venerdì, febbraio 08, 2008

Ysgaru o Blaid Cymru

Tua’r adeg hon o’r flwyddyn fe fydd pobl Plaid Cymru adref yn Pesda yn galw draw ac am nad wyf yno bydd Mam yn talu drosof fel aelod.

Nid eleni. Am y tro cyntaf ers 2000, ni fyddaf yn aelod o Blaid Cymru. Ers hynny dw i wedi dathlu ac anobeithio, wedi tanio a diffodd gyda hwy a throstynt. Nid mwyach.

Wn i ddim pam, ond alla’ i ddim ymaelodi. Mae fy ffydd ym Mhlaid Cymru wedi cymryd ambell i gnoc yn ddiweddar, ond roedd digwyddiadau’r wythnos hon yn ormod. Fedraf i ddim gweld fy hun fel aelod o’r blaid hon.

Ac mae’n torri fy nghalon, ond mewn sawl ffordd. Dw i’n gweld y rhai sy’n fy nghynrychioli yn y Cynulliad, fel aelodau’r Mudiad Cenedlaethol, yn trin cenedlaetholdeb â’i hegwyddorion â dirmyg llwyr. Faint o wir genedlaetholwyr sy’n cynrychioli’r Blaid yn y Cynulliad? Os caf fod mor onest, Alun Ffred, Gareth Jones ac Elin Jones ydi’r unig rai sy’n wir dod i’r meddwl, a dw i’m yn hollol siŵr pa mor ddwfn yw cenedlaetholdeb dau ohonynt. Mae’r lleill yn poeni’n ormodol am sosialaeth a’r lleill yn ‘bragmataidd’, sy’n ffordd arall o ddweud eu bod nhw’n fodlon ar gefnu ar eu hegwyddorion i gael blas ar rym.

O leiaf y cymrodd y Blaid Lafur ddegawd i aberthu eu hegwyddorion ac anwybyddu eu cefnogwyr traddodiadol. Cymrodd chwe mis i Blaid Cymru.

Gyda Mudiad Cenedlaethol mor wan eu cefnogaeth i’r Gymraeg a rhagor o rym does neb arall i gymryd eu lle. Lle y mae hynny’n gadael cenedlaetholdeb yng Nghymru? Mewn man ddu iawn.

Ac i bwy y dylwn bleidleisio? Dw i’n casáu pobl sy’n gwastraffu eu pleidlais, ond erbyn hyn yn dallt pam, o leiaf. Dirmyg llwyr a chwyrn sydd gennyf i’r pleidiau Prydeinig, ond mae’r siom tuag at Blaid Cymru yn ddyfnach o lawer na’r dirmyg hwnnw. Honno oedd y gobaith i mi; cludydd fflam ddi-lwgr, gyfiawn.

Dw i’n teimlo fy mod wedi cael fy mradychu, a hynny gan rywbeth sy’n wirioneddol bwysig i mi. Dwi’n amau dim y byddai hyd yn oed cymeriad mor fwyn â Gwynfor yn poeri gwaed o weld ei Blaid anwylaf yn ymdrybaeddu yn y llanast hwn.

Nid gwaeth y byddai’r hon o Gymru sydd pe na bai’r Blaid, ar ei gwedd bresennol, â sedd i’w henw ar unrhyw haen o lywodraeth. Peryg y caiff Hywel Williams blediais bost yn 2009. Dw i’n hoff o Hywel Williams, a gwell Arfon dan ei oruchwyliaeth o na Martin...

Ond oni fo newid mawr, oni ail-losgir y tân hwnnw fu unwaith ym mol y Blaid, ni chant fy nghefnogaeth i byth eto. Ac mi gânt sioc erchyll o ganfod yn yr etholiadau nesaf nad unigryw mohonof yn hyn o beth.

2 commenti:

Anonimo ha detto...

Os wyt ti wedi gwrthod ail ymlaelodi yna gobeithio dy fod wedi rhoi gwybod iddynt pam cymryd y penderfyniad hwnw. Does dim iws canslo dy aelodaeth a dim dweud pam achos neith hynny newid dim yn anffodus.

Ac i fod yn onest, does neb arall gelli bleidleisio drostynt.

SW

Hogyn o Rachub ha detto...

Dw i'm yn bwriadu pleidleisio dros neb arall: Plaid yn fradwrs, Toris yn sgymans, Llafur yn wrth-Gymraeg a Lib Dems ddim yn sefyll am ddim byd.

Geith fy mhleidlais i fynd i wastraff, ac i fod yn onast dyna'r peth gorau i wneud efo fo.