giovedì, gennaio 10, 2008

Bwyd Organig a Ieir Buarth. Ac ati.

Mi gliriais fy mhen neithiwr a phrynu 24 can o Fosters am ddegpunt o Morristons. Byddai dilyn y trywydd o droi’n alcoholic yn beth hawdd iawn i mi ei wneud pe nad gwyliwn fy hun yn ofalus. Yn fy mlwyddyn gyntaf yn y Brifysgol, sydd yn echrydus o amser maith yn ôl erbyn hyn, nid yn anaml y cawn rywfaint o fodca amser cinio neu gan o seidr ar y ffordd i ddarlithoedd.

Serch hyn, ieir sy’n mynd â fy mryd heddiw, ar ôl gorffen gwylio’r gyfres efo’r boi posh ‘na yn gwneud ryw ymgyrch yn erbyn ieir yn cael eu cadw mewn amodau ofnadwy. Roedden nhw’n ofnadwy, cofiwch, mae hawl gan y bobl cynhyrchu ‘ma i gadw 17 iâr i bob metr sgwâr, felly amlygwyd cymaint yn fwy egwyddorol, os mai dyna’r gair cywir, ydyw ieir buarth.

Ond dydw i ddim am wario mwy ar iâr buarth a dyna ddiwedd arni. Waeth ots gen i am egwyddorion, fedraf i ddim fforddio cynnyrch buarth. Petawn yn gallu, mi fyddwn, ar sail egwyddor hefyd, ddim fel y ffrîcs dosbarth canol ffug-barchus ‘ma sy’n eu prynu er mwyn ymddangos yn egwyddorol ac yn mynnu dweud This is Free Range Chicken pan ei di am fwyd i’w lle nhw. Nid fy mod i’n cael cynnig o’r fath.

Ond twyll mwyaf ein hoes (iawn, gor-ddweud yw hyn, ond meeeh) yw bwyd Organig (y brand yn hytrach na’r cysyniad, hynny yw). Mae’n ddrud. Mae’n blasu’r un peth. Yr oll ydyw ydi ffordd i bobl “ddangos” eu bod nhw’n “wyrdd”, ac mae’r ffaith ei fod mor ddrud yn ei wneud yn beth rhwng dosbarthiadau. Os wyt ti isio blasu gwir wahaniaeth mewn bwyd pryna o siop fferm neu farchnad. Dyna ydi ffres a dyna sy’n neud gwahaniaeth, a tai’m i wrando ar ryw ffecin hipis sy’n mynnu’n wahanol.

Waeth bynnag, y broblem ydi bod bwyd buarth yn ddrud, ac mae’n fy nghorddi i glywed pobl dosbarth canol hunangyfiawn yn mynnu y dylai pawb ei brynu heb ystyried sefyllfa ariannol pobl eraill nad ydynt yr un mor ffodus â hwy. Petai cynnyrch buarth yr un pris, mi fyddwn i’n ei brynu. Byddai pawb yn gwneud. Ond fedraf i ddim mo’i fforddio, a chan fod gen i, fel llawer iawn, iawn o bobl, gyllideb gyfyngedig, mae’n rhaid i fy lles ariannol i ddod cyn lles iâr.

Ond caiff Organig dal fynd i ffwcio’i hun.

2 commenti:

Anonimo ha detto...

Dwi'm yn medru fforddio ieir buarth 'chwaith felly dwi'm yn prynu cyw iar o gwbl. :(

Anonimo ha detto...

Mae'n rhaid camdrin anifeiliaid i gael cig mor rhad. Tydi ieir buarth ddim yn ddrud! Does gen i ddim llawer o arian i wneud fy siopa ond buaswn i byth yn bwyta cyw iar sydd wedi bod yn eistedd ynganol cachu a piso