mercoledì, dicembre 15, 2010

Refferendwm 2011 - myfyrio bras

Y mae pob pôl a wnaed hyd yn hyn yn awgrymu buddugoliaeth ddidrafferth i’r Ymgyrch ‘Ie’ yn refferendwm mis Mawrth, a hynny’n sicr ymhlith y rhai sy’n bwriadu pleidleisio. Hynny ohonynt a fydd yn pleidleisio, wrth gwrs. Ym mêr fy esgyrn dwi’n rhyw deimlo y bydd llai na hanner pobl Cymru yn bwrw pleidlais ar Fawrth 3ydd, ac er fy mod yn disgwyl buddugoliaeth, fydd hynny yn ei hun yn rhywbeth negyddol iawn i’n democratiaeth ifanc – hynny ydi, trosglwyddir pwerau i’r Cynulliad heb fandad gwirioneddol.

Ond a ydym ni am ennill y flwyddyn nesaf a beth fydd maint y fuddugoliaeth honno? O ran y cwestiwn cyntaf dwi fy hun yn hyderus iawn o ganlyniad y refferendwm, ac y caiff y Senedd bwerau deddfu llawn yn y meysydd datganoledig i gyd ar unwaith, gan ddisodli’r system drwsgl sydd ohoni. Ond mae maint y fuddugoliaeth yn ddadl arall, ddiddorol, a fydd yn dweud llawer i ni am y Gymru gyfoes.

Dwi’n hyderus y bydd pob sir a bleidleisiodd o blaid sefydlu cynulliad yn gwneud hynny unwaith eto yn 2011, ac eithrio Ynys Môn – yn wir, fe alla’ i’n hawdd weld Môn yn dweud ‘na’. Mae dros y degawd diwethaf elfen o elyniaeth wedi dod i’r amlwg yn y Gogledd tuag at y Cynulliad, a’r hen llinell a ddywedwyd gangwaith ac nid yn ddi-sail “mae popeth yn mynd i Gaerdydd”. Mae’r teimlad hwnnw’n gryf – ac mae Seisnigeiddio’r Ynys (ynghyd â’r Gogledd cyfan) yn bwrw amheuaeth dros y canlyniad yno.

Mae’n hawdd gen i hefyd weld gynnydd yn y bleidlais ‘ie’ yng ngweddill siroedd y Gogledd (ac eithrio o bosibl Wynedd) ond nid i’r graddau y bydd yr un ohonynt yn pleidleisio o blaid. Gallwn o bosibl weld buddugoliaethau bach yng Nghonwy a Sir Ddinbych, neu’n fwy tebygol Wrecsam, ond bydd Sir y Fflint eto’n gymharol gadarn yn erbyn mi dybiaf. Felly mae’n bosibl yn y Gogledd o leiaf y bydd y bleidlais o blaid yn cynyddu ond mai Gwynedd fydd yr unig sir o blaid. Gogwydd, ond nid pleidlais o hyder, a geir o’r Gogledd.

Gallai newidiadau cymdeithasol yng Ngheredigion, Powys, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro arwain at gynnydd yn y niferoedd sy’n dweud ‘na’ yn fy marn i. Fel Môn, gallai canlyniad Ceredigion fod yn sioc, er nad ydw i’n gweld hynny’n digwydd. Yn sicr, alla i ddim gweld Powys yn pleidleisio o blaid. Fawr o newid ydi ‘nheimlad i yn y bôn.

A beth am y De? Wn i ddim a fydd newidiadau enfawr yn y De, ond un peth dwi’n sicr yn ei ddisgwyl ydi y bydd Caerdydd yn pleidleisio o blaid. Mae’r agwedd at ddatganoli yn y ddinas wedi gweddnewid dros ddegawd, ac yn wir gall y fuddugoliaeth yno fod yn un gadarn. Dwi’n meddwl y bydd ‘na ddifaterwch mawr yn rhai o’r Cymoedd, sy’n fwy tebygol o ffafrio’r ymgyrch ‘ie’. Synnwn i ddim a fydd siroedd Torfaen a Bro Morgannwg yn pleidleisio o blaid y tro hwn. Beth bynnag fydd yn digwydd, anodd gen i weld gogwydd at ‘Na’ yn Ne Cymru.

Dadansoddiad bras iawn ydi’r uchod wrth gwrs. Ydw, dwi’n rhagweld buddugoliaeth, ond buddugoliaeth all fod fymryn yn wag oherwydd nifer isel yn pleidleisio. Ac mewn rhai ardaloedd, gall y canlyniad fod yn arwydd o’r newidiadau llawr gwlad sy’n mynd rhagddynt, ac achosi dirfawr bryder am ganlyniad arall, sef rhai’r Cyfrifiad a gynhelir hefyd yn 2011.

2 commenti:

Anonimo ha detto...

Abertawe - Ie (agos iawn, gogwydd tuag at y bleidlais 'na')
Blaenau Gwent - Ie (ychydig yn uwch na tro diwethaf)
Bro Morgannwg - Na (gogwydd mawr tuag at y bleidlais ‘ie’ yn y Barri)
Caerdydd - Ie (57%)
Caerffili - Ie
Casnewydd - Na (tua 55% yn lle 62.5%)
Castell-nedd Port Talbot - Ie cryf (dros 70%)
Ceredigion - Ie (ychydig is na 1997)
Conwy - Na (56%)
Gwynedd - Ie (ychydig is na 1997)
Merthyr Tudful - Ie (64%)
Penybont-ar-Ogwr - Ie (58%)
Powys - Na (54%)
Rhondda Cynon Taf - Ie cryf iawn yn Rhondda a Cynon (dros 75%) ond llai cryf yn ardal Taf-Elai
Sir Benfro - Na (56%)
Sir Ddinbych - Na (60%)
Sir Fynwy - Na (64%)
Sir y Fflint - Na (66%)
Sir Gaerfyrddin - Ie (72%)
Torfaen - Ie (53%)
Wrecsam - Na (52%)
Ynys Mon - Na (51%)

Anonimo ha detto...

Dwin cytuno y dylai ni gael Cynulliad i Gymru.
Ond pan mae rhywun yn gofyn i fi ydy'r Cynulliad wedi gwella fy ardal i yn economaidd?


Yn anffodus dwin tagu wrth feddwl am yr ateb- a mae hwn yn dod o 'nationalist' go iawn!