lunedì, maggio 02, 2011

Syndrom '99

Fel y dywedais ym mlogiad ddoe, mae argraffiadau yn bethau peryglus, a thybio yn waeth fyth. Mwyaf euog o’r pechod hwn yw Plaid Cymru. Ers degawd mae Plaid Cymru wedi bod yn orhyderus am ei chyfleoedd mewn etholiadau, ac mae hynny yn ei dro wedi arwain at cyfres o ganlyniadau sy’n ymddangos yn drychinebus. Dim ond un etholiad dros y degawd diwethaf, sef rhai cyngor 2008, sydd wedi bod yn wirioneddol lwyddiannus iddi. Y mae rhai o’i gwleidyddion mwyaf profiadol ac amlwg wedi darogan canlyniadau gwych, ac yn y broses wedi llwyddo i argyhoeddi sylwebyddion, boed hwythau’n rhai yn y wasg neu’n rhai anffurfiol fel y blogiau.  Dyn ag ŵyr, mi lwyddodd y Blaid f’argyhoeddi i ymhlith nifer o bobl eraill y byddai 2010 yn etholiad gwych, ond hyd yn oed o safbwynt gwrthrychol roedd yn bell o fod. Darllener sampl o amryw flogiau gwleidyddol o’r llynedd i weld hynny.

‘Syndrom 99’ y buaswn i’n disgrifio’r duedd hon ym Mhlaid Cymru, oherwydd ei bod yn duedd sydd wedi amlygu ei hun ers etholiadau rhagorol 1999, y ‘daeargryn tawel’ honedig nas gwireddwyd mewn difrif. O Leanne Wood yn honni bod ganddi dros hanner pleidlais y Rhondda yn 2001 i Adam Price ac eraill yn gogoneddu arolygon barn di-nod, o saith sedd 2010 i fuddugoliaeth 2009, mae’n sicr yn un o nodweddion gwaethaf y Blaid!

Rŵan, mae’r Blaid yn blaid gymharol ifanc o ran ei hoedran, yn arbennig felly llawer o’i hymgeiswyr, ac efallai bod ieuenctid y Blaid yn yr ystyr hwn wedi arwain at orfrwdfrydedd ar sawl achlysur sy’n deillio o ddiffyg profiad. Gwn nad ydw i mewn sefyllfa i bregethu achos dwi ddim yn ganfasiwr nac ymgyrchydd na dim tebyg, ond efallai bod tuedd i gredu os bydd rhywun yn dweud wrthoch ar stepen y drws eich bod yn sicr o’u pleidlais eu bod yn dweud y gwir. Ac mae’n sicr yn y Blaid barodrwydd i anwybyddu polau piniwn llai ffafriol (fel y rhai diweddar), a rhoi sylw i rai ffafriol (fel rhai tua blwyddyn yn ôl a chynt).

Dwi’n sefyll wrth yr hyn a ddywedais ddoe, sef bod gan Blaid Cymru fomentwm, ac nad oes gan unrhyw un o’r pleidiau eraill mohono, a bod ganddi hwnnw ar yr adeg gywir. Dydi hynny ddim yn golygu bod ganddi ddigon o fomentwm, nac yn tynnu oddi ar y ffaith y gallai’r momentwm hwnnw fod wedi dod yn rhy hwyr i wneud gwahaniaeth mawr. Os o gwbl.

Pam fy mod i’n dweud hyn yn hunanbwysig i gyd felly? Ddyweda’ i pam – mater o amgyffred ydi hynny hefyd, o ddarllen a chlywed. Oes, mae gan Blaid Cymru y gwynt yn ei hwyliau, ond yn debyg i’r degawd diwethaf dwi’n poeni efallai bod y llong yn mynd tua’r creigiau ac nid yr hafan unwaith eto. Dydw i ddim yn cyfeirio at unrhyw sedd yn benodol, gyda llaw, nac yn smalio fy mod i rhywsut yn gwybod yn well na neb arall ... dwi’n gwbl ymwybodol o’r ffaith fy mod i ddim! Ond rhaid bod yn realistig hefyd. Efallai bod y polau piniwn wedi bod yn hael i Lafur (ac efallai ddim), ond mae’n berffaith amlwg y bydd gogwydd sylweddol ati eleni, ac ni all unrhyw sedd, o Fôn i Fynwy, rywsut gael ei heithrio rhag y duedd honno. Mae ffactorau lleol ar waith ymhobman, ond mae’r gogwydd cenedlaethol cyffredinol hefyd.

Teimlaf fod Syndrom '99 yn araf lithro nôl mewn i ymgyrch y Blaid eleni. Ni ddylid gadael iddo wneud.

3 commenti:

Anonimo ha detto...

Digon teg! A mae na hen stejars fel fi o gwmpas yn barod i roi hwb fan hyn a fan arall.

Anonimo ha detto...

Tybed ai'r senario orau i Blaid Cymru yw syrthio nol tro hwn,gan y byddai hynny'n gyfle i ddewis arweinydd newydd o'r diwedd? Gyda phosibilrwydd o Nick Bourne yn colli ei sedd ranbarthol, falle bydd rhaid i'r Ceidwadwyr ddewis arweinydd newydd hefyd. Byddai hynny'n gyfle i ffurfio dealltwriaeth newydd rhwng Cenedlaetholdeb a Cheidwadaeth dros y blynyddoedd nesaf. Dyna'r unig ffordd i roi terfyn ar fonopoli Llafur dros fywyd Cymru.

Blog Banw ha detto...

Pwyntiau dilys iawn roeddwn i'n llawn brwdfrydedd flwyddyn diwetha ond i gael fy siomi, ond un peth dwi'n credu sydd yn taro nodyn gyda Phlaid Cymru yw brwdfrydedd ac uchelgais dros Gymru. Pam? Angerdd dros wlad efallai neu am eu bod am guddio o realiti? Y ddoi'n resymau digon tila. Yn bersonol y bygythiad mwyaf ar ran swing i'r blaid lafur yw Llanelli yn fy llygaid i, dwi wir ddim yn gallu gweld y blaid lafur yn cipio Aberconwy. A rhaid bod yn ofalus iawn gyda Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro - bydd hi'n agos does dim amheuaeth ond byddwn i ddim mor parod i wfftio siawns Nerys yno wrth ystyried yr ymgyrchu brwd yn ddiweddar. Amser a ddengys serch hynny :)