mercoledì, marzo 30, 2011

Cymru'n Un II

Rhaid i mi gytuno â’r Hen Rech pan mae’n dod i Cymru’n Un II – no, nefar, byth. Fel mae’n digwydd, dwi’n rhannu ei atgasedd pur at y Blaid Lafur – mae hi’n aneffeithiol, yn hunanol ac yn daeog. Os oes unrhyw blaid yn haeddu diflannu o wleidyddiaeth Cymru am byth, y blaid Lafur ydi’r blaid honno. Yn bersonol, alla i ond â chywilyddu ar y ffaith bod y Cymry’n dragwyddol ailethol y criw di-glem hwn i dra-arglwyddiaethu drostynt.

Serch hynny, diolch i Blaid Cymru, mae Cymru’n Un wedi bod yn gymharol lwyddiannus yn fy marn i. Ond dwi’n meddwl mai dyna diwedd ei lwyddiant o ran Plaid Cymru. Y gobaith oedd y byddai rhywsut yn rhoi hygrededd newydd i’r Blaid ymhlith y Cymry, er prin yw’r dystiolaeth mai dyma sydd wedi digwydd waeth beth fo’r sefyllfa wleidyddol. Cyflawnwyd yr hyn a gyflawnwyd ond dwi’n meddwl efallai bod y Blaid fwy neu lai lle’r oedd hi bedair blynedd yn ôl – yn etholiadol dydi hi fawr gryfach os o gwbl. Dyna awgrym y polau, a waeth pa esgusodion a wneir, dyma oedd hanes etholiadau 2009 a 2010.

Gadawodd John Dixon y Blaid ddoe, gan ddweud yn ei farn o bod y gwahaniaeth rhwng Plaid Cymru a’r pleidiau eraill yn lleihau gormod. Gall neb gyflwyno dadl gadarn i anghytuno â hynny, er nad ydw i’n cytuno â phopeth a ddywedodd. Mae dwy ochr i geiniog y consensws a geir yng ngwleidyddiaeth Cymru heddiw, i Blaid Cymru gellir dadlau mae erydu ei chenedlaetholdeb traddodiadol, angerddol yw’r ochr ddu. Nid yw ei harddull lai tanbaid, mwy saff, yn dda i gyd.

Y broblem ydi ymhlith arweinyddiaeth Plaid Cymru ydi na all amgyffred nad yw pobl yn pleidleisio dros y Blaid oherwydd polisïau, er mor ganmoladwy ydynt, ar addysg neu iechyd neu hyd yn oed yr economi. Rhoddir pleidlais i Blaid Cymru fel mynegiant gwleidyddol o hunaniaeth genedlaethol. Dybiwn i y gallai mwyafrif y Cymry wneud hynny dan yr amgylchiadau cywir. Dydi Plaid Cymru ddim yn ceisio creu’r amgylchiadau cywir. Cenedlaetholdeb yw unig arf unigryw’r Blaid – mae ei gelu yn dacteg dwp a dweud y lleiaf.

Ond yn ôl at Cymru’n Un II. Mae’r fersiwn cyntaf wedi bod o fudd i Blaid Cymru boed hynny dim ond o gael profiad o fod yn rhan o lywodraeth. Ond digon ydi digon. Dwi heb siarad â NEB sydd fel arfer yn pleidleisio Plaid Cymru sydd am weld ail-ddyfodiad y glymblaid bresennol, a hynny oherwydd eu bod am gael llais annibynnol, cryf a chenedlaetholgar yn y Senedd. Gyda’r SNP yn mwy na brwydro’n ôl yn yr Alban, a hynny drwy arddel cenedlaetholdeb, fe fyddech chi’n meddwl y byddai’r Blaid yn gwneud yr un peth. Dim byd tebyg. I aralleirio Kim Howell, dros y misoedd diwethaf, mae Llafur wedi rhagori ar genedlaetholdeb y cenedlaetholwyr. Os gall Llafur wneud hynny, gall unrhyw un.

