sabato, gennaio 23, 2010

Trefaldwyn

Pnawn da bawb! Ar ôl ambell sedd bur anniddorol (sori os dwi’n pechu rhywun yn dweud hynny!) gall sedd Trefaldwyn fod yn ddiddorol eleni – yn ôl rhai. Bydd unrhyw un sy’n darllen y dadansoddiad hwn yn gwybod yn iawn hanes tir gwleidyddol y rhan hon o’r byd, a’r ddau a fydd yn mynd benben â’i gilydd i’w chynrychioli. Ond adawn ni hwy tan ddiwethaf, ia?

Dwi’n meddwl fy mod yn gywir yn dweud mai dyma’r unig un o holl seddau Cymru nas cynrychiolwyd byth gan Lafur, felly teg dweud na fydd hi’n disgwyl buddugoliaeth annisgwyl yma eleni. Chafodd Llafur fyth ugain y cant o’r bleidlais yma dros y deng mlynedd ar hugain ddiwethaf. Yn wir, byddwn i ddim yn synnu petai Llafur yn colli ei hernes eleni – caiff yn sicr llai na deg y cant o’r bleidlais.

Dydi Trefaldwyn ddim cweit mor anobeithiol i Blaid Cymru o ran natur yr ardal. Yn wir, mae ardaloedd o’r etholaeth sy’n ymddangos yn dir naturiol iddi, ond mae’r rhain yn ardaloedd isel eu poblogaeth, yn bennaf yn y gorllewin pellaf. Gan ddweud hynny, ‘does gan Blaid Cymru’r un cynghorydd ym Mhowys gyfan, felly yn amlwg ‘does seiliau cadarn i’w chefnogaeth adeiladu arni.

Unwaith erioed y mae wedi cael dros 15% o’r bleidlais yn yr etholaeth, sef ym 1999. Fodd bynnag, mae ymgyrch frwd yn mynd rhagddi, ac fe ddylai’r Blaid o leiaf oddiweddyd Llafur i’r trydydd safle. I fod yn onest, byddai peidio â gwneud yn siomedig iawn.

Awn felly fesul etholiad i weld yr unig ddwy blaid all ennill Trefaldwyn, sef y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Erbyn 1997, roedd mwyafrif y Dems Rhydd yn gadarn iawn, sef bron yn 20%, a phleidlais y Torïaid wedi dirywio o draean ers ’83, i lawr o dros 12,000 i fymryn uwch 8,000. I ddadansoddi 2010 rhaid i ni ddadansoddi’r hyn a ddigwyddodd yma yn Oes Lembit.

Fel y gwelwch, fydd hynny ddim yn cymryd hir.

Gwnaeth Lembit Opik enw iddo’i hun yn gyflym iawn, a daeth yn aelod lleol digon poblogaidd. Gogwydd wrth y Ceidwadwyr gafwyd yn 2001 wrth i’w pleidlais hwy lithro’n is fyth. Yn gryno, dyma eto’r sefyllfa bedwar blynedd yn ddiweddarach - gostyngodd pleidlais y Ceidwadwyr i 27% gyda nifer eu pleidleisiau’n sefydlog ar ychydig dros 8,000. Llwyddodd Lembit gael dros hanner y bleidlais. Peidiwn â diystyru hynny - ym mhrif gadarnle Cymreig y Rhyddfrydwyr, chafodd y blaid ddim mwyafrif o’r pleidleisiau ers degawdau. Roedd ennill 51% o’r bleidlais yn gamp.

Ond yn ôl rhai gall y Rhyddfrydwyr chwalu’n llwyr yma eleni. Er bod Lembit Opik erioed wedi mwynhau sylw’r cyfryngau, mae ei fwynhad o hynny wedi cynyddu’n sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Ar yr un llaw mae’n dangos ei fod yn fod dynol, ac mae ganddo broffil y gall y rhan fwyaf o wleidyddion ond dyheu amdano. Wedi’r cyfan, dyma Ddemocrat Rhyddfrydol amlycaf Prydain, heb os – mae mwy o bobl yn gwybod pwy ydi Lembit na Nick Clegg. Mae’r ffaith ei fod yn ysgrifennu i’r Daily Sport yn hytrach na’r Mail neu Express yn ategu at hynny.

Gall sylw drwg, wrth gwrs, ddod â ben i yrfa wleidyddol. Ond er bod Lembit yn dod drosodd fel ffŵl, dydi o ddim yn llwgr nac yn annifyr. Dyn od, ond dyn iawn yn y bôn. Gall pobl faddau hynny, a gall pobl droi yn erbyn y rhai sy’n ymosod ar gymeriadau o’r fath, sydd yn eu crombil yn ddigon diniwed.

Ar y llaw arall, dydi bod yn ffŵl fwy nag unwaith ddim yn fantais wleidyddol. Mae’n gwneud iddo ymddangos ei fod yn esgeuluso ei ddyletswyddau gwleidyddol ac nad yw’n gwasanaethu ei etholwyr i’w lawn allu. Y gwir ydi, mae ei weithgareddau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi ennyn cythruddo yn fwy na chanmoliaeth.

Mae Glyn Davies, wrth gwrs, yn wrthwynebydd cadarn. Byddai rhai yn dweud adnabyddus – ond y gwir ydi y tu hwnt i’r swigen wleidyddol (sy’n cynnwys ninnau sy’n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth) ‘does fawr neb yn gwybod pwy ydi o. Mae pob un wan jac o bobl Maldwyn yn gwybod am Lembit – ni ellir dweud yr un peth am Glyn. Enw da sydd ganddo, nid enw mawr.

Tasem yn sôn am etholiad Cynulliad, byddwn i’n llai siŵr o ddiystyru Glyn Davies. Yn y sedd honno mae’r Ceidwadwyr yn fwy peryglus.

Ym 1999 cafodd y Rhyddfrydwyr, yn ôl eu harfer diweddar, bron i hanner y bleidlais, neu 48%. Gyda 23%, roedd y Ceidwadwyr ymhell iawn y tu ôl, dyna’n wir eu canlyniad gwaethaf yma ers cyn cof. Ond rhwng 1999 a 2007 roedd y gogwydd i’r Ceidwadwyr yn wyth y cant, a’r mwyafrif Rhyddfrydol yn is na dwy fil o bleidleisiau. Heb ddylanwad UKIP, a gafodd 10% o’r bleidlais, digon posibl mai Dan Munford, nid Mick Bates, fyddai’r aelod cyfredol. Os nad ydi Trefaldwyn yn un o brif dargedau’r Ceidwadwyr yn 2010 mae rhywbeth o’i le.

Y Ceidwadwyr hefyd enillodd yma yn 2009. Daeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn drydydd y tu ôl i UKIP. Ymddengys bod felly gefnogaeth weddol i’r blaid fechan honno yn y rhan hon o Gymru, ond ymddengys ei bod yn dwyn cefnogaeth gan y ddwy brif blaid yma. Yn 2010, bydd hynny’n fanteisiol i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Nid diystyru’r canlyniad ydw i, roedd yn ganlyniad echrydus i’r Rhyddfrydwyr. Ond ai dylanwad Lembit oedd hynny, neu bobl a oedd am roi cic i Lafur drwy wisgo esgidiau Ceidwadol neu UKIP? Yr ail, dybiwn i.

Er gwaethaf y ffaith bod y niferoedd sampl ym mhob ardal yn erchyll o fach, awgrymodd arolwg diweddaraf YouGov o Gymru y bydd y bleidlais Ryddfrydol yn syrthio bump y cant a’r Ceidwadwyr codi ddeg y cant. Dwi’n reddfol amheus o bolau Cymreig, hyd yn oed un sy’n defnyddio rhyw lun o etholiadeg, ond petai hynny’n digwydd yn Nhrefaldwyn, ni fyddai’r Ceidwadwyr yn ennill – byddai mwyafrif gweddus gan y Rhyddfrydwyr o hyd.

A dyna gwblhau’r dadansoddiad byrraf a wnaed gennyf, ac mi ddywedaf wrthych pam: fydd Trefaldwyn ddim yn etholaeth eithriadol o ddiddorol eleni. Er gwaethaf ‘camymddwyn’ (a all yn hawdd apelio at rai pobl, chwi gofiwch) Lembit, ac ‘amlygrwydd’ Glyn Davies (mynegais fy marn am hynny uchod) y gwir ydi y bydd Trefaldwyn yn parhau’n etholaeth Ryddfrydol. Mae angen gogwydd anferthol o bron i ddeuddeg y cant ar y Ceidwadwyr i ennill yma - yn erbyn nid y blaid fawr amhoblogaidd ond y drydedd blaid.

Mewn etholaeth fel hon, bydd yr ychydig Lafurwyr yn bendant yn dewis Rhyddfrydwr. Tybiaf y gallai ambell Bleidiwr fenthyg pleidlais i Glyn Davies, ond ‘does llawer ohonyn nhw yma chwaith. A bydd ymddangosiad UKIP yma’n rhwystr i’r Ceidwadwyr yn fwy na’r Dems Rhydd.

Unwaith erioed y mae’r Rhyddfrydwyr wedi colli yma, sef 1979. Enillwyd y sedd yn hawdd ers 1983, a dydi’r Ceidwadwyr heb gael dros ddeuddeg mil o bleidleisiau ers 1987. Rŵan, byddwn i ddim yn synnu petaent o leiaf yn dechrau adennill y lefel honno o gefnogaeth yn 2010 – heb amheuaeth caiff Glyn Davies ymgyrch dda ac y bydd gogwydd sylweddol ato - ond dwi ddim yn meddwl bod perygl o ddifrif y bydd y bleidlais Ryddfrydol yn syrthio’n llai na 40%.

Proffwydoliaeth: Mwyafrif o 3,000 i Lembit Opik, a synnwn i ddim iot petai’n fwy na hynny.

Nessun commento: