mercoledì, aprile 07, 2010

Meini Prawf Llwyddiant Etholiad 2010

Wel, mae’n etholiad arnom, cyfnod gwych i obeithio, anobeithio, brwydro, anwybyddu a fwy na thebyg ypsetio lot o bobl. Na phoener, gymera i gyfrifoldeb am yr un olaf. Un peth fydda i ddim yn licio’i glywed ar ôl etholiad ydi pleidiau yn honni llwyddiant lle bu methiant. Roedd llinell Plaid Cymru yn 2005, er enghraifft, o fod “mil a hanner o bleidleisiau o ennill pum sedd” yn ffeithiol gywir ond yn gamarweiniol. Felly dyma asesiad byr o’r hyn y gall y pleidiau ei alw’n etholiad llwyddiannus pan ddaw Mai 7fed ymhen mis, a’r meini prawf ar gyfer gwneud hynny.

Ceidwadwyr

Noson ragorol: 16 sedd (annhebygol iawn ond posibl)
Seddau sicr: 6 sedd
Sedd i’w gwylio: Aberconwy – dylai’r Ceidwadwyr fod wedi’i chipio yn 2007 – does dim esgusodion eleni
Meini prawf llwyddiant: Oni fydd y Ceidwadwyr yn ennill o leiaf 9 sedd, sef tair ar ben y chwech sy’n sicr, ni allant hawlio iddi fod yn noson lwyddiannus yng Nghymru. I ennill mwyafrif yn Llundain, fodd bynnag, mae’n debyg y bydd yn rhaid iddyn nhw ennill o leiaf ddeg yma. Byddai peidio â chynyddu eu canran o’r bleidlais o leiaf 5% - sef yn gyfforddus uwch chwarter y bleidlais - hefyd yn fethiant ar eu rhan.

Democratiaid Rhyddfrydol

Noson ragorol: 6 sedd
Seddau sicr: 2 sedd
Sedd i’w gwylio: Gorllewin Abertawe – os ydi’r Dems Rhydd o ddifrif isio ymestyn y tu hwnt i’r ardaloedd traddodiadol ac ardaloedd myfyrwyr, rhaid ennill fan hyn
Meini prawf llwyddiant: O ystyried yr hinsawdd wleidyddol, yn gyfrinachol bydd y Dems Rhydd yng Nghymru yn fodlon ar ddal eu tir – a dyma’r unig faen prawf i lwyddo. Pe collid Ceredigion neu Frycheiniog, gellir ennill Dwyrain Casnewydd neu Orllewin Abertawe, ond sut bynnag y bydd hi ar Fai 7fed bydd llai na phedair sedd yn noson aflwyddiannus iddynt. Waeth beth fydd yn digwydd o ran seddau, byddai cael eu goddiweddyd gan y Blaid yn y bleidlais boblogaidd yn siom enfawr ac yn cadarnhau eu statws fel y bedwaredd blaid.

Llafur

Gobaith gorau: Colli 6 sedd neu lai
Seddau sicr: 14 cwbl sicr, ffefrynnau mewn tua 9 arall
Seddau i’w gwylio: Llanelli a Delyn – byddai colli’r rhain yn rhoi momentwm mawr i Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr cyn 2011, ac yn dyst i ddirywiad Llafur Cymru
Meini prawf llwyddiant: yn fy marn i mae chwe sedd eisoes wedi’u colli o’r 29 presennol, felly’r gorau y gall Llafur ei wneud ydi 23 o seddau – ond gall naw o’r rheini gael eu colli ar noson wael i Lafur. O ystyried popeth, noson lwyddiannus i Lafur fyddai 21 o seddau, gan sicrhau o leiaf 37% o’r bleidlais yng Nghymru. Mae unrhyw beth arall yn aflwyddiannus.

Plaid Cymru

Noson ragorol: 7 sedd
Seddau sicr: 3 sedd
Sedd i’w gwylio: Ceredigion – roedd ei cholli yn 2005 yn warthus, ond byddai peidio â’i hadennill yn destun pryder difrifol
Meini prawf llwyddiant: does dwywaith am hyn, i hawlio noson lwyddiannus mae’n rhaid i Blaid Cymru adennill Ceredigion ac o leiaf un o’r tair sedd arall ar y radar, sef Môn, Llanelli neu Aberconwy. Byddai llai na phum sedd yn noson wael. Rhaid iddi hefyd sicrhau tua 200,000 o bleidleisiau yn genedlaethol. Fydd goddiweddyd y Dems Rhydd ddim yn hanfodol, o ran seddau na phleidleisiau, ond yn fonws mawr.

Nessun commento: