sabato, giugno 24, 2006

Taflud bwyd am ben to a ballu

Mae'n od gweld o ba ran o'ch teulu yr ydych chi'n hawlio rhai nodweddion penodol. Dw i'n gwybod fel ffaith bo fy hiwmor i (er gwell neu gwaeth) yn debyg iawn i un fy modryb, Rita, yn hytrach na neb arall yn y teulu. Fysa Dad yn licio meddwl ei fod yn eitha' ffraeth ac ati, ond fel y gwyddem, dydi'r geiriau 'tad' a 'ffraethineb' ddim o'r un hedyn. Ond mae Rita'n ddynes od. Dw i'n cofio y deuthum ni adra o rywle o'r blaen a mynd rownd cefn y tŷ a synnu bod rhywun wedi peintio'n berfa ni'n wyrdd tra ein bod ni allan. Ia, Rita.

Mi es draw am banad ddoe. Mae ardd Rita yn edrych ar draws Tyddyn Canol oll. Mae 'na tua naw o dai yn Nhyddyn Canol, ac o'r naw mae'r un pobl wedi byw ymhob tŷ namyn tri ers fy ngeni i. Mae fy Nain Eidalaidd mewn un, Rita a'i theulu mewn un arall, ac wedyn mae tŷ ni ar yr ochr (dydan ni'm yn Tyddyn Canol yn swyddogol, ddo). Felly dyma ni'n yr ardd, fi, Rita, Norman a Nana. Roedd Nana'n cwyno bod y gwylanod fel bleiddiau a'i bod hi ddim isho mynd i Southport heddiw achos doedd hi'm isho codi'n rhy fuan, a'i bod isho gwyblio Coronation Street am saith.

Fodd bynnag, rwbath mae Rita'n licio'i wneud ydi bwydo'r adar (sef gwylanod ac ambell i jac do yn Rachub). Roedd hi'n egluro ei bod hi'n taflu bwyd weithiau am ben to ein cartref ni (sydd o fewn pellter lluchio yn hawdd) a gweld yr adar yn heidio ar y to, a chael Dad i feddwl be ddiawl sy'n digwydd efo'r trempian uwch y nen. Un dwl 'di Dad, felly mae o'n drysu'n hawdd. A dyna fuon ni ddoe yn ei hardd hi, yn rhoi gwledd go iawn i'r gwylanod, yn cynnwys lemon sbwnj, tomatos, cacenni Cappuchino, bara, bisgedi a Scotch Eggs oedd wedi mynd off ers tua wythnos.

Roedd y Scotch Eggs yn boblogaidd iawn ymysg yr adar, mân a mawr, ond gan eu bod nhw wedi mynd off synnwn i ddim petawn ni'n gweld llwyth o wylanod celain ar hyd a lled Tyddyn Canol am sbel. Ydi adar yn fod i futa wyau, dwad? Cawn weld ymhen dim! Www, ecseiting!

Nessun commento: