mercoledì, giugno 20, 2007

Bebo a Facebook

Mae’r mochedd-bethau hyn wedi distrywio fy mywyd a’i feddiannu’n llwyr. Waeth pa le bynnag yr wyf, mi fynnaf wirio a oes neges newydd gennyf ar Bebo neu fod rhywun wedi fy ngwahodd i grŵp Facebook. Mae’n troi arnaf faint o hwyl y byddaf yn ei gael o edrych a rhithlusgo o amgylch proffiliau pobl eraill, gweld pwy sydd ar-lein a busnesu ar beth mae pawb yn dweud wrth ei gilydd.

Bebo yw fy hoff un. Y peth trist am hynny ydi er fy nhoreth (llond twlc) o ffrindiau arni, dim ond rhyw bedwar sy’n cyfathrebu â mi drwyddi sef Lowri Dwd, Dyfed, Ellen ac ambell i dro Gwenan, sy’n gyfuniad anffodus o bobl a dywedyd y lleiaf. Ar wahân iddynt hwy, does neb yn edrych ar fy mhroffil heb sôn am adael neges na thynnu llun na chwblhau fy ngwisys. Mae’r sefyllfa yn un trist iawn, ar y cyfan.

Os edrychwch i’r dde, gwelwch fy Facebook. Mae’n rhyfedd fod y cymeriad South Park arno mor debyg i mi, a’r naws yn amlwg. Facebook yw Bebo y bobl seriws. Arf cyfathrebu ydyw, nid lle i luniau na ‘skins’ anaeddfed. Mae fy Facebook i gryn dipyn yn fwy poblogaidd na’r Bebo, ond allwn i ddim cynhesu ato (Facebook = gwrywaidd, Bebo = benywaidd, iawn?). Dw i ‘di blino ar gael fy ngwahodd i ychwanegu ‘Top Friends’ a ‘Fortune Cookie’. Byddaf yn ychwanegu’r ategolion hyn cyn diflasu ar ôl pum munud a’u dileu.

Yn wir, mae rhywun yn gwybod eu bod ar gyfeilion pan maen nhw’n ymuno â grŵp o’r enw ‘I Secretly Want to Punch Slow Walking People in the Back of the Head’, neu os ydych chi’n aelod o Faes E, ac yn ymuno efo’r grŵp Facebook, ‘Maes E’.

Moes yr uchod yw bod Bebo yn well na Facebook, a'i bod yn drist mai’r unig bobl fydd yn cytuno â mi ydi Lowri Dwd, Dyfed, Ellen (ac weithiau Gwenan).

1 commento:

Anonimo ha detto...

Gei di adio fi i ffans Bebo hefyd Hogyn. Lle arall gei di chavs yn tynnu llunia o'u hunnan yn poutio i drio ymddangos yn ddelach nag ydy nhw go iawn neu neges yn dy rybuddio di y gnei di farw os nad w ti yn anfon y rhybydd hwn i o leia 100,000,000,000 o bobl erill?

Daf P