venerdì, giugno 27, 2008

Ffyc off Wimblingdon

Ha ha ha. Dwi newydd cael chwarddiad bach plentynaidd i mi’n hun o ddarllen rhai o’r amrywiol ffyrdd y daw pobl at y flog drwy peiriannau chwilio. Wele’r canlynol a deipiwyd i mewn i Gwgl yn bennaf:

fampir sex
any mackrel at Moelfre
Helen Sbeit
enwau babi
Dai Llanilar caneuon
La mamma di smalio
bryn fôn carchar
king prons

P’un bynnag, a hithau’n ddiwrnod erchyll o ddiflas yng Nghaerdydd, mi obeithiaf yn llawn bod yr un peth yn digwydd yn Wimbledon draw wrth i’r gachwanciaeth llygru’r sianeli teledu. Mae’n gwbl iawn a chyfiawn i Ewro 2008 wneud hyn, wrth gwrs, gan fod pêl-droed cymaint gwell na thenis.

Yn y gorffennol niwrol, pell, roeddwn i’n wych ar tenis. Dyna’r unig gamp, erioed, a oedd gennyf unrhyw ddawn ynddi. Er, cefais gerdyn cymeradwyaeth mewn rygbi unwaith. Am “wneud ymdrech”. ‘Sdim gwaeth na chael cydnabyddiaeth gadarnhaol am rywbeth dachi’n crap am wneud, mynnaf.

3 commenti:

Linda ha detto...

Rhestr ddiddorol iawn fana Hogyn ! Ti mewn cwmni da ...king prawns, Bryn Fon a Dai Llanilar :)
Ond sut mae cael hyd i'r rhestr ?

Hogyn o Rachub ha detto...

Wyt ti'n gweld ar ddiwedd colofn dde'r flog mae 'na sgwar efo rhyw blaned arni? Hwnnw sy'n dweud - mae'n rhoi bob math o ystadegau diddorol am bobl sy'n ymweld a gwefannau

Cer i Grafu ha detto...

Jiw, ti'n cal lot o ymwelwyr 'chan. Wi'm yn cal hanner be ti'n gal ac mae hanner yr hanner yna yn dod mewn ar ol gwglo ffwrch ne porno am ryw reswm, felly wi'n siwr bod fy mlog yn eitha siomedigaeth iddyn nhw.