giovedì, settembre 03, 2009

Sky+

Gyrhaeddish i adra echnos wedi blino, gan edrych ymlaen yn bur haeddiannol at noson o deledu, yn ôl fy arfer dioglyd. Ond na, nid oedd y signal am chwarae’r gêm y tro hwnnw. Yn wir, mi ddiflannodd yn llwyr. Ers i mi ganslo’r rhyngrwyd Virgin, a oedd yn gwbl uffernol hefyd o ran signal, mae’r teledu analog wedi parhau ond yn anffodus gyda Virgin wedi myned yn swyddogol, mi aeth y signal analog hefyd.

Rŵan, gwŷr ambell un ohonoch i mi brynu Freebox fisoedd nôl, na phigodd fawr o ddim fyny, felly y troais nôl at yr analog. Heb ddewis ac yn teimlo’n ddig oherwydd y gwaith o roi popeth yn y twll cywir, sy’n anodd ar yr adeg orau credwch chi fi, i fod yn bruddglwyfus i ymuno â’r byd modern, bu’n rhaid setio’r Freebox i fyny eto.

Rŵan, yn bur rhyfedd, mae’n cael ambell i sianel y tro hwn. Fe’m synnwyd. Wrth gwrs, dydi’r un sianel namyn BBC1 yn gweithio pan ddaw’r trên heibio, sef bron bob un dros hanner yr amser cyn tuag wyth o’r gloch, ond mae’n iawn. Serch hynny, dwi angen ffics Sul o Bobl y Cwm, a dydi S4C yn unman ar y radar. Mi ffoniais Sky.

Ac felly’n mae’n swyddogol. O ddydd Llun ymlaen mi fydd gen i Sky+. Wyddoch chi be, dwi’n edrych ymlaen; fydda i mor fodern fel fy mod i’n teimlo fy mod i’n byw yn Futurama.

Mae ‘na rhai sianeli dwi yn edrych ymlaen at eu cael. Dave, wrth gwrs, ydi un, a’r llall wrth gwrs ydi Sky Sports News. Wn i ddim a fyddaf byth yn gadael y tŷ o hyn ymlaen. A dwi hefyd isio UKTV Gold yn ôl. Rhaid i hyd yn oed grinc fel fi chwerthin.

Ond tan hynny byddaf yn dibynnu ar amseroedd y trenau am f’adloniant.

2 commenti:

GWILYM EUROS ROBERTS ha detto...

Cysyllta a fi mewn mis, fyddi di'm yn gwybod sut ddaru ti wneud heb y SKY+ mor hir. Dwi allan mewn cyfarfodydd di ri gyda'r nos ac mae hwn yn wych ar gyfer recordio rhaglenni...mae'r optiwn "series link" yn wych gan y fedri di sicrhau bo chdi ddim yn methu ry'n pennod o dy hoff gyfresi teledu.
Mwynha!

Anonimo ha detto...

A fabulous gift idea that any mom & grandma links of london sale would be glad to accept is a mother's ring. There are countless styles to pick from london links charms and every one permits each of a mother's children's birthstone to be placed in the ring so mom & grandma can remember her children wherever she goes.Jewelry links london bracelet that is personalized or engraved makes great jewelry gifts for mom. You can have a particular word or meaningful expression engraved inside a ring, necklace or bracelet links of london earrings to demonstrate to your mother the depths of your feelings.Stylish watches are an additional idea for great jewelry gifts for mom. Your mother sweetie bracelet needs a stylish watch to go with her favorite outfit and perhaps even a few to go with her entire wardrobe.Another example of mom's & grandma's jewelry that makes a great gift is mother's earrings.