domenica, gennaio 06, 2013

Cri'r Cyfieithydd

Does 'na ddim lot o yrfaoedd sydd ag elfen fwy personol iddynt na chyfieithu, a dydi cyfieithwyr ddim yn licio gwaith ei gilydd yn aml iawn - neu, yn hytrach, elfen gref o 'fi sy'n iawn ac fi sydd orau' ydi o. Ac mi ydan ni'n cwyno amdanom ein gilydd hefyd, o gwyno am gyfieithwyr llawrydd sydd methu â chyfieithu ond yn ennill arian gwell na rhai mewn cwmnïau, i gwmnïau sy'n argyhoeddedig mai dim ond y nhw all gyfieithu'n safonol, i gyfieithwyr y Llywodraeth a allai gyfieithu'r Cofnod cyfan yn fewnol, a llawer mwy yn gwbl ddidrafferth, petaent yn cyfieithu cymaint o eiriau y diwrnod ag unrhyw gyfieithydd arall sydd ddim yn gweithio i'r Llywodraeth...

Mae rhai yn cyfieithu'n llawer rhy llythrennol, eraill yn rhy llafar, ac eraill yn gwneud i'r pethau symlaf swnio fel dogfen gyfreithiol gymhleth. Mae eraill yn meddwl y gallan nhw gyfieithu jyst  achos bod ganddyn nhw Gymraeg da, ac eraill sy'n arloesol i'r graddau eu bod yn creu treigladau newydd sbon na welwyd mohonynt erioed.

O be mae o werth, fydda i'n licio meddwl fy mod i'n dda wrth fy ngwaith, a bod gennyf fy arddull fy hun a bod honno'n un addas a darllenadwy. Fydda i hefyd yn meddwl, yn ddigon trahaus, fod gen i rywfaint o ddawn am droi pethau cymhleth yn Saesneg yn bethau syml yn Gymraeg. Ond dw i'n gwybod bod 'na gyfieithydd yn llechu'n rhywle a fyddai'n darllen fy ngwaith ac yn meddwl ei fod o'n dda i ddim. A beryg mi feddyliaswn yr un peth amdano yntau. Byd bach felly ydi byd y cyfieithydd.

Dydi hynny ddim yn meddwl bod cyfieithwyr yn bitchy. Dydyn nhw ddim - mae rhai o'm ffrindiau gorau i'n gyfieithwyr. Er, dw i'n dallt yn iawn y disgrifiad a wnaed ohonynt gan ffrind i ffrind - paranoid bunch of freaks. Mi ydan ni'n gallu bod yn paranoid iawn am ein gwaith ein hunain, ac mae cyfieithu yn un o'r gyrfaoedd hynny sydd yn atyniadol iawn i bobl, wel, od. Od iawn ar adegau.

Ddywedish i wrthoch chi erioed fod gen i benglog o Ffrainc yn y bathrwm?

Ta waeth, rhyw ddadleuon felly y byddwn ni'n eu cael ym myd bach cyfieithu ond mae 'na un peth 'dan ni i gyd yn gytûn amdano - dydach chi ddim yn gallu cyfieithu. Na, dydach chi ddim. Does 'na dim yn gwylltio cyfieithydd yn fwy na rhywun yn dweud "dw i'n cyfieithu yn gwaith hefyd (noder rheswm)" pan nad ydyn nhw actiwli yn gyfieithydd. Dealladwy yn tydi? Sgil ydi cyfieithu, a dydi o ddim yn sgil y gall pawb ei meistroli - hyd yn oed os oes ganddyn nhw Gymraeg cystal â William Morgan.

Yrŵan, mi ges ddadl fach efo Siân Tir Du (sy'n blogio hyd yn oed yn llai aml na fi erbyn hyn) am gyfieithu Twitter, ar Twitter. Ddaru mi awgrymu ei bod yn well i gyfieithwyr beidio â heidio ato i helpu allan gan ei fod yn well i gael pobl 'gyffredin' (er diffyg gair gwell, ond i gyfieithydd mae unrhyw un sydd ddim yn gyfieithydd yn gyffredin iawn) greu'r peth er eu budd nhw. Prin fod yna gyfieithydd sydd heb o leiaf unwaith syrthio i'r fagl 'cyfieithu er cyfieithwyr eraill', sy'n dueddol o ddigwydd yn arbennig mewn swyddfa gan y bydd rhywun arall yn prawfddarllen eich gwaith.

Ond na, ebe Siân.

A Siân oedd yn iawn.

Dw i 'di bod yn cyfieithu bach o Twitter yn ddiweddar, yn benodol achos dydw i ddim yn y gwaith ar y funud - wedi'r cyfan, peth diwethaf dwisho'i wneud ydi cyfieithu'n wirfoddol ar ôl diwrnod o gyfieithu. Argoledig. Mae 'na lot iawn iawn o gyfieithiadau Twitter - nifer a gymeradwywyd - yn ffycin uffernol. Dydw i ddim yn jyst cyfeirio at y ffordd mae pethau'n cael eu geirio, ond yn hytrach pethau sylfaenol fel sillafu a threiglo. Fydd Twitter, pan gyhoeddir y fersiwn Gymraeg, yn siop siafins.

Iawn, bitshiad da oedd lot o'r uchod, ond wir-yr, apêl fach hefyd i rywun sy'n licio'i Dwityr erbyn hyn - os ydach chi ar Twitter a bod ganddo chi Gymraeg da, rhowch gynnig ar ei gyfieithu neu jyst dewis o blith y cyfieithiadau mae eraill wedi'u cynnig, achos y ffordd mae hi beryg fydd y fersiwn Gymraeg mor wael na fydd neb isio'i defnyddio hi beth bynnag

8 commenti:

Dyfrig Thomas ha detto...

Os felly onid y peth call yw cael trafodaeth ar y rhai yr wyt yn anhapus ac wedyn pleidleisio yn dilyn y drafodAETH

Hogyn o Rachub ha detto...

Nid terminoleg - rhywbeth y mae modd ei drafod - ydi'r broblem. Y broblem ydi camsillafu a chamdreiglo, ac a dweud y gwir mae 'na gyfieithiadau sydd fel petaen nhw'n ffresh oddi ar Google Translate. A does 'na ddim modd trafod y pethau hynny rili, maen nhw'n iawn neu dydyn nhw ddim.

Anonimo ha detto...

Cytuno â'r hyn rwyt ti'n ei ddweud. Yn anffodus rwy'n credu bod 'na bobl sydd *yn* cymryd eu cyfieithiadau'n ffres oddi ar Google Translate - ac yn creu cyfrifon eraill i bleidleisio dros eu cyfieithiadau eu hun, iddynt gael eu cymeradwyo, jest er mwyn cael y bathodyn cyfieithydd. Pobl ddi-Gymraeg yw'r rhain am wn i.

Bydd staff cyfieithu Twitter yn penodi cymedrolwr ar gyfer cyfieithiad Cymraeg Twitter rhywbryd - gobeithio gall e neu hi ymdrin â'r bobl sy'n cam-drin y system- rhwystro rhai cyfrifon rhag cyfieithu efallai?

Problem arall yw'r rhai sy'n methu'n llwyr i dreiglo neu sillafu geiriau syml...

I wella safon y cyfieithiadau, mae angen i fwy o bobl i gymryd rhan. Po fwyaf o bobl sy'n craffu ar gyfieithiadau eraill ac yn pleidleisio/cynnig eu cyfieithiadau eu hun, y gorau.

Yn ffodus, rwy'n credu bydd 'na gyfnod beta o'r cyfieithiad i'r Gymraeg fydd yn rhoi'r cyfle i ni weld sut edrycha'r wefan yn Gymraeg (pryderaf!) a gwella'r cyfieithiadau cymaint ag y gallwn cyn iddo gael ei ryddhau'n llawn.

Anonimo ha detto...

Beth sydd angen yw wneud ydi cymeradwyo pobl am gymryd rhan i gyfiethu Twitter i'r Gymraeg. Ydi mae nhw'n defnyddio Google Translate, Ydi mae eu threigliadau a sillafu yn warthus ond pwynt y prosiect ydi gwella iaith rhywyn.
Dwi wedi cyfiethu rhai ymadroddion ac yn gwybod fod nhw'n anghywir drwy obeithio fe fydd rhywyn yn dod ac yn rhoid fersiwn gwell ymlaen.
Fe fydd Twitter i'r Gymraeg ddim yn barod i'r cyhoedd am tua flwyddyn arall. Mae yna lawer o waith profi i'w wneud cyn hynny.
Yn ôl yn mis Rhagfyr mi oedd ni'r Cymru yn cwyno am dirywiad yn y nifer oedd yn siarad a ddefnyddio y Gymraeg. Beth sydd ddim angen ydi mwy o snobyddiaeth iaith.

Anonimo ha detto...

Anghytuaf â'r sylw uchod. Ni ddylem gymeradwyo pobl am gyflwyno cyfieithiadau'n syth o Google Translate. Er enghraifft, mae @1TD wedi cyflwyno nifer o gyfieithiadau gan ddefnyddio Google Translate, ac mae'n debyg mae wedi pleidleisio dros ei hun o gyfrifon eraill er mwyn iddo gael y bathodyn cyfieithydd ar ei broffil (naill ai hynny, neu mae 3 person wir yn credu taw'r Gymraeg am "Notification: Media Setting Changed" yw "Hysbysiad i Ysgolion: Media Gosod Newid") Rwy'n amau ei fod yn medru'r Gymraeg o gwbl. Gweler: https://twitter.com/1TD/status/256823845107945472 a https://twitter.com/1TD/status/264288559194845184

Mae pobl fel hyn yn ei gwneud hi'n anodd i'r lleill greu cyfieithiad da.

Anghytunaf hefyd mai pwynt y prosiect cyfieithu yw gwella iaith rhywun. Y pwrpas yw i greu rhyngwyneb Cymraeg i Twitter - hynny yw cyfieithiad da, o safon, heb wallau ym mhobman.

Wrth gwrs, does dim ots gen i os oes ambell i gamgymeriad treiglo mewn cyfieithiad - rwy'n ddiolchgar bod 'na bobl yn ceisio, ac yn rhoi sylfaen i bobl wella arni.

Peth hurt iawn fodd bynnag yw sôn am 'snobyddiaeth iaith' yma. Nid bod yn snoblyd yw pryderu am safon isel iawn (os oes 'na safon o gwbl) rhai o'r cyfieithiadau sydd ar Twitter!

Dafydd Tomos ha detto...

Hanner y broblem yw fod system cyfieithu Twitter ei hun yn un gwarthus. Ar hyn o bryd does dim cymedrolwr Cymraeg am wn i, felly sneb i reoli a chymoni'r cyfieithiadau.

Mae yna ddewisiadau yno ar gyfer cywiro ac adrodd cyfieithiadau gwael ond mae yna broblemau yn y ffordd mae nhw'n gwneud pethau.

Er enghraifft, wrth bleidleisio dros gyfieithiad, ni ddylech weld enw'r defnyddiwr am fod hynny'n cyflwyno bias. Neu wrth gwrs, mae pobl yn pleidleisio dros ffrindiau.

Dwi wedi cwyno yn swyddogol ers misoedd am ddefnyddiwr 1TD sydd wedi defnyddio Google Translate i gyfieithu. Fe ddylai pawb arall adrodd ei gyfieithiadau a nodi 'Poor Quality' a nodi ei fod wedi cyfieithu drwy Google. Fe ddylai hynny sicrhau ei fod yn cael ei wahardd.

Cymrodor ha detto...

Mae pobl yn cynnig 'cyfieithiadau' gan Google Translate yn broblem mewn ieithoedd eraill hefyd wrth i rai ceisio cael bathodyn cyfieithwr wrth ochr eu henwau. Cyn belled nad ydy'r cynigion hyn yn cael eu cymeradwyo gan eraill, ni ddylai fod yn broblem ac mi fyddai yn wastraff amser i'r unigolion sy'n eu cynnig.

Y broblem sy'n amlwg yn y cyfieithiad i'r Gymraeg yw bod rhai yn pleidleisio am y cyfieithiadau Google er eu bod yn anghywir. Fel mae Dafydd yn dweud, mae'n da i ddefnyddio'r botwm 'Report translation' i nodi cyfieithiadau gwael, gan jyst roi yn syml 'Google translation' yn eich esboniad.

Hefyd, fel dywedodd Dafydd, mae'r system cyfieithu ei hun gan Twitter yn llanastr o ran rhai pethau. Dyw nodi cyfieithiad gwael, er enghraifft, ddim yn denu sylw'r staff at yr unigolyn. Yn hytrach, mae staff wedi dweud wrthaf enwi yn y fforwm cyfieithwyr unrhyw unigolion sy'n amlwg yn defnyddio Google translate yn gyson heb gwneud cywiriadau.

O ran maint y gwaith, mae'r dasg yn enfawr ac mae wir angen mwy o bobl i gymryd rhan. Mae cyfraniadau bychan fel pleidleisio am y cynigion gorau neu cywiro unrhyw camgymeriadau bach yn werthfawr iawn.

Cymrodor ha detto...
Questo commento è stato eliminato dall'autore.