sabato, luglio 21, 2012

Dafydd Êl. Cynog a'r holl drimings

Onid ydi bod yn aelod o Blaid Cymru yn hwyl? Ailymunais â’r Blaid ychydig fisoedd nôl wedi absenoldeb o bum mlynedd gyda’r pwyslais o’r newydd ar annibyniaeth wedi taro deuddeg efo fi. Rŵan, alla i ddim dweud fy mod i’n fodlon iawn ar Blaid Cymru ar hyn o bryd o gwbl. Ro’n i, ac mi dybiaf nifer fawr iawn o’r aelodau cyffredin, yn gandryll ac yn siomedig ar benderfyniad y Blaid i gefnogi’r Llywodraethar fater y cofnod, er enghraifft. I un fel fi a chanddo eirfa gyfyngedig, rhegfeydd fyddai’n cyfleu’r dicter llwyr a deimlaf at yr Aelodau Cynulliad am yr hyn a wnaethant y diwrnod hwnnw – fe’n bradychwyd ni yn llwyr ganddynt. Roedd yn ddiwrnod du i’r Blaid a allai osod cynsail peryglus iawn o ran ei hymrwymiad i’r iaith yn y dyfodol. A doeddwn i ddim yn hapus o gwbl ar Leanne yn estyncynnig i gydweithio â Llafur chwaith.  

Er, mi fydd unrhyw un sydd wedi darllen y blog hwn dros y blynyddoedd, neu’n fy nilyn ar Twitter, yn gwybod mai rhywun digon cwynfanllyd ydw i beth bynnag ac na fydda i byth yn hapus iawn efo Plaid Cymru dim ots be wneith hi. Ond dyna ni, fydda i dal yn mynd â’r taflenni o ddrws i ddrws er gwaethaf hynny!

Ond i’r mater dan sylw, sef wythnos ddifyr Dafydd Êl, a wnaeth unwaith eto brofi ei allu dihafal i gorddi pawb a phopeth heb fawr reswm. Af i ddim i fanylion y peth, achos mi fyddwch chi sy’n darllen yn ymwybodol o’r stori. Rhaid imi ddweud, pan glywais y stori yn gyntaf, roedd gen i rywfaint o gydymdeimlad efo’r Arglwydd. Gŵyr pawb ohonom sut y gall godi gwrychyn pan nad oes ganddo fawr gwell i’w wneud, ond mae ‘na elfen o’r Blaid sydd wedi bod yn trio cael gwared arno ers cryn tro – fydda i’n teimlo hyn lot wrth ddarllen blog Syniadau (sydd, er fy mod i’n hoff ohono, yn gallu bod yn flog eithriadol o hunanbwysig ar adegau) a’r sylwadau dilynol. Efallai bod hynny’n fwy oherwydd nad oes gen i fawr o fynadd efo’r wleidyddiaeth a arddelir yno yn hytrach nag ochri efo Dafydd Êl – ond er y gall yr Arglwydd ei amddiffyn ei hun, mae rhywun yn teimlo elfen o bigo arno, fel y byddech yn ei ddweud ar iard yr ysgol, o blith rhai yn y Blaid.

Petai’r Arglwydd yn gadael o’r herwydd mi fyddai’n broblem i Blaid Cymru. Byddai’n edrych fel bwli o blaid a chanddi ddim lle i ryddid barn. Mi gaiff pobl ddadlau’r manylion ond dyna fyddai’n cael ei gyfleu, atalnod llawn. Dydi’r ffaith i’r gangen leol yn Nwyfor Meirionnydd ddatgan cefnogaeth lwyr iddo ond yn gwneud y sefyllfa’n gymhlethach. Ac mae ambell un sy’n ddigon teyrngar iddo hefyd. A byddai ei ymuno â Llafur yn ergyd fawr iawn i arweinyddes newydd Plaid Cymru – naïf iawn yw meddwl fel arall.

Gan ddweud hynny, mi ballodd fy nghydymdeimlad â’r Arglwydd yn eithaf sydyn (a rhaid imi gyfaddef, er imi drydar cefnogaeth wantan iddo, nad oeddwn i ddim wedi darllen popeth am y stori bryd hynny). Anodd gen i gredu bod yr hyn a wnaeth yn llai na gweithred fwriadol i danseilio Leanne Wood. Nid oes modd goddef hynny mewn plaid wleidyddol. Ac er i Leanne ymateb yn ddigon aeddfed i’r sefyllfa, ni allaf ond â theimlo i Dafydd Êl gael cythraul o getawê am actio fel ... maddeuwch yr iaith ... ond rêl cont.

