lunedì, marzo 07, 2011

Bod yn glyfar: strategaeth Plaid Cymru dros y ddeufis nesa'

Pwt bach am y refferendwm a enillwydd ddydd Gwener. Champion aye! Gafodd neb sioc o ennill ond roedd y canlyniadau o’r gogledd-ddwyrain, a Sir y Fflint yn arbennig, yn gwbl, gwbl annisgwyl. Do’n i ddim cweit yn credu’r canlyniad o’r fan honno. Braf iawn oedd bod yn gwbl anghywir, neu’n or-bryderus i fod yn onast, am yr hyn a allai ddigwydd yn y Gogledd. Ac fel Gwyneddigyn roedd gweld Gwynedd yn cipio’r goron am y bleidlais gryfaf o blaid yn destun balchder enfawr. Yn amlwg mae cadernid Gwynedd yn parhau!

Mi wyliais lawer o raglen refferendwm S4C fore Sadwrn yn fy ngwely yn dal llawn annwyd, a rhwng nôl dŵr, mynd i’r toiled a phesychu digon i godi cyfog ar rywun iach, dechreuodd Vaughan Roderick a Dicw siarad am y goblygiadau i etholiad y cynulliad, sydd bellach lai na deufis i ffwrdd.

Roedd un peth a ddywedodd Vaughan yn ddiddorol am ragolygon y Blaid. Yn ei ôl ef, dywedodd un o hen bennau’r Blaid wrtho bod y Blaid yn cael ei chysylltu â newid cyfansoddiadol. Nis cafwyd yn ’79, ac er mai bai Llafur oedd hynny, Plaid Cymru ddioddefodd (er i Lafur wneud yn ddrwg yn nechrau 80au hyd yn oed yng Nghymru sydd efallai’n tanseilio’r ddamcaniaeth). Ond wele 1999 – sefydlwyd y Cynulliad a Phlaid Cymru gafodd fudd etholiadol o hynny yn ’99 ac i raddau llawer llai yn ’01 – cyn i bethau fynd yn draed moch yn 2003.

Felly ai dyma fydd yr achos eleni? Bydd Llafur a Phlaid Cymru (a hefyd y Ceidwadwyr a’r Dems Rhydd cofiwch) yn brwydro dros bleidleisiau’n rheini a ddywedodd Ie ddydd Iau, sy’n dacteg anochel a hanfodol, ac mae i’r Blaid fantais fawr oherwydd gall ddweud wrth yr etholwyr yn ddi-flewyn ar dafod “Ni sicrhaodd y refferendwm a hebom ni yn y glymblaid ni fyddai refferendwm wedi cael ei gynnal, ac yn fwy na hynny roedd y canlyniad yn dyst i’r ffaith ein bod yn iawn i fynnu arno pryd y gwaethom”. Mae iddi hunan-gyfiawnhad ar ei hochr yn hyn o beth ac mi all ddweud mai hi oedd yn iawn, ac yn fwy na hynny fod rhai o amlygion y blaid Lafur yn anghywir.

Y cwestiwn ydi faint o’r hanner miliwn a ddywedodd ‘ie’ y gall ddenu? A all gael mwy na’r 220,000 o bleidleisiau a gafodd yn 2007? A all nid yn unig ddal ei thir, ond atgyfnerthu yn y Senedd?

Er gwaetha geiriau ffynhonnell Vaughan mae’n anodd gweld cynnydd mawr i Blaid Cymru ymhen deufis. Llwyddodd Llafur mewn nifer o ardaloedd droi’r refferendwm yn bleidlais yn erbyn y glymblaid Lundeinig, a dyma pam gwelwyd canlyniadau hynod yn rhai o’r Cymoedd mi dybiaf, p’un a wnaeth Plaid Cymru’r gwaith caib a rhaw i gyd fel y mae’n ei honni. Wn i ddim sut y gall y Blaid oresgyn hynny, ond dwi’n ffyddiog bod gan ei strategwyr syniad o leiaf.

Ac wrth gwrs mae’r ffaith bod y Ceidwadwyr mewn grym yn San Steffan o fudd i Lafur heb amheuaeth, drwy dystiolaeth polau neu fel arall. Mae gan Blaid Cymru hanes o wneud yn llai cystal pan fo’r Ceidwadwyr mewn grym. Mi dybiaf y bydd etholiadau’r Cynulliad yn cynnwys elfen gref o bleidlais brotest yn erbyn llywodraeth Llundain, sy’n drueni mawr, achos barn y bobl ar lywodraeth Caerdydd y dylai fod.

Serch hynny, mae’n amlwg iawn bod trefnidiaeth Plaid Cymru bellach yn drawiadol, ac efallai’r gorau o’r pleidiau yng Nghymru. ‘Does angen fawr o waith ymchwil i brofi hyn – wele ganlyniadau’r pedair sir Gymraeg, sef cadarnleoedd Plaid Cymru i bob pwrpas, yn y refferendwm. Gyda’i gilydd, pleidleisiodd dros 70% yn y siroedd Cymraeg o blaid, ond yn fwy na hynny yn y pedair sir hynny y cafwyd y niferoedd uchaf yn pleidleisio. Dylai fod yn hyderus o gadw y seddau sydd ganddi, er bod Aberconwy’n destun pryder dwi’n siŵr.

Os gall y Blaid hawlio perchnogaeth ar lwyddiant y refferendwm, ac mae iddi seiliau cadarn i honni hynny, a defnyddio i’r eithaf ei threfniadaeth rymus nid yn gyffredinol ond wedi’i thargedu, mi allwn weld ambell ganlyniad mawr. Etholiad Llafur fydd 2011, heb amheuaeth, ond er gwaethaf y polau mae Llafur Cymru o hyd yn ymdebygu’n fwyfwy i gragen etholiadol.

Dwi’n meddwl mai’r ffordd orau o ragweld beth fydd hanes y Blaid yn 2011 fydd y pôl nesaf a gawn. Iawn, mi wn fod polau Cymreig o hyd yn datblygu a bod efallai wendidau sylfaenol ynddynt, ond dydyn nhw heb fod yn uffernol o anghywir ers amser, ac roedd rhai’r refferendwm yn gyffredinol agos i’r canlyniad. Mae’r amser pan y’u diystyrwyd yn haeddiannol wedi mynd.

Un ar hugain y cant gafodd Plaid Cymru yn yr etholaethau yn yr un diwethaf a gynhaliwyd. Os gwelwn newid o 3% yn ei darpar bleidlais yn y nesaf, mi dybiaf y bydd yn arwydd o fomentwm a newid tebyg i hyn a welwyd ym 1999, er i raddau llawer llai. Y broblem i’r Blaid o ran hynny ydi nad ymdeimlad hawdd ei greu mohono – fel yn ’99 roedd yn rhywbeth sylfaenol a deimlai pobl ar lawr gwlad, ymchwydd cenedlaetholgar (er dros dro) cyfan gwbl amhleidiol, ond na all fod o fudd i neb ond am Blaid Cymru.

Gan hynny, dydi hi ddim yn amhosibl na chaiff buddugoliaeth y refferendwm, boed o ran maint neu’n ddaearyddol, fawr effaith ar etholiadau’r Cynulliad. Ond drwy fod yn glyfar, mi all; ac os ydi Plaid Cymru isio cael etholiad llwyddiannus, rhaid i hithau hefyd fod yn glyfar iawn dros y ddeufis nesa’.

Nessun commento: