lunedì, settembre 21, 2009

Ambell feddyliad am Adam Price ac ôl-nodyn am bibgodau

Fel ambell un, er ein bod oll yn hysbys nad oedd Adam Price am aros yn San Steffan am hir, mi ges sioc o glywed na fydd yn sefyll yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr flwyddyn nesaf. Fedra’ i ddim smalio gwybod pwy fyddai’n sefyll yn ei le, a tai’m i foddran ddamcaniaethu, ond byddwn i yn bersonol yn gobeithio gweld wyneb ffres, ifanc, os ydi hynny’n bosibl.

Cyn mynd ymlaen rhaid dweud mymryn am Adam Price. Mae o ben ag ysgwydd uwchben unrhyw wleidydd arall sy’n dal swydd etholedig yng Nghymru heddiw, a ‘does gen i ddim amheuaeth yn dweud hynny. Mae’n rhaid i mi gyfaddef nad ydw i’n ei ystyried yn areithiwr ardderchog nac ysbrydolgar (er bod pawb arall i’w weld yn meddwl hyn mae’n debyg), ond mae’n boenus o alluog ac yn gallu cyfleu ei ddadleuon mewn modd medrus tu hwnt. Rydyn ni’n edrych ar ddyn a fydd yn anochel nid yn unig yn arwain Plaid Cymru, ond mi dybiaf Cymru ryw ddydd.

Er, dwi’n credu hefyd bod gormod wedi’i wneud o’i gyfnod fel Cyfarwyddwr Etholiadau – roedd yn gyfnod o sefydlogi yn hytrach na chyfnod o dwf. Hawdd yw anwybyddu’r ffaith mai o drwch blewyn, mewn difrif, yr oedd 2007 yn llwyddiant i Blaid Cymru. Roedd 2008, ar y llaw arall, o bosibl yr etholiadau mwyaf llwyddiannus i’r Blaid y degawd hwn, tra bod 2009 wedi bod yn andros o siomedig – waeth pa sbin a roddir arno. Record gymysg na ddylid ei hanwybyddu na’i gwneud allan i fod yn rhywbeth nad ydyw mewn difri ydi’r record honno.

Ond ai fi ydi’r unig un sy’n gweld ambell broblem efo dychwelyd Adam Price i’r Cynulliad?

Mae Blog Menai wedi trafod y posibiliadau o le y gall ddychwelyd. Nid i Ddinefwr y bydd hi. Dydi Rhodri Glyn ddim am symud, ac wyddoch chi be dydw i ddim yn ei feio o gwbl. ‘Doeddwn i ddim yn ffan mawr ohono yn ei gyfnod fel Gweinidog Treftadaeth ond mae o’n aelod gweithgar ac uchel ei barch yn ei ardal, sydd teg nodi â mwyafrif sy’n sylweddol fwy nag un Adam Price.

Dau ddewis y galla’ i eu gweld: Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, a Chastell-nedd – dwi’n meddwl bod Preseli Penfro allan ohoni, ac y byddai curo Paul Davis yno y tu hwnt i Adam Price hyd yn oed. Yr hyn sy’n fy mhryderu ydi hyn, sef bod pawb yn cymryd yn gwbl ganiataol y byddai Adam Price yn ennill y seddau hyn.

Castell-nedd ydi’r mwyaf enilladwy yn fy marn i, ac yn wir mi allaf ei weld yn ennill yma, ond byddai hynny ar draul Bethan Jenkins neu Dai Lloyd – ac mae’r ddau ohonynt wedi ennill eu plu fel aelodau cynulliad, yn fy marn i. Yn fwy na hynny, ydi hi y tu hwnt i bosibilrwydd y byddai Bethan Jenkins yn benodol yn ffansi crac ar Gastell-nedd?

Boed hi neu rywun arall yn gwneud hynny, a fyddant yn cael eu dewis cyn i Adam Price gael ei ddewis fel ymgeisydd? Yn wir, a fydd unrhyw le enilladwy ar gael i Adam Price erbyn iddo ddod nôl i Gymru?

Mae Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro eto’n bosibilrwydd, ond er gobeithion lu Plaid Cymru yma, rhaid i ni gofio bod canran pleidlais Plaid Cymru yma wedi cwympo bob etholiad Cynulliad hyd yn hyn (er ei bod yn agosach nag erioed i ennill y tro diwethaf). A ydi hon yn etholaeth y mae rhywun fel Adam Price yn gwbl addas ar ei chyfer, hyd yn oed? Ystyriwch y peth am eiliad – dwi ddim yn siŵr ei fod o. Ac mi all cymryd yn ganiatol ei fod am ennill fod yn fwrn mawr i’w chario a fydd yn niweidio’r ymgyrch.

Yn anffodus, er bod angen cael Adam Price i’r Cynulliad, mae pa effaith a gâi ar grŵp Plaid Cymru yno yn rhywbeth y dylid ei ystyried. A fyddai’n ansefydlogi’r grŵp drwy gael y darpar arweinydd yno? A phwy sydd i ddweud y byddai Ieuan Wyn Jones hyd yn oed yn 2015 yn sefyll i’r ochr yn dawel? Pwy sydd i ddweud, wir, ‘sdim ffiars o beryg y gwnaiff!

Yn gryno yr hyn dwi’n ei ddweud ydi hyn: byddai cael Adam Price yn y Cynulliad yn 2011 yn hwb enfawr i Blaid Cymru, ac mae’n gam angenrheidiol, ond bydd y dasg o ffendio sedd iddo yn un anodd – a pheidiwn â’i goroni’n AC cyn iddo gyflawni’r dasg o ennill y sedd berthnasol yn swyddogol, mae honno’n gêm beryglus iawn.

--

O.N. Tra fy mod i ar wleidyddiaeth, bydda i’n postio dadansoddiad am sedd Aberconwy yn ddiweddarach yn yr wythnos os oes gennych ddiddordeb – a dwi ddim yn meddwl bod seddau Cymru yn dod yn fwy diddorol na hon!

O.O.N. Parthed y dirgelwch ar Foel Faban mae un peth wedi dod i’r amlwg sef nad ydi’r boi sy’n chwarae’r bibgod yn unrhyw beth i wneud â’r lol arall sy wedi bod yn digwydd. A dweud y gwir, mae o’n dod o Rachub ac yn ymarfer yr offeryn ar y mynydd gan ei fod o’n gwylltio’r cymdogion!

3 commenti:

Anonimo ha detto...

Ydych chi'n bwriadu ysgrifennu dadansoddiad o bob sedd seneddol yng Nghymru? Mae 'na rai diddorol tu hwnt yn Ne Cymru, cofia!

Hogyn o Rachub ha detto...

Ddim bob sedd, wn i ddim faint o seddau chwaith, ond mi fydda i'n bwrw golwg ar gryn dipyn gan gynnwys rhai yn ne Cymru, er nad ydw i mor gyfarwydd â llawn ohonynt.

Anonimo ha detto...

Diolch. Disgwyl ymlaen i'w darllen nhw!