martedì, novembre 04, 2008

Obama, dos o 'ma

Fel pawb yn y byd i gyd dwi wedi bod yn cadw un llygad ar etholiad yr UDA yn ddiweddar. Dwi wedi awgrymu o’r blaen, ond dwi wedi penderfynu erbyn hyn dwi am i John McCain fynd â hi, er cymaint o wirdo ydi Sarah Palin (gair Ceren amdani yw ‘wirdo’ gyda llaw ond dwi’n cyd-fynd), achos dwi ddim yn licio Barack Obama. Dwi ‘di nodi fy rhesymau – er arddull selebriti, ei slicrwydd – peth nad ydw i’n eu hoffi mewn gwleidyddion. Wedi’r cyfan, dyma ddyn sydd wedi dweud y byddai’n parhau ag ymosodiadau Americanaidd ym Mhacistan; asiant newid yn wir.

A dwi ddim yn ei ymddiried yn y lleiaf. Dwi yn ymddiried yn John McCain, hyd yn oed os ydw i’n anghytuno efo fo ar lawer o bethau. Ond dydw i ddim yn selio fy nhuedd o fod isio gweld McCain yn ennill ar bolisiau, i fod yn onest.

Wrth gwrs, dwi ddim yn hoffi’r Democratiaid na’r Gweriniaethwyr ar y cyfan, a dyma fy mhrif broblem gyda’r holl sylw sy’n cael ei roi i’r etholiad. Mae Barack Obama yn cael ei bortreadu fel rhywun sydd am newid y byd, am chwydroi popeth. Ond rydyn ni’n anghofio un peth mawr.

Mae’r gwahaniaethau rhwng y Democratiaid a’r Gweriniaethwyr yn simsan. Mae’r ddwy yn bleidiau asgell dde, y Democratiaid yn gymharol â Thorïaid y wlad hon a’r Gweriniaethwyr ychydig ymhellach i’r dde gyda dylanwad crefyddol arno. Pe bawn yn Americanwr fyddwn i ddim yn pleidleisio i’r un o’r ddwy. Mae’r Unol Daleithiau yn wlad sydd yn ei hanfod o’r dde i’r canol o ran ei gwleidyddiaeth. I rywun ar y chwith dylai hynny fod yn ddigon wrthyrrol ynddo’i hun, ond dydi hi ddim mae’n rhaid. Achos bod y wasg Americanaidd yn cyfeirio fel Obama a’r Democratiaid fel ‘y chwith’ mae digon o bobl fan hyn yn anghofio bod cryn wahaniaeth rhwng Chwith yr UDA a Chwith Ewrop,

Efallai mai rhyw gamddelwedd sydd gan y byd o’r Democratiaid ar ôl wyth mlynedd rhyfelgar o dan Bush. Er mai prin yw’r Democratiaid a fu’n y Tŷ Gwyn ers ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, roedden nhw’n fodlon ymladd yn Fietnam, ac roedd hyd yn oed Clinton yn barod gyda’r bomiau, fel ar Bacistan.

Dydi arlywydd newydd o blaid ‘newydd’ ddim am newid degawdau o’r UDA yn ymddwyn fel bwli imperialaidd – y mwyaf a ddaw arlywyddiaeth Obama i’r UDA yw cadarnhad bod ei gorffennol hiliol yn diflannu, sydd yn well o leiaf. Ond dydi o ddim am ddechrau cyfnod newydd o gydweithio rhyngwladol ac America’n pwyllo cyn gweithredu, America sy’n gwrando ar eraill cyn bwrw ‘mlaen. Ac mae arna i ofn y caiff y rhai sy’n gobeithio y daw Barack Obama wawr ar hyn siom enfawr ymhen ychydig fisoedd neu flynyddoedd.

Fe gawn weld, ond dwi’n ddigon bodlon proffwydo dim newid, p’un bynnag o’r ddau sydd wrth y llyw.

2 commenti:

Chris Cope ha detto...

Diolch i'r drefn nad Americanwr wyt ti. Rwyt ti'n meddwl taw rhy geidwadol yw'r ddau, felly rwyt ti'n cefnogi'r dyn mwyaf ceidwadol? Eh?

"Ah wel, dyw Gordon Brown ddim yn ddigon sosialaidd, felly dwi am bleidleisio dros y BNP" ?? Sut elli di ategu hynny?

Hogyn o Rachub ha detto...

Wel, mae 'na lai o wahaniaeth rhwng Obama a McCain na sydd rhwng y ddwy blaid eu hunain, ond fel dywedais ddim ei selio ar bolisi. Dwi ddim yn ymddiried yn Obama ffwl stop, a phan fo syniadaeth y ddau mor debyg mae hynny'n ffactor pwysig iawn.

Ond dyna ni, fydd 'na fawr o newid yn agwedd yr UDA at y byd, ac o safbwynt gweddill y byd dyna'r peth pwysicaf, sy'n drist iawn.