mercoledì, settembre 22, 2010

Casfwyd

Un bwyd dwi’n ei garu, yn ei garu o waelod calon, ydi iau. Wedi’i ffrio efo blawd arno a chyda nionyn a bacwn, prin iawn y prydau sy’n gwneud i mi deimlo yr un mor gynnes a hapus â iau. Efo grefi tew. Mi wnes damaid i Gwenan neithiwr ac ew, mi oedd yn dda. Yn dda ofnadwy ‘fyd. Mae’n un o’r bwydydd hynny sy’n rhannu’r boblogaeth, gan fwyaf yn ei erbyn, ond dim ots gen i am farn neb arall, mae iau yn wych.

Dydw i ddim yn cofio a oeddwn yn ei hoffi pan oeddwn yn, wait for it, iau (ho ho!) ond mae gen i deimlad nad oeddwn. Pan o’n i’n hogyn bach ro’n i’n ofnadwy o ffysi efo bwyd ac roedd llond byddin o bethau na fentrwn eu bwyta. Chawn i ddim hyd yn oed saws pasta ar basta eithr menyn bob tro. Ffa pob, nid a gawn, na chaws fel rheol. Ew, ro’n i’n ofnadwy – mae’r enghreifftiau’n helaeth. Coleg ddaru newid y cyfan. Mae’n rhyfeddol y pethau y bydd rhywun yn eu bwyta pan fydd y dewis yn brin.

Dydw i ddim yn cofio pa fath o bethau y gwnes i eu bwyta yn coleg. Yn wahanol i bron pawb arall prin iawn y ces fîns ar dost – do’n i byth yn ffan a dwi dal ddim, er mi ges hynny i de wythnos dwytha a mwynhau’n arw. Bryd hynny, spag bol oedd uchafbwynt y gornestau ceginol, i’r fath raddau y’i dyrchefid i statws gwledd, er y tarddai o jar. Erbyn hyn fydda i’n ei ffendio fo’n eitha doniol pan fydd rhywun yn dweud eu bod yn eithaf cogydd a chrybwyll spag bol fel enghraifft o’u dawn gogyddol, oni wnant y saig o’r cychwyn cyntaf, chwarae teg.

Erbyn hyn dwi’n eitha licio pob dim. Ond mae ambell beth na wna i gyffwrdd â’m traed heb sôn am fy nhafod. Ymhlith rhestr ffieiddfwydydd yr Hogyn mae cnau coco, sbrowts (yr unig lysieuyn dwi’m yn licio), sinsir, paté, tiwna tun (yr unig bysgodyn na fwyta i), licyris a fedra i ddim dweud fy mod i’n ffan o chillis oni font mewn cyri. I fod yn onest prin y gwna i fwyta ffrwythau ond difaterwch ydi hynny – rhowch i mi lysieuyn da bob tro. A gwn i mi ddweud o’r blaen ond fedra i ddim yfad llefrith ben ei hun ar f’enaid i. Na ffycin coffi.

Ond o holl fwydydd y byd mae un blas sy’n troi arna’ i yn fwy na dim sef anis. Gan fod hwnnw’n edrych ychydig yn amheus defnyddiaf y Saesneg, sef wrth gwrs aniseed. Mae o’n flas sy’n troi arnaf o waelod fy mod, boed mewn bwyd, mewn da da neu sambwcas. Mae’n gas fwyd i’r graddau na allaf ddallt neb sy’n ei licio. Gyda blasbwyntiau’r tafod yn newid pob ychydig wythnosau mae ein blas yn newid o hyd, ond Duw â’m gwaredo y diwrnod trist hwnnw pan hwythau ddywedant fod aniseed at fy nant.

A mi fydd unrhyw un call o’ch plith yn cytuno.

1 commento:

Anonimo ha detto...

Afu a winwns i mi bob amser!