venerdì, agosto 29, 2008

Byw yn yr Ardd, er nad wyf

Am y tro cyntaf erioed neithiwr mi wyliais Byw yn yr Ardd ar S4C. Wn i ddim pam y gwnes wneud hyn. Credaf i Keeping Up Appearences ddod i ben ar UKTV Gold, sydd y math o raglen y bydd rhywun yn ei gwylio o bryd i’w gilydd, yn benodol ar b’nawn Sul efo pen mawr.

Dydw i ddim yn gwybod beth a wnaeth i mi ddechrau gwylio. Nid garddwr mohonof, ac yn wahanol i un cyfaill penodol nid wyf yn honni’r ffasiwn beth. Yn wir, mae cefn gardd Stryd Machen yn frith o chwyn a gwlithod a phryfaid, a phrin iawn y bydda i’n treulio amser yno yn y tywydd hwn. Pan oeddwn fachgen, roedd pethau’n wahanol ac roeddwn yn hoff o dyfu pethau yng ngardd Nain, ond diflannodd yr awydd wrth i mi dreulio’r penwythnosau yn crwydro stryd Pesda yn gwneud ffyc ôl.

Wn i ddim beth a ddisgwyliais – ro’n i’n disgwyl rhywbeth tebyg i ‘Gardener’s World’, y byddaf yn ei osgoi yn yr un modd â bydd Brandon Monk yn osgoi actio, ond ni chefais fy siomi.

Wn i ddim os mai Bethan Gwanas ydoedd, neu’r ffaith bod ‘na bethau wirioneddol diddorol ar y rhaglen, fel cadw gwenyn, tyfu llysiau rhyfedd fel blodfresych porffor, a hyd yn oed gwrach, ond fe’m tynnwyd i mewn yn llwyr a mwynhau’r rhaglen o ddifrif. Mae’n swnio’n wirion ond roedd ‘na rhywbeth gwirioneddol Cymreigaidd amdani a wnaeth i mi deimlo’n gynnes braf. Go on, rhowch gynnig arni wythnos nesa’.

Nid yn aml y bydda i’n dweud “Da iawn S4C”, ond, da iawn S4C. Os dachi’n gallu cael rhywun fel Y Fi i fwynhau rhaglen arddio, mae hynny’n rhywbeth eitha’ da.

1 commento:

rhian ha detto...

Helo 'na!
Fel rhywun sy'n gweithio ar gyfres 'Byw yn yr Ardd', des i ar draws eich blog ar y 29ain Awst llynedd. Arwahan i ddweud mod i'n falch eich bod wedi mwynhau'r rhaglen honno, 'wy'n awyddus i gysylltu efo chi i drafod syniad sy' gen i.

'Wy' isie ffilmio eitem eitha' 'quirky' lle gall Russell, un o'n cyflwynwyr, eich perswadio chi i gael go ar arddio o rywfath - y peth da yw nad oes fawr o ddiddordeb ganddoch mewn garddio yn y lle cyntaf. Gall Russell eich ysbrydoli chi i ddechre tyfu llysie organig mewn potie neu berlysie mewn hen fath neu sink yn yr ardd gefn? Neu bocs sil ffenest? Rhywbeth 'low-maintenance'a gwyrdd i wneud y gore o'r darn o dir yn ymyl y ty? Rhywbeth sy'n hawdd cynnal a chadw ac sy' hefyd yn ffordd da o arbed arian. 'Falle fod diddordeb 'da chi mewn water feature neu flode....Ysbrydoliaeth a hwyl yw'r prif bethe.

Cysylltwch ar rhian.williams@cwmnida.tv os oes gennych ddiddordeb neu os ydych yn nabod rhywun fase'n awyddus i gymryd rhan. Diolch a hwyl am y tro,

Rhian