martedì, marzo 29, 2016

Pryder i mi, a phanig i chwi

Y mae rhai pobl yn ysgrifennu fel math o gatharsis. Dydw i ddim yn meddwl imi erioed â gwneud hynny, heblaw pan fydda i’n flin, fel arfer ar Blaid Cymru neu’n ddiweddarach, efallai i chi sylwi, ar Awstria-ffycffês-Hwngari. Ac, am ba reswm bynnag, dwi’n rhywun sy’n cadw ei feddyliau a’i wendidau mor gudd ag y gall rhag pawb eithr ei ddetholedigion. Mae’n gas gen i bobl yn ‘siarad yn agored’ am bob blydi dim; mae angen i bobl ddallt bod hynny weithiau’n wrthgynhyrchiol – heb sôn am droëdig. Swni’n dadlau bod dyfalbarhad yn well na hunan-dosturi a chwyno wrth bawb am ba mor galed ydi popeth i chi. 

Ac eto, mae’n anodd gen i esbonio pam arall y byddwn i yma’n ysgrifennu hyn. Dydw i ddim yn siŵr fy hun.

Digwyddasai gwraidd y peth rai misoedd yn ôl pan ges i adwaith alergol difrifol un noson. Mae gen i alergedd i bysgod cregyn – mae’n ddatblygiad go newydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, os hynny, ac yn achosi cryn loes imi oherwydd fy mod i wir yn caru pysgod cregyn. Roeddwn i wedi f’argyhoeddi fy hun y noson honno mai yn fy mhen oedd y cyfan ac fy mod i yn fy meddwod y noson gynt wedi bwyta corgimwch ac fy mod i’n iawn.

Ugain munud ar ôl trio cimwch fy chwaer (mae hwnna’n swnio’n rong) roeddwn i ar gadair masáj yng Nghanolfan Red Dragon, yn methu â symud na siarad ac yn crynu’n drybeilig. Ddaeth neb i fy helpu, o bosib yn meddwl fy mod i’n crynu achos fy mod i ar gadair masáj, a lwcus bod y chwaer yno a bod ganddi brofiad o ddelio â sefyllfaoedd tebyg. Doeddwn i methu symud fy mreichiau a oedd y gwbl stiff wrth f’ochr – yn eironig ddigon yn siâp cimwch. Hyd yn oed o ran anaphylactic shock, roedd hwn yn un go ysblennydd. Ond goroesais hen brofiad cwbl annifyr nad ydw i eisiau ei gael byth eto, er bod Alan Llwyd bellach yn gwybod fy ngwendid ac mae’n siŵr ei fod rŵan yn benderfynol o ddial (tasai o’n fyw).

Nid ers y noson honno y bûm yr un fath cweit. Mi sbardunodd ynof rywbeth. Mi ddatblygais yn ei sgîl rywbeth dwi’n amharod i’w alw’n anhwylder, ond yn sicr mae’n chwinc, a hynny o bryder. Dros y misoedd diwethaf dwi wedi cael pyliau lu ohono, yn para weithiau ryw 20 munud i ddyddiau o anesmwythder llai ond cyson. 

Nid rhywbeth yn y meddwl ydi o’n gyfan gwbl, yn wahanol i’r gred, er pan mae o’n cael ei effaith ddieflig mae’n chwarae efo hwnnw hefyd, yn bennaf yn f’argyhoeddi fod fy nghorff i am fynd yn gwbl stiff ac, yn rhyfeddaf oll, fod fy safn am gloi. Bydd rhywun yn teimlo’n llewyg, isio denig, yn cael trafferth ynganu ac yn anadlu’n wael; bydda i hefyd yn teimlo fy mraich chwith yn mynd yn ddideimlad a rhannau o’m corff, fy ngwddw, fy safn a’m cefn gan mwya yn sbazio (fedra i’m meddwl am air callach i’w ddisgrifio). Weithiau fydda i jyst yn crynu’n wirion fel deilen betrus olaf coeden, heb deimlo’n erchyll o wael ac yn gallu ymdopi.

Yn gryno, dwi’n cau lawr yn systematig am gyfnod.

