lunedì, dicembre 14, 2009

Pen-y-bont

Dwi am roi’r proffwydoliaeth olaf cyn y Nadolig heddiw, a byddwn ni chwarter ffordd drwy seddau Cymru. Gydag etholiad yn bosibl ym mis Mawrth, mae’n ddigon posibl na fydda’ i’n agos at ddadansoddi pob sedd – sy’n biti achos mae digon ohonynt yr hoffwn eu dadansoddi!

Ddywedish i ddigon yn ôl y byddai Llafur yn gwneud yn well na disgwyl, ac mae’r blaid i’w gweld yn gwneud hynny eisoes. Pam? Un rheswm syml y galla’ i ei gynnig. Wrth ateb polau piniwn a chwestiynau gwleidyddol amrywiol, nid yn unig y mae pobl wedi cymryd arnynt fod y Ceidwadwyr am ennill yr etholiad nesaf, ond yn gwybod hynny cyhyd fel y maen nhw’n ateb y cwestiynau hynny fel petaent eisoes mewn grym. Hynny ydi, i bob bwrpas, ymddengys i raddau fod pobl yn trosglwyddo eu pleidlais debycaf o’r etholiad wedyn i’r etholiad hwn.

Fy namcaniaeth bersonol ydi honno, wrth gwrs, ‘does tystiolaeth i’w phrofi. Ond fel y dywedais eisoes hefyd, fe welwn mi dybiaf shy Tory syndrome, ond er budd Llafur, flwyddyn nesa’. Yn fy marn i, ar hyn o bryd, mae’r senedd grog yn debygol cymaint ag ydi o’n bosibl.

Yn ogystal â hynny, dydi’r Torïaid ddim mwyach yn cael getawê ag esgeuluso polisïau – mae’n rhaid iddyn nhw bellach ddweud beth ydi’r rheini, ond rhywsut dydyn nhw ddim yn llwyddo i’w cyfleu yn dda iawn. Mae’r gêm amyneddgar y mae Llafur wedi ei chwarae, o bosibl, am dalu. Cawn weld i ba raddau. Yn wir, gall goblygiadau hynny hefyd fod o fudd i Blaid Cymru a’r Rhyddfrydwyr mewn seddau fel Aberconwy a Brycheiniog a Maesyfed.

Ond beth am oblygiadau hynny yn sedd Prif Weinidog newydd Cymru, Pen-y-bont? Er ei bod yn sedd ‘cymoedd’, dydi hi ddim fel gweddill y cymoedd. Mae’n ardal glan-y-môr sydd ddim yn rhannu’r etifeddiaeth lofaol i’r un graddau. Mae llai o salwch yma, a mwy o gyfoeth. Ac mae’r Ceidwadwyr yn gryfach o lawer yma.

Sonia’ i’n gyflym am Blaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yma.

Dydi Plaid Cymru byth, hyd yn oed ym 1999, wedi bygwth yma. Cafodd bron bum mil o bleidleisiau y flwyddyn honno ac ers hynny, dim. A ‘does fawr fwy y gallwn ddweud am y blaid yn y sedd hon.

Ond beth am y Democratiaid Rhyddfrydol? Dyblodd pleidlais y blaid o 10% i 21% rhwng 1992 a 2005, er eu bod yn wannach yn y Cynulliad. Mae ganddynt hefyd chwe chynghorydd yn y sir (Pen-y-bont ar Ogwr), sef yr un nifer â’r Ceidwadwyr. Pe bai Llafurwyr yn troi atynt yn y sedd hon, mae’n ddigon posibl y gallant esgyn i’r ail safle, ond mae’n annhebygol. Ers ’05, mae hi wedi bod yn segur iawn ar y Rhyddfrydwyr yn gyffredinol yng Nghymru, ac mewn etholiad mor bwysig ar y gorwel, hawdd dychmygu mewn sedd fel hon, a allai fynd yn Geidwadol mewn blwyddyn dda iddynt, y bydd y Rhyddfrydwyr yn teimlo gwasgfa rhwng y coch a’r glas.

Ond mae’n ddigon hawdd dychmygu y gallai Llafurwyr dadrithiedig droi atynt i raddau. Dwi ddim yn meddwl y bydd hynny’n digwydd y tro hwn, ond dydi hi ddim yn amhosibl yn y tymor canolig.

Y Ceidwadwyr, wrth gwrs, ydi’r prif her i Lafur yma. Tua 38% y cawsant yma yn ystod llwyddiant ’83 a hefyd etholiad ’88, gan sicrhau 16,000 o bleidleisiau y tro cyntaf, a chynyddu hynny i 17,500 bum mlynedd yn ddiweddarach. Yn syml, yn etholaethau Cymru, mae hynny’n lot o bleidleisiau.

Ond dirywio y mae’r blaid wedi ers hynny. Ni chafodd dros y 10,000 o gwbl ar ôl 1992 – hyd yn oed yn 2005 roedd ei phleidlais fymryn uwch y chwarter. Ac eto, llwyddasant ennill yma eleni yn etholiadau Ewrop o ychydig gannoedd. Darlun cymysg; weithiau mae etholiadau Ewropeaidd yn trymhau’r niwl yn hytrach na’i godi.

Ni ddylwn ddiystyrru’r canlyniad hwnnw, ond roedd un broblem bosibl gyda’r fuddugoliaeth – pleidlais gref UKIP. Annhebyg y bydd UKIP yn sefyll yma flwyddyn nesa’, ond yn amlwg mae pleidleisiau yma iddynt, a gall eu hymgeisyddiaeth yma dynnu digon o bleidleisiau wrth y Ceidwadwyr i roi’r sedd i Lafur. Yn ffodus i’r Ceidwadwyr, dydi hi ddim yn debyg y bydd UKIP yn ceisio yma.

Ond mae’n mynd heb ddweud bod y bleidlais Lafur yma’n uchel hefyd. Unwaith yn unig y mae hi wedi cael llai na 16,000 o bleidleisiau ac roedd hynny pan gollodd y sedd. Ers hynny mae wedi amrywio rhwng fymryn uwch hynny a thros 24,000 – mae hynny’n sylweddol uwch na’r uchafswm Torïaidd.

Ystyriwn ddau arolwg barn wrth feddwl am sut y gallai ei phleidlais newid. Un o ddydd Sul yn gyntaf, i YouGov a’r Sunday Times. Roedd y Ceidwadwyr ar 40% a Llafur ar 31%. Beth fyddai goblygiadau hynny i’r Ceidwadwyr?

O drosi’n uniongyrchol, byddai’r Ceidwadwyr yn ennill tua 35% o’r bleidlais, sy’n agosáu at lefelau’r wythdegau. Ond byddai Llafur ar 39%. Mae hynny’n bur agos ond eto: mantais i Lafur, felly. Gan ystyried hefyd bod Llafur yn gwneud yn well yng Nghymru nag yn y DU yn gyffredinol, a’r Ceidwadwyr yn waeth, mi ellir dadlau bod y 4% hwnnw’n fwyafrif twyllodrus o isel.

Beth am ddefnyddio’r arolwg barn Cymreig a gynhaliwyd eleni? Mae hynny’n hŷn erbyn hyn ond awgrymodd ogwydd o tua 10% yng Nghymru o Lafur i’r Ceidwadwyr. Y canrannau wedyn fyddai Ceidwadwyr 36%; Llafur 33%.

Felly, eto, mae’r darlun yma’n niwlog. Serch hynny, fe fyddwn yn dueddol o awgrymu, o’u cyfuno, mai mantais fechan i Lafur a awgrymir.

Er gwybodaeth, yn y Cynulliad, roedd y ddwy blaid yn gryfach yma yn 2007 nag ym 1999, fwy na thebyg oherwydd dirywiad Plaid Cymru. Ond y patrwm cyffredinol sydd i’w weld yn datblygu ydi bod y Ceidwadwyr yn gwthio ond nad oes ganddynt yr ‘wmff’ ychwanegol i allu ennill – hynny ydi, mae angen trydedd plaid gref yma i sicrhau buddugoliaeth Geidwadol.

Dyna hanes ’83 – y Democratiaid Cymdeithasol oedd wrthi eto, yn hawlio bron i chwarter y bleidlais. Mi all y ffurf gyfredol ar y blaid honno wneud hynny – o gynyddu ei phleidlais fymryn, gallai’r Rhyddfrydwyr roi’r sedd hon yn nwylo’r Ceidwadwyr. Yn reddfol, byddwn i’n dweud mewn sedd fel hon y byddai Rhyddfrydwyr yn fwy tueddol o fenthyg pleidlais i Lafur – a dyn ag ŵyr, gall ambell Bleidiwr hefyd – na gweld y Ceidwadwyr yn ennill yma, ond dydi hynny ddim yn sicr.

Efallai bod y bleidlais wrth-Dorïaidd yng Nghymru yn un gref – ond erbyn hyn mae’r bleidlais wrth-Lafur hefyd yn ffactor.

O ystyried hynny oll, a lluchio y nifer a fydd yn pleidleisio i’r fargen, gadewch i mi felly gynnig dyfaliad ynghylch isafswm ac uchafswm pleidleisiau’r Ceidwadwyr a Llafur. Ddywedwn i y bydd Llafur yn cael rhwng 13,500 a 15,500, ac y caiff y Ceidwadwyr unrhyw beth rhwng 11,000 a 15,000 – gobeithio bod hynny’n swnio’n deg i chi. Awgryma hynny yr un peth a wyddom eisoes – mi all y Ceidwadwyr ennill yma, ond efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw wneud yn well nag y maen nhw ar hyn o bryd i sicrhau’r fuddugoliaeth honno, a gobeithio yn gyntaf y bydd y Llafurwyr yn aros adref, ac y bydd effaith pleidlais wrth-Dorïaidd yn fach.

Efallai, y tro hwn, mae hynny fymryn yn rhy obeithiol.

Proffwydoliaeth: Mwyafrif o tua 1,500 – 2,000 i Lafur.

Nessun commento: