venerdì, maggio 07, 2010

Dim syniad ar flog Syniadau?

Dwi’n hoff iawn o flog Syniadau ar y cyfan, ond dwi’n siomedig iawn, hyd dicter bron â bod, fod yr awdur wedi bod yn dileu sylwadau yn y pwnc hwn, ac wedi mynd mor isel â chyhuddo’r rhai a wnaeth y sylwadau cwbl ddilys yn hilgwn.

Gallwch ddarllen y post gwreiddiol, a rhai o’r sylwadau, yma.

Gwraidd y drafodaeth ydi bod gwahaniaeth yn y ffordd y mae Cymry Cymraeg a Saeson yn pleidleisio yn yr ardaloedd Cymraeg (neu Gymraeg honedig ysywaeth). Mynegwyd yn un o’r ymatebion a ddilëwyd, a oedd yn hirfaith, synhwyrol a deallus, bryder y gallai Ceredigion ac Ynys Môn fod wedi’u colli’n barhaus rŵan ar lefel San Steffan oherwydd eu bod erbyn hyn yn ildio mor gyflym i’r llanw Seisnig. Mynegais innau fy mhryder am hyn yn rhai o’r proffwydoliaethau a wnes – gan grybwyll Preseli Penfro, Aberconwy, Ceredigion a Môn fel rhai o’r rhai lle’r mae’r bleidlais genedlaetholgar yn dioddef oherwydd mewnfudo. Gellir ychwanegu hyd yn oed Ddwyfor Meirionnydd at hyn.

I bob pwrpas, dywedwyd bod bellach bleidlais wrth-genedlaethgar, ac i raddau gwrth-Gymraeg, dactegol mewn rhai o seddau Cymru. Mae’n syndod i mi y gall unrhyw un synnu ar hynny!

Mynegwyd yn y post hefyd fod nifer o bobl yng Ngheredigion, y bobl Gymraeg gynhenid, yn teimlo fel pe bai’r Saeson sydd wedi symud yno bellach yn teyrnasu yn wleidyddol hefyd. Fedra i ddallt hynny, fedra i gytuno â hynny. Dwi’n petruso, sedd wrth sedd, mai dyma fydd y duedd yn y Fro a hynny’n uniongyrchol oherwydd y mewnlifiad.

Mae llawer iawn o bobl yn y Fro, hynny sydd ohoni, o farn debyg. Gall Syniadau eu galw’n hilgwn a pheidio â gadael iddynt fynegi eu barn – sy’n annheg ac yn annifyr ar y ddau gownt – rhydd iddo wneud hynny ar ei flog. Ond dealla hyn – y bobl sy’n credu hyn yw rhai o gefnogwyr selocaf Plaid Cymru, cenedlaetholwyr o argyhoeddiad â Chymru wrth wraidd eu bod, a heb eu pleidlais hwy bydden ni’n eistedd yma heddiw yng Nghymru di-Blaid Cymru. Rhybuddiwyd eisoes am y sefyllfa hon, ers degawdau, ac ni wrandawodd neb. Erbyn hyn, mae'r sefyllfa'n dechrau gwireddu.

Rho dy ben yn y tywod a gwaedda ‘hiliaeth’ nerth dy ben, os mynni. Ond rwyt ti’n anghywir, gyfaill, ac mae cyhuddo pobl o fod yn hiliol o fynegi hynny, o fynegi’r sefyllfa fel ag y mae, yn isel iawn.

5 commenti:

Anonimo ha detto...

Cytuno a thi. Fi wedi trial dal penrheswm ag e, ond fe'm galwodd yn hiliol.

Fe bosties i gyfraniad er mwyn annog trafodaeth, ac fe chwythodd i fyny yn fy ngwyneb!

O'n i ddim yn deall fod e mor 'touchy'!

Hogyn o Rachub ha detto...

Doedd 'na uffar o ddim o'i le ar dy neges, Cardi (cymryd mai chdi sy 'na!). Gwedd newydd ar barchusrwydd gwleidyddol ydi'r rheswm tu ôl iddo fwy na thebyg - ymateb nid yn annhebyg i'r ymateb a gafodd Seimon Glyn pan gododd bryderon am y mewnlifiad, ond y tro hwn o gyfeiriad un o gefnogwyr Plaid Cymru!

Mae'n siomedig iawn achos, gan fwyaf, mae'n flog gwych.

Anonimo ha detto...

na, fi ydi 'Cardi'. ond cytuno gyda'r cyfaill cyntaf.

Ie, mae'n amlwg fod y boi Syniadau yn byw mewn bydysawd arall. Mae'n anwybyddu beth sy'n amlwg i bawb. Dydy'r ffaith nad oes eithriadau, nad oes lot o lwyd, ddim yn golygu nad oes cnewyllun o wirionnedd yn yr hyn mae pawb yn ei weld.

Siomedig iawn gyda Syniadau. Wastad wedi bod yn ffan ohono.

Cardi

Anonimo ha detto...

Oes, mae yna ddau Gardi wedi bod yn cyfranu. Mae'n drueni fod mwyafrif cyfraniadau 'Cardi' wedi cael eu dileu - doedd yna ddim byd ymfflamychol ynddyn nhw o gwbl.

Ond RHAID fynd i'r afael a'r cwestiynau sy'n codi, os ddim yna waeth i ni roi mygydau arno ag esgus fod yna ddim byd o'i le ac mae 'blip' arall oedd etholiad 2010 yng Ngheredigion.

Robert Tyler ha detto...

Sorry to write in English gentlemen. Just wanted to express my agreement with you on this issue. I made a comment on Syniadau (Final countdown) and the response was insulting to say the least. I have since responded. To say I am furious with this individual is an understatement.
Robert Tyler
Fulbright Professor, Westminster College, Missouri, USA