venerdì, aprile 08, 2011

Proffwydo 2011: Canolbarth Cymru

Y mae’r polau diweddaraf yn awgrymu chwalfa’r Democratiaid Rhyddfrydol, etholiad cymharol lwyddiannus i’r Ceidwadwyr, Llafur yn ennill dros hanner y bleidlais a Phlaid Cymru’n cael ei hetholiad gwaethaf erioed ar y lefel hon. Yn reddfol, mae’n anodd anghytuno â hyn, ac mae’n gwneud ardal y Canolbarth yn un hynod o ddiddorol, gyda goblygiadau mawr i bob plaid.

Yr Etholaethau

O holl etholaethau’r rhanbarth, mi dybiaf mai tair yn unig sy’n ddiogel. Bydd Rhodri Glyn Thomas yn parhau’n AC ar Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr heb ddim trafferth, a hynny hefyd fydd hanes Dafydd Elis-Thomas yn Nwyfor-Meirionnydd. Ac er gwaethaf y polau erchyll, mewn difrif mae’n anodd gweld y Ceidwadwyr yn trechu Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mrycheiniog a Maesyfed. Un peth sydd yn sicr yn y tair sedd hyn: mi fydd y mwyafrifau mawrion yno yn llai nag yn 2007.

Mae dwy sedd sy’n gymharol ddiogel, dwi’n teimlo. Ceredigion yw’r cyntaf. Mae Elin Jones yn AC poblogaidd, yn weinidog medrus, sydd â mwyafrif cadarn, ac mae ei phrif wrthwynebwyr yn gwneud yn waeth na Phlaid Cymru hyd yn oed yn y polau. Serch hynny, alla i ddim rhagweld pleidlais brotest fawr wrth-Lundeinig yng Ngheredigion. Byddai’n well gan drwch poblogaeth ardal fel hon weld y Ceidwadwyr (gyda’r Dems Rhydd) mewn grym yn Llundain na’r blaid Lafur. I’r diben hwnnw, dybiwn i ar lefel San Steffan mai’r Dems Rhydd fydd bia hon am flynyddoedd bellach, ond dylai Elin Jones ennill yma eleni. Byddai ei cholli hi yn waeth ergyd i’r Blaid nag unrhyw un arall o’i ACau, gan gynnwys ei harweinydd.

Yr ail sy’n gymharol ddiogel ydi Preseli Penfro. Dydi mwyafrif Paul Davies ddim yn enfawr ond mae’n un o aelodau amlycaf y Cynulliad erbyn hyn, ac mi fyddai’n golled i’r sefydliad heb amheuaeth. Er ei bod yn ymddangos bod cefnogaeth Llafur dros 15% yn uwch nag yn 2007, a bo’r bwlch rhwng y ddwy blaid ond yn 11% yma, dwi’n amau y bydd gan Paul Davies ddigon o enw i fynd â hi, a chofier bod pleidlais y Ceidwadwyr yn ymddangos yn sefydlog. Agos ond dim sigâr i Lafur yma.

Mae’r tair sedd arall yn ddiddorol, ond af i ddim i fanylder mawr amdanynt, ond cynnig rhai sylwadau.

Fe ddywedais flynyddoedd nôl ar y blog hwn fy mod o’r farn yr âi’r Ceidwadwyr â Threfaldwyn yn 2011, er i mi gael pethau’n hollol anghywir y llynedd. Ta waeth, y Ceidwadwyr sydd â’r momentwm yn y sedd hon bellach, roedd buddugoliaeth Glyn Davies y llynedd yn hwb enfawr i’r blaid yn lleol, a dwi’n darogan y bydd y Ceidwadwyr yn cipio’r sedd hon a hynny â mwyafrif parchus iawn – dim ond 4.5% o ogwydd sydd ei angen arnyn nhw. Mi gânt hynny.

Beth am Orllewin Caerfyrddin a De Penfro? Dim ond 250 o bleidleisiau oedd ynddi y tro diwethaf rhwng y Ceidwadwyr yn gyntaf a Phlaid Cymru’n drydydd, gyda Llafur yn y canol. Mae pleidlais Plaid Cymru a Llafur wedi syrthio’n gyson yma ers 1999, gyda’r Ceidwadwyr ar eu fyny bob tro. Fydd hi ddim yn dibynnu ar wasgu’r bleidlais Ryddfrydol chwaith, cafodd y blaid lai na dwy fil o bleidleisiau yn 2007, er o ystyried pa mor agos yr oedd hi y flwyddyn honno gallai fod yn ffactor. Dydi Angela Burns heb greu enw iddi ei hun yn y Bae, er bod Nerys Evans wedi – un o sêr y Cynulliad a’r Blaid heb os – ond mae’r polau cenedlaethol yn gadarn yn erbyn y Blaid, a byddai cipio’r sedd hon yn gamp a hanner ar ei rhan hi. Ond yn gamp yn ormod mi deimlaf. Fe deimlir ei cholled yn y Cynulliad yn fawr. Yn ei lle, credwn y gwelwn ddychwelyd Christine Gwyther a hynny’n gymharol gyfforddus, gyda’r Ceidwadwyr yn ail. Ni cheidw’r Democratiaid Rhyddfrydol eu hernes.

Yn olaf, Llanelli. Ar bapur, mae hwn yn hawdd i Blaid Cymru – mwyafrif cadarn, ymgeisydd amlwg a chryf, a hynny yn erbyn cyn-gynghorydd ffwndrus, os hoffus, sy’n 70 oed. Ond cofiwch 2010. Roedd perfformiad Plaid Cymru yn y sedd benodol hon yn siomedig. Yn ôl y pôl diweddaraf mae Llafur tua 18% i fyny ar 2007 a Phlaid Cymru i lawr 6%. Yn Llanelli, os pleidleisia’r un nifer â’r tro diwethaf, mae hynny’n gyfystyr â buddugoliaeth o nid ymhell o 3,000 i Lafur. Mae hynny’n annhebygol iawn yma, ond yn bersonol, ar y pwynt cynnar hwn o’r ymgyrch o leiaf, synnwn i ddim petai Llafur yn ysgubo popeth o’i blaen eleni, a rhaid dweud bod y Blaid yn arbennig yn ymddangos yn gwbl ddi-glem ynghylch sut i atal hynny rhag digwydd (a bod yr hyn y mae’n ei wneud ar drywydd cwbl anghywir, yn fy marn i). Gall pethau newid yn ystod yr ymgyrch, wrth gwrs, ond petawn i’n betio heddiw, â chalon drom, dwi’n amau mai Llafur aiff â Llanelli eleni.

Proffwydoliaeth:

Plaid Cymru 3 (-1)
Llafur 2 (+2)
Ceidwadwyr 2 (-)
Dems Rhydd 1 (-1)



Y Rhestr

Dyma yn hawdd ranbarth gwannaf Llafur, a dwi ddim yn rhagweld y bydd hi’n dod i’r brig yma. Unwaith eto, dwi’n teimlo mai Plaid Cymru fydd gyntaf, gyda’r Ceidwadwyr yn ail a Llafur yn drydydd. Teimlaf y bydd y Blaid yn colli pleidleisiau yma, ond nid i’r un graddau ag ardaloedd eraill, a bod y gwrthwyneb yn wir am Lafur – ennill ychydig, ond nid cymaint â’r unman arall. O reddf dwi’n teimlo y bydd pleidleisiau gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd at gyfeiriad Llafur a’r Ceidwadwyr yma, yn gymharol gyfartal. Felly pa oblygiadau sydd i’r rhestr?

