domenica, novembre 05, 2006

Crynu fel cryniadur

Gêm od oedd hi ddoe, yn de? A hithau yn yr wyth degfed munud dyma’r adrenalin yn dal ati i bwmpio, ac wedyn dyma’r dyfarnwr yn chwythu’i chwib a dyna ni. Chwydais i am hanner amser ddoe yn Y Mochyn Du, ond yn wahanol i’r arfer des o hyd i le da i wneud, a dymchwel fy nghinio o fadarch, cyw iâr, pupurau gwyrddion a nwdls rhwng y dail. A gwelodd neb mohonof. Balch iawn o’n i ‘fyd, a dweud y gwir wrthoch chi, achos fel arfer mai’n mynd ar hyd y llawr neu mewn i wydrau peint.

Beth bynnag, oeddwn i adref yn hynod fuan neithiwr, tua 11.30. Roedd Haydn yma’n barod yn cysgu ar ei wely, a fynta heb gael mewn i’r unlle. Mi nes i darfu ar draws barti preifat i bobl Drenewydd yn Tiger Tiger, cyn mynd o ‘na a cholli pawb a chael bwyd yn Chippy Lane am y tro cyntaf ers hydoedd.

Ceisiais am dacsi neithiwr. Roedd hi’n rhynnu, ond doedd ‘na ddim un i’w gael, ac fe fu’n rhaid imi gerdded adref, yn crynu fel cryniadur efo batris newydd (nis gwyddwn am y ffasiwn bethau, wrth gwrs). Ac felly y bu.

2 commenti:

Anonimo ha detto...

wyt tad! ma gen ti un mawr du deuddeg modfedd o'r enw Haydn. Gwyddwn hyn gan fod Owain wedi ei weld y llynedd

Hogyn o Rachub ha detto...

Dydi Haydn ddim yn ddu, er mai dim ond tydi a wyddost os mai deuddeg modfedd ydyw, canys bod Owain a tithau mor 'agos' flwyddyn ddiwethaf (h.y. tinryw)