martedì, dicembre 16, 2014

The Hobbit: Battle of Five Armies - Adolygiad

I fi, does ‘na fawr gwaeth sarhad na chael fy ngalw’n gîc. Ond o ran Lord of the Rings, dwi’n amharod dderbyn y label. O, dwi’n caru’r hen Middle Earth, a hynny ers gweld y drioleg wreiddiol ddegawd yn ôl. Wedi hynny y darllenais i’r llyfrau. Ac yna The Hobbit, The Silmarillon a llyfrau lu yn ategu’r peth. Mae’r holl beth yn anhygoel imi. Does unman dwi’n ymgolli ynddo mwy. Ond llai o nonsens cyn i mi swnio fel mwy o gwd nag ydw i.
 
Ro’n i’n eiddgar ddisgwyl trioleg The Hobbit felly. Dyna’r tro cyntaf i mi fod i’r sinema ben fy hun, oedd yn beth mawr achos dwi'm rili yn foi sinema na ffilmiau. Wnes i fwynhau’r gyntaf a’r ail – yr ail yn benodol. Lord of the Rings nid oeddynt ond wnes i fwynhau’n fawr o hyd. Felly ar ôl blwyddyn o aros mi gefais i weld rhan derfynol y drioleg ddydd Gwener. Dwi ‘mond yn cael bwrw ‘mol achos nesi addo i Steff o gwaith na dywedwn unrhyw beth o gwbl yn unman nes iddo fo ei gweld/clywed rhag ei sbwylio.
 
Rŵan, tydw i’m yn burydd Tolkien o gwbl a ‘sgen i ddim mynadd â phurdeb efo pethau fel’na – blydi stori ffuglen ydi hi wedi’r cwbl. Ond ow, wnaeth The Hobbit: Battle of Five Armies fy siomi i gymaint. Hynny ydi, o’n i’n teimlo’n isel ar ôl gadael y sinema, achos oedd ‘na jyst cymaint yn rong – disgynnodd fy myd i’n ddarnau. Does dim ots gen i os na ddarlleno unrhyw un y blogiad hwn. Rhaid imi gael hyn allan o’m system. Ac os dydach chi’m isho spoilers, peidiwch â darllen ymhellach.
 
Wna i restr yn lle traethawd, achos ma’n haws a dwi’n caru rhestrau o waelod fy nghalon (sy ddim yn fy ngwneud i’n gîc):

 

1.    Y Frwydr Fawr. Ond dyma’r peth. Doedd o ddim mor epig ag y gallai o fod. Iawn, dydi o ddim i fod yn Pelennor arall, ond prin o frwydr oedd mewn difrif, wrth i’r ffilm neidio i gymeriadau eraill yn lle rhoi ffeit iawn i ni. Roedd o’n annigonol. Yn lle neidiodd y ffilm at bobl fel...

2.    Tauriel. Hon ydi’r peth prydferthaf yn Middle Earth ac eithrio Galadriel (er bod hi’m yn y llyfrau). Do’n i’m yn meindio hi yn yr ail ffilm gormod, ond roedd y peth cariad efo Kili jyst ddim wedi dod ynghyd – doedda ni ddim isio gweld hyn. A nath y berthynas ddim datblygu digon i ni fod efo ots beth ddigwyddodd beth bynnag – plot filler diog, arwynebol ac amlwg oedd o. Hefyd, oedd o jyst bach yn wirion ac annioddefol gawslyd. A nath y love rivalry posibl â’r gŵr dwi am ei drafod nesa ddim gweithio chwaith...

3.    Legolas. Ar wahân i Galadriel a Tauriel, Legolas ydi’r peth deliaf yn Middle Earth. Swni’n hapus iawn yn mynd am Italian efo fo. Ac roedd o’n un o’r cymeriadau mwyaf poblogaidd yn LOTR. Rŵan, doedd cael ymddangosiad gan Legolas yn y ffilmiau ddim yn wirion o gwbl – mae’n neud synnwyr o ryw fath, â Mirkwood yn filltir sgwâr i’r boi. Ond y broblem oedd cafodd o lawer gormod o sylw yn y ffilm hon. Llawer gormod – dynnodd o’r sylw oddi ar y prif blot a’r prif gymeriadau, a hynny gyda stori wan, flêr. Ddim ffilm amdano fo oedd hon i fod. Ac yna ar y diwedd dyma’i dad, Thranduil (cymeriad wnes i rili mwynhau yn y ffilmiau hyn) yn mwydro rwbath amdano’n mynd i ffeindio Aragorn, a bod ei fam yn ei garu. O’n i’n ista yn y sinema yn meddwl “o le ddaeth hynny o?”. (O.N. dwi’n dal i garu Legolas, newidith hyn fyth)

4.    Canlyniad y frwydr. Welsom ni mo hyn mewn difrif. Oedd pethau’n mynd fel shit i fyddin y Dynion, ac ar ôl iddyn nhw benderfynu fwrw ati am un last stand, efo hyd yn oed y merched yn penderfynu ymladd wrth eu dynion (tŵ blydi rait ‘fyd de hogia?); ym, wel, nath hynny gyd jyst ddigwydd yn ddiarwybod i ni. Welsom ni ddim galaru dros Fili a Kili (er criodd Tauriel dros Kili ond, fel y dywedais, doedd ddim ots gan neb erbyn hynny), dau etifedd Thorin. A wnaeth byddinoedd yr Elffyns a’r Corachod jyst cael eu lladd i gyd? Wyddom ni ddim am na welsom ni. Ac yn fwy na hynny, pan oedd pethau’n duo mwy, roedd ail fyddin y coblynnod yn cyrraedd. Aparyntli, nath yr Eryrod jyst chwalu honno. Un fyddin enfawr. A welsom ni fawr ddim o hynny’n digwydd. A welsom ni ddim...

5.    Yr Arkenstone. Un o’r pethau pwysicaf yn yr holl ffilm. Pwy â ŵyr beth ddaeth o hwn.

6.    Cymeriad Billy Connolly – Dáin. Doedd o’m yn ddoniol, ac roedd y CGI yn eithaf amlwg (dybiwn i fod o’n CGI achos nad ydi Connolly’n ddigon iach i chwarae’r rhan ar y funud). Roedd lot o CGI gwan yn y ffilm – wn i ddim a sylwodd unrhyw un arall bod yr holl Elffyns i gyd ag union yr un wyneb â’i gilydd jyst bod rhai bach yn dalach na’i gilydd. Hefyd, Dáin sy’n dod yn Frenin ar y Lonely Mountain ar ôl y frwydr. Ddylen ni fod wedi cael gwbod hynny rywsut, siwrli? Just cliw hyd yn oed?

7.    Perthynas Galadriel/Gandalf. O’r holl bethau allan o le yn y ffilm hon, roedd perthynas y ddau yma yr odiaf beth o’r cyfan. Ar ôl achub Gandalf, dyma Gandalf yn pledio efo hi i fynd efo fo, tra bod ‘na blydi llwyth o Nazgûl o gwmpas y lle, a chafodd hi drafferth i’w adael fynd. Roedd yr holl beth yn ensynio rhyw fath o gariad, neu hyd yn oed berthynas, rhyngddynt. Da chwi wrandewch arna i pan dwi’n dweud hyn: mae hyn yn ensyniad y tu hwnt i hurt.

