mercoledì, luglio 16, 2008

Salwch Enwog Wyf

Ro’n i’n teimlo’n enwog iawn heddiw. Ro’n i’n siarad ar raglen Siân Thomas ar Radio Cymru heddiw ‘ma am yr hwn gampwaith a elwir yn Blog yr Hogyn o Rachub, a hefyd dyddiaduron. Wyddoch chi fy mod yn cadw dyddiadur hefyd? Rhaid bod gen i obsesiwn â chofnodi fy mywyd, sy’n rhyfedd o ystyried cyn lleied sy’n digwydd. P’un bynnag, mi fetia i unrhyw beth y bydda i’n sôn am hyn am fisoedd. Y rhan fwyaf o’r amser dwi’n eithriadol o nerfus am wneud pethau felly, ond heddiw ro’n i’n teimlo’n eithaf hyderus, a minnau efo syniad da o be o’n i’n ei ddweud.

Ond ta waeth, rhwng gwneud hynny â bod yn gyffredinol dan bwysau roedd yn rhaid i mi fynd i weld y meddyg heddiw. Am dridiau dwi wedi bod yn sâl efo poenau yn fy mron a’m mol, felly bu’n rhaid cymryd rhywfaint o amser i ffwrdd heddiw.

Dwi ddim yn or-hoff o feddygfeydd, yn benodol oherwydd bod wastad babanod yno’n sgrechian. Ar ôl i’m tro ddod, mi ddywedodd Dr Smith wrthyf bod asid fy stumog yn chwarae hafoc (nid ei union eiriau o gwbl, cofiwch, ond ymdrech gan awdur y blog i orliwio) felly dwi ar dabledi am bythefnos.

Sy’n golygu dim yfed. Dim alcohol am 14 noson. Ac os dwi’m yn teimlo’n well, dim ‘Steddfod chwaith. Mae rhywbeth drwg BOB TRO yn digwydd yr adeg hon o’r flwyddyn. Ond dyna ni, dwi’n siŵr y goroesaf. Wedi’r cyfan, mae angen i rywun lenwi eich oriau swyddfa diflas.

1 commento:

Cer i Grafu ha detto...

Fi glwas i di ar raglen y fenyw Sian 'na heddi. Gwell gen i wpo fy mysadd i yn y ffrimpan wrth gwcan tships na gryndo arni ddi fel arfer - ond digwydd bod ifi atal y radio mlan nithwr a chodi biti'r ddou o'r gloch y prynhawn 'ma ar ol sesiwn cwrw gwath na'r arfer a'r radio ar y we dal mlan.

Da iawn ti Jason 'chan - ot ti'n swno'n foi call iawn a thitha'n dod o Rachub :-)