lunedì, gennaio 25, 2010

Dillad Dad a hanesion eraill

Bob tro y bydd rhywun yn cyrraedd adra mae dau sicrwydd. Y cyntaf yw bod Nain yn fwy gwallof nag erioed, ‘rhen gorigl gam iddi, ac y bydd Mam wedi prynu dau beth i mi. Y cyntaf ydi jel cawod. Tasech chi’n gweld faint o jel cawod sy’n fy llofft adra fe fyddech chi’n taeru ‘na fi ydi’r person glanaf fu. Yn anffodus dydi hynny ddim yn wir, fi fydd y cyntaf i gyfaddef fod yn gas gen i folchi ac y bydda i dim ond yn gwneud o ddyletswydd. Ro’n i’n ddigon hapus yn cael dwy gawod yr wythnos yn y Brifysgol, sy’n ddrwg am fyfyriwr hyd yn oed. A gwyddom y ffieidd-dra myfyrwyr yn eu llawn ogoniant.

Yr ail beth fydd Mam wedi prynu ydi crysau-t. Mae ‘na ddwy ochr i’r geiniog hon, a’r ddwy ochr yn echrydus. Yn gyntaf, fydda i byth yn eu licio. Fydda i’n mynnu nad ydi hi’n eu prynu ond mi wnaiff beth bynnag – pwy ddiawl fu gan fam a wrandawodd? O ran hynny bydd yn prynu ambell un a phob un wan jac naill ai union yr un peth ond mewn lliw gwahanol, neu’n debyg uffernol.

These are the ones I got you from Cheshire Oaks – they’re expensive ones.
I don’t like them, Mam.
Oh well, never mind, they were only cheap.


Dyna ddudodd y sgriwan annwyl y tro hwn. Yr ail beth ydi bod gen i ddigonedd o ddillad beth bynnag. Tasa Broadway yn llwyfannu drama chavaidd ‘roll byddai’n rhaid gwneud ydi galw acw a gofyn cael benthyg dillad i gast cyfan. Y broblem efo fi ydi na fydda i’n lluchio dillad yn aml iawn, felly mae ‘na ddigonedd o sanau a phethiach yn yr ystafell sy’n hen fel y diawl ond sy’n rhywsut dianc fy ngolwg.

Yn bur ffodus byddaf yn rhoi trefn ar bethau heno, gan fod y bobl elusen wedi rhoi bag drwy’r drws. Dwnim os ydyn nhw isio sanau, ond byddan nhw’n cael pentwr bob tro y byddan nhw’n dod acw. Sion Corn y Sanau ydwyf yn wir.

Ond dyna drasig oedd gweld bod Dad wedi prynu dillad iddo’i hun. O, mam bach. Mae gan fy Nhad synnwyr ffasiwn ceffyl dall fel y mae hi, ond ar ôl i Mam ddweud bod angen rhagor o ddillad arno y peth olaf yr awgrymodd wrth ddweud hynny oedd y dylai brynu ei ddillad ei hun.

Felly, ac yntau wedi bod ym Mangor gydag Anti Rita, daeth nôl gyda dau ddiledyn erchyll. Y cyntaf oedd crys-t piws, sy’n rhy dynn iddo. Argol, os wyt ti’n cael dy mid-life creisis rŵan, Dad, yn dy oed a’th amser, fyddi di’n fyw am byth, feddyliais i. Yr ail beth oedd fflîsî arall fyth. Mae gan Dad fwy o fflîsîs na neb arall yn y byd, a phob un yn llwyd neu’n frown.

Pan fydda i’n hanner cant a chwech, dwi ddim isio bod fel Dad.

Nessun commento: