a phrin y bodolai o gwbl erbyn y 90au. I bob pwrpas natur y bleidlais hon ydi pobl dosbarth gweithiol sy’n tueddu at bolisïau asgell dde ar nifer o faterion ... efallai bod mwy ‘traddodiadol’ yn ddisgrifiad gwell nag ‘asgell dde’. Yn sicr o blith y garfan hon y denodd BNP bleidleisiau ychydig flynyddoedd yn ôl, ac mae UKIP yn gwneud hynny rŵan.

Er, mi fyddwn i’n pwysleisio, yn wahanol i rai pobl swnllyd, tydw i ddim yn meddwl bod UKIP yn ‘BNP parchus’ o gwbl – tydi UKIP, er gwaetha’r ffaith ei bod yn blaid boncyrs i raddau helaeth, ddim yn blaid hiliol fel yw’r BNP, a tydi gwrthwynebu mewnfudo ar raddfa fawr ddim yn hiliol chwaith. Dylai rhai cenedlaetholwyr Cymreig sy’n cwyno am lefel y mewnfudo i’r Fro Gymraeg gofio hynny. Un o broblemau cenedlaetholwyr yng Nghymru ydi NAD ydyn nhw’n cwyno am y peth.

Ta waeth, erbyn heddiw mae’r Tori dosbarth gweithiol yn beth prin ar y diawl mewn termau etholiadol OND mae ‘na ddigonedd o bobl dosbarth gweithiol sydd i’r dde o bleidiau fel Plaid Cymru neu Lafur, yn benodol efallai ar faterion cymdeithasol yn fwy nag ar faterion economaidd. A rhywsut, mae rhywun yn amgyffred fod UKIP yn gartref digon naturiol i’r bobl hyn – dyma, gyda llaw, etholwyr sydd y dyddiau hyn naill ai’n pleidleisio i Lafur o arfer, neu’n rhai o’r miliynau o bobl dosbarth gweithiol sydd wedi troi eu cefn ar y broses etholiadol yn gyfan gwbl. Pobl ydyn nhw a fyddai’n uniaethu â phlaid Geidwadol 40 mlynedd yn ôl ond nid un heddiw (o ganlyniad i Magi Thatcher yn fwy na dim ... fe lwyddodd hithau i newid y Ceidwadwyr lawn cymaint ag y llwyddodd i newid y sbectrwm gwleidyddol cyfan, a Phrydain fel gwlad).

Tydi o ddim yn gymhariaeth uniongyrchol ; mae UKIP yn ffactor digon rhyfedd yng ngwleidyddiaeth Prydain achos dydi hi ddim ar yr un sbectrwm gwleidyddol â’r pleidiau eraill. Mae ei gosod i’r dde o’r Ceidwadwyr yn orsymleiddio enfawr. Os ydych chi eisiau cymharu UKIP â phlaid arall mae’r dewis amlwg y tu hwnt i Fôr yr Iwerydd ar ffurf y blaid Weriniaethol – plaid ‘libertaraidd’ ydi UKIP.

Amser a ddengys a yw Prydain yn barod am blaid o’r fath yn y prif ffrwd. Dwi’n amgyffred ar ôl ennill etholiadau Ewrop yn 2014 – sy’n edrych yn debygol mi dybiaf – y caiff UKIP etholiad siomedig ar y cyfan yn 2015 (h.y. o ran nifer yr ASau a enilla), ac y bydd yn agor y drws i lywodraeth Lafur ar ryw ffurf neu’i gilydd. Wedyn bydd yr hwyl go iawn yn dechrau os bydd y Ceidwadwyr am yddfau ei gilydd a’r dde Brydeinig yn rhanedig fel nas gwelwyd o’r blaen. A hefyd, wrth gwrs, bydd Llafur mewn sefyllfa anodd, yn gorfod delio ag economi a fydd o hyd yn ansefydlog, a hynny gydag arweinydd sydd eisoes wedi profi ei hun braidd yn aneffeithiol.

Bosib bryd hynny y bydd sefyllfa UKIP yn cryfhau, yn sicr os bydd y Ceidwadwyr yn rhanedig, ac na fydd o hyd refferendwm wedi’i gynnal ar fater Ewrop. Ond prin y gallwch gynnal y math hwnnw o fomentwm heb unrhyw ASau o gwbl, a ffrwtian hyd diffodd o bosibl yw ffawd y blaid – er tydw i’m yn dweud hynny â sicrwydd.

Ond yr her i UKIP ydi nid gwasgu ar y bleidlais Geidwadol draddodiadol, eithr hudo’r Torïaid dosbarth gweithiol ‘traddodiadol’, sydd fel y dywedais, erbyn hyn yn Llafurwyr neu’n apathetig.

Anodd yw dychmygu y bydd y blaid yn llwyddo i wneud hynny’n ddigonol i fod yn rym ar lefel San Steffan. Os oes mae hi, gallai geiriau Farage fod etholiadau ddydd Iau yn ‘game changer’ fod wedi taro’r hoelen ar ei phen.