8.    Saruman. Un personol ydi hwn. Saruman ydi efallai fy hoff gymeriad mewn ffilm erioed – mae lot o hynny achos portread Christopher Lee ohono. Dwi’n licio fo yn y llyfrau hefyd. Blydi hel, dwi’n licio Saruman. Do’n i methu aros i’w weld yn cicio tinau. Yn y trailer i’r ffilm, un foment safodd allan yn fwy na dim sef Saruman yn dweud yn benderfynol ac yn ddramatig “LEAVE SAURON TO ME. Ond, wel, wnaeth o ddim. Doedd ‘na ddim math o ffeit rhwng Saruman a Sauron. Wnaeth o fawr ddim, a dweud y gwir. Ddywedodd o hynny, a dyna ddiwedd ar antics fo, Galadriel ac Elrond. Roedd meddwl am weld y White Council (sef nhw i bob pwrpas yn y ffilm hon) in action yn rhywbeth o’n i’n glafoerio drosto. Ges i fy siomi gan y peth yn y ffordd waethaf.

9.    Y portread o’r rhan fwyaf o’r Corachod. Amhosibl fyddai cael pawb i malio am bob un o’r rhain, mae ‘na ormod ohonynt. Yn y ffilm gyntaf a’r ail, roedd ambell un yn dechrau datblygu i fod yn fwy cyflawn, ond anghofiwyd am bob un (minws Thorin a Kili) i bob pwrpas, felly erbyn y diwedd doedd ‘na fawr o ots amdanyn nhw. Ro’n i’n arbennig o siomedig nad oedd ‘na fymryn yn fwy o Balin (yr hen foi), achos roedd ei eiliadau prin o ar y sgrim ymhlith y goreuon.

10.  Y ddeialog ar adegau. Nath bron pob darn o gomic rilîff yn y ffilm ‘ma fethu, achos roedden nhw bob amser ar adeg rong. Ac roedd rhai o’r cymeriadau fel petaen nhw’n dweud pethau oedd wedi’u sticio mewn yn hytrach na’u sgriptio’n gall a threfnus ar adegau. Ymdrech fwriadol i greu llinellau sy’n sticio yn y cof – sef y ffordd rong o lunio sgript.

Wnes i fwynhau unrhyw beth? Wel, do. Roedd portread Richard Armitage o Thorin yn wych. Wnes i rili mwynhau cymeriad Brand hefyd – Cymro ai peidio, roedd o’n gymeriad bach da, ac yn un o’r rhai mwy credadwy (o ystyried ‘na ffilm ffantasi oedd hon). Ac mi wnes i fwynhau Martin Freeman fel Bilbo er nad oedd o yn y ffilm hon ryw lawer. A, do, wnes i licio gweld Smaug eto, y diawl drwg iddo fo.
 
Ond y gwir ydi gadawodd y rhan olaf o’r drioleg hon flas cas iawn yn fy ngheg i. A dwi mor ddiawledig o siomedig am y peth. Er yn dweud hynny mae o bron yn sicr y bydda i’n dal i brynu’r blydi DVD.
 
Sy ddim yn beth ‘sa gîc yn ei wneud, gyda llaw. Jyst rhag ofn i chi feddwl fel arall.

2 commenti:

Ifan Morgan Jones ha detto...

Mi wna i ddinistrio dy bwyntiau un ar ol y llall, megis Gothmog yn dinistrio waliau Minas Tirith...

1. Roeddwn i’n meddwl bod y frwydr yma’n gweithio’n dda. Pwy mewn difrif sydd eisiau gweld 10,000 o bobl bach CGI yn taro’i gilydd am hanner awr? Roedd yn fy atgoffa i o’r frwydr rhwng yr Uruk Hai a’r Fellowship ar ddiwedd y ffilm gyntaf LOTR – brwydr dreisgar mewn mannau cyfyng, , a rhwng pobl go iawn a orcs ‘go iawn’, dim CGI. Mi wnes i ei fwynhau yn fawr. A dweud y gwir y rhannau mwyaf ‘epig’ o ran sgop oedd y salaf, e.e. Dain a’r corrachod yn brwydro o flaen y drws.

2. Dydw i ddim yn deall y gwrthwynebiad i Kili a Tauriel. Roedd pawb yn derbyn yn LOTR y byddai Arwen yn fodlon rhoi’r gorau i fywyd tragwyddol er mwyn Aragorn. Wnaeth Tauriel erioed ddisgyn mewn cariad efo Kili, dim ond bod bach yn drist pan gafodd ei ladd wrth geisio ei hachub hi. Roedd Arwen yn blybran yn yr un modd pan oedd Frodo ar fin marw ar ol cael ei drywanu gan y Nazgul yn FOTR.

3. Doedd Legolas ddim yn y ffilm cymaint a hynny. Cafodd ei yrru i Gundabad am y rhan helaeth o’r ffilm. Ymddangosodd eto tua deg munud o’r diwedd, a gwneud y pethau dwl y mae wedi eu gwneud ym mhob ffilm Middle-Earth. Dydw i ddim yn siwr sut oedd yn cymryd sylw oddi ar gymeriadau eraill – e.e. yn y llyfr, y cyfan ydyn ni’n gwybod am y mwyafrif o’r dwarves yw eu henwau.

4, 5 a 6: Doeddwn i ddim yn gweld yr angen i esbonio beth oedd ffawd bob cymeriad ar ddiwedd y ffilm. Gall y gwyliwr ddefnyddio ei ddychymyg ychydig bach. Y peth olaf oedd ei angen oedd 30 munud yn cau pob mwdwl fel yn ROTK. Doedd yr Arkenstone ddim yn bwysig mwyach. Ac roeddwn i’n meddwl bod Dain yn ddoniol! Ond dim ond am bum munud oedd yn y ffilm, ac roedd ganddo tua 4 llinell. :)

7. Wnes i ddim wir sylw ar hwn. Yr awgrym ges i oedd bod Gandalf yn poeni bod Sauron am ei lladd hi.

8. Roedd Saruman ac Elron wedi bod yn cicio tinnau’r Nazgul ers 5 munud. Doedden nhw’n amlwg ddim am gicio tin Sauron, neu fyddai yna ddim 3 ffilm LOTR.

9. Yn anffodus mae’n anodd gweld sut allai y cyfarwyddwr fod wedi rhoi lot o sylw i 13 cymeriad. Pan fuodd Fili a Kili farw yn y llyfr roeddwn i wedi anghofio pwy oedden nhw. Roedd y ffilmiau yn rhoi llawer mwy o amser i ddatblygu’r cymeriadau rhain nad oedd Tolkien wedi. Problem gyda addasu’r llyfr nad oedd modd ei oresgyn oedd mai darluniau bras iawn fyddai y corrachod.

10. Doeddwn i ddim yn hoff iawn o gymeriad Alfrid. Ond roedd yna ambell i ddarn bach doniol.

Rwy’n awgrymu gwylio’r ffilm eto. Ges i ddim blas ar FOTR na TTT y tro cyntaf i mi eu gwylio nhw, achos bod fy nisgwyliadau i’n rhy uchel yn mynd i mewn (tu hwnt i beth all unrhyw ffilm gwrdd ag ef). Rwy’n ffyddiog y bydd wedi gwella gyda’r ail ymddangosiad.

BoiCymraeg ha detto...

Cytuno a mwyafrif y rhain. Dwi'n meddwl bod y drioleg fel cyfanrwydd yn fethiant cymharol, ac nid am unrhyw rhesymau anochel (h.y. eu bod nhw wedi ceisio ymestyn 1 llyfr byr dros 3 ffilm hir) ond achos eu bod nhw wedi methu addasu'r hyn oedd yno'n dda. Ydy, mae Richard Armitage yn dda fel Thorin, ond prin yn mae'r gwyliwr yn hidio dim amdano hyd yn oed ar ol 3 ffilm (dwi'n cofio'r misys - ffan fwyaf ffilmiau LOTR -yn gofyn "Pwy di hwnnw eto?" ar ddechrau'r 3ydd ffilm yn y sinema).

Lot o'r pwyntiau eraill ti'n codi'n hollol gywir.

Fodd bynnag, dwi'n gobeithio yr eir i'r afael a rhai ohonynt yn y fersiwn estynedig anochel. ee. diffyg cymeriadaeth y corachod.