Dros y misoedd diwethaf dwi wedi gorfod gadael bwytai ynghanol pryd (boed am awyr iach, distawrwydd neu jyst gadael yn llwyr) yn llwyr feddwl fy mod i wedi bwyta rhywbeth sydd am fy lladd, gadael y dafarn neu eistedd yno efo fy hwd drosof, gofyn am lecyn distaw mewn parti tŷ, wedi gadael y gwaith mewn blydi ambiwlans yn meddwl bod rhywbeth mawr yn bod, cael cyfnodau byr i ffwrdd o'r gwaith, a’r gwaethaf o bosibl cael pyliau adref ben fy hun sydd wedi arwain at yr ysbyty un neu ddau o weithiau hefyd (er ddim bob tro’n ddi-sail). Weithiau maen nhw’n digwydd pan dwi’n hungover, yn aml pan dwi’n flinedig, weithiau pan dwi’n ddigon sionc ac yn mwynhau bywyd.

Yn wir, roedd yna adeg ddiwedd y llynedd lle’r o’n i wedi laru’n ofnadwy ar yr holl beth, ac yn cerdded bobman yn ofalus ac amwni’n amheus, fel rhyw gath sy’n cael ei hambygio. Ac er imi gael diagnosis o bethau gwahanol – hyperventilation ac, yn ddigon rhyfedd, bod yna grydcymalau yn fy ngwddf i (dwi’n ffycin thyrti) leddfodd yr un ddim ar y pyliau o bryder a phanig. Mae pyliau o bryder a phyliau o banig yn eithaf tebyg i’w gilydd yn y bôn, ond yn wahanol i’m natur dwi’m yn gwahaniaethu rhyngddynt ac wedi cael y ddau. Profiad bywyd de?

Ta waeth. Y mae pryder yn beth annifyr tu hwnt, ac efallai’n gwbl amhosibl i gael rhywun nad sy’n dioddef ohono i’w ddallt, ond yn aml nid yw’n fwy na chyfnod mewn bywyd, ac er fy mod i’n cael pwl gwirion bob hyn a hyn – yr un gwaethaf diweddaraf yn Yr Hen Lyfrgell lle bu’n rhaid i’m cydweithiwr fwy na heb fy nghario i allan – dwi’n well nag yr oeddwn i rai misoedd yn ôl, lle o’n i’n meddwl ar adegau bod y byd ar ben ac yn mynd ddyddiau’n gwbl anesmwyth ac yn argyhoeddedig mai fel ’na fyddwn i am byth bythoedd. A ddim yn siŵr at bwy i droi ychwaith.

Hwnna oedd y peth anoddaf – nid ddim gwybod at bwy i droi ond y newid dros nos deimlais i. O fynd o fod yn hogyn (Hogyn o Rachub de latsh?) hynod o fodlon, yn wir eithriadol o hapus efo bywyd a’i bethau ar y cyfan a jyst yn mwynhau’n gyffredinol, i fod yn rhywun yr oedd mynd i’r pyb neu am fwyd, am gyfnod o ddeufis eniwe, fel petai o’r peth anoddaf, mwyaf argoelus yn y byd. Am wn i dwi’n ffodus fy mod i’n styfnig ar y diawl, achos ar y cyfan mi orfodais fy hun i fynd a dal gwneud pethau a dwi’n meddwl, rywsut, fod hynny wedi fy helpu i ddod dros y gwaethaf. Dwi’n eithaf ffodus hefyd fod gen i synnwyr digrifwch (swreal) – mae adrodd wrth fy hun ac eraill fy mod i’n mynd yn mental neu’n boncyrs wedi ysgafnhau’r cyfan yn fawr; mae’n rhoi rhyw fath o gydnabyddiaeth i’r cont peth heb roi iddo sylw gormodol, gan ei gadw ar yr ymylon.

Wn i ddim a ydw i cweit fy hun eto, neu a ydw i’n ymddangos i eraill yn cweit fy hun. Ond dwi ond drwch blewyn o fod erbyn hyn.

Flynyddoedd yn ôl, dywedodd fy ffrind Lowri Llew wrtha i tasa gen i enw Cymraeg mae’n siŵr na ‘Pryderi’ fyddai o. Ar ôl y misoedd diwethaf dwi’n eithaf hapus nad dyna fy enw, achos mi wn i y byddai pawb yn galw Pryderi Pryderus arnaf, ac erbyn hyn byddwn i’n gaeth i’r tŷ. Fel lwmp o gachu mewn toiled.

1 commento:

Anonimo ha detto...

Ai dyma neges fach i ystyried byw'n fwy iach? Bosib gwneith leddfu unrhyw adweithiad i bysgod cregyn.