I raddau, gallai llwyddiant neu aflwyddiant y Blaid eleni ddibynnu ar ddal ei thir. Wnaiff hi mo hynny drwy fflyrtio â Llafur na’r pleidliau eraill. Wnaiff hi mo hynny drwy ddewis pwyll dros dân yn y bol. A wnaiff hi mo hynny drwy gyfaddawdu. Roedd Cymru’n Un yn arbrawf llwyddiannus – profodd y gallai’r Blaid fod yn blaid lywodraethol. Yr her rŵan ydi dod yn brif blaid. A wnaiff hi mo hynny drwy wneud yr hyn sy’n edrych yn bryderus a chynyddol bosibl – clymbleidio’n gyson â’r blaid Lafur.

Yn gryno, dydi’r Blaid ddim yn manteisio o gwbl ar ei sefyllfa unigryw o fod yr unig blaid genedlaetholgar yng Nghymru. Os rhywbeth, mae’n ymddangos fel petai’n mynd i gyfeiriad gwahanol (‘ymddangos’ ydi’r gair pwysig yn fanno, wrth gwrs). Mae John Dixon yn poeni am gyfeiriad Plaid Cymru. Gyda’r bwlch rhwng y pleidiau’n llai, dwi’n poeni y gallai gael blwyddyn etholiadol ddu uffernol.

lunedì, marzo 28, 2011

Y Fwyaren Ddu

Yn ôl pob tebyg mi ddewisais y penwythnos anghywir i fynd adra, ond hynny wnes. Bu’n fwriad gwylio’r gêm yn Pesda efo Sion Bryn Eithin, ac mi aethon ni lawr i’r Bwl, dim ond i brynu peint a sylwi bod y gêm ddim yn cael ei dangos yno. Nac yn unman arall yn stryd, dim ond yn Royal Oak yn Rachub. Erbyn i mi yfed fy mheint a cherad i fyny dim ond tua chwarter awr oedd ar ôl, ac a minnau’n ymwybodol o’r sgôr mynd adra wnes i bwdu, cyn ailfentro i lawr i stryd gyda’r nos. Da ‘di Pesda, ond yn amlwg mae Rachub yn lle llawer mwy cyfoes gan ddarparu Sky Sports 1.

Ta waeth, ar ôl clywed Nain yn absoliwtli malu cachu llwyr fora Sadwrn, mi benderfynais wrth geisio rhoi fy meddwl i arall le ei bod yn amser cael contract efo’r ffôn lôn. Rŵan, dwi byth wedi cael hyn, pay-as-you-go fu gen i erioed, a hynny oherwydd cymysgfa o “dwi’m isho” a “dwi’m angen” ond mae ‘di bod yn ddrud yn ddiweddar felly ffwrdd â mi i Fangor fora Sul yn byrpio cwrw nos Sadwrn i siop Orange i gael contract.

Os oes angen cyngor arnoch i fod yn brynwr cyfrwys, peidiwch â chysylltu â mi. ‘Sgen i fawr o glem efo prisiau giamocs fel gliniaduron, ffonau na dim, achos dydw i ddim yn ymddiddori ynddynt llawer – nes fy mod i’n cael un fy hun, afraid dweud, dwi fel hogyn bach efo tegan tractor newydd wedyn. Beth brynish yn y diwadd oedd Blackberry.

Wel myn ffwc am beth cymhleth – dwi’n styc efo fo am ddwy flynadd rŵan ‘fyd. Ta waeth de, mi gymrodd bron hanner awr i mi gael gwared o predictive text, a dydi’r rhif dal heb newid i’m hen rif.

Y bonws mawr wrth gwrs ydi bod yswiriant colli arno. Felly rŵan ga’i feddwi cymaint dwisho, pryd dwisho, a gwbod y bydd ‘na ffôn arall yn dod ar ei union drwy’r post am ddim. Bydd hynny’n siŵr o safio ffortiwn bach i’r hogyn cyfrwys o Rachub, bydd wir.

sabato, marzo 26, 2011

Geiriau doeth Nain

"Dwi'n licio bwyd blasus, mae o'n tasti iawn. Wyt ti'n licio bwyd tasti?"

"Mae hi 'di bod yn braf felltigedig de"

"Wnes i gyfarfod rhyw hogan o Sir Fôn ddoe Nain"
"O le oedd hi?"
"O Lanrywle, mae 'na lot o llans yn Sir Fôn does?"
"Oes, llan hwn a llan llall, mae o'n sickening"

giovedì, marzo 24, 2011

Does dim ond isio ceiniog i fynd i mewn drwy'r drws...

Pan dwi’n cael rhywbeth i mewn i fy mhen mae’n anodd iawn ei ddad-wneud. Mae’n siŵr eich bod chi yr un peth – pan fyddwch yn clywed cân a honno’n cylchdroi yn eich pan rhaid ei chlywed gangwaith i’w hymwaredu. A phan fo chi isio gwneud neu weld rhywbeth, wel, mae’n rhaid i chi wneud neu weld y peth hwnnw pa beth bynnag y bo.

Felly be dwisho ei wneud ers ychydig wythnosau ac y cwynaf amdano onid y’i gwnaf? Ddyweda’ i – mynd i’r sŵ. Rŵan, Sŵ Bryste ydi’r agosaf at Gaerdydd a hyd y gwn i nid oes un yn ne Cymru. Mae gennym o leiaf ddau yn y gogledd, rhwng Sŵ Môr Môn a Sŵ Mynydd Bae Colwyn, ond arwain y blaen wnaeth y Gogs erioed. Does neb wedi dweud amdanaf am unrhyw sŵ yn y De beth bynnag – o bosib achos dydyn nhw’m isio fi yno.

Fyddech chi’n meddwl y buasai dyn yn ei oed a’i amser fel fi, ac mi fyddai’n 26 mewn llai na mis, isio gwneud rhywbeth llai plentynnaidd, ond na, dwisho mynd i’r sŵ. A dwi’n ‘styfnig am y peth. Os na chaf fynd cyn fy mhen-blwydd, mi ymwaredaf â phen-blwydd meddw hwyl am daith i Fryste ... wel, os daw rhywun efo fi. Ond dwi’m yn dallt pwy na fyddai isio mynd i sŵ, maen nhw’n llefydd cŵl. Dwisho mynd i weld yr anifeiliaid.

Dwi heb fod i un ‘stalwm. Gennai deimlad mai Bae Colwyn oedd y tro diwethaf, ond dwi’m yn cofio pryd yn union. Ond dwi’n cofio cael fy rhyfeddu, er fy mod i’n adnabod y Sŵ Mynydd yn o dda. Fedra i ddim helpu â chael fy hudo gan anifeiliaid ar y teli ac mae eu gweld nhw go iawn yn well. Heblaw am y mwncwns achos dwi’m yn licio mwncwns, fwy na thebyg achos bod pawb arall yn licio mwncwns.

Prin y llwydda’ i argyhoeddi neb, dwi’n teimlo. Mynd ben fy hun neu chwilio Gwglimij yn smalio fy mod i yno wna i. Ac, ydach, mi ydach chi’n gwbod p’un o’r rheini dwi fwya tebygol o wneud.

mercoledì, marzo 23, 2011

Fydda i byth yn Skeletor

Mae pawb yn dweud heddiw ei bod yn braf yn yr haf heb gofio mai gwanwyn ydi hi go iawn. Dwi wedi dweud droeon dros flynyddoedd cwynfanllyd nad ydw i’n licio’r haul yn ormodol – dwi’n gwisgo sbectol haul i yrru pan fo’i weddol gymylog a dweud y gwir, ac nid er mwyn ymddangos yn cŵl achos mae hyd yn oed yr Hogyn yn gwbod bod gwisgo sbectol haul a hithau’n gymylog yn bell, bell iawn o fod yn cŵl. A dweud y gwir dachi’n edrych fel twat.

I fod yn deg, tywydd poeth yn hytrach na’r haul dwi’m yn licio. Dwi fel Mam, yn welw fel corff celain ac yn plicio am wythnosau ar ôl dal haul. ‘Sdim rhyfedd bod plant ac anifeiliaid yn rhedag mewn braw ohonof.
Ond dydw i ddim yr iachaf beth ers wythnosau. Mae gen i ddolur ar fy ngwefus ers mis sy’n gwrthod symud waeth pa grîm neu falm a ddefnyddiaf i ymosod arno. A dwi hefyd yn llawn snot. Wn i ddim pam wir ond fela mai ers o leiaf fis.

Ond gobeithio y bydd y tywydd braf sy’n taro Caerdydd yn para rŵan, achos maen nhw’n dweud bod y tywydd braf yn dda i salwch. Dydi hyn ddim yn wir. Dim ond ers byw hafau yng Nghaerdydd mae gen i ryw lun o glefyd gwair, ro’n i’n iawn yng nghefn gwlad. Awyr iach y wlad yn wir.

