sabato, aprile 23, 2011

Proffwydo 2011: Canol De Cymru

Ar ôl saib haeddiannol (ish) dyma ddod nôl at y dadansoddiadau (mae Emlyn wedi bod yn ddewr iawn yn rhoi ambell broffwydoliaeth am y Canolbarth!). A oes rhywun arall yn teimlo bod yr ymgyrch wedi bod yn gwbl anweledig? Yn fwy na hynny, dwi’m yn meddwl bod gan unrhyw blaid fomentwm ar y funud, chwaith – dydi’r ymgyrch ddim yn siop ffenestr dda i wleidyddiaeth Gymreig. Canol De Cymru sydd nesaf, sy’n cynnwys rhai o gadarnleoedd mwyaf Llafur a Chaerdydd.
Yr Etholaethau
Dydach chi ddim angen i mi ddweud wrthych bod pedair sedd – Rhondda, Pontypridd, Cwm Cynon a De Caerdydd a Phenarth yn gwbl, gwbl ddiogel yn nwylo’r blaid Lafur. Roedd Plaid Cymru’n anghywir i fod yn hyderus yng Nghwm Cynon y llynedd a’r Ceidwadwyr felly yn Ne Caerdydd, ac maen nhw’n fwy anghywir byth o fod eleni, os maen nhw!
Oherwydd y sefyllfa wleidyddol yn San Steffan, mae Gorllewin Caerdydd yn gymharol ddiogel i Lafur dybiwn i. Galla i weld cwymp ym mhleidlais y Blaid yma a mwyafrif parchus iawn i Lafur, gyda’r Ceidwadwyr efallai bwynt neu ddau yn uwch. Petai pethau’n wahanol yn San Steffan gallai hon fod yn sedd ddiddorol. Ond fydd hi ddim.
Mae’r un peth i raddau’n wir am Fro Morgannwg. Er i’r Ceidwadwyr ei chipio â mwyafrif cadarn y llynedd, mae’n anodd eu gweld nhw’n ailadrodd hynny ar lefel Cynulliad eleni. Efallai bod mwyafrif tila iawn o 83 gan Jane Hutt ond mentraf ddweud y caiff ei dychwelyd – a dweud y gwir ‘sgen i fawr o amheuaeth am y peth. Felly yn fy marn i, mi fydd Llafur yn cadw pob sedd sydd ganddi yn yr ardal. Ond mae’r ddwy sedd arall yn ddiddorol.
Yn gyntaf, rhan ogleddol Caerdydd, elwir yn ddigon eironig yn Gogledd Caerdydd. Mae gan Jonathan Morgan, efallai’r amlycaf o Geidwadwyr y Cynulliad, fwyafrif cryf yma sy’n agos at bum mil ac mi fyddai angen gogwydd o dros 7% ar Lafur i ennill yma. Rŵan, mae rhai, fel Vaughan Roderick, yn teimlo o reddf nad yw Llafur yn gwneud cystal ag y mae’r polau’n ei awgrymu. Er fy mod i’n raddol ddechrau cytuno â hynny, dwi ddim cweit yn chwaith – hynny yw dwi’n disgwyl i Lafur wneud fwy neu lai cystal o ran y bleidlais os nad o ran seddau o reidrwydd. Ta waeth, teimlaf fod Llafurwyr yn mynd i droi allan eleni, ac efallai na fydd yr un brwdfrydedd ymhlith Ceidwadwyr. Problem fawr Jonathan Morgan ydi nid Llafur eithr Julie Morgan, sef yr unigolyn perffaith i’w guro – er iddi golli ei sedd y llynedd, heb amheuaeth mi sicrhaodd ganlyniad gwych drwy golli o drwch blewyn, a hynny mewn sedd y rhagwelwyd y buasai’n troi’n las a hynny o gryn fwyafrif. Bydd hon yn ras agos iawn ... ar hyn o bryd dwi’n rhyw deimlo mai Julie Morgan sy’n mynd â hi.
Er gwaetha’r ffaith bod trefniadaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn frawychus effeithlon yng Nghanol Caerdydd ac nad yw’r blaid Lafur, yn ôl y sôn, yn eithriadol hyderus, bydd Canol Caerdydd yn sedd i’w gwylio. Mae’r mwyafrif yn enfawr a byddai angen gogwydd o 15% ar Lafur i ennill yma. Ond gyda Jenny Randerson yn ymddeol, y polau fel ag y maent a gogwydd yn erbyn y blaid honno nid yn unig yn 2010 ond yn wir nôl yn 2007, maen nhw mewn perygl enbyd o golli yma. Gadewch i mi ddyfynnu rhywbeth a ddywedais o gyfres Proffwydo 2010 ar Ganol Caerdydd:
Tasem mewn blwyddyn lle mai’r Ceidwadwyr sy’n llywodraethu, byddwn i ddim yn rhoi’r sedd hon y tu hwnt i Lafur, gadewch i mi fod yn hollol onest. Yn wir, dwi ddim yn amau bod hon yn un sedd y bydd Llafur ei hadennill yn y dyfodol.
Dwi’n meddwl mai 2011 ydi’r flwyddyn y bydd hynny’n digwydd, ac fel Gogledd Caerdydd, mi fydd y ras agos hon yn ffafrio Llafur. Pwy bynnag sy’n ennill, rhagwelaf y gogwydd mwyaf yng Nghymru yn y sedd hon (ac eithrio Blaenau Gwent).

Proffwydoliaeth:
Llafur 8 (+2)

Y Rhestr
Reit! Galla i’n hawdd gweld Llafur yn ennill dros hanner y bleidlais restr yma eleni, a dwi am bennu tua 55% iddyn nhw sef cynnydd o 20% - er, yn y rhanbarth hwn, gallai hynny’n hawdd fod yn fwy. Dwi hefyd yn meddwl y bydd y Ceidwadwyr ryw ddau i dri bwynt yn uwch, gyda Phlaid Cymru yn nesu am 10% a’r Democratiaid Rhyddfrydol 7-8%. Petai’r broffwydoliaeth etholaethol  yn gywir,  byddai’r Ceidwadwyr yn ennill y sedd gyntaf, a hefyd yr ail sedd, gyda Phlaid Cymru’n ennill y drydedd.  Y bedwaredd sy’n ddiddorol.
Mae’r Gwyrddion yn hyderus iawn am allu ennill eu sedd gyntaf erioed yn y Cynulliad yma ar y rhestr, ond mae’r hyn sy’n digwydd yn yr etholaethau yn gwbl allweddol iddyn nhw yma. Ac nid y Gwyrddion yn unig sydd efo siawns. Cofiwch hyn, dim ond dau gant a hanner o bleidleisiau a oedd rhyngddyn nhw, y BNP (a’u curodd) ac UKIP. Gallai unrhyw un o’r pleidiau hyn ennill y bedwaredd sedd. Yn bersonol, dwi ddim wedi fy llwyr argyhoeddi gan yr heip y mae’r Gwyrddion yn ei greu drostyn nhw’u hunain.
Gobaith gorau pob un yw bod y Ceidwadwyr yn dal eu gafael ar Ogledd Caerdydd. Ond os maen nhw’n llwyddo i wneud hynny mae hynny’n dod â Llafur i’r ras! Mae hynny heb drafod Plaid Cymru – a allai gadw ei gafael ar y bedwaredd sedd os mae ei phleidlais yn dal i fyny (sy’n annhebygol) – ac, os collant Ganol Caerdydd, y Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae pethau’n fwy cymhleth byth os llwydda’r Dems Rhyd ddal eu gafael ar Ganol y ddinas ond y Ceidwadwyr golli yn y Gogledd – yn y fath sefyllfa mae’n debyg y byddai’r Ceidwadwyr yn ennill 3 sedd ranbarthol gyda Phlaid Cymru’n cipio’r bedwaredd!
At hynny, os na fydd unrhyw newid yn yr etholaethau, mae’n bur debyg mai Llafur aiff â’r bedwaredd sedd. Gwnewch y symiau eich hun ... gall unrhyw un o saith plaid ennill pedwaredd sedd Canol De Cymru.
Ond pwynt y blogiad hwn ydi proffwydo – os bydd Llafur yn ennill yr wyth etholaeth, fel dwi’n dueddol o feddwl ar y funud – mae’r cyfan yn dibynnu a gaiff y Gwyrddion, UKIP neu’r BNP fwy o bleidleisiau na’r Democratiaid Rhyddfrydol ar y rhestr. A dwi ddim yn meddwl y gwnawn nhw.

Proffwydoliaeth:
Ceidwadwyr      2 (-)
Plaid Cymru 1 (-1)
Democratiaid Rhyddfrydol 1 (+1)

2 commenti:

Penderyn ha detto...

Doedd Plaid Cymru ddim yn hyderus yng Nghwm Cynon llynedd HoR - mi gafwyd canlyniad mymryn yn well na'r disgwyl - ac mi ddyliwn i wybod!!

Hogyn o Rachub ha detto...

Mae hynny'n ddigon teg a dwi ddim yn amau dy fod yn gwybod yn well na fi! Serch hynny, roedd 'na sibrydion lu bod Cwm Cynon am fod yn ganlyniad syfrdanol (er nid buddugoliaeth i Blaid Cymru o reidrwydd wrth gwrs). Dyma enghraifft o flog Vaughan Roderick y llynedd (http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters/vaughanroderick/2010/04/sibrydion_9.html)


Yn olaf gair bach gan un o hen bennau Plaid Cymru- dyn sy wedi gweld mwy o etholiadau na fi hyd yn oed- ac wedi ennill bron pob un ohnyn nhw. "Gwylia Cwm Cynon- os nid y tro hwn, y tro nesaf." Does bosib.