mercoledì, giugno 17, 2009

Dwi methu gweld

Mae’n dair blynedd yr haf hwn ers i mi gael prawf llygaid, sy’n ddwl a dweud y lleiaf. Wn i ddim sut y gall rhywun ofalu am ei olwg fel y gall gyda’i ddannedd, er enghraifft, ond os gellir gwneud hoffwn i wybod.

Fel pawb arall bydda i fel arfer yn deffro yn y bora efo golwg aneglur ond mae hynny wedi gwrthod ildio heddiw yn fy llygad chwith. Hwnnw ydi’r cont, fel mae’n digwydd. Mae’r golwg yn y llygad de yn iawn, diolch am ofyn, ond dydi’r llall ddim ac felly mae’r sbectolion sy’n rhaid i mi eu gwisgo (yn gwbl anfodlon) yn gryfach o lawer ar un ochr.

Profias y llygad gwallus drwy geisio darllen pethau ar y newyddion ond yn ofer. A hyn oll sydd wedi gwneud i mi feddwl y dylwn fynd am yr ail brawf llygiad hwnnw yn o handi. Cawn weld, siŵr o fod y bydda i’n iawn erbyn diwedd y dydd a chwyno heb reswm ydw i. Hynny neu fy mod i’n araf fynd yn ddall.

2 commenti:

Mari ha detto...

Swn i di licio bod yn ddall i dy ddawnsio nos Sadwrn.

Nath Gwawr sôn am Sir Benfro? I hwn da ni'n mynd http://www.coastalcottages.co.uk/holiday-cottages-uk.asp?cottageref=22778 ar 11-18 Gorff. Mae na le i ti os nei di ddwyn mwy o gymhariaethau rhwng trwyn Gwawr ac aardvark.

Hogyn o Rachub ha detto...

O diar - rwan dwi'n cofio hynny! Ond ma'n wir! Do, wedi sôn, gobeithio joinio am noson neu ddwy!