giovedì, maggio 01, 2014

Dyfodol yr Iaith a Radio Cymru

Gawni un peth o’r ffordd yn syth. Dwi’m yn foi radio. Fydda i ond yn gwrando yn y car neu weithiau ar fy ffôn wrth lusgo adra o’r gwaith; fel arall, byth. Llawer gwell gen i syllu’n farwaidd ar y bocs drwy’r nos a gwylio fideos o hen bobol yn syrthio ar YouTube.

Ac yn ail, fydd unrhyw un sydd wedi darllen y blog hwn o’r blaen yn gwybod fy mod i’n hollol gefnogol, er yn feirniadol yn aml, o fudiadau cenedlaethol neu ieithyddol Cymru, fel Dyfodol yr Iaith. Ond ‘rargian, mae eu sylwadau ar newidiadau diweddar Radio Cymru yn hurt – a waeth i ni beidio â smalio, maen nhw’n amlwg wedi’u hanelu at un DJ yn benodol, sef Tommo; dydi’r ffaith nad ydi ei enw’n cael ei nodi ddim yn celu hynny. Yn ôl at hynny yn y man.

Fydda i'n dyfynnu o erthygl Golwg360 ar hyn (sydd yma), gan gymryd ei bod yn rhoi darlun cywir o’r hyn a ddywed Dyfodol i’r Iaith. Mi wna i osgoi’r demtasiwn o beidio â chwalu’n rhacs y syniad o gael dwy orsaf gydag un o’r enw Radio Pop, gan geisio f’argyhoeddi fy hun mai enw cymryd y piss ydi hwnnw yn hytrach nag awgrym go iawn!

Dyma’r peth cyntaf sy’n codi fy ngwrychyn:

Byddai’r naill yn targedu’r ifanc a’r dysgwyr gydag arlwy o gerddoriaeth ac iaith lafar gyfoes, tra bo’r llall yn wasanaeth mwy cynhwysfawr ac amrywiol o ran newyddion, drama ac adloniant gyda cherddoriaeth amrywiol Gymraeg yn unig.

Gorsaf radio i dargedu’r “ifanc a dysgwyr”? Fedrwn i ysgrifennu blogiad cyfan am ba mor hurt ydi lwmpio’r ddau grŵp at ei gilydd a hynny heb sôn am yr ensyniad, rywfaint yn sarhaus, fod pethau sy’n apelio i’r “ifanc a dysgwyr” yn hollol wahanol i ... wel, i bwy? Oedolion aeddfed sy’n siarad Cymraeg yn rhugl? Fel dwi ‘di deud o’r blaen, dwi ddim yn licio pobl yn bloeddio snobyddiaeth, ond mae geiriad yr holl frawddeg uchod yn drewi ohoni. A chadw “iaith lafar gyfoes” i’r un orsaf honno?

Wn i ddim a ydi Dyfodol i’r Iaith yn gwybod hyn ond cyfrwng llafar ydi radio yn y lle cyntaf. Wrth gwrs, mae angen amrywio’r iaith ar raglenni gwahanol – fydd rhaglen geisiadau’n wahanol i’r newyddion – ond os dydi Radio Cymru ddim yn adlewyrchu’r math o iaith mae pobl yn ei siarad bob dydd, waeth iddi roi’r ffidil yn y to ddim. Cofio’r mwydryn Jonsi? Swni’m yn bersonol ‘di gwrando ar Jonsi dan fygythiad arteithio, ond y gwir ydi roedd ei iaith lafar, iaith ‘stryd’ os mynnwch chi ddefnyddio term crinjlyd braidd, yn apelio yn fawr iawn at bobl a dyna pam fod ei raglen efallai yr un fwyaf poblogaidd yn hanes diweddar RC. Roedd pobl yn fodlon maddau tiwns cachu a malu cachu i glywed rhywun oedd yn siarad fel y byddan nhw’n ei wneud.

A does dim gwadu mai’r orsaf i’r “ifanc a dysgwyr” fyddai’r fwyaf poblogaidd – achos byddai’r cynnwys yn apelio at y rhan fwyaf o bobl (mae label Dyfodol i orsaf o’r fath yn hynod anffodus ac yn dweud lot, mae arna i ofn, am y sawl a eiriodd hynny, pwy bynnag y bônt). Mae’r ail yn swnio fel fersiwn radio Cymraeg o BBC4. Hynny yw, rhywbeth i leiafrif bach, ond ddim jyst lleiafrif yn yr achos hwn eithr lleiafrif o fewn lleiafrif.

Yn anffodus, nid yw’r newidiadau diweddar wedi llwyddo i wella gwasanaeth Radio Cymru o gwbl, ac mae angen adolygu’r sefyllfa ar frys cyn i’r orsaf Gymraeg golli ei cherddorion ifanc a’i chynulleidfa draddodiadol...

...Gofynnodd i’r BBC: “Gan fod cymaint o anfodlonrwydd gyda’r gwasanaeth presennol,...

Mae’r gair ‘gwella’ yn gallu bod yn un camarweiniol achos ei fod yn awgrymu rhywbeth absoliwt. Tydi newidiadau RC ddim am apelio i bawb, ond y gwir ydi heblaw am ambell swnyn ar Twitter a Golwg wela’ i ddim tystiolaeth fod anfodlonrwydd mawr ar y gwasanaeth presennol. Y ffon fesur fydd nifer y gwrandawyr – fydd yn ddiddorol gweld yr ystadegau hynny pan gânt eu rhyddhau nesaf. Ond hefyd dylai RC geisio apelio y tu hwnt i’r “gynulleidfa draddodiadol”, a’r gwir ydi mae llawer o’r rhaglenni mwy ffurfiol yn rhai sydd yn iawn at ddant y rheini, ond fyddai’n apelio dim at nifer fawr iawn o ddarpar wrandawyr, a nifer o bobl sy wedi troi eu cefnau ar yr orsaf – nid achos safon yr iaith, nac o reidrwydd safon y cynnwys, ond jyst achos bod RC wedi bod braidd yn boring i nifer o bobl dros y blynyddoedd diwethaf.

Ddaw hynny â ni at Tommo, sef dyn sy’n amlwg wedi cael ei ddewis i RC er mwyn ceisio denu gwrandawyr newydd, gyda rhaglen sydd a dweud y gwir â gwedd gwbl wahanol i unrhyw beth fu ar RC o’r blaen. Rŵan, cofio fi’n dweud uchod nad ydw i’n foi radio? Yn sicr nadw, ond wyddoch chi be, fydda i’n rili, rili mwynhau gwrando ar Tommo yn mwydro ac yn gweiddi yn y p’nawn. Mae’n gwneud i mi wenu. Dwi heb wrando ar RC yn fynych ers yn agos i ddegawd. Dwi’n cofio troi at Champion yn lle ‘slawer dydd achos ei fod o’n fwy, wel, hwyl. Ac achos bod Tommo’n siarad yn llafar, a’i fod yntau’n ddigon o hwyl a chynnes, dwi’n fodlon maddau’r iaith “wallus” (gas gennai bobl yn beirniadu iaith lafar pobl eraill) a lot o’r caneuon.

Druan â’r boi. Mae o ‘di ei chael hi gan lot o bobl ar Twitter. Ond mae’n rhaid i mi ddweud hyn, ac yn anffodus fedra i ddim mo’i ddweud heb fod yn sarhaus, felly dyma ni: mae’r bobl sy’n cwyno am Tommo ar Twitter a chyfryngau eraill yn union y math o bobl dwi’n falch eu bod nhw ddim yn ei licio fo. Ac i’r gwrthwyneb, mae’r bobl sy’n dweud eu bod nhw’n ei licio i’w weld yn bobl dwi’n falch fod ‘na rywbeth ar RC sy’n apelio iddyn nhw. O’r diwedd!!!

I grynhoi, fe wyddoch efallai fy mod i’n credu'n gryf mewn safonau ieithyddol gan hefyd gasáu snobyddiaeth ieithyddol. Yn groes i beth mae lot o bobl yn ei feddwl, does dim yn rhaid i’r ddau beth hynny wrthdaro â’i gilydd. Ac o ran cerddoriaeth Saesneg ar RC dwi’n tueddu i feddwl y dylai fod isafswm caneuon Cymraeg. Dwi ddim yn meddwl o gwbl bod angen ail orsaf, ond dwi’n dallt bod dadl i’w chael.

Ond pan mae Dyfodol yr Iaith yn sôn am “wella” Radio Cymru, a bod angen gwneud hynny ar frys, fedra i’m ond â meddwl mai isio gwneud hynny ar eu cyfer nhw eu hunain a rhan fechan o’r Cymry Cymraeg y maen nhw, ac nid i’r mwyafrif sydd eisiau gorsaf radio sy’n eu hadlewyrchu nhw, a chyflwynwyr sy’n siarad fel nhw.

6 commenti:

Dafydd Tomos ha detto...

Dwi ddim yn foi radio chwaith (heblaw am y ffaith fod Radio 6 Music ymlaen fel cefndir yn y gwaith weithiau). Y tro dwetha i mi wrando yn selog ar Radio Cymru oedd y 90au cynnar gyda rhaglenni Hwyrach. Roedd hynny cyn y diddanwch sydd i'w gael ar y we wrth gwrs.

Felly hyd oed yn os fyddai Radio Cymru yn apelio yn berffaith fasen i ddim yn debygol o dreulio llawer o amser yn gwrando.

Dwi ddim yn anghytuno a dim byd uchod ond dwi'n synnu fod hyn yn cael sylw unwaith eto. Na, dwi ddim yn synnu - mae'n rhan o'r patrwm newyddiaduraeth ddiog yng Nghymru lle mae'n haws 'ymateb' i ryw adroddiad neu ddatganiad gwasg. Mae'n ffordd rhwydd o ddenu clics a sylwadau (er fod rhai yn anghofio bo nhw'n ail-ddweud).

Mae Dyfodol yr Iaith yn ryddhau yr un datganiad gwasg am Radio Cymru bob mis Mai ers 2010, yn ei addasu ychydig i'r sefyllfa gyfredol.

Mae'r datganiad gwreiddiol yn ymddangos yn Barn (Mawrth 2010). Fe wnaeth datganiad 2013 gael sylw yn nghylchgrawn Golwg ac ar Golwg30. A dyna ni deja vu yn 2014.

Os ydi Dyfodol yr Iaith am cynnig welliannau i Radio Cymru, efallai bod yn well iddyn nhw beidio mynd nôl i'r gorffennol.

Anonimo ha detto...

heb ddarllen y datganiad sy'n barnu Tommo, fel y mwayfrif o Gymry Cymraeg. Y gwir yw bod mwyafrif y Cymry cymraeg erioed wedi clywed am Dyfodl,Barn na Golwg ond yn darllen eu papur bro ac yn bendant yn gwbod pwy yw Tommo

Anonimo ha detto...

Dwi'n croesawu'r ffaith bod Dyfodol yn galw am ail sianel Gymraeg ar y radio er mwyn gwahaniaethu ychydig y gwasanaethau.

Mae gan y Saeson 6 sianel BBC a dwsinau o sianeli preifat sy'n cynnig amrywiaeth iawn o gynnwys a dulliau.

Pam llai i'r Cymry?

Nid digon o genedl i gael dewis ydym?

Phil Davies

Hogyn o Rachub ha detto...

@Dafydd

A dweud y gwir dwi'm yn cofio Dyfodol yn dweud dim am hyn o'r blaen (dwi'm yn sylwi ar bopeth sy'n digwydd hyd yn oed yn y byd Cymraeg!) ond mae'n siomedig eu bod nhw'n troi allan yr un hen bethau felly, yn lle gwneud rhywbeth call dros yr iaith. O'n i'n ffan o'r syniad o gael grŵp lobïo penodol dros y Gymraeg pan sefydlwyd y grŵp - mae'n neud synnwyr ac yn syniad da. Ond rhaid i mi ddweud dwi wedi newid fy meddwl ar ôl y datganiad diweddaraf.

Does 'na ddim lot o 'snobs iaith' yn bodoli mewn difrif ac mae pobl sy'n cyhuddo pawb a phopeth o fod yn rhai yn neud lot o niwed i'r iaith. Ond y rhain ydi'r garfan fechan, swnllyd honno, ac mae angen dweud yn blwmp ac yn blaen wrthynt eu bod nhw'n gwneud niwed mawr i'r iaith.

Cytuno'n llwyr ynghylch newyddiaduraeth ddiog gyda llaw.

@Phil Davies

Dwi ddim yn hollol siŵr a oes 'na ddigon o ddeunydd, i fod yn onast, i sefydlu dwy orsaf - ond fel yr awgrymais dwi'n eithaf niwtral am y peth. Ond wrth gwrs, nid dyna ddiben y blogiad hwn.

Hogyn o Rachub ha detto...

** O ran yr ateb uchod, newid fy marn ar Dyfodol dwi'n meddwl yn hytrach na'r syniad o gael grŵp lobïo penodol dros yr iaith. Mae hynny o hyd yn syniad da.

Anonimo ha detto...

Cytuno pob gair.