mercoledì, ottobre 29, 2008

Angenfilod

A, na, nid sôn am boblogaeth Rhuthun ydw i.

Amser maith yn ôl, pan oedd y dail yr wyrddach a’r eira’n disgyn yn y gaeaf a He-Man yn rhan annatod o fywyd, roeddwn fachgen; di-hid a diniwed cyn i mi ddallt y byd a’i bethau (dwi’m yn dallt lot o’r cyfryw bethau o hyd, fel safleoedd rygbi a sut llwyddodd fy ffrind annifyr Ellen gamgymryd drafftiau am wyddbwyll nos Sadwrn).

Creais yn fy meddwl fydoedd a phobloedd ac ieithoedd eraill - ychydig fel Tolkien heb yr athrylith na’r ddawn ysgrifennu, ac roedd angenfilod bob amser yn fy niddori. Roeddwn i’n arfer casglu Monsters in my Pocket, gan feddu ar sawl set ohonynt, ac wrth fy modd yn darllen y frawddeg fechan wrth bob bwystfil, y Minotawr, y Fedwsa, Gwrachod, yr Ellyll, Fampirod, y Griffin, y Dewin, y Blaidd-ddyn, Angharad Mair - enwch unrhyw un a fynnwch ac roeddwn wrth fy modd, a byth ers hynny dwi’n licio straeon am anghenfilod mytholegol.

Mae dau o Gymru sydd wastad wedi fy swyno rhywfaint, sef Gwrach-y-rhibyn (mae ‘na lun o Wrach-y-rhibyn ar y flog hon yn rhywle) a Chŵn Annwn. Mae’r straeon am Gŵn Annwn a myth y ‘cŵn duon’ yn rhemp ar Ynys Prydain ac yn rhai o’r rhai mwyaf arswydus y gellir eu clywed, ac mewn sawl rhan fwy gwledig yn parhau. Mae gen i feddwl agored iawn ar bethau uwchnaturiol, a mynnaf hyd heddiw i mi weld rhywbeth sy’n parhau i wneud i mi deimlo’n ofnadwy o anghyfforddus (yn debyg i Hwylio’r Noson Lawen - dwi o fewn trwch blewyn i ddadymgysylltu’n llwyr â’r iaith Gymraeg ar ôl gweld y shait ‘na).

Ond byddaf yn licio meddwl bod gwraidd i bob stori, a dydw i ddim yn credu am eiliad y gall rhesymeg a gwyddoniaeth egluro popeth, ac i bob pwrpas mae popeth yn para ac yn wir tra bod pobl yn credu ynddynt. Heblaw am dylwyth teg, wrth gwrs.

Nessun commento: