giovedì, dicembre 01, 2016

Mân wrthgyferbyniadau mawr byw

Dydi bywyd fawr ddim onid ydyw’n gydblethiad godidog ac anghyfforddus o wrthgyferbyniadau. Does fawr ddim nad ydyw’n llwyddo ei groesi ei hun; gwên drist a deigryn hapus, haul oer y gaeaf, eiliadau dyfnion sgwrs ysgafn; rhyddhad aflwyddiant a gwewyr gweld yr un sy’n tanio’th galon; jyst bod yn chdi dy hun heb wybod pwy ddiawl ‘di hwnnw. Y bodlondeb a deimlaf o wneuthur na chlywed dim a gwacter dwfn gorfod gwneud popeth. Unigedd mewn cwmni ac ymberthyn unigedd. Blinder sy’n canlyn paned o goffi mewn tipyn o gaffi ac egni a enynnir gan nofio urddasol elyrch ar ddiwrnod niwlog disymud. Myfyrio am farw a phrysurdeb difeddwl byw. Goleuadau stryd sy’n tywyllu’r enaid; duwch nos yn goleuo’r sêr. Sêr bychain dy ben yw heulwen dy ddydd, tra bod heuliau’th fyd yn gyson ymachlud.

Moment od  y bore, dal dy lygaid dy hun yn y drych wrth hanner brwsio dy ddannedd yn ddifynadd dros sinc sydd angen ei llnau. Gweld y cyfan heb weld dim. Dy dalcen yn hirach nag y bu mewn hen luniau. Y llinellau newydd fel camlesi’r lleuad, yn ensynio blinder ond yn deillio o oriau maith o chwerthin a’r hwyl a aeth i garchar y gorffennol; adeg a ddiflannodd ond sy’n esgor ar yr hyn sydd eto i ddod. A’r hen lygaid na elli ond â syllu iddynt; lympiau blonegog meddal sy'n cyfleu llond enaid o dân a rhew, o gas a charu. Yr un teimlad â methu â pheidio ag edrych ar ddamwain car. Gan un edrychiad gweled cant o bethau a aeth o’u lle, a dychmygu'r un peth hwnnw all unioni’r cyfan.

Y ffordd anghysurus honno o wybod popeth mewn eiliad hyd at ddyfnion meithaf môr ein bod, ac anghofio’r cyfan ymhen awr neu fis neu flwyddyn. Y ffordd y mae pob cam yn nesáu at rywbeth ac yn ymbellhau rhag llall. Y ffordd y mae meiddio dy roi dy hun i obaith yn fwy o fraw nag o fendith.

Y ffordd y mae popeth yn y byd mawr crwn yn wrthgyferbyniad llwyr, a’r gwrthgyferbyniadau hynny sy’n creu pob peth. A’r ffaith fy mod i’n gwybod hyn oll, heb imi erioed ei ddysgu.

Nessun commento: