giovedì, ottobre 12, 2006

Y Blinedigaeth

Pan mae rhywun yn codi am 6.50 bob bora maen nhw'n dechrau blino. Dw i'n flinedig, a minnau'n codi bryd hynny. Buan iawn bu imi sylweddoli bod gweithio yn joban flinedig, sy'n sugo'r egni ohonat. Mae'n waeth i athrawon: mynd adra, marcio, cywiro a.y.b. Ond mae o cyn waethed os ydach chi'n gwneud dim ond arsylwi bum gwers y diwrnod. Nid yw arsylwi, sef eistedd yng nghornel y dosbarth yn cymryd hynny o nodiadau a fedrwch, yn hwyl. O gwbl. Ond bydd y rhai ohonoch sydd wedi bod, neu yn, gwneud cwrs dysgu yn gwybod ei fod hi'n well o lawer na'r syniad o ddysgu y wers gyntaf. Dw i'n giakku brics.

Ches i fawr o gwsg neithiwr, er fy mod i'n fy ngwely cyn ddeg. Mi ddeffroais am tua hanner 'di un yn poeri bob mathia o stwff brown allan lawr y toiled. Poeri, nid chwydu, cofiwch, a minnau bron a thagu wrth wneud. Tybed beth ydyw? Ymwared a gwybodaeth y dydd, mi dybiaf. Neu gwario gormod o amser ynghanol mwg. Wyddwn i ddim.

3 commenti:

Anonimo ha detto...

Cwsg, ffrwythau a llysiau ac ymarfer corff, a digon o bob un. Dim junk food chwaith. Boring ond maen nhw'n gweithio! Cymer di ofal

Hogyn o Rachub ha detto...

Ti'n gall dwa?

Anonimo ha detto...

croeso i'r byd go iawn jesyn. disgwylia tan tin dysgu 6 gwers y dydd gan ddefnyddio dy amser egwyl yn cadw dihirion i mewn ath amser cinio yn cadw wancars haerllyg a ofynodd imi os oedd gan fy chwaer fronnau mawr. croeso i fyd addysg. rhaid chwerthin er y teimlaf fel crio ar adegau. dalied ati a dwin gaddo rwyt yn mynd i mewn i'r swydd orau yn y byd. cofia fi at cleif. welai di wsos i heno. da bydded.

Dyfed yr athro Cymraeg ollalleuog gwych