Ond mae’r pwynt amdanaf ddim yn licio’r haf gormod yn sefyll. Mae hyn yn deillio o’m styfnigrwydd pan yn blentyn a’r ffaith nad o’n i’n licio licio petha oedd pobl eraill yn eu licio. Do’n i’m yn uffernol o styfnig ond roedd gen i fy syniadau a dyna oedd yn ddiwedd arni. Do’n i’m isho mynd i Gyprus pan o’n i’n ddeuddeg achos “dwi’m isho mynd i ffwrdd byth ac mae’n rhy braf a dwi’m yn licio tywydd poeth”. A do’n i bron byth, fel rhywun call, isio i’r arwyr ennill ar y cartŵns ‘stalwm, ro’n i wastad yn cefnogi y boi drwg. Yr unig arwr ro’n i’n ei hoffi go iawn oedd He-Man a hyd yn oed bryd hynny ro’n i’n meddwl bod Skeletor yn wych. Ro’n i wastad isho bod yn Skeletor a dweud y gwir - ro'n i'n meddwl bod y ffaith ei fod yn benglog yn amêsing.

Ond braf ydi hi ar y funud a fydda i byth yn Skeletor. Mae’r rhain, gyfeillion, yn ffeithiau.

venerdì, marzo 18, 2011

Lwsar

Nesi lawrlwytho Wil Coes Bren o Amazon neithiwr a gwrando arni tua ugain gwaith.

giovedì, marzo 17, 2011

Gaddafi a'r cyfeillion

Ro’n i’n ffrindiau mawr efo’r Cyrnol Gaddafi yn yr ysgol. Oce, mae hynny’n gorddeud braidd, ond roedd gen i ac ambell un o’m ffrindiau eithaf obsesiwn gyda rhai o unbeniaid, neu ‘ddictetyrs’ ys ddwedant yn Nyffryn Ogwan, y byd ar y pryd. Fi oedd gyda’r obsesiwn mwyaf, nes peri i Jarrod ddweud wrthyf yn ddiweddar “mae dy ffrind di mewn trwbwl ar y funud” am yr hen Gaddafi.

Un o sawl un o’r ffrindiau yr oedd Cyrnol Gaddafi. Yr eu plith roedd yr hen Pinochet, Slobodon Milosevic a neb mwy na’n cyfaill anwylaf, yr hen Saddam a oedd yn destun hwyl ac yntau a’i dylwyth yn gymeriadau poblogaidd mewn tŷ crand yn The Sims. Nid y teulu go iawn wrth gwrs, os dwi’n cofio’n iawn Gaynor oedd y wraig a Shadrach oedd y mab.

Ta waeth mae pawb wedi marw rwan heblaw am Fidel (pwy dwi actiwli yn ei licio) a’r hen Gyrnol Gaddafi. Ew, mae’r byd ‘di newid ers fy mod i’n fach.

martedì, marzo 15, 2011

Un peth ...

Un peth a anghofiais am Glwb Ifor, a minnau yno’n gwylio Bryn Fôn nos Sadwrn, oedd pa mor amhosibl ydyw cael gwared ar y stamp. Mae o dal yno. Synnwn i ddim o edrych nôl i mi gael un tragwyddol gydol fy nhair blynedd yn y brifysgol.

Un peth nad oeddwn yn ei gael oedd black eye. Mae gen i un ar y funud, â’m talcen yn brifo, ar ôl brwydr ag anhysbys wrthrych. Neu ddwrn. Flynyddoedd nôl dywedodd Danny Karate yn ysgol i mi fod imi wyneb na allai neb ei daro, felly dwi’n dewis credu’r cyntaf o’r damcaniaethau. Er, mi oedd hynny ddegawd yn ôl a dwi ddim ymhleth y pethau deliaf ar y ddaear mwyach. A dweud y gwir dwi’n eithaf llanast.

Un peth dwi’n ei gasáu ydi bod efo pobol sydd yn llanast. Cafodd Haydn Blin, mwyaf dig y ffermwyr, docynnau am ddim i’r gêm yn erbyn y Gwyddelod ac mi gynigiodd y tocyn i mi. Mi dderbyniais – roedden nhw werth £70 wedi’r cwbl, a byddai curo’r Gwyddelod, pe hynny ddigwyddid, yn gwneud i mi deimlo’n gynnes braf.

Mi fyddai wedi ond nid aeth pethau rhagddynt yn wych. Dechreuodd y gêm a minnau dal adra. Do’n i heb glywed smic gan Haydn, er gwaethaf ceisio cysylltu, ac yn meddwl ei fod wedi gwerthu’r tocynnau neu wedi cael rhywun arall i fynd efo fo, felly mi agorais Fudweiser adra a sibrwd ‘cont’ dan fy ngwynt sawl gwaith. Ta waeth, ar ôl yr anthemau, mi ffoniodd.

Roedd hi’n ras wyllt i’r stadiwm, ond rhwng cael tacsi mi lwyddasom gyrraedd y seddi erbyn tua 13 munud i mewn i’r gêm. Ond, fel pe na bai’n amlwg o’r dechrau, daeth yn gynyddol amlwg bod Haydn wedi meddwi. Yn uffernol. Erbyn ugain munud i mewn i’r gêm, roedd yn cysgu.

Ond pwy gafodd y piss wedi’i gymryd allan ohono am awr olaf y gêm? Fi. Gan bobl o resi a seddau maith i ffwrdd. Pwy a oedd yn gorfod ymddiheuro i bawb na allai basio i fynd am bisiad neu i’r bar ac a oedd yn gorfod dringo drosto? Fi. Pwy a geisiodd ei anwybyddu pan chwarddai iddo’i hun yn ei drwmgwsg? Fi.

Dwi byth yn mynd i’r stadiwm efo blydi Haydn eto.

venerdì, marzo 11, 2011

Y Llwyth

Efallai nad ydw i’n barchus fel yr hoffai Mam i mi fod, ond o ystyried llinach deuluol ar ochr fy Nhad ‘does fawr syndod yn hyn o beth. Nid teulu sy gen i yn Rachub – clan ydyn nhw, ac i rywun o’r tu allan clan digon rhyfedd a digon brawychus o ran hynny. Os clywch weiddi a rhegi’n atsain hyd y nefoedd yn Nhyddyn Canol ryw bryd, yn ddiau fy nheulu i ydyw.

Y Nain Eidalaidd ydi gwraidd hyn. Mae Dad a’i ddwy chwaer fwy neu lai yn edrych ar ei hôl efo’r demensia sy ganddi. Mae’n rhaid iddyn nhw; mae hi wedi cael ei gwahardd o ddau gartref gofal yn barod am fod yn ‘disruptive influence’ a hynny o fewn ychydig fisoedd i’w gilydd! Yn ôl Rita mae hi’n “ddynas wyllt” a chywir ydi hynny. A dio’m fel bod neb ohonyn nhw’n bobl amyneddgar; a dweud y gwir mae’r chwiorydd yn cymryd ar ei hôl a dyma pam eu bod nhw’n gweiddi arni hi wrth i hi ddweud wrthyn nhw fangula you two bitches!

A dweud y gwir mae’r holl beth fel rhyw fersiwn Gymraeg-Eidalaidd o Shameless ond hyd yn oed yn fwy doniol, er y byddai’n rhoi braw a hanner i’r rhan fwyaf o bobl.

Ond peth cas ydi demensia ‘fyd, er os ydach chi yn byw efo rhywun sydd â’r salwch rhaid i chi geisio chwerthin weithiau. Doedd yr hen Nanna ddim yn gwybod pwy oedd ei hannwyl ŵyr tro diwthaf iddi ei weld, ond mae’n ddoniol ei gweld hi’n smalio gwneud.

“Do you know who that is Mam?”
“Yes”
“Well who?”
“Leila’s husband”
“Iesu Grist don’t be stupid ... Leila’s blydi 90!”

Dwi wedi cael rhywun yn dweud fy mod i’n edrych yn dri deg chwech o’r blaen, ond nainti ... ?!

giovedì, marzo 10, 2011

Arolwg barn diweddaraf Yougov/ITV

Etholaethau
Llafur 48% (+3%)
Ceidwadwyr 20% (d/n)
Plaid Cymru 19% (-2%)
Dems Rhydd 7% (d/n)

Rhanbarthau
Llafur 45% (+4%)
Ceidwadwyr 20% (d/n)
Plaid Cymru 18% (-3%)
Dems Rhydd 5% (-3%)

Heb ddadansoddi'n fanwl, os mae'r pôl diweddaraf hwn yn agos at y gwir, dylai'r Blaid, y Ceidwadwyr a'r Dems Rhydd boeni'n arw iawn am rai o'u seddau - hyd yn oed rhai cymharol ddiogel fel Llanelli. Y peth mwyaf siomedig o safbwynt y Blaid ydi i'r arolwg gael ei gynnal ar ôl i ganlyniad y refferendwm gael ei gyhoeddi.

lunedì, marzo 07, 2011

Bod yn glyfar: strategaeth Plaid Cymru dros y ddeufis nesa'

Pwt bach am y refferendwm a enillwydd ddydd Gwener. Champion aye! Gafodd neb sioc o ennill ond roedd y canlyniadau o’r gogledd-ddwyrain, a Sir y Fflint yn arbennig, yn gwbl, gwbl annisgwyl. Do’n i ddim cweit yn credu’r canlyniad o’r fan honno. Braf iawn oedd bod yn gwbl anghywir, neu’n or-bryderus i fod yn onast, am yr hyn a allai ddigwydd yn y Gogledd. Ac fel Gwyneddigyn roedd gweld Gwynedd yn cipio’r goron am y bleidlais gryfaf o blaid yn destun balchder enfawr. Yn amlwg mae cadernid Gwynedd yn parhau!

Mi wyliais lawer o raglen refferendwm S4C fore Sadwrn yn fy ngwely yn dal llawn annwyd, a rhwng nôl dŵr, mynd i’r toiled a phesychu digon i godi cyfog ar rywun iach, dechreuodd Vaughan Roderick a Dicw siarad am y goblygiadau i etholiad y cynulliad, sydd bellach lai na deufis i ffwrdd.

Roedd un peth a ddywedodd Vaughan yn ddiddorol am ragolygon y Blaid. Yn ei ôl ef, dywedodd un o hen bennau’r Blaid wrtho bod y Blaid yn cael ei chysylltu â newid cyfansoddiadol. Nis cafwyd yn ’79, ac er mai bai Llafur oedd hynny, Plaid Cymru ddioddefodd (er i Lafur wneud yn ddrwg yn nechrau 80au hyd yn oed yng Nghymru sydd efallai’n tanseilio’r ddamcaniaeth). Ond wele 1999 – sefydlwyd y Cynulliad a Phlaid Cymru gafodd fudd etholiadol o hynny yn ’99 ac i raddau llawer llai yn ’01 – cyn i bethau fynd yn draed moch yn 2003.

Felly ai dyma fydd yr achos eleni? Bydd Llafur a Phlaid Cymru (a hefyd y Ceidwadwyr a’r Dems Rhydd cofiwch) yn brwydro dros bleidleisiau’n rheini a ddywedodd Ie ddydd Iau, sy’n dacteg anochel a hanfodol, ac mae i’r Blaid fantais fawr oherwydd gall ddweud wrth yr etholwyr yn ddi-flewyn ar dafod “Ni sicrhaodd y refferendwm a hebom ni yn y glymblaid ni fyddai refferendwm wedi cael ei gynnal, ac yn fwy na hynny roedd y canlyniad yn dyst i’r ffaith ein bod yn iawn i fynnu arno pryd y gwaethom”. Mae iddi hunan-gyfiawnhad ar ei hochr yn hyn o beth ac mi all ddweud mai hi oedd yn iawn, ac yn fwy na hynny fod rhai o amlygion y blaid Lafur yn anghywir.

Y cwestiwn ydi faint o’r hanner miliwn a ddywedodd ‘ie’ y gall ddenu? A all gael mwy na’r 220,000 o bleidleisiau a gafodd yn 2007? A all nid yn unig ddal ei thir, ond atgyfnerthu yn y Senedd?

Er gwaetha geiriau ffynhonnell Vaughan mae’n anodd gweld cynnydd mawr i Blaid Cymru ymhen deufis. Llwyddodd Llafur mewn nifer o ardaloedd droi’r refferendwm yn bleidlais yn erbyn y glymblaid Lundeinig, a dyma pam gwelwyd canlyniadau hynod yn rhai o’r Cymoedd mi dybiaf, p’un a wnaeth Plaid Cymru’r gwaith caib a rhaw i gyd fel y mae’n ei honni. Wn i ddim sut y gall y Blaid oresgyn hynny, ond dwi’n ffyddiog bod gan ei strategwyr syniad o leiaf.

Ac wrth gwrs mae’r ffaith bod y Ceidwadwyr mewn grym yn San Steffan o fudd i Lafur heb amheuaeth, drwy dystiolaeth polau neu fel arall. Mae gan Blaid Cymru hanes o wneud yn llai cystal pan fo’r Ceidwadwyr mewn grym. Mi dybiaf y bydd etholiadau’r Cynulliad yn cynnwys elfen gref o bleidlais brotest yn erbyn llywodraeth Llundain, sy’n drueni mawr, achos barn y bobl ar lywodraeth Caerdydd y dylai fod.

Serch hynny, mae’n amlwg iawn bod trefnidiaeth Plaid Cymru bellach yn drawiadol, ac efallai’r gorau o’r pleidiau yng Nghymru. ‘Does angen fawr o waith ymchwil i brofi hyn – wele ganlyniadau’r pedair sir Gymraeg, sef cadarnleoedd Plaid Cymru i bob pwrpas, yn y refferendwm. Gyda’i gilydd, pleidleisiodd dros 70% yn y siroedd Cymraeg o blaid, ond yn fwy na hynny yn y pedair sir hynny y cafwyd y niferoedd uchaf yn pleidleisio. Dylai fod yn hyderus o gadw y seddau sydd ganddi, er bod Aberconwy’n destun pryder dwi’n siŵr.

Os gall y Blaid hawlio perchnogaeth ar lwyddiant y refferendwm, ac mae iddi seiliau cadarn i honni hynny, a defnyddio i’r eithaf ei threfniadaeth rymus nid yn gyffredinol ond wedi’i thargedu, mi allwn weld ambell ganlyniad mawr. Etholiad Llafur fydd 2011, heb amheuaeth, ond er gwaethaf y polau mae Llafur Cymru o hyd yn ymdebygu’n fwyfwy i gragen etholiadol.

Dwi’n meddwl mai’r ffordd orau o ragweld beth fydd hanes y Blaid yn 2011 fydd y pôl nesaf a gawn. Iawn, mi wn fod polau Cymreig o hyd yn datblygu a bod efallai wendidau sylfaenol ynddynt, ond dydyn nhw heb fod yn uffernol o anghywir ers amser, ac roedd rhai’r refferendwm yn gyffredinol agos i’r canlyniad. Mae’r amser pan y’u diystyrwyd yn haeddiannol wedi mynd.

Un ar hugain y cant gafodd Plaid Cymru yn yr etholaethau yn yr un diwethaf a gynhaliwyd. Os gwelwn newid o 3% yn ei darpar bleidlais yn y nesaf, mi dybiaf y bydd yn arwydd o fomentwm a newid tebyg i hyn a welwyd ym 1999, er i raddau llawer llai. Y broblem i’r Blaid o ran hynny ydi nad ymdeimlad hawdd ei greu mohono – fel yn ’99 roedd yn rhywbeth sylfaenol a deimlai pobl ar lawr gwlad, ymchwydd cenedlaetholgar (er dros dro) cyfan gwbl amhleidiol, ond na all fod o fudd i neb ond am Blaid Cymru.

Gan hynny, dydi hi ddim yn amhosibl na chaiff buddugoliaeth y refferendwm, boed o ran maint neu’n ddaearyddol, fawr effaith ar etholiadau’r Cynulliad. Ond drwy fod yn glyfar, mi all; ac os ydi Plaid Cymru isio cael etholiad llwyddiannus, rhaid i hithau hefyd fod yn glyfar iawn dros y ddeufis nesa’.

mercoledì, marzo 02, 2011

True Wales a'r Gymraeg ... eto

Oce, 'does dim angen tystiolaeth o hyn fel y cyfryw, mae diffyg parch True Wales at y Gymraeg yn rhyfeddol o amlwg, i'r graddau ei fod yn sarhad ar y Cymry Cymraeg. Ond y peth gwaethaf ydi ei bod yn ymddangos iddyn nhw wrthod y cyfle i gyfieithu deunydd i'r Gymraeg ... dyma sylw gan David o Gerlan (dwi ddim yn ei nabod gyda llaw) ar y post hwn ysgrifennais fis diwethaf.


Gyda llaw, gwnes i yrru ebost at True Wales, gan gynnig cyfieithu rhannau eu gwefan nhw am ddim. Hynny oherwydd fy mod i eisiau gweld dwy ochr y ddadl ar gael yn Gymraeg.

Gwnaethon nhw gytuno mewn egwyddor ond dydyn nhw ddim wedi gyrru'r ffeiliau angenrheidiol ata i, er fy mod i wedi eu hatgoffa nhw sawl gwaith.

David, Gerlan



Dwi'n meddwl ei bod hi'n deg dweud fod True Wales wedi dangos pa mor wrth-Gymraeg ydyn nhw dros yr ymgyrch - heblaw am ryddhau datganiad yn dweud hynny, gallan nhw ddim fod wedi bod yn amlycach ynghylch y peth. Mae'n warth y gallai unrhyw Gymro Cymraeg fenthyg ei bleidlais i'r ymgyrch 'na' ddydd Iau, achos petai Cymru ar eu llun nhw, mae'n amlwg iawn na fyddai lle i'r Gymraeg ynddi.

martedì, marzo 01, 2011

Meddai Dad...

... "So, lle mae'r Wetherpoons 'ma oedda chdi'n siarad am dros y ffôn?" hanner ffordd drwy'r pryd o fwyd. Yn Wetherspoons.

Troelli trwstan

Trydydd diwrnod yr hangover diweddaraf, dwi’n teimlo fel fy mod i wedi bod ar wyliau i Chernobyl. Dwi’n gwbl, gwbl ffiaidd cofiwch a wnaeth y gawod neithiwr fawr wahaniaeth. Mae gen i gylchau duon o amgylch fy llgada, dwi’n crynu ac, neno’r tad, mae Dad yn dod lawr i aros am ychydig ddyddiau heddiw. Sgynno chi ddim syniad sut dwi’n ei deimlo.

Ond yn waeth weithiau na sgîl-effeithiau corfforol sesh mae’r sgîl-effeithiau meddyliol. Dwi wedi sôn o’r blaen am y paranoia cyffredinol sy’n amlygu ei hun, ond weithiau, jyst weithiau, mae’r paranoia hwnnw’n mynd i fyd, “beth uffern wnes i/ddywedish i y noson o’r blaen?”

Dyna’r math sy gen i. Bai Lowri Dwd ydi’r cyfan. O’m hudo allan nos Wener gan addo bwyd rhad yn Bella Italia, aeth y ddau ohonom o amgylch tafarndai a bariau a chlybiau Caerdydd tan oriau mân, mân y bora. Mi yfish ddigon i lorio ceffyl, ac a dweud y gwir taswn i wedi llorio ceffyl fuaswn i fawr callach o’r peth. Roedd y ddau ohonom yn teimlo bod angen ‘catch up’ ar ein gilydd, sy’n ddi-sail i’r eithaf o ystyride i ni weld ein gilydd bob noson namyn un yr wythnos honno beth bynnag.

Mi fwydrasom ac mi ddawnsiasom. Does ‘na ddim y ffasiwn beth â rhywun all ddawnsio’n chwil. Nid eithriad mohonof fi, na Lowri Dwd a oedd os rhywbeth yn waeth na fi synnwn i ddim, ac nid eithriad mo neb. Ond pan fo hynny’r peth olaf a gofiwch, a’r hynny a gofiwch yn codi cywilydd arnoch, rydych chi’n gwybod i chi yfed gormod. A dwi’n gwbod be dwi’n neud pan dwi’n dawnsio’n chwil: dwi’n neud y twist.

Pan fo chi’n dragwyddol wneud y twist yn chwil mi wnewch frifo eich cefn, fel fi, yn aml, ac mi wnewch frifo eich balchder – ac mae ymhlith amlycaf arwyddion y byd eich bod chi’n chwil. Mae ei wneud mewn clwb yn un peth. Mae ei wneud yn O’Neills bach nos Sadwrn ben eich hun yn rhywbeth arall. Mae ei wneud ddwy noson yn olynol yn drosedd.

A dyma pam bod gen i hawl i fod yn paranoid.