venerdì, ottobre 02, 2015

Gair o gyngor i Leanne Wood wrth drafod annibyniaeth

Dydw i ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi mwynhau ysgrifennu blogiad mwy nag Eryrod Pasteiog, sy'n mynd â fi'n ôl at wleidyddiaeth felly. Neithiwr mi wnes i’r camgymeriad mawr o wylio Question Time o Gaerdydd. Roedd Kinnock yn ofnadwy; roedd Leanne Wood yn drybeilig; darodd Stephen Crabb fawr ddim ergyd ar neb; y Sais boi ‘na yn gall ond yn ddiflas a Charlotte Church fawr gwell na’r un ohonyn nhw mewn difrif – heb sôn am gynulleidfa arferol o Anghymreig am QT yng Nghymru.

Byddaf hynod, hynod o gryno yn hwn o flogiad.

Mae’r dull mae Leanne Wood yn benodol (ac, i raddau llai, y Blaid) wedi’i fabwysiadu i drafod annibyniaeth yn wleidyddol hurt. Yn hytrach na rhoi unrhyw ddadl dros annibyniaeth, dyma ddywedodd hi neithiwr – ac yn wir rhywbeth tebyg y mae hi wedi bod yn ei adrodd ers peth amser...

 
Our economy is too weak. We’re already facing a situation where workers in Wales earn 85% of the UK average.

Oes, mae yna wendidau lu gan economi Cymru – boed hynny’n ymwneud â’n GDP, y cyflogau is sy’n cael eu hennill yma, ein hanallu i godi trethi, a’r ffaith bod tlodi plant a diweithdra’n uwch yng Nghymru na gweddill y DU ymhlith, fwy na thebyg, ddegau o ffactorau eraill; hyd yn oed y ffaith bod mwy o ddibyniaeth ar fudd-daliadau yma.

Yr hyn mae Leanne Wood yn ei wneud ydi cytuno efo'r rhai sy’n dadlau yn erbyn annibyniaeth i Gymru, gan atgyfnerthu’r syniad ein bod ni yn rhy dlawd i fod yn annibynnol. Mae’r dacteg yn un gwbl, gwbl anghywir ac eithriadol o niweidiol i’r achos cenedlaethol.

Yr hyn y dylid ei ddweud ydi hyn: ydi, mae economi Cymru’n wynebu heriau economaidd difrifol, a hynny ers degawdau. Ond dydi’r ffactorau hynny ddim yn cau’r drws ar annibyniaeth, ond yn hytrach maen nhw’n cyfleu yn y ffordd gliriaf posibl pa mor ddiawledig o wael y mae Cymru wedi’i gadael i lawr gan y wladwriaeth Brydeinig.

Syml o ddadl. Ond dadl wir.

Efallai na ddylai Plaid Cymru ganolbwyntio gormod ar annibyniaeth. Ond dylai hi ddim fod yn ei thanseilio ac atgyfnerthu amheuon pobl yn ei chylch sef yn union y mae’n ei wneud gyda'r ddadl ‘dydyn ni ddim isio annibyniaeth achos mae Cymru’n rhy dlawd ar y funud’. Dylai hi fod yn cyfeirio at lwyddiant gwledydd eraill – mae Estonia’n un da iawn – ac yn gosod y bai am wendidau Cymru ar garreg drws Llundain. Cyfleu’r ffaith mai Llundain sy’n ei cadw rhag ffynnu; nid mai ni sy’n rhy dlawd felly nad oes gobaith.

Mae’r nifer sy’n coelio mewn annibyniaeth yng Nghymru’n isel. Lein y Blaid ydi nad ydi hyn yn syndod am nad oes neb erioed wedi dadlau drosti; sy’n eithaf cadarnhau un o unig ergydion Crabb neithiwr ar QT “Then what’s the point of Plaid Cymru?”

Oce, Blaid Cymru, os dydach chi ddim isio gweiddi’n groch dros annibyniaeth dwi’n dallt hynny’n iawn – a dwi’m yn bod yn goeglyd, dydi’r fantais wleidyddol sydd i’w hennill o wneud hynny efallai ddim yn fawr. Ond drwy, i bob pwrpas, fwydo’r naratif Brydeinllyd yn ei chylch, rydych chi’n cyfrannu nid at ei sicrhau ryw dro, ryw bryd, ond at ei hatal a hynny efallai’n barhaol.