martedì, gennaio 26, 2010

Castell-nedd

Sedd ddiddorol ydi Castell-nedd, dyna fy marn i, er na fentrwm ddweud y ffasiwn beth ddeuddeg mlynedd nôl. Os ydym i weld ‘Portillo Moment’ yng Nghymru, dyma’r bet gorau. Yn wir, byddai’r gogwydd a fyddai ei angen ar yr ail blaid i ennill yma yn ddigon tebyg i hwnnw a gafwyd yn Ne Enfield ym 1997. Ar yr olwg gyntaf, mae Peter Hain yn un o fawrion y Blaid Lafur, yn fwystfil gwleidyddol, ond teimla rhywun ei fod wedi’i ddatgysylltu â chyhoedd Cymru dros y blynyddoedd diweddar. Bydd ystyried y sgandalau yn ei gylch yn ffactor a fydd yn ei niweidio, ond i ba raddau? Efallai tua’r un graddau â Lembit, ond nid yw’r bygythiad i Hain yng Nghastell-nedd i’r un graddau â’r her sy’n wynebu Lembit ym Maldwyn (er y mynegais fy marn am hynny ynghynt).

Beth am felly fwrw ati’n syth bin, ac ystyried Castell-nedd yng nghyd-destun Oes Hain. Er iddo ddod i gynrychioli’r sedd drwy isetholiad yn ’91, ystyriwn 1992 ymlaen. Soniwn yn fras am 1992 a 1997. Rydyn ni’n dueddol o gymryd yn ganiataol erbyn hyn mai Plaid Cymru yw prif wrthwynebwyr y blaid Lafur yng Nghastell-nedd, ond nid dyma’r achos yn ystod y rhan fwyaf o’r nawdegau. Y Ceidwadwyr ddaeth yn ail yma yn ystod yr etholiadau hynny, ond rhaid pwysleisio mai ail ofnadwy fu hi: cafwyd 15% o’r bleidlais ym 1992 a ddisgynnodd i 9% ym 1997.

Roedd mwyafrifoedd Llafur yn y nawdegau yn anferthol yma – yn wir, roedd mwyafrif ’97 Llafur yma yn fwy na’r mwyafrif yn y Rhondda; y ganran a gafwyd yn uwch nag yn Nhorfaen. Dyna felly’r cyd-destun. Ers hynny, mae Llafur wedi dirywio’n enbyd. Ro’n i am addo i’m hun i beidio â dweud ‘dirywiad o draean yn nifer y pleidleisiau ers 1997’, ond, wel, dyna fi wedi’i ddweud – 37.9% i fod yn gwbl gywir, mymryn dros draean.

Dirywiodd y nifer a bleidleisiodd ddeuddeg y cant rhwng ’97 a ’05, ond gwnawn ddadansoddiad byr o’r tair plaid arall ar ôl gweld y newid yn y ganran rhwng y blynyddoedd hynny.

Llafur (-20.9%)
Plaid Cymru (+9.0%)
Dems Rhydd (+8.0%)
Ceidwadwyr (+2.8%)

Rhaid dweud yn gyntaf bod dirywiad Llafur yma yn waeth na’r hyn a welwyd gennym hyd yn hyn. Mae’r Ceidwadwyr wedi tynnu’n ôl mymryn ond dydyn nhw ddim yn rym yma o gwbl – maen nhw’n amhwysig a dweud y lleiaf.

Dydi hi ddim yn syndod gweld bod Plaid Cymru wedi gweld y fath gynnydd – rhyw fath o orlif, bosib, o Lanelli a Dinefwr, ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi gweld cynnydd trawiadol yn yr ardal. Yn wir, yn 2005, roedd y ddwy blaid o fewn mil o bleidleisiau i’w gilydd fwy na heb – Plaid Cymru ar 17% a’r Dems Rhydd ar 14%. Y gwahaniaeth ydi bod elfen naturiol i gefnogaeth y Blaid yma, ond nid i’r Rhyddfrydwyr i’r un graddau.

Gan dynnu’r Ceidwadwyr o’r hafaliad (oni chawn wneud hynny ym mhobman!), sy’n ddigon teg dwi’n meddwl, dyma’r newid mewn pleidleisiau ers 1997.

Llafur -11,489
Plaid Cymru +2,781
Dems Rhydd +2,515

Felly cynnydd parchus i’r cenedlaetholwyr a’r rhyddfrydwyr ond cwymp erchyll, os nad di-droi’n ôl, yn y bleidlais Lafur.

Tueddaf i feddwl y bydd y bwlch rhwng etholiadau Cynulliad a San Steffan yn araf leihau yn ystod y blynyddoedd nesaf, a chawn olwg gyflym ar sefyllfa’r etholaeth ar lefel genedlaethol ac nid Prydeinig am eiliad. Dydi crap Llafur ar sedd Bae Caerdydd ddim yn gadarn o gwbl, a Phlaid Cymru yw’r unig rai a all gipio’r sedd. Dyma ganlyniad 2007:

Llafur 10,934
Plaid Cymru 8,990
Mwyafrif Llafur: 1,944 (7.7%)
Gogwydd o 7.3% Llaf > PC

Cafodd Plaid Cymru lai o bleidleisiau yma yn 2007 na chafodd yn ’99, a hefyd Llafur, ond dydi’r canrannau na nifer y pleidleisiau yn ofnadwy o wahanol. Yr hyn sy’n wahanol ydi bod y mwyafrif yn is. Mae hon yn sedd y gall Plaid Cymru ei chipio'r flwyddyn nesaf - os saif Adam Price byddwn i’n fodlon rhoi bet hegar arni - ac o wneud hynny, ymhen rhyw ddegawd, gall hon droi’r wyrdd ar lefel San Steffan, yn debyg i sut y gall Llanelli wneud eleni.

Y gwahaniaeth ydi seddau cyngor. Er bod y rhan fwyaf o seddau cyngor Plaid Cymru ar y cyngor yn yr etholaeth hon, ni welwyd newid mawr yma ers blynyddoedd, ac mae Castell-nedd Port Talbot yn un o ddau gyngor a reolir gan y Blaid Lafur gyda mwyafrif dros bawb. Mae hynny’n bryder os yw’r cenedlaetholwyr am weld cynnydd cynaliadwy yma.

Dyma ganlyniad Etholiad Ewrop 2009:

Llafur 5,419 (29.9%)
Plaid Cymru 4,175 (23.0%)

Rŵan, gwn mai adrodd ffigurau yr wyf yn yr uchod yn hytrach na dadansoddi. Gellir o bosibl dweud hyn, fodd bynnag; mae dirywiad Llafur yng Nghastell-nedd wedi bod yn aruthrol, a Phlaid Cymru sydd wedi camu i’r bwlch yn fwy na neb arall. Llanelli i raddau llai ydyw.

Dwi hefyd yn meddwl y bydd agwedd Peter Hain at ddatganoli, y ffordd y mae wedi mynd ati i gyflawni ei rôl fel Ysgrifennydd Gwladol, a hefyd yr holl ffars yn ymwneud â’i ymgyrch am y dirprwy arweinyddiaeth, am ei niweidio’n fawr. Mae’n amhosibl gwybod i ba raddau heb fod yn yr etholaeth o ddydd i ddydd – ond dwi’m yn meddwl ei fod o wedi pechu digon i roi fflich i fwyafrif sy’n agosáu at 13,000.

O ystyried y cyfan o’r uchod, tueddwn i feddwl na chaiff Plaid Cymru lai na 7,000 o bleidleisiau yma eleni, ond mae’n anodd ei gweld yn torri’r 10,000 mewn gwirionedd. O ran Llafur, yn sicr ni chaiff lai na tua 12,000 o bleidleisiau, a byddwn i’n dueddol o ddweud y bydd hi’n cael tua phymtheg mil.

Dydi’r polau fawr o ddefnydd i ni fan hyn. Po fwyaf y darllenaf am bolau Cymreig YouGov, y mwyaf dwi’n eu hamau - ond mewn sedd lle nad yw’r Ceidwadwyr yn rym ni fydd y polau Prydeinig o ddefnydd ychwaith. Pan fo Plaid Cymru ar gynnydd yma (2001 a 2007) mae’n dueddol o fod yn ogwydd rhwng saith a naw y cant wrth Lafur i’r Blaid. Yn wahanol i ambell le, nid dirywiad enfawr Llafur yn unig sy’n esbonio’r gogwydd, ond hefyd gynnydd ym mhleidlais Plaid Cymru. Nid ydi’r Blaid am weld cynnydd fel y gwelsai yn etholiad 2001 ledled Cymru, yn fy marn i, ond mae Llafur yn waeth ei byd o gryn dipyn, felly tueddaf i feddwl bod gogwydd o tua naw y cant yn ddigon posibl.

Gyda dwy ran o dair o’r etholwyr yn pleidleisio, bydda’r canlyniad yn rhywbeth tebyg:

Llafur 16,400
Plaid Cymru 9,800
Mwyafrif: tua 6,600

Yn reddfol, mae’n ddigon posibl y gall Plaid Cymru gyrraedd tua deg mil o bleidleisiau yma eleni. Wedi’r cyfan, mae tua hynny wedi pleidleisio dros y Blaid o leiaf unwaith, ond tuedda rhywun i feddwl bod y ffigur i Lafur (-2,400) efallai yn optimistaidd o’i rhan hi. A fyddai’n deg, tybed, ddweud iddi ddisgyn i tua’r pymtheg mil a rhannu’r gweddill rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol (a gall yr ail yn sicr dynnu pleidleisiau wrth Lafur, hyd yn oed yma)? Mae’n ddigon posibl.

Yn olaf, beth am alw draw i’r bwcis? Dyma’r odds diweddaraf y gallwch ei gael ar Gastell-nedd:

Llafur 1/7
PC 4/1

Mae’n syndod mawr gen i fod y Blaid yn 4/1 – pris gwael iawn dwi’n credu, oherwydd er gwaethaf popeth welwn ni ddim ogwydd o 18% yng Nghastell-nedd eleni, sef y gogwydd sydd ei angen ar Blaid Cymru i ennill yma. Pe bawn yng nghyd-destun y Cynulliad, byddai’n wahanol. Os llwydda Plaid Cymru atgyfnerthu o ddifrif yn ardal Llanelli dros y ddegawd nesa’, a phe bai etholiad mewn degawd, byddwn i ddim mor siŵr. Ond ‘Portillo Moment’, nid a gawn eleni. Sori i’ch siomi!

2010 yw hi, nid 2020, ac eleni bydd Llafur o hyd yn teyrnasu yma.

Proffwydoliaeth: Peter Hain i ddychwelyd i San Steffan, gyda mwyafrif llawer llai o amgylch y 6,000.

Nessun commento: