martedì, ottobre 13, 2009

Dwi ddim yn licio John Lewis

Na, dydw i ddim yn licio John Lewis yng Nghaerdydd. Soniais tua mis yn ôl y byddwn yn mynd yno rywbryd ac mi es nid unwaith eithr dwywaith. Mae pawb yn canmol dwyieithrwydd y siop a’r ffaith bod y wefan hefyd yn ddwyieithog ond dwi ddim am fynd yno eto.

Welsoch chi erioed y ffasiwn ddrudnwch? Nefoedd, welish i ddim ‘rioed, a do, dwi ‘di bod i Lundain, er na fu i mi gymryd sylw o fawr ddim yn y bastad le, ond awn ni ddim lawr y ffordd gasinebus honno heddiw.

Rŵan, dwi wedi bod yn ddrudfawr fy nilladbrynu unwaith gan brynu côt a hithau’n ganpunt unwaith, ond byddwn i ddim yn gwneud hynny yn rheolaidd (nac eto, ond mae hi’n gôt lyfli) ond mae popeth yn adran dillad bechgyn gyfyngedig John Lewis yn uffernol o ddrud.

Cwynais nad oedd neuadd fwyd yno. Dywedwyd i mi fod, ac mi es yno eto i ganfod mai caffi ydoedd. Dwi’n dweud neuadd fwyd gan olygu deli i bob pwrpas. Fydda i’n licio’r rhan fwyd yn siop Howells yng Nghaerdydd, cofiwch. Cyfaddefaf mai unig fwriad f’ymweliadau prin i’r lle hwnnw ydi bwyta’r olewydd a’r sawsiau efo bara a gynigir am ddim cyn mynd i edrych ar y gwin, digio na allaf ei fforddio, cyn mynd nôl i’r gwaith yn olewyddlawn fodlon. Megis rhyw, dylid ceisio llenwi twll am ddim.

Wrth gwrs, dydi Howells ddim yn lle gwylaidd ychwaith, mae ‘na wario i’w wneud pe ceisid prynu yno. Ychydig fisoedd nôl, wrth chwilio yno mi ofynnodd un o’r bobl siop wrthyf a oeddwn yn chwilio am rywbeth yn benodol. “I brynu rhywbeth yma,” meddwn innau’n ddifrifol, “codiad cyflog”. Ni all pres brynu'r teimlad o roi ateb sarrug.

Nessun commento: