domenica, settembre 04, 2011

Y mae'n awr yn hwyr y dydd (a gyda llaw, helo eto)

Wel helo helo! Dwi wedi cael penwythnos hyfryd ac yn teimlo fel y boi. Chewch chi’m crynodeb o’m hanes diweddar achos does ‘na ddim byd wedi newid, hen goc oen fues i erioed a hen goc oen ydw i. Dwi dal yng Nghaerdydd er fy mod i isio mynd nôl i Rachub, a dwi dal yn sillafu Vimto fel Vimpto ac yn ei ddweud felly hefyd, ac fydd na’m stop arna’ i yn hyn o beth. A pheidiwch â meddwl eich bod chi’n gwbl ddiogel rhagof, dwi’n dilyn y blogiau yn gyson a ffyddlon o hyd, yn gwneud yn siŵr eich bod chi gyd yn byhafio, er nad ydw i’n dweud llawer fy hun wrth gwrs. Sy’n drist ofnadwy achos, fel y gwyddoch, mae fy marn i’n bwysig.

Fe wnaeth un peth godi fy nghalon dros y dyddiau diwethaf, sef bod fy newis cyntaf i arwain Plaid Cymru, Elin Jones, wedi datgan ei bod am fynd am yr arweinyddiaeth. Efallai y soniaf am hynny’n fanylach maes o law, pan ddaw pethau’n gliriach parthed pawb sy’n bwriadu sefyll, ond petawn i’n ailymaelodi â’r Blaid (a ‘sgen i’m math o fwriad gwneud hynny – pan dwi’n llenwi cwisys ar-lein ‘pwy ddylia chdi fotio iddo fo’ dwi’n ddi-ffael yn cael y BNP) fel dwi wedi’i nodi o’r blaen, Elin Jones y buaswn i’n pleidleisio drosti, heb ronyn o amheuaeth. Y mae hi’n sefyll dros y Blaid ar y ffurf y credais ynddi.

Ond er bod Elin wedi codi ‘nghalon (a dyna’r unig beth iddi godi galla i eich sicrhau) mae ‘na ddigon o bethau sy’n parhau i’m digalonni, a rhoddodd Blog Banw fawr o achos imi wenu. Nid fy mod i ddim yn licio’r blog, wrth gwrs, dwi’n eithaf licio Blog Banw, ond ei eiriau am y Fro Gymraeg, ac a ddylem gefnogi Cymru ddwyieithog ynteu gwarchod y Fro. Ac a oes angen i ni ddewis.

Un peth dwi wrth fy mod am Gaerdydd ydi fy mod i’n gallu twyllo fy hun. Efallai bod y gymuned Gymraeg yma’n artiffisial i raddau helaeth, ond mae hi’n gymuned Gymraeg serch hynny, ac un sy’n cryfhau. Ond nid cymuned gynhenid ydi hi, mewn difri, eithr cymuned o alltudiaid o’r gorllewin a’r gogledd, sy’n gosod ei ffiniau ac yn hapus byw oddi mewn iddynt. Hyd yn oed os wyt Gymro Cymraeg a aned yma, mae’n bur debyg na aned dy rieni yma. Serch hynny, dwi ddim yn licio clywed pobl o’r hen ardaloedd yn poeri’n ewynnog eiriau cas am Gymry Caerdydd – y mae brwydr ieithyddol i’w hymladd yma hefyd.

Ydi’r frwydr honno yr un mor bwysig â brwydr y Bröydd? Wel, nac ydi. Y rheswm bod y Gymraeg yn rhyw fath o gryfhau yn y de-ddwyrain (a dwi’n dweud “rhyw fath o gryfhau” ar bwrpas) ydi oherwydd athrawon, cyfieithwyr, swyddogion a phobl broffesiynol alltud eraill yn dod i’r ardaloedd hyn o’r cymunedau Cymraeg, ac mae llif cyson ohonynt wedi bod ers dau ddegawd; y Fro gynhaliodd y Gymraeg yn y de-ddwyrain yn ystod ei dyddiau duaf. Ond dwy ochr i’r geiniog ydi hynny, wrth gwrs. Fel dwi wedi mynegi droeon erbyn hyn, mae’r Fro Gymraeg yn marw, ac oni wneir ymdrech benodol i’w hachub, y mae ar ben arni hi.

Yn anffodus, mae’r haul eisoes ar fachlud dros y Bröydd, ac mewn rhannau helaeth o’n gwlad y mae’r canfyddiad mai Cymraeg ydi’r brif iaith yno’n gwbl wallus; hunan-dwyll ydyw, fel i mi ganfod ar ymweliad diweddar â Chaerfyrddin. Yn 2011, myth ydi cadarnleoedd Cymraeg y de-orllewin; myth cysurus, bodlon. Nid canrannau siaradwyr sy’n bwysig eithr y geiriau ar dafodau pobl.

Y mae elfen o’r hunan-dwyll hwn hefyd yn y gogledd-orllewin. Dwi’n gwybod fy mod i’n cyfeirio lot at Ynys Môn fel enghraifft o rywle y mae’r Gymraeg mewn sefyllfa ddifrifol, ond fyddech chi fawr gwell yn ymweld â Rachub. Ynfytyn fyddai’r diystyru effaith y mewnlifiad ar y cymunedau hyn, ac mae digon o bobl gwleidyddol gywir sy’n gwneud hyn hyd yn oed ymhlith rhengoedd cenedlaetholdeb. Er enghraifft, dwi’n cofio i flog Syniadau ddatgan (er na allaf ffeindio’r union neges) na fyddai’n drychineb pe collid mwyafrifoedd Cymraeg Ceredigion a Sir Gâr yn y cyfrifiad nesaf. Wel, mi fyddai hynny’n drychineb – ac yn bwysicach fyth, trychineb fydd hi.

A beth am yr iaith ymhlith plant? Wn i ddim be sydd haru pobl sy’n magu eu plant yn y Saesneg tra y gallant wneud hynny’n Gymraeg, ond mae’n gyffredin iawn erbyn hyn – ac nid dim ond yn Rachub, neu yn Sir Gâr lle daw llai na 25% o blant ysgolion cynradd y sir o aelwydydd Cymraeg, mi glywch chi hyn yn ddigon cyffredin yn Llangefni neu Gaernarfon hefyd. Ac o ran y Gymraeg, chewch chi fawr gadarnach na’r llefydd hynny. Arferai pobl yr ardaloedd hyn, a’r Fro’n helaethach, feddwl ‘siarad Cymraeg = Cymro’.  Cytunwch ai peidio â hynny, mi dybiaf fod yr ymdrech i ddileu’r agwedd honno wedi niweidio’r Gymraeg yn enfawr mewn rhai cymunedau, ac efallai’n fwy penodol yn y de na’r gogledd. Hynny ydi, geith y plant siarad Saesneg a dal fod yn Gymry achos dydi’r Gymraeg ddim mwyach yn rhan hanfodol o Gymreictod.

Ychwaneger hyn at y ffaith bod llawer o blant o aelwydydd Cymraeg yn dewis siarad Saesneg gyda’i gilydd o’u gwirfodd, a dydi’r dyfodol ddim yn dda iawn. ‘Does ‘na ddim pwynt gofyn i rywun fel fi am atebion i’r problemau uchod – ‘sgen i ddim un a dwi’m yn meddwl bod gan fawr neb un. Y mae hynny yn ei hun yn dweud y cyfan.

Wrth gwrs, mae gynnon ni hefyd lywodraeth ym Mae Caerdydd sy’n ymddangos yn eithaf penderfynol mewn rhai rhannau o’n gwlad i ddileu’r Gymraeg yn llwyr ac yn ddi-droi’n ôl – wele gynlluniau tai’r gogledd-ddwyrain a Chaerfyrddin. Petawn ni oll yn erfyn ar ein llywodraeth i warchod yr iaith a Chymreictod a gwrthod y fath gynlluniau, neges i glustiau di-glyw fyddai. Dwi’m yn meddwl bod na gweinidog nac aelod cynulliad yn rhengoedd Llywodraeth Cymru sy’n poeni dim ei bod am ddifa’r Gymraeg. Pwy feddyliasai nôl yn ’99 y buasai ein llywodraeth genedlaethol ymhlith y llu ffactorau yn erbyn parhad yr iaith?

Dywed Blog Banw am eiriau Saunders Lewis:

Os am achub ein hiaith fel dywedodd Saunders, rhaid i ni brofi chwyldro, nid ond ar bapur ac arwyddbost ond ym meddylfryd y Cymry, a’r rheiny sydd yn galw Cymru yn gartref arnynt bellach. Rhaid i siroedd fel Sir Gâr, Ceredigion, Conwy, Sir Fôn neud camau arwyddocaol i brofi eu bod o ddifri dros ddiogelu’r iaith. Yr hyn a gawn yw ffug gefnogaeth, sydd yn wastraff. Beth yw’r pwynt cael arwyddbost Cymraeg os na ellir cael gwasanaeth Cymraeg mewn cymuned Cymraeg?

Y mae’r hen Saunders yn cael ei ddilorni llawer heddiw, hyd yn oed ymysg rhai aelodau mwy trendi Plaid Cymru sy’n meddwl bod nationalist yn hen air cas, ond mae gen i barch mawr at Saunders (er y buaswn i’n sicr yn rhoi cic allan o’r gwely iddo). Yn anffodus i ni, roedd Saunders ychydig o broffwyd; ystyriwch sefyllfa adeg ‘Tynged yr Iaith’ a heddiw. Mi rhagwelodd y sefyllfa bresennol i’r dim, hanner canrif yn ôl, ac alla’ i ddim ond am gytuno â’i eiriau. Read it and weep, Cymru fach:

Yn fy marn i, pe ceid unrhyw fath o hunan-lywodraeth i Gymru cyn arddel ac arfer yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yn holl weinyddiad yr awdurdodau lleol a gwladol yn y rhanbarthau Cymraeg o'n gwlad, ni cheid mohoni'n iaith swyddogol o gwbl, a byddai tranc yr iaith yn gynt nag y bydd ei thranc hi dan Lywodraeth Loegr.