A chan hynny does dwywaith bod yr wythnos hon wedi bod yn niweidiol i Blaid Cymru – i’w delwedd hi, ac o ran creu drwgdeimlad mewnol – ac i raddau llai i Leanne Wood ei hun. Dydw i ddim yn credu i’w harweinyddiaeth gael ei thanseilio gan hyn, ond bydd yna bobl sy’n edrych o’r tu allan yn gweld hyn oll ac yn hynny o beth wendid yn yr arweinydd newydd.

Wrth gwrs, credid i’r mater ddod i ben ac y gallen ni roi’r holl beth y tu ôl inni, ond pwy arall ddaeth i greu trafferthion a chefnogi safbwynt Dafydd Êl (o’r hyn a ddywedodd yn hytrach na’i ddweud yn blwmp ac yn blaen) ond Cynog Dafis.  Drafoda i ddim yr hyn a ddywedodd – er, mewn gair, mae’r boi yn siarad drwy’i din – ond pam aflwydd stwffio’i big i’r ddadl? Ddyweda i paham, achos mae’n broblem.

Mae ambell un o hen bennau Plaid Cymru – Dafydd Êl a Cynog Dafis y pennaf ohonynt – yn gwbl grediniol bod eu barn hwy yn eithriadol o bwysig oddi mewn i Blaid Cymru; i’r fath raddau ei fod oruwch unrhyw beth arall. A does ganddon nhw ddim mo’r hawl, ddim mo’r hawl leiaf, i achosi’r fath drallod yn rhengoedd y Blaid. Dydi o jyst ddim yn deg ar neb, o’r arweinyddion sy’n haeddu o leiaf gyfle i fynd â’r Blaid ar y trywydd o’i blaen, i’r aelodau cyffredin sy’n haeddu aelodau etholedig sydd am weithio dros y Blaid yn lle creu trafferth am ddim rheswm ond am i fodloni eu hymdeimlad o hunanbwysigrwydd chwyddedig.

Ond mi ddywedaf hyn i gloi. Os mae Dafydd Êl am adael y Blaid – er iddo ddweud nad oes ganddo unrhyw fwriad i wneud hynny, ac mi dybiaf am resymau cwbl hunanol hefyd – dyma’r adeg berffaith iddo wneud o ran y Blaid. Dydi Plaid Cymru wir, wir ddim angen cnonyn drwg yn y caws ar hyn o bryd. Y mae’n gyfnod sefydlogi arnom o hyd. Ond wyddoch chi beth arall dydi Plaid Cymru ddim mo’i hangen? Dafydd Êl yn sefyll yn Nwyfor Meirionnydd yn 2016. Efallai ei fod yn hunanbwysig ond dydi o ddim yn dwp cofiwch, fe ŵyr mai’r unig fodd iddo gael ei ethol yno ydi drwy sefyll yn enw’r Blaid. A dyna wneith.

Byddai yn sicr yn glec i Blaid Cymru petai’n gadael rŵan. Yn enwedig petai’n gadael am Lafur. Ond mae yno fantais hefyd. Y cyntaf ydi nad oes etholiadau ar y gorwel, felly dw i’n tueddu i feddwl y byddai unrhyw niwed a wneid (ac mi fyddai niwed pe digwyddid hyn) yn gallu cael ei unioni erbyn yr etholiad nesaf o bwys. Ond yn ail – ac mae hwn yn un da – ydi mai problem Llafur fyddai’r Arglwydd wedyn. Y mae Dafydd Êl yr un mor hoff o styrio ag ydw i o gwyno, ac mi fyddai’n llawenhau yn achosi trwbwl yn rhengoedd Llafur llawn cymaint ag y mae’n amlwg yn ei fwynhau ei wneud ym Mhlaid Cymru. Â thafod yn ei foch yr awgrymodd Carwyn Jones y byddai croeso iddo yn y blaid Lafur, heb amheuaeth!

Ta waeth, dw i ddim yn ymuno â’r lleisiau sy’n dweud wrtho fynd. Rhydd iddo wneud yr hyn y myn – mae ganddo’r ddawn i wneud cyfraniad cadarnhaol. Ond, mae un peth y dylai Dafydd Elis-Thomas ei wneud yn ddi-oed. Mi ddylai ymddiheuro. Mi ddylai ymddiheuro am niweidio Plaid Cymru, ac mi ddylai ymddiheuro am yr amarch a’r dirmyg y mae wedi’i ddangos tuag at Leanne Wood. Dw i’n ddigon siŵr nad ydi grŵp cynulliad Plaid Cymru yn un hapus iawn ar hyn o bryd, ac mae gan elynion y Blaid ddiolch i’w fynegi i Dafydd Êl am hynny.

6 commenti:

Anonimo ha detto...

Cynog? DET? Ai dyma'r ddau oedd benanf gyfrifol am gael gwared ar Wigley?!

Hmm.

Nic Parry ha detto...

Blog ardderchog, cytuno a phob gair. Mae Dafydd El wedi behafio yn wironeddol cywilyddus wythnos ers i Leanne ddod yn arweinydd. Pwy mae o feddwl ydy o?

Anonimo ha detto...

y problem sylfaenol ydy bod yr arweinyddiaeth wedi bod yn dilyn y trywydd anghywir ac mae dim ond DET sy'n fodlon dangos yn glir ei anfodlonrwydd. Be di rhan fwya o aelodau cyffredin ddim yn sylweddoli ydy bod nifer o aelodau eraill o'r Cynulliad o'r un farn ond nad ydynt hyd yn hyn wedi datgan hynny ar gyhoedd.
Mae'n rhaid i'r arweinyddiaeth fod yn barod i drafod fwy a derbyn bod eraill efo profiad gall fod o gymorth iddi

Anonimo ha detto...

Mae lot o gefnogwyr Leanne wedi bod yn hynod o amyneddgar efo DET dros yr wythnos diwethaf - mae na "party discipline" go iawn i beidio corddi'r dyfroedd. Felly mae beth ddywedodd Cynog yn gwbl anfaddeuol. Mae'n hasbeen nath byth gyflawni dim fel gwleidydd - licio meddwl ei hun yn dipyn o athronydd a "meddyliwr" ond di cyflawni ffyc ol. Amser i'r hen wancyrs fel fo, DET, IWJ a'r gweddill cau ceg neu ffwcia hi o ma.

Anonimo ha detto...

Dwi'n arbennig o flin efo DET. Roedd y bleidlais yma i fod i ddangos neu gwneud pwynt i Lafur i beidio meddwl y galle nhw dra-arglwyddiaethu efo sexed up dossiers.

Nawr, dwi'n rhyw ddeall safbwynt DET hefyd yn enwedig gan fod lansio dogfen economaidd yr un pryd gan Adam Price ac EapG. Ond mae DET yn dweud fod Plaid yn 'gwn bach i'r Toris' yn anfaddeuol. Mae DET wedi gwneud gwaith sbinio Llafur yn barod, caiff hwnnw nawr ei ddefnyddio hyd syrffed tan y lecsiwn nesa a bydd dim modd yn y byd rhoi unrhyw gownt ar lafur yn y Cynulliad gan bydd yr hen diwn gron yna'n cael ei ddefnyddio. Mae DET wedi rhoi cart blanche i Lafur am 4 mlynedd arall. Diolch Dafydd - gei di ddim sylw gan Lafur achos yn y pendraw mae disgyblaeth pleidiol yn bwysicach iddynt nac yw rhyddid barn. Os nad wyt ti'n deall hynny am y blaid Lafur Gymreig erbyn hyn yna ti - a dy gefnogwyr hunanol yn Meirion Dwyfor sy'n naif.

Oh, a bydd is-etholiad yn De Caerdydd yn fuan. Dydy'r Blaid byth am ennill wrth gwrs, ond roedd cyfle i gryfhau pethau ar lawr gwlad, cael sylw i'n polisiau, ac efallai ennill rhai fots ar draul y LibDems. Ond na, mae 'Plaid yn gwn bach i'r Toris' gan yr athronydd DET wedi lladd hwnnw. Ond mae'n iawn, mae Plaid Meirion Dwyfor yn hapus - ffyc ol i'r Pleidwyr eraill druan sy'n ymladd ei cornel dros y Blaid.

Hunanol iawn DET. Hunanol.

Hogyn o Rachub ha detto...

@3 Dydw i ddim chwaith yn eithriadol o fodlon ar gyfeiriad presennol y Blaid. Mi fuaswn i'n dweud fy mod i'n rhywun sydd i bob pwrpas yn anghytuno'n helaeth iawn â pholisïau'r Blaid ac na fyddwn fyth yn aelod o blaid debyg mewn Cymru rydd. Ond dyna'r pwynt, dydi Cymru ddim yn rhydd a dw i'n cefnogi gant y cant unrhyw blaid sy'n arddel ei rhyddid.

Ddrwg gen i dy fod ti'n meddwl bod tanseilio Leanne Wood a Phlaid Cymru yn dderbyniol. Dydyn nhw ddim. Ddrwg gen i dy fod o'r farn bod niweidio Plaid Cymru'n gyhoeddus yn dderbyniol, a dw i'n meddwl ei fod yn anghywir bod unrhyw un yn amddiffyn yr hyn a wnaeth. Gwynt teg ar ôl bob un ohonyn nhw.

Y mae DET wedi ceisio twyllo pawb i feddwl dros y blynyddoedd ei fod yn gwybod beth mae'n ei wneud. Mae'n berffaith amlwg nad oes gan y boi clem. Hen bryd iddo ymddeol.