O amrywio’r ffigurau fymryn, cynnydd eithaf mawr i’r Blaid Lafur, y Ceidwadwyr ar eu hennill ac ar y blaen i Lafur o fymryn, a gostyngiad ym mhleidlais Plaid Cymru, gyda’r Dems Rhydd yn cael llai na 10% o bleidleisiau’r rhestr, âi’r sedd gyntaf i’r Ceidwadwyr, yr ail i Lafur, a’r drydedd i Blaid Cymru. Y peth diddorol ydi, petai Llafur yn ennill yn Llanelli a Gorllewin Caerfyrddin, ar yr amrywiadau bach hynny mi fyddant yn debygol o golli sedd rhestr, a honno i’r Ceidwadwyr – oni threcha’r Ceidwadwyr yn y bleidlais ranbarthol. Serch hynny, mi fyddai’r gystadleuaeth am y bedwaredd sedd yn hynod, hynod agos rhwng y tair plaid hynny. Hyd yn oed gyda dim ond un etholaeth i’w henw, ni fyddai gan y Democratiaid Rhyddfrydol unrhyw gyfle o ennill sedd ranbarthol yma.

Fodd bynnag, ni ddylid diystyru’r Blaid Werdd yma. Os enilla’r blaid honno dim ond tua 6% o’r bleidlais ranbarthol, bydd ganddi gyfle o ennill sedd – er nad ydw i’n rhagweld hynny’n digwydd y tro hwn. Mae hyn hefyd yn wir am UKIP i raddau llai.

Ac am rŵan, dwi am gadw at hynny. O ran y rhestrau, mi fydd y Ceidwadwyr yn cipio sedd gan y Blaid Lafur, o drwch blewyn – er ei bod yn hawdd gweld Llafur yn ei chadw, neu o bosibl Plaid Cymru yn ei chipio; mae’r cyfan yn dibynnu ar y pedair sedd sydd, yn fy marn i, ar hyn o bryd yn edrych fel petaent am newid dwylo.

Proffwydoliaeth:

Ceidwadwyr 2 (+1)
Llafur 1 (-1)
Plaid Cymru 1 (-)

1 commento:

Emlyn Uwch Cych ha detto...

Rwy'n credu falle fydd na ambell i syrpreis yn y rhanbarth hon, wsti.

Rwy'n taflu swllt ar y bwrdd ac yn awgrymu mai dyma fydd y canlyniadau eleni:

Brycheiniog a Maesyfed: FIBDEMs gyda mwyafrif o 1000 dros CON
Caerfyrddin, Dwyrain a Dinefwr: LLAFUR (ie, LLAFUR!) am y tro cyntaf, gyda mwyafrif parchus. So long, Rhodri Glyn.
Caerfyrddin, Gorllewin a De Penfro: LLAFUR gyda mwyafrif o 500 dros CON. PLAID ymhell y tu ôl iddi. Ta ta, Nerys druan (bechod). Sayonara, Angela, ma Christine nôl.
Ceredigion: FIBDEMs yn rhuthro i fwyafrif enfawr. Hwyl i ti, Elin.
Drefaldwyn: TORI'n hawdd.
Dwyfor a Meirionydd: Yr Arglwydd nôl yn ei gadair. PLAID heb os nac oni bai.
Llanelli: LLAFUR eto, wedi ail-gyfrif. Hasta la vista, Helen Mary.
Preseli Penfro: TORI gyda mwyafrif o 1500 dros Lafur.

Ceidwadwyr 2 (-)
Democratiaid Rhyddfrydol 2 (-)
Llafur 3 (+3)
Plaid Cymru 1 (-3)

Rwy'n cytuno gyda'r Hogyn mewn un peth yn fy mhroffwydoliaeth, beth bynnag; dyma'r rhanbarth:

TORI 2 (+1), PLAID 1 (-), LLAFUR 1 (-1).

Mae merched y Blaid wedi gwneud joban da, ware teg, ond bydd rhaid ffarwelio â nhw am y tro ar